Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 6 Tachwedd 2013.

Cyfnod ymgynghori:
16 Gorffennaf 2013 i 6 Tachwedd 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 714 KB

PDF
714 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Mynegai ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym yn ceisio barn ar Reoliadau drafft ar gyfer gweithredu adran 144C o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 er mwyn ymdrin â 'dyled ddrwg' yn y diwydiant dŵr yng Nghymru.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae ‘dyled ddrwg’ yn deillio o filiau sydd heb eu talu ac sy’n cael eu dileu gan gwmni fel colled. Dyma’r rhesymau pam:

  • nid oes modd casglu’r ddyled (ar ôl gwneud pob ymdrech resymol i’w chasglu) 
  • mae cost y camau pellach i gasglu’r ddyled yn uwch na’r ddyled ei hun.

 

Yr holl gwsmeriaid sy’n talu am gost dyled o ganlyniad i beidio â thalu biliau dŵr. Yng Nghymru mae hyn yn ychwanegu tua £20 y flwyddyn at bob bil. Ar hyn o bryd meddianwyr eiddo sy’n talu am filiau dŵr. Ond mae rhai pobl yn peidio â thalu eu biliau a thenantiaid yw llawer o ddyledwyr dŵr. Rydym eisiau helpu’r diwydiant dŵr a charthffosiaeth i leihau’r ddyled hon er mwyn helpu i leihau biliau a threchu tlodi.  

Yr ymgynghoriad hwn

Mae adran 144C o Ddeddf y Diwydiant dŵr 1991 yn caniatáu i roi gwybodaeth am denantiaid i gwmnïau dŵr a charthffosiaeth.

Rydym yn ceisio barn am y “Rheoliadau Gwybodaeth dŵr a Charthffosiaeth (Meddianwyr nad ydynt yn Berchenogion)” er mwyn ei gwneud yn bosibl i ddarparu’r wybodaeth hon am eiddo a wasanaethir gan gwmnïau dŵr a charthffosiaeth sy’n gweithredu’n llwyr neu’n bennaf yng Nghymru.  

Bydd y Rheoliadau hyn yn gosod dyletswydd ar landlordiaid i roi manylion eu cyfeiriad ynghyd ag enw’r tenant ei ddyddiad geni a’r dyddiad y symudodd i mewn i’r eiddo. Os na fydd landlordiaid yn darparu’r wybodaeth hon byddant yn dod yn gydatebol am y taliadau dŵr yn yr eiddo â thenant.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 685 KB

PDF
685 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.