Bydd y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn diwygio ac yn cryfhau llywodraeth leol ac yn gwella trefniadau etholiadol.
Manylion
Bydd y Bil:
- yn galluogi pobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor sy’n byw yng Nghymru i bleidleisio mewn etholiadau i gynghorau
- yn sicrhau bod cynghorau’n annog pobl leol i gymryd rhan mewn llywodraeth leol
- yn sicrhau bod cynghorau’n agored ac yn dryloyw
- yn sicrhau bod yr arfau a’r pwerau gan gynghorau i’w galluogi i weithio’n dda gyda’i gilydd a chyda cynghorau eraill.
Y camau nesaf
Dilynwch hynt y Bil drwy’r cyfnodau craffu yn y Cynulliad Cenedlaethol (dolen). Os caiff ei basio, bydd yn dod yn gyfraith yn ystod haf 2020.