Neidio i'r prif gynnwys

Bydd rhai defnyddwyr yr Arolwg Cenedlaethol yn ymuno â'n rhestr defnyddwyr er mwyn cael gwybodaeth reolaidd am yr arolwg. Mae gan y rhai sydd ar y rhestr hawl i wybod sut yr ydym yn prosesu, defnyddio a storio gwybodaeth amdanynt.

Ein dull gweithredu

Rydym yn cadw rhestr o ddefnyddwyr yr Arolwg Cenedlaethol er mwyn medru anfon negeseuon e-bost am unrhyw ddatblygiadau, fel cyhoeddi adroddiadau am y canlyniadau. O bryd i'w gilydd, byddwn hefyd yn gofyn i ddefnyddwyr yr arolwg os hoffent ddarparu adborth yn ymwneud â'r arolwg neu ein cyhoeddiadau.

Rydym yn cadw manylion fel enw, cyfeiriad e-bost, sefydliad a rôl yr aelodau ar y rhestr. Ni fyddwn yn rhannu'r wybodaeth hon gyda sefydliadau eraill.

Gall y rhai sydd ar y rhestr ddatdanysgrifio ar unrhyw adeg drwy:

Os ydych ar y rhestr, a bod gennych unrhyw bryderon ynghylch sut y cafodd eich gwybodaeth ei thrin, gallwch gysylltu â'r swyddog diogelu data ar gyfer Llywodraeth Cymru ar:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Os nad ydych yn fodlon â'r ymateb, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef rheoleiddiwr annibynnol Llywodraeth Cymru ar ddiogelu data.

Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar:

Y Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Rhif ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Gwneud cwyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drin eich data personol yn saff ac yn ddiogel, a dim ond cyhyd ag y mae angen inni wneud hynny.   

Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â'r ffordd rydym yn defnyddio eich data personol, y peth gorau fyddai ichi eu codi â’r tîm perthnasol i ddechrau.   

Gallwch hefyd gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy e-bostio SwyddogDiogeluData@llyw.cymru neu drwy anfon llythyr i’r cyfeiriad isod:  

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays 
Caerdydd  
CF10 3NQ 

Os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi prosesu eich data personol, gallwch ddilyn y canllawiau ar y dudalen Cwyn am Lywodraeth Cymru. 

Byddwn yn cydnabod eich cwyn ac yn ymateb o fewn amserlen briodol, yn unol â deddfwriaeth diogelu data a'n proses gwyno.