Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect ar weithredu ardoll ymwelwyr yng Nghymru dan arweiniad Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw'r ardoll ymwelwyr?

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhoi'r gallu i awdurdodau lleol godi ardoll ymwelwyr ar arosiadau dros nos.

Bydd ymwelwyr yn talu'r ardoll a bydd awdurdodau lleol yn ei fuddsoddi mewn twristiaeth leol. Bydd yr ardoll yn helpu i:

  • dyfu ein heconomi
  • cefnogi ein cymunedau
  • gwarchod harddwch Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

Os caiff ei basio, bydd angen i bob awdurdod lleol benderfynu a yw am gyflwyno ardoll. Byddai angen i awdurdod lleol ymgynghori â'i gymunedau cyn gwneud y penderfyniad hwn. Bydd cyfnod rhybudd hefyd yn cael ei roi er mwyn sicrhau bod busnesau ac ymwelwyr yn cael cyfle i baratoi.

Drwy'r broses uchod, mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif mai'r cynharaf y gallai ardoll ymwelwyr fod ar waith mewn unrhyw ran o Gymru yw 2027.

Manylion am gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer ardoll ymwelwyr i Gymru.

Mae cyflwyno ardoll ymwelwyr yn Ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu gan Lywodraeth Cymru. Wedi'i wneud mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio.

Yr hyn rydym ni'n ei wneud

Fel awdurdod treth Cymru, mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi gofyn i ni archwilio ffyrdd o weithredu ardoll ymwelwyr i Gymru.

Ein nod ar gyfer y gwaith darganfod yw ateb: sut allai gwasanaeth ardoll ymwelwyr gyfer Cymru edrych, a beth yw'r opsiynau ar gyfer ei weithredu?

Rydym yn defnyddio dulliau hyblyg i gyflawni'r prosiect hwn. Rydym yn y cam darganfod ar hyn o bryd.

Mae enghreifftiau o’r meysydd y byddwn yn eu harchwilio yn cynnwys:

  • adnabod a cheisio adborth gan ddefnyddwyr a chan randdeiliaid
  • deall ecosystem llety Cymru
  • opsiynau o ran casglu a gorfodi
  • nodi heriau a meysydd i'w gwella
  • ymgysylltu a chyfathrebu

Ymchwil defnyddwyr

Os ydych chi’n darparu llety i ymwelwyr yng Nghymru ac yn awyddus i gymryd rhan yn ein gwaith ymchwil defnyddwyr, e-bostiwch ardollymwelwyr@acc.llyw.cymru.