Daeth yr ymgynghoriad i ben 3 Rhagfyr 2012.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ei dull o ddatrys y problemau trafnidiaeth sy'n effeithio ar goridor yr M4 yng nghyffiniau Casnewydd yn y de ddwyrain.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Sefydlwyd Rhaglen Mesurau Gwella Coridor yr M4 Magwyr i Gas-bach (M4 CEM) i archwilio a datrys problemau yn ymwneud â thagfeydd diogelwch a’r gallu i wrthsefyll digwyddiadau anarferol ar hyd coridor yr M4 yn y de ddwyrain.
Cynhaliwyd ymgynghoriad ar Fesurau Gwella Coridor yr M4 rhwng misoedd Mawrth a Gorffennaf 2012. Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn i bobl roi eu sylwadau ar amrywiaeth o opsiynau sy’n cyfrannu at strategaeth i leihau tagfeydd traffig ar yr M4 o amgylch Casnewydd. Erbyn hyn paratowyd Adroddiad Amgylcheddol (sy’n cynnwys Asesiad Amgylcheddol Strategol) ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd sy’n ystyried y problemau amgylcheddol a nodwyd yn ystod y broses o gysylltu ac ymgynghori.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd sylwadau ar bob un o’r dogfennau hyn. Bydd hynny’n helpu Carl Sargeant y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i wneud cyhoeddiad ynghylch pa strategaeth fydd yn cael ei mabwysiadu i ddatrys y problemau o ran tagfeydd diogelwch a’r gallu i wrthsefyll digwyddiadau anarferol ar hyd coridor yr M4 rhwng Magwyr a Chas-bach.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar gwefan M4CEM
