Neidio i'r prif gynnwy

Diben

Mae’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau yn gosod yr arferion y mae'n rhaid i ni ymrwymo iddynt ar gyfer cynhyrchu a rhyddhau ystadegau swyddogol ar y:

Dangosodd asesiad o’n hystadegau ein bod yn cwrdd â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae hyn yn golygu y gall defnyddwyr fod â hyder:

  • yn ein pobl sy'n cynhyrchu ein hystadegau
  • bod ein hystadegau yn gadarn, yn ddibynadwy ac yn gywir

Mae'r ddogfen hon yn nodi sut rydym yn cydymffurfio a sut rydym yn sicrhau bod ein hystadegau:

  • yn ymddiriedadwy
  • yn werthfawr
  • o ansawdd uchel

Dibynadwyedd

‘Hyder yn y bobl a'r sefydliadau sy'n cynhyrchu ystadegau a data.’

Rhaid i'n pobl, ein systemau a’n prosesau fod yn ddibynadwy er mwyn cynhyrchu ystadegau a data. Mae hyn yn golygu bod angen i ni barhau:

  • i gael ein harwain a'n rheoli'n dda
  • i fod yn agoredd
  • i fod yn ddiduedd
  • i fod yn fedrus

Gonestrwydd ac uniondeb

Rydym yn ymrwymo i ddefnyddio, casglu, cyrchu a rhannu data mewn ffordd foesegol er lles y cyhoedd. Rydym yn cyflwyno data:

  • yn ddiduedd
  • yn wrthrychol
  • yn rhydd o ddylanwad gwleidyddol a masnachol

Gwneud penderfyniadau ac arweinyddiaeth annibynnol

Ein Prif Swyddog Ystadegau yw ein Pennaeth Dadansoddi Data. Awdurdod Ystadegau'r DU sy’n diffinio cyfrifoldebau'r Prif Swyddog Ystadegau (PDF).

Ein Prif Swyddog sy'n penderfynu ar y canlynol ar gyfer ein hystadegau swyddogol:

  • dulliau
  • safonau a gweithdrefnau
  • cynnwys
  • amseriad

Rydym yn cymryd rhan mewn pwyllgorau system a rhwydweithiau ystadegol y DU drwy’r swyddogion Llywodraeth Cymru hyn:

  • Brif Ystadegydd
  • Pennaeth y Proffesiwn Ystadegau

Rhyddhau datganiadau'n drefnus

Rydym yn cyhoeddi ein datganiadau ystadegol yn rhad ac am ddim o dan ystadegau ac ymchwil ar LLYW.CYMRU am 9:30am ar y dyddiad a gyhoeddwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Rydym yn cyhoeddi'r dyddiad o leiaf 4 wythnos cyn cyhoeddi ac fel arfer 3 mis ymlaen llaw ar gyfer:

  • datganiadau cyntaf
  • bwletinau
  • erthyglau ystadegol

Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr i sicrhau bod datganiadau polisi a'r wasg yn cael eu cyhoeddi ar wahân i ystadegau. Rydym yn cynghori cydweithwyr ar ddefnyddio ein hystadegau o fewn y datganiadau hyn.

Mae ein polisi ar gyfer cyhoeddi ystadegau swyddogol yn cynnwys:

  • sut rydym yn rheoli mynediad at ystadegau swyddogol cyn eu cyhoeddi (mynediad cyn rhyddhau)
  • ein dull o ymdrin â diwygiadau

Rydym yn adolygu ein hystadegau’n rheolaidd mewn modd sydd wedi’i gynllunio. Mae hyn yn cynnwys diweddaru ein hamcangyfrifon dros dro cychwynnol ar gyfer ffurflenni treth ychwanegol neu rai sy’n cael eu diwygio. Gallwn hefyd wneud diwygiadau heb eu cynllunio er mwyn cywiro unrhyw wallau sy’n cael eu darganfod, gan dynnu sylw defnyddwyr at hyn yn ein hystadegau.

Rydym hefyd yn cyhoeddi data perfformiad yn ein cyhoeddiad ystadegau Treth Trafodiadau Tir blynyddol, a ddefnyddir yn ein hadroddiadau a chyfrifon blynyddol. Wrth gyhoeddi'r data hwn, rydym yn egluro nad yw'r rhain yn ystadegau swyddogol.

Prosesau a rheolaeth dryloyw

Rydym yn cyhoeddi ein datganiadau ystadegol dan ystadegau ac ymchwil ar LLYW.CYMRU. Rydym yn rhestru’r hyn fydd yn cael ei gyhoeddi yn y dyfodol, ac mae hyn yn gweithredu fel ein cynllun gwaith ar gyfer ystadegau ar gyfer y dyfodol.

Gallu proffesiynol

Wrth recriwtio rydym yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil. Rydym hefyd yn defnyddio fframwaith cymhwysedd Grŵp Ystadegol y Llywodraeth ar gyfer rhai rolau.

