Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am gyfrifon a defnydd Awdurdod Cyllid Cymru o’r cyfryngau cymdeithasol.

Yn Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), rydym yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i:

  • siarad am ein gwaith
  • eich helpu i ddeall ein gwasanaethau
  • ymgysylltu â chi

Gallwn ddiweddaru'r canllawiau hyn ar unrhyw adeg. Gallwn hefyd gau ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

Ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol

Mae gennym 8 cyfrif cyfryngau cymdeithasol ar draws 5 platfform:

Iaith

Pan fydd gennym gyfrifon Cymraeg a Saesneg ar wahân, rydym yn postio yr un pryd ar y ddau. Pan mae gennym un cyfrif, rydym yn postio yn Gymraeg yn gyntaf.

Byddwn yn ymateb i chi yn yr un iaith â'ch post.

Sut rydym yn rheoli ein cyfrifon

Mae ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn cael eu rhedeg gan weision sifil sy'n dilyn Cod y Gwasanaeth Sifil.

Rydym yn monitro ein cyfrifon rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau cyhoeddus. Os byddwch yn cysylltu â ni y tu allan i'r oriau hyn, byddwn yn ymateb yn ystod y diwrnod gwaith nesaf.

Rydym yn defnyddio meddalwedd i'n helpu i:

  • ddod o hyd i gwestiynau ac ymateb iddynt
  • gweld themâu, safbwyntiau a barnau ar ein gwaith
  • cuddio neu ddileu postiadau sarhaus neu ymosodol

Byddwn bob amser yn ceisio ateb eich cwestiynau am ein gwasanaethau. Ar adegau prysur efallai na fyddwn yn gallu ymateb i bawb. Os na allwn eich helpu trwy'r cyfryngau cymdeithasol, byddwn yn eich cyfeirio i'r lle iawn. 

Rydym yn ceisio rhoi gwybodaeth gywir i chi. Os ydym yn gwneud camgymeriad, byddwn yn ei gywiro ac yn rhoi'r wybodaeth gywir i chi cyn gynted ag y gallwn ni. 

Pryd i gysylltu â ni 

Cysylltwch â ni os ydych chi: 

  • yn meddwl ein bod wedi gwneud camgymeriad 
  • yn gweld unrhyw beth amhriodol neu sy’n achosi pryder 

Sut rydym yn disgwyl i chi ymddwyn

Rydym eisiau i'n cyfrifon fod yn lleoedd diogel a pharchus i bawb. Rydym yn eich annog i rannu eich adborth, eich cwestiynau, eich straeon a’ch profiadau.

Rydych chi'n gyfrifol am unrhyw beth rydych chi'n ei bostio, gan gynnwys cynnwys rydych yn dewis ei rannu.

Byddwn yn cuddio neu'n dileu postiadau sydd yn:

  • ymosodol neu'n sarhaus, er enghraifft cynnwys hiliol, rhywiaethol, homoffobig neu amlwg rywiol 
  • twyllodrus neu'n gamarweiniol 
  • sbam, gan gynnwys postiadau negyddol neu ymosodol parhaus gyda'r nod o ysgogi ymateb 
  • torri unrhyw gyfraith neu reoliad 
  • torri unrhyw hawliau eiddo deallusol 
  • cynnwys hysbysebion neu hyrwyddiadau

Os oes angen i ni guddio neu ddileu eich postiadau dro ar ôl tro, byddwn yn blocio ac yn riportio eich cyfrif. Byddwn yn cadw cofnod o bostiadau cyhoeddus sy'n torri ein rheolau ac yn arwain at gyfrif yn cael ei flocio.

Cadw’n ddiogel ar-lein

Er eich diogelwch eich hun, peidiwch byth â chynnwys gwybodaeth bersonol mewn post cyfryngau cymdeithasol.

Peidiwch byth â defnyddio cyfryngau cymdeithasol i anfon cwestiynau am eich:

  • Treth Trafodiadau Tir
  • Treth Gwarediadau Tirlenwi
  • Ardoll Ymwelwyr
  • cofrestriad llety ymwelwyr

Os byddwch yn cysylltu â ni am unrhyw un o'r rhain, byddwn yn gofyn i chi gysylltu â'n Desg Gymorth yn lle hynny.

Cysylltiadau

Efallai y byddwn yn dewis dilyn, hoffi, rhannu neu gysylltu â chyfrifon eraill. Nid yw hyn yn golygu ein bod yn eu cymeradwyo, ac nid ydym yn gyfrifol am gynnwys eu postiadau neu broffiliau.

Hygyrchedd

Rydym yn sefydliad cynhwysol, ac rydym eisiau i bawb gael yr un mynediad i'n cyfathrebiadau.

Fel adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru, rydym yn defnyddio canllawiau hygyrchedd GOV.UK ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Rydym yn adolygu'r rhain yn rheolaidd er mwyn diwallu anghenion ein defnyddwyr.

Preifatrwydd

Gallwch ddarganfod sut rydym yn prosesu data personol, gan gynnwys trwy'r cyfryngau cymdeithasol, yn ein polisi preifatrwydd.