Rydym yn gweithio ar gynigion a fydd yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol i gyflwyno ardoll ymwelwyr.
Cynnwys
Rhagymadrodd
Rydym yn gweithio ar gynigion a fydd yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol i gyflwyno ardoll ymwelwyr a fydd yn creu refeniw i gynorthwyo gyda buddsoddi yn y diwydiant twristiaeth yn eu hardaloedd.
Mae cyflwyno ardoll ymwelwyr yn ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Mae’r gwaith yn cael ei wneud mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru, ac mae’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio.
Byddai angen deddfwriaeth newydd er mwyn bwrw ymlaen â’r cynigion. Mae datblygu polisi, deddfu, a gweithredu yn broses sy’n cymryd amser. Mae’n annhebyg y bydd mesurau’n dod i rym am sawl blwyddyn, a hynny os bydd y Senedd yn eu cymeradwyo. Rydym yng nghamau cynnar y broses ar hyn o bryd, a bydd dewisiadau posibl ynglŷn â chyfradd yr ardoll a’i lefel yn cael eu harchwilio’n fanylach fel rhan o’r ymgynghoriad yr hydref hwn.
Bydd gan bob awdurdod lleol yng Nghymru bŵer i benderfynu a yw am gyflwyno ardoll ymwelwyr yn ei ardal.
Cefndir
Mae cyflwyno ardoll ymwelwyr yng Nghymru yn fater sydd wedi ei ystyried ers sawl blwyddyn. Cafodd y syniad ei awgrymu gan bobl Cymru fel maes posibl ar gyfer creu refeniw yn dilyn galwad gyhoeddus am syniadau yn 2017.
Yn dilyn dadl yn y Senedd ar 4 Gorffennaf 2017, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid Alwad am Syniadau am drethi newydd drwy hysbysiad i’r wasg gan Lywodraeth Cymru.
Fe gawsom dros 35 o lythyrau a thros 270 o sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd treth twristiaeth yn un o’r trethi a awgrymwyd gan aelodau’r cyhoedd inni ei hystyried.
Dyma linell amser y digwyddiadau:
2014
- Rhoddodd Deddf Cymru 2014 bwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel yr oedd ar y pryd) gyflwyno trethi datganoledig newydd yng Nghymru.
2016
- Gwnaeth adroddiad Trethi er Lles Sefydliad Bevan a gyhoeddwyd yn 2016 argymhellion ar gyfer wyth treth newydd yng Nghymru, ac un ohonynt oedd yr Ardoll Ymwelwyr.
2017
- Fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid (Mark Drakeford ar y pryd) arwain dadl yn y Cynulliad i ddechrau trafodaeth am y cyfleoedd y gallai trethi newydd eu darparu i Gymru.
- Yna, cyhoeddodd alwad gyhoeddus am syniadau am drethi newydd posibl yng Nghymru.
- Cyflwynwyd dros 300 o ymatebion gan aelodau’r cyhoedd drwy lythyrau ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
2018
Ymgysylltodd Llywodraeth Cymru â rhanddeiliaid drwy Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Drethi a’r Fforwm Trethi ar lefel swyddogol i fesur barn cyrff cynrychiadol ac arbenigwyr cyn llunio rhestr fer o bedair treth newydd bosibl i Gymru. Cyhoeddwyd y rhestr hon yn 2018 ac roedd yn cynnwys:
- Treth gofal cymdeithasol
- Treth ar dir gwag
- Treth plastigau untro
- Treth twristiaeth
Yn ei Chynllun Gwaith Polisi Trethi, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n ystyried ffyrdd y gellid rhoi pwerau caniataol i awdurdodau lleol ddatblygu a gweithredu treth twristiaeth.
2020 i heddiw
- Roedd disgwyl i alwad gyhoeddus am dystiolaeth ddilyn yn 2020 ond bu oedi oherwydd y pandemig.
- Ailgychwynnodd y gwaith ar y cynigion ar gyfer ardoll ymwelwyr yn hydref 2021 fel ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu ac yna fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio.
- Lansiwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Medi 2022.
Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth i alluogi awdurdodau lleol i osod ardoll ymwelwyr.