Mae ein tîm o ddadansoddwyr yn:

  • cymhwyso egwyddorion y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
  • gweithredu gyda chywirdeb, gonestrwydd, gwrthrychedd a didueddrwydd
  • hyfforddi ac yn datblygu ein sgiliau yn rheolaidd
  • rhannu gwybodaeth ac arbenigedd
  • dilyn ein polisïau ar reoli data'n ddiogel yn ein system ddata
  • dogfennu ein prosesau'n briodol, gan gynnwys:
    • ein rhestr o dasgau ar gyfer llunio ystadegau
    • sylwadau o fewn ein cod rhaglennu

Llywodraethu data

Rydym yn dilyn pob rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyfer casglu, cyfrinachedd, rhannu, cysylltu a rhyddhau data.

Mae ein Pennaeth Dadansoddi Data yn goruchwylio sut rydym yn diogelu uniondeb a diogelwch data yn unol â:

Mae hyn yn cynnwys:

  • storio a throsglwyddo gwybodaeth yn ddiogel
  • prosesu gwybodaeth bersonol yn deg
  • asesu’r risgiau o adnabod trethdalwyr unigol yn y data ac allbynnau ystadegol cysylltiedig
  • unrhyw gamau lliniarol i leihau'r risgiau hynny

Ansawdd

‘Data a dulliau sy'n cynhyrchu ystadegau sicr.’

Rydym yn disgrifio ansawdd ein hystadegau yn ein:

Fe wnaethom asesu ein ffynonellau data gan ddefnyddio'r pecyn cymorth Sicrhau Ansawdd Data Gweinyddol.

Ffynonellau data addas

Rydym yn cynhyrchu ystadegau gan ddefnyddio data o ffurflenni treth a anfonnir i Awdurdod Cyllid Cymru yn bennaf. Gall y ffynonellau data ar gyfer ein hystadegau ehangu yn y dyfodol. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n timau gweithrediadau a chyllid i ddatrys unrhyw faterion yn ymwneud ag ansawdd rydym yn eu darganfod yn y data craidd.

Rydym yn gwneud yn siŵr bod ein data craidd yn gyson ar draws gwahanol lefelau o’i gydgrynhoi. Er enghraifft, yn ein data Treth Trafodiadau Tir blynyddol yn ôl daearyddiaeth ar wefan StatsCymru. Mae cyfansymiau’n gyson â'n holl ystadegau Treth Trafodiadau Tir eraill, ac rydym yn eu cyhoeddi ar yr un pryd.

Rydym yn dryloyw ynghylch defnyddio ein hystadegau ac unrhyw gyfyngiadau. Er enghraifft, ochr yn ochr â'n hystadegau Treth Trafodiadau Tir blynyddol, rydym yn cyhoeddi atodiad. Mae hyn yn esbonio'r defnydd o ddata ar gyfraddau uwch Treth Trafodiadau Tir ac ar gyfer ardaloedd daearyddol.

Dulliau cadarn

Rydym yn esbonio'r dulliau rydym yn eu defnyddio yn ein hystadegau ac unrhyw gyfyngiadau. Rydym yn disgrifio diffiniadau pwysig yn ein:

Rydym yn cydweithio ag eraill sy'n gweithio ar ystadegau tebyg i drafod dulliau a diffiniadau.

Sicrwydd ansawdd

Rydym yn ystyried anghenion defnyddwyr wrth gydbwyso:

  • amseroldeb
  • amlder
  • lefel yr ansawdd

Yn rheolaidd rydym yn:

  • adrodd ar faterion ansawdd yn ein datganiadau ystadegol
  • diweddaru ein tudalennau gwybodaeth am ansawdd
  • gwneud diwygiadau sydd wedi’u cynllunio i'n hystadegau

Weithiau efallai y byddwn hefyd yn gwneud diwygiadau heb eu cynllunio i'n hystadegau.

Rydym yn disgrifio ein dull o ymdrin â diwygiadau yn ein polisi ar gyfer cyhoeddi ystadegau swyddogol.

Lle bo'n ymarferol, rydym yn awtomeiddio ein sicrwydd ansawdd gyda dull Piblinellau Dadansoddol Atgynyrchadwy. Mae hyn yn gwella effeithlonrwydd, ansawdd, a dibynadwyedd ein hystadegau.

Er enghraifft, rydym yn cysoni data’n rheolaidd rhwng ein systemau treth, cyllid a rheoli cwsmeriaid. Mae gennym brosesau awtomatig i dynnu ein sylw at:

  • wallau
  • eitemau data sydd ar goll
  • anghysondebau rhwng data a gedwir mewn gwahanol systemau

Yna, byddwn yn ymchwilio i unrhyw anghysondebau rydym yn cael ein rhybuddio amdanynt ar unwaith.

Mae enghreifftiau o'r gwiriadau hyn yn cynnwys:

  • ffurflenni treth a ddylai fod wedi cael eu cyflwyno i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi
  • gwiriadau systemau ar ad-daliadau cyfradd uwch ar gyfer trafodiadau preswyl rydym yn cyhoeddi ystadegau arnynt
  • gwiriadau bod y dreth sy'n ddyledus yn gyson â'r math o drafodiad a gwerth yr eiddo

Gwerth

Ystadegau sy'n cefnogi angen cymdeithas am wybodaeth.’

