Neidio i'r prif gynnwy

Darparu’r polisïau rydym yn eu defnyddio i lunio ystadegau Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) a chyfrinachedd data.

Cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol

Rydym yn cyhoeddi ystadegau yn unol ag atodlen o ddyddiadau cyhoeddi arfaethedig.

Rydym yn cyhoeddi a diweddaru yn rheolaidd rhestr o’r rheini a chael fynediad i’r ystadegau.

Gwnaethom gyhoeddi datganiad yn egluro sut rydym yn cadw at 3 elfen y cod:

  • dibynadwyedd
  • ansawdd
  • gwerth

Cyfrinachedd data

Mae gan Awdurdod Cyllid Cymru wybodaeth fanwl am unigolion a sefydliadau. Rydym wedi ymrwymo i reoli’r wybodaeth hon i’r safonau uchaf.

Dim ond i gefnogi casglu a rheoli trethi a rhwymedigaethau cyfreithiol eraill fyddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth. Mae hyn yn cynnwys dadansoddiad ystadegol er mwyn deall y dreth sy’n cael ei hasesu a’i chasglu yng Nghymru.

Darllenwch ein polisi preifatrwydd am fwy o fanylion.

Polisïau ystadegol

Adborth

Cofiwch gysylltu â ni gyda chwestiynau ac adborth am ein hystadegau.