Byddai ardoll ymwelwyr yn dilyn egwyddorion treth Llywodraeth Cymru:
- codi refeniw i gyllido gwasanaethau cyhoeddus mewn ffordd sydd mor deg â phosibl
- cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru, yn enwedig cefnogi swyddi a thwf
- bod yn glir, yn sefydlog ac yn syml
- cael eu datblygu drwy gydweithredu ac ymwneud
- cyfrannu’n uniongyrchol at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol o greu Cymru fwy cyfartal
Y cynigion
Rydym yn cynnig y bydd ardoll ymwelwyr yn dâl ychwanegol bach a fydd i’w godi ar arosiadau mewn llety ymwelwyr dros nos a osodir yn fasnachol. Bydd unrhyw benderfyniadau terfynol am y dull o gymhwyso’r ardoll yn cael eu gwneud ar ôl ystyriaeth lawn o’r ymatebion i’r ymgynghoriad.
Nid gwneud i bobl ailfeddwl cyn ymweld â Chymru yw bwriad ardoll ymwelwyr. Yn lle hynny, byddai’n gyfraniad bach gan ymwelwyr sy’n aros dros nos, a fydd yn creu refeniw ychwanegol i awdurdodau lleol ei ailfuddsoddi mewn cymunedau lleol. Byddai hyn yn eu galluogi i fynd i’r afael â rhai o’r costau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth ac yn annog dull mwy cynaliadwy o weithredu.
Diben
Diben yr ardoll yw creu refeniw ychwanegol i awdurdodau lleol ei ailfuddsoddi yn y gwasanaethau cyhoeddus a’r seilwaith sy’n sicrhau bod twristiaeth yn llwyddo. Ceir nifer fawr o ymwelwyr tymhorol mewn rhai rhannau o Gymru. Mae ymwelwyr yn defnyddio nwyddau a seilwaith cyhoeddus, fel ffyrdd, yn helaeth. Byddai ardoll ymwelwyr yn helpu i dalu costau lleol sy’n deillio o gynnal ymwelwyr ac yn galluogi mwy o fuddsoddi cyhoeddus yn y seilwaith sy’n gysylltiedig â thwristiaeth.
Mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad economaidd sylweddol i Gymru. Yn 2019, cafwyd mwy na £5 biliwn o wariant sy’n gysylltiedig â thwristiaeth. Rydym am barhau i weld diwydiant twristiaeth ffyniannus yng Nghymru ynghyd ag adferiad cryf yn sgil COVID-19
Mae defnyddio ardoll ymwelwyr yn ategu’r nod o sicrhau ‘twristiaeth gynaliadwy’, fel y’i diffinnir gan Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig (UNWTO):
‘Tourism that takes full account of its current and future economic, social and environmental impacts, addressing the needs of visitors, the industry, the environment and host communities.’
Datblygu cynaliadwy ar UNWTO
Buddsoddi mewn cymunedau lleol cynaliadwy
Bydd ardoll yn annog camau i ddiogelu cymunedau lleol a’u dathlu.
Byddai ymwelwyr o Gymru a mannau eraill yn gwneud cyfraniad bach tuag at helpu i gynnal gwasanaethau a’u gwella. Mae’r gwasanaethau hyn yn bwysig nid yn unig i’r rhai sy’n ymweld, ond i breswylwyr a busnesau fel ei gilydd. Rydym am i ymwelwyr wybod y bydd eu cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth o ran cefnogi’r cyrchfannau y maent yn eu caru ac yn eu mwynhau, gan ofalu am gymunedau lleol a’u gwarchod fel y gallant barhau i ffynnu.
Dylai’r seilwaith hollbwysig sy’n cynnal twristiaeth gael ei gefnogi gan bawb sy’n dibynnu arno. Mae hyn yn cynnwys cadw traethau a phalmentydd yn lân, yn ogystal â chynnal parciau, toiledau, a llwybrau troed lleol. Mae buddsoddi yn y rhain ac yn y gwaith o’u cynnal yn gwella enw da’r gyrchfan ac yn cefnogi’r economi ymwelwyr.
Annibyniaeth awdurdodau lleol
Hoffem rymuso awdurdodau lleol i wneud eu penderfyniadau eu hunain ar sail anghenion eu cymunedau.