Ein nod yw cynhyrchu ystadegau a data sydd yn:

  • ddefnyddiol
  • hawdd i’w cyrchu
  • perthnasol
  • helpu i ddeall materion pwysig

Mae hyn yn cynnwys:

  • gwella ystadegau sydd gennym ar hyn o bryd a chreu ystadegau newydd drwy drafod a chydweithio â rhanddeiliaid
  • bod yn gyfrifol ac yn effeithlon wrth gasglu, rhannu a defnyddio gwybodaeth ystadegol

Perthnasedd i ddefnyddwyr

Yn ein polisi ar gyfer cyhoeddi ystadegau swyddogol, rydym yn nodi ystod o randdeiliaid sydd wedi dangos diddordeb yn ein hystadegau. Byddwn yn parhau i ymgysylltu a chydweithio â'r rhanddeiliaid hyn er mwyn gwella ein cyhoeddiadau.

Rydym yn monitro sut mae ein hystadegau yn cael eu defnyddio yn y cyfryngau ac yn defnyddio'r mewnwelediadau hyn i lywio ein hystadegau.

Mae croeso i'r rhai hynny sydd ag ymholiadau, ceisiadau neu bryderon gysylltu â ni drwy e-bost: data@acc.llyw.cymru

Hygyrchedd

Rydym yn cyhoeddi taenlenni ac adroddiadau ystadegol ysgrifenedig yn HTML dan ystadegau ac ymchwil ar LLYW.CYMRU. Mae ein hallbynnau yn dilyn canllawiau Analysis Function ar hygyrchedd ystadegau.

Rydym yn cyhoeddi ein setiau data yn agored ar wefan StatsCymru. Mae hyn yn sicrhau y gall unrhyw un ddefnyddio, ailddefnyddio ac ailddosbarthu ein data’n rhydd.

Rydym yn adolygu ein hystadegau yn rheolaidd. Y setiau data rydym yn eu cyflwyno ar StatsCymru fydd y fersiwn diweddaraf o'r ystadegau bob amser. Rydym yn dileu holl fersiynau blaenorol yr ystadegau ar StatsCymru. Mae fersiynau archif ar gael ar gais drwy gysylltu â ni.

Rydym yn darparu mwy o wybodaeth ar ein harferion cyhoeddi yn ein polisi ar gyfer cyhoeddi ystadegau swyddogol.

Eglurder a mewnwelediad

Mae ein hystadegau yn rhoi cyngor ar sut i ddefnyddio a dehongli termau. Rydym yn gwneud ein hystadegau mor glir â phosibl, gyda chefnogaeth ein:

Rydym yn dilyn arferion gorau wrth gyflwyno data’n weledol er mwyn helpu i ddehongli ystadegau.

Rydym yn rhoi cyd-destun yn ein sylwebaeth ystadegol er mwyn esbonio tueddiadau.

Er enghraifft, rydym yn gwneud sylw yn ein hystadegau ar sut mae tueddiadau yn y data wedi eu heffeithio gan ddigwyddiadau fel:

  • coronafeirws (COVID-19)
  • newidiadau i’r cyfraddau a’r bandiau treth

Mae ein tudalennau gwybodaeth am ansawdd yn cyfeirio at ystadegau tebyg yn y DU a gynhyrchir gan CThEM a Chyllid yr Alban.

Arloesi a gwella

Rydym yn cydweithio ac yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am arloesiadau Analysis Function, yn enwedig yn:

  • CThEM
  • Cyllid yr Alban
  • Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS)

Er enghraifft, rydym yn rhoi mewnbwn defnyddwyr i dîm Mynegai Prisiau Tai yn yr ONS.

Rydym yn cynnwys defnyddwyr wrth brofi ystadegau newydd. Er enghraifft, ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad ar gyfer Treth Trafodiadau Tir arbrofol ar eiddo nad ydynt wedi'u prynu fel prif breswylfa. Rydym yn gofyn am adborth gan ddefnyddwyr ar yr ystadegau hyn.

Effeithlonrwydd a chymesuroldeb

Ein nod yw addasu ein cyhoeddiadau presennol er mwyn diwallu unrhyw anghenion defnyddiwr newydd rydym yn eu nodi. Os nad yw hyn yn ymarferol, rydym yn cyhoeddi'r data hwn fel cais ad-hoc o dan ystadegau ac ymchwil ar LLYW.CYMRU.

Rydym yn defnyddio dulliau Piblinellau Dadansoddol Atgynyrchadwy. Mae'r rhain yn ein helpu i gynhyrchu a sicrhau ansawdd ein hystadegau’n effeithlon. Rydym yn cefnogi'r strategaeth Piblinellau Dadansoddol Atgynyrchadwy.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn cymhwyso'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ewch i:

Rydym yn croesawu unrhyw adborth, sylwadau neu ymholiadau am ein hystadegau. E-bost: data@acc.llyw.cymru

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg / We welcome correspondence in Welsh.