Daeth yr ymgynghoriad i ben 31 Hydref 2019.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem glywed eich barn ynghylch dull arall o bennu oedran defaid adeg eu lladd.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae angen i ddeunyddiau risg penodedig gael eu gwaredu o ran defaid dros 12 mis oed er mwyn gwarchod iechyd y cyhoedd.
Ar hyn o bryd mae lladd-dai yn archwilio dannedd “aeddfed” defaid er mwyn pennu eu hoedran. Hoffem glywed eich barn ynghylch y cynnig a fyddai’n caniatáu i ladd-dai ddefnyddio dulliau eraill o bennu oedran defaid.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar Gov.UK