Rydym yn ffodus i fyw mewn gwlad sydd â chynnig mor amrywiol i dwristiaid: o draethau tywodlyd Penrhyn Gŵyr i gopaon urddasol Eryri, i seibiannau bywiog, llawn profiadau yn ein dinasoedd. Rydym yn cydnabod bod maint yr economi ymwelwyr yn amrywio ar draws Cymru. Bydd awdurdodau lleol yn cael dewis codi arian ychwanegol drwy weithredu ardoll. Fodd bynnag, bydd y dull o gymhwyso’r ardoll yn cael ei archwilio yn yr ymgynghoriad.
Byddwn yn ymchwilio’n fwy manwl i’r modd y byddai’r refeniw yn cael ei ailfuddsoddi yn ystod yr ymgynghoriad.
Bydd amcangyfrifon o’r refeniw posibl y byddai ardoll yn ei greu yn cael eu darparu fel rhan o’r broses o asesu effaith yr ardoll.
Polisi sydd wedi’i ddylunio ar y cyd yng Nghymru, ar gyfer pobl Cymru
Mae’n hanfodol ymgysylltu’n helaeth wrth ddatblygu polisi newydd. Rydym wedi ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bartneriaid er mwyn deall gwahanol safbwyntiau a’u hystyried. Mae’r safbwyntiau hyn wedi’u hadlewyrchu yn y ddogfen ymgynghori a’r asesiad o’r effaith, er mwyn cynorthwyo eraill pan fyddant yn darparu eu hymatebion. Cynhaliwyd trafodaethau ag awdurdodau lleol, busnesau, cynrychiolwyr y trydydd sector, cyrff y diwydiant, parciau cenedlaethol, Awdurdod Cyllid Cymru, llwyfannau archebu ar-lein, a swyddogion mewn gweinyddiaethau tramor sydd ag ardollau ymwelwyr ar waith ers amser bellach.
Rydym yng nghamau cynnar y broses o benderfynu ar ddyluniad ardoll ymwelwyr a’i gwmpas. Byddwn yn parhau i ymgysylltu’n eang er mwyn datblygu cynigion ynghylch sut y dylai ardoll weithredu yng Nghymru dros nifer o flynyddoedd.
Rydym yn cydnabod y pryderon a fynegwyd gan ein partneriaid a chynrychiolwyr y diwydiant am ddatblygu ardoll ymwelwyr. Mae’r rhain yn cynnwys yr effaith y mae’r pandemig a’r argyfwng costau byw yn ei chael ar fusnesau. Rydym ar ddechrau’r broses ar hyn o bryd. Byddwn yn ystyried yr holl safbwyntiau a thystiolaeth wrth i’r cynigion gael eu datblygu, er mwyn helpu i lywio ein penderfyniadau.
Gwaith ymchwil ac asesu’r effaith
Wrth lunio deddfwriaeth, mae angen inni amlinellu’r effaith y mae ardoll yn debygol o’i chael – yr effaith gadarnhaol a’r effaith negyddol fel ei gilydd. Bydd asesiad effaith rheoleiddiol rhannol yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r ddogfen ymgynghori, gan amlinellu’r data sydd ar gael inni ar hyn o bryd.
Ynghyd â’r asesiad effaith rheoleiddiol rhannol, darperir casgliad o ffynonellau data ynghylch nifer yr ymwelwyr a’r sefydliadau llety, a hynny ar gyfer gwahanol fathau o sefydliadau (llety â gwasanaeth, llety hunanddarpar, gwersylla/carafannau, hostelau). Mae’r ffigurau hyn yn rhoi rhywfaint o gyd-destun defnyddiol ar gyfer dechrau amgyffred y refeniw posibl a gaiff ei greu, a chostau gweithredu.
Rydym yn bwriadu diweddaru ein hasesiad o’r effaith wrth i ragor o dystiolaeth ddod i law ac wrth i’r cynigion gael eu datblygu ar ôl yr ymgynghoriad.
Rydym yn datblygu cronfa dystiolaeth gadarn i gefnogi’r gwaith o gynllunio’r ardoll a’i weithredu. Ym mis Mai 2022, cymeradwyodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol gyllid ar gyfer tri phrosiect ymchwil i gefnogi datblygiad yr ardoll ymwelwyr. Mae’r manylebau ar gael yma.
