Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am gyfrifon a defnydd Awdurdod Cyllid Cymru o’r cyfryngau cymdeithasol.

Yn Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), rydym yn gweithio mewn partneriaeth i helpu pobl i dalu'r dreth iawn ar yr adeg iawn. Rydym am gael sgyrsiau dwy ffordd. Mae hyn yn rhan o'r hyn a elwir yn 'Ein Dull o Weithredu'.

Rydym yn defnyddio ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol er mwyn cefnogi ac ymgysylltu. Efallai y byddan nhw’n ddefnyddiol i drethdalwyr, gweithwyr treth proffesiynol ac unrhyw un sydd â diddordeb yn ACC.

Edrychwn ymlaen at unrhyw sylwadau a phrofiadau yr ydych am eu rhannu. Defnyddiwch ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i rannu eich barn, i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ac i greu rhwydweithiau.

Er mwyn eich diogelwch ar-lein, peidiwch byth â chynnwys gwybodaeth bersonol mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae pawb yn gallu gweld eich sylwadau.

Ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol

Mae gennym 3 chyfrif cyfryngau cymdeithasol:

Ymholiadau cyffredinol

Os byddwch yn gofyn cwestiwn cyffredinol i ni, byddwn yn anelu at eich ateb yn ystod ein horiau gwaith (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm). Os yw eich ymholiad y tu allan i'r oriau hyn, byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl yn ystod y diwrnod gwaith nesaf.

Ymholiadau treth penodol

Peidiwch ag anfon ymholiadau treth penodol i'n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

Ym mhob achos, byddwn yn gofyn i chi gysylltu â'n desg gymorth drwy:

Mae’r llinellau ffôn ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 3pm, ac eithrio gwyliau banc.

Ymddygiad

Rydym yn croesawu eich ymgysylltiad. Ond dylai pob barn a sylw ychwanegu at y sgwrs. Nid ydym yn goddef unrhyw fath o aflonyddu.

Rydym yn cadw'r hawl i ddileu negeseuon a mynediad unigolyn i'n cyfrifon

Cysylltiadau

Efallai y byddwn yn dewis 'dilyn', 'hoffi', 'rhannu' neu wneud cysylltiadau â chyfrifon eraill. Nid yw'r cysylltiadau hyn yn golygu ein bod yn eu cymeradwyo.

Nid oes gennym unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y negeseuon na’r proffiliau hyn.

Hygyrchedd

Rydym yn sefydliad cynhwysol. Ein nod yw i bawb gael yr un mynediad i'n cyfathrebiadau.

Fel adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru, rydym yn defnyddio Canllawiau hygyrchedd GOV.UK ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Adolygir y canllawiau hyn yn barhaus er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr.

Iaith

Mae ein negeseuon cyfryngau cymdeithasol bob amser yn cael eu rhannu yn Gymraeg ac yn Saesneg ar yr un pryd. Lle nad yw hyn yn bosibl, rydym yn rhannu'r Gymraeg yn gyntaf.

Byddwn yn ymateb i'ch ymholiad yn yr un iaith â'ch neges chi.

Preifatrwydd

Mae gwybodaeth am y ffordd yr ydym yn prosesu data personol, gan gynnwys drwy'r cyfryngau cymdeithasol, i'w gweld yn ein polisi preifatrwydd.

Adborth

Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu ymholiadau, cysylltwch â ni ar newyddion@acc.llyw.cymru