Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn datblygu ac yn darparu gwasanaethau i bobl gofrestru, cyfrifo a thalu treth yng Nghymru. 

Trosolwg

Ers 1 Ebrill 2018, rydym wedi casglu a rheoli 2 dreth ddatganoledig ar ran Llywodraeth Cymru:

Rydym yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i gefnogi'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Rydym hefyd yn gyfrifol am gasglu a rheoli:

Mae'r arian rydym yn ei godi yn darparu cyllid i gymunedau Cymru a gwasanaethau cyhoeddus, fel ysgolion a'r GIG.

Ein pwrpas cyffredinol yw:

  • llunio a darparu gwasanaethau cyllid cenedlaethol i Gymru 
  • arwain gwell defnydd o ddata trethdalwyr Cymru ar gyfer Cymru

Dysgwch fwy am ein canllawiau a'n gwasanaethau.

Sut rydym yn gweithio gyda chwsmeriaid

Ein Dull

Rydym yn helpu i ddarparu system dreth deg i Gymru drwy 'Ein Dull', ffordd Gymreig o drethu. Rydym yn gweithio gyda threthdalwyr, cynrychiolwyr, partneriaid a'r cyhoedd, i sicrhau bod trethi’n cael eu casglu'n effeithiol ac yn effeithlon.

Mae 3 gair yn diffinio Ein Dull:

  • ‘Cydweithio’: sydd ag ymdeimlad o weithio gyda'n gilydd tuag at nod cyffredin 
  • ‘Cadarnhau’: sy’n awgrymu cadernid y gellir dibynnu arno; mae hyn yn ymwneud â darparu sicrwydd, bod yn gywir ac atgyfnerthu ymddiriedaeth 
  • ‘Cywiro’: sy’n ymwneud â'r ffordd rydym yn gweithio gyda chi i ddatrys gwallau neu bryderon

Mae ein Dull wedi'i ysbrydoli gan Ein Siarter sy'n esbonio sut rydym yn gweithio.

Ein nodau

Mae ein Cynllun Corfforaethol 2025 i 2028 yn nodi ein hamcanion. Mae'n esbonio sut y byddwn yn defnyddio ein Dull a'n hegwyddorion yn ein gwaith.

Ein hamcanion strategol yw:

  • ei gwneud yn hawdd gwneud y peth iawn
  • bod yn deg ac yn gyson yn y ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau
  • bod yn sefydliad cynaliadwy sy'n edrych ymlaen i’r dyfodol

Byddwn yn dilyn safonau rheoleiddiol a deddfwriaethol newydd, gan gynnwys:

  • Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 
  • Rheoliadau Safonau'r Gymraeg

Sut rydym yn cydweithio

Ein pobl

Mae gennym fwy na 100 o staff sydd â sgiliau ar draws 14 o wahanol broffesiynau. Rydym yn gweithio mewn ffordd sy'n arloesol, yn gydweithredol ac yn garedig.

Mae ein pobl yn ymgysylltiad cryf, sy’n sgorio'n uchel yn Arolwg Pobl blynyddol y Gwasanaeth Sifil, gyda sgoriau arbennig o uchel gan ein staff ar gyfer Cynhwysiant a Thriniaeth Deg.

Dysgwch fwy am weithio i ni.

Rydym wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd cynhwysol sy'n gwerthfawrogi ac yn parchu gwahaniaethau unigol.

Dysgwch fwy am ein hymrwymiad parhaus i gydraddoldeb yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2025 i 2028.

Arweinyddiaeth a llywodraethiant

Mae ein sefydliad yn cael ei arwain gan Brif Swyddog Gweithredol Dros Dro, Rebecca Godfrey. Mae gennym fwrdd, tîm arwain (Tîm Arwain), a 2 grŵp arwain.

Mae ein bwrdd yn:

  • rhoi cyfeiriad strategol ar ein gallu a'n perfformiad 
  • ceisio sicrwydd ein bod yn cyflawni ein swyddogaethau'n effeithiol

Mae ein huwch dîm arwain yn:

  • arwain ein gwaith o ddarparu gwasanaethau i bobl Cymru 
  • sicrhau ein bod yn cyflawni'r blaenoriaethau sydd yn ein cynllun corfforaethol

Mae ein grwpiau arwain yn:

  • rheoli ein gwasanaethau a'n cynllunio sefydliadol
  • cefnogi ein tîm arwain a'r bwrdd

Adroddiadau a gwybodaeth 

Rydym yn cyhoeddi adroddiadau ar ein gwaith bob blwyddyn. Gweler ein dogfennau diweddaraf:

Gallwch hefyd gael gwybodaeth am:

I gael rhagor o wybodaeth am y mathau o wybodaeth rydym yn ei chyhoeddi, gweler ein cynllun cyhoeddi.