1. Dadansoddiad Cymharol o’r Systemau Trethiant sydd yn Effeithio ar yr Economi Ymwelwyr mewn Gwledydd Dethol
Yn ein gwaith o ymgysylltu â’r diwydiant twristiaeth, mae busnesau wedi amlygu pryderon am y baich treth y mae’r diwydiant yn ei wynebu. Mynegwyd pryderon ynghylch TAW yn benodol. Caiff cyfraddau TAW eu pennu gan Lywodraeth y DU. Cafodd y gyfradd TAW ei gosod yn 20% unwaith eto ar gyfer y sector lletygarwch gan Lywodraeth y DU o 1 Ebrill 2022. Mae hyn yn gynnydd o’r gyfradd o 12.5% a oedd yn berthnasol i’r sector ers mis Hydref 2021.
Rydym wedi comisiynu gwaith ymchwil er mwyn deall y gwahanol systemau trethiant a wynebir gan yr economi ymwelwyr yn gyffredinol, a’r sector llety yn arbennig, mewn gwledydd sydd â nodweddion tebyg i Gymru o ran yr economi a thwristiaeth. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall y beichiau treth cymharol a wynebir gan y diwydiant twristiaeth mewn gwledydd eraill, a sut y byddai’r ardoll arfaethedig yn rhyngweithio â’r rhain.
2. Gwaith ymchwil am yr elastigeddau sy’n berthnasol i ardoll ymwelwyr yng Nghymru
Mae’r gwaith ymgysylltu hefyd wedi amlygu pryderon am sut y bydd ardoll yn effeithio ar ymddygiad ymwelwyr a chyflenwyr. Mewn ymateb i hyn, rydym wedi comisiynu adolygiad o’r gwaith ymchwil presennol ar y pwnc hwn. Mae’r gwaith ymchwil yn archwilio’r dystiolaeth ynghylch pa mor ymatebol yw cyflenwyr a’r galw ymysg ymwelwyr i newidiadau ym mhris twristiaeth (‘yr elastigeddau pris’), a newidiadau yn y galw ymysg ymwelwyr yn sgil newidiadau i incwm ymwelwyr (‘elastigedd incwm y galw’).
Bydd y canfyddiadau cychwynnol yn cael eu defnyddio i lywio ein dealltwriaeth o effaith bosibl yr ardoll.
3. Dadansoddiad o ddemograffeg y sector llety yng Nghymru
Rydym hefyd wedi comisiynu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i lunio dadansoddiad o ddemograffeg y sector llety yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r data i lywio’r ddealltwriaeth o effaith bosibl yr ardoll, ac i gefnogi unrhyw weithgaredd gwerthuso sy’n cael ei ddatblygu.
Ardollau ymwelwyr a gyflwynwyd dramor
Mae ardollau ymwelwyr yn gyffredin ledled y byd, ac mae mwy o gyrchfannau twristiaid yn eu cyflwyno er mwyn helpu i ariannu’r gwasanaethau cyhoeddus a’r seilwaith sy’n rhan annatod o brofiad yr ymwelydd.
Mae mwy na 40 o wledydd a chyrchfannau gwyliau ledled y byd wedi cyflwyno math o ardoll ymwelwyr, gan gynnwys:
Yn yr enghreifftiau rhyngwladol, mae ardoll yn creu arian sy’n darparu cymorth yng nghyswllt mannau gwyrdd, strydoedd glân, cyfleusterau i ymwelwyr, cymunedau lleol, gwaith diogelu henebion, a thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r rhain yn elfennau annatod o brofiad ymwelydd.
Fersiwn o ardoll ymwelwyr a weithredir yn gyffredin yw ardoll ar arosiadau dros nos mewn llety twristiaid. Mae dyluniad ardoll twristiaeth, ei gyfraddau, a’r dull o’i gymhwyso yn amrywio yn rhyngwladol. Mewn modelau rhyngwladol, mae’r ardoll yn amrywio o £0.50 i £5.00 y noson. Yn aml, caiff ei godi fesul person, ac mae’n tueddu i amrywio yn ôl y math o lety neu’r gost.
Prin yw’r dystiolaeth sy’n awgrymu bod ardollau’n cael effaith economaidd negatif, pan fônt yn gymesur. Tystiolaeth gyfyngedig a geir hefyd ynghylch effeithiau dadleoli.
Mae Gwlad Groeg yn gweithredu ardoll ar draws y wlad. Yn yr Eidal, caiff ei gymhwyso ar lefel bwrdeistref dinas/tref. Gweithredir ardoll ar draws Catalonia gyfan.
Y camau nesaf
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 13 Rhagfyr 2022.
Mae’r ymatebion yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Ebrill 2023.