Neidio i'r prif gynnwy

Sut i wneud cwyn

Ffurflen ar-lein

Llenwch ein ffurflen gwyno ar-lein.

Ffôn

03000 251378

Post neu e-bost

Lawrlwythwch ein ffurflen dwyll ac e-bostiwch hi at cwynion@llyw.cymru neu postiwch i:

Y Tîm Cynghori ar Gwynion
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Y camau nesaf

Pan ddaw'ch cwyn i law byddwn yn ceisio ei datrys yn gyflym. Byddwn bob amser yn ceisio ei datrys cyn pen deng niwrnod gwaith.

Yn anffodus oherwyd pandemig y coronafeirws, efallai y byddwn yn cymryd mwy o amser nag arfer, Ymddiheurwdn am unrhyw anghyfleustra, ond byddwn yn ymateb cyn gynted â phosibl.

Os nad ydych yn fodlon o hyd

Os nad ydych yn fodlon â'n penderfyniad terfynol ynghylch eich cwyn, gallwch gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am ein proses gwyno darllenwch ein canllawiau ‘Sut i wneud cwyn am Lywodraeth Cymru'.