Neidio i'r prif gynnwy

Disgrifiad o'r termau allweddol a ddefnyddir yn ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi a gyhoeddwyd gan Awdurdod Cyllid Cymru (yr Awdurdod).

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:
Gweld hanes diweddaru

Cyfraddau

Mae tair cyfradd Treth Gwarediadau Tirlenwi:

Cyfraddau treth sy’n berthnasol, yn ôl blwyddyn ariannol

[Cyfradd y dunnell]
  Cyfradd safonol Cyfradd is Cyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi 

2018-19

£88.95

£2.80

£133.45

2019-20

£91.35

£2.90

£137.00

2020-21

£94.15

£3.00

£141.20

2021-22

£96.70

£3.10

£145.05

2022-23

£98.60

£3.15

£147.90

2023-24

£102.10

£3.25

£153.15

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfraddau sy'n cyfateb i'r rhai yng ngweddill y DU ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018-19 i 2023-24.

Codir gwarediad trethadwy ar safle tirlenwi awdurdodedig ar y gyfradd safonol. Mae hyn yn oni bai bod y deunydd sy'n cael ei waredu:

  • yn cynnwys un neu fwy o ddeunyddiau cymwys yn unig
  • neu'n gymysgedd cymwys o ddeunyddiau

Ac os felly, codir y gyfradd is.

Bydd gwarediad trethadwy sy'n cael ei wneud yn unrhyw le oni bai am safle tirlenwi awdurdodedig yn ddarostyngedig i dâl yn ôl y gyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi. Mae hyn waeth beth fo:

  • natur y deunydd a waredir
  • a waeth pe byddai fel arall yn ddarostyngedig i'r gyfradd safonol neu'r gyfradd is pe bai’n cael ei waredu mewn safle tirlenwi awdurdodedig

I gael rhagor o wybodaeth, gweler y canllawiau technegol Treth Gwarediadau Tir.

Dadansoddiad o ddata cyfradd is

O fis Ebrill 2021, fe wnaethom gyflwyno ffurflen dreth newydd i weithredwyr safleoedd tirlenwi ei chwblhau, wedi’i dylunio mewn ymgynghoriad â’r gweithredwyr. Ar gyfer gwarediadau ar y gyfradd dreth is, rydym bellach yn casglu data yn ôl codau’r Rhestr Wastraffoedd (LoW), ac ar gyfer gronynnau mân, yn ôl cynhyrchydd gwastraff. Gall fod achosion lle gellir trethu gronynnau mân ar y gyfradd safonol. I gael gwybodaeth am ba ddeunyddiau a all fod yn gymwys fel gronynnau mân, gweler ‘Treth Gwarediadau Tirlenwi, cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau: gronynnau mân’.

Daw'r Cod Rhestr Wastraffoedd (LoW), a adnabyddir hefyd fel y cod Catalog Gwastraff Ewropeaidd (EWC), o'r rhestr safonedig o gategorïau gwastraff o fewn rheoliadau’r Rhestr Wastraffoedd. Rhaid i nodyn trosglwyddo gwastraff gynnwys disgrifiad ysgrifenedig o'r gwastraff yn ogystal â'r cod LoW bob amser.

Yn yr ystadegau Treth Gwarediadau Tirlenwi sydd wedi’u cyhoeddi, rydym yn cyflwyno dadansoddiad o bwysau cyfradd is wedi’i rannu’n ronynnau mân cymwys, gyda gronynnau mân anghymwys wedi'i grwpio'n 3 chategori yn ôl y cod Rhestr Wastraffoedd (LoW).

Mae'r tabl isod yn rhoi’r codau LoW yr ydym yn gyffredinol wedi derbyn data ar wastraff sy'n cael ei waredu oddi tanynt ers mis Ebrill 2021. Yn flynyddol, byddwn yn diweddaru'r tabl hwn gydag unrhyw godau LoW ychwanegol a gyflwynir gan weithredwyr y maent yn gyffredinol wedi gwaredu gwastraff cyfradd is oddi tanynt.

Sylwch fod y tabl o godau LoW isod yn ymwneud â gwastraff a waredwyd ar y gyfradd dreth is yn unig. Byddai’n bosibl i weithredwyr waredu gwastraff sydd wedi’i ddosbarthu yn yr un modd ar y gyfradd dreth safonol, er nad ydym yn casglu’r cod LoW ar wastraff cyfradd safonol er mwyn gwybod hyn.

Ar eu pen eu hunain, nid yw codau LoW yn ddigon i bennu cyfradd Treth Gwarediadau Tirlenwi deunydd. Ar gyfer pob gwarediad, mae rhaid i weithredwr y safle tirlenwi gael tystiolaeth arall i ddangos bod y deunydd yn bodloni’r gofynion yn y ddeddfwriaeth, fel y nodir yng nghanllawiau DTGT/4030 Awdurdod Cyllid Cymru.

Cod Rhestr Wastraffoedd

Disgrifiad

Gronynnau mân a waredwyd ar y gyfradd dreth is (yn cynnwys y codau LoW a ganlyn)

19 12 12

Gwastraff arall (gan gynnwys cymysgedd o ddeunyddiau) o drin gwastraff yn fecanyddiol ar wahân i'r hyn sy'n 19 12 11

19 12 09

Mwynau (er enghraifft, tywod, cerrig)

17 05 04

Pridd a cherrig ar wahân i'r hyn sy'n 17 05 03

Deunydd nad yw'n ronynnau mân: priddoedd a cherrig (yn cynnwys y codau gradd is canlynol)

17 05 04 (deunydd nad yw’n ronynnau mân)

Pridd a cherrig ar wahân i'r hyn sy'n 17 05 03

20 02 02

Pridd a cherrig

Deunydd nad yw’n ronynnau mân: concrit, brics, cerameg a cherrig (yn cynnwys y codau gradd is canlynol)

17 01 01

Concrit

17 01 02

Brics

17 01 03

Teils a cherameg

17 01 07

Cymysgedd o goncrit, brics, teils a cherameg ar wahân i'r hyn sy'n 17 01 06

Deunydd nad yw’n ronynnau mân: arall (yn cynnwys y codau gradd is canlynol)

01 04 10 Llwch a gwastraff powdrog ac eithrio’r rhai a grybwyllwyd yn 01 04 07
08 02 01 Powdrau gorchuddio gwastraff

10 01 01

Lludw gwaelod, slag a llwch boeler (heb gynnwys llwch boeler y cyfeirir ato yn 10 01 04)

10 01 03

Lludw o fawnog a phren heb ei drin

10 02 01

Gwastraff o brosesu slag

10 06 04

Gronynnau a llwch eraill

10 10 08

Creiddiau a mowldiau bwrw sydd wedi'u defnyddio ar gyfer arllwys ar wahân i'r hyn sy'n 10 10 07

10 11 03

Deunyddiau ffibrog seiliedig ar wydr gwastraff

10 11 12

Gwydr gwastraff ar wahân i'r hyn sy'n 10 11 11

10 13 14

Concrit a slwtsh concrit gwastraff

11 01 10

Slwtsh a gweddillion hidlydd ar wahân i'r hyn sy'n 11 01 09

12 01 17

Deunydd chwythellu gwastraff ar wahân i'r hyn sy'n 12 01 16

17 02 02 Gwydr

16 03 04

Inorganic wastes other than those mentioned in 16 03 03

17 05 06

Gwastraff carthu ar wahân i'r hyn sy'n 17 05 05

17 05 08

Balast ar wahân i'r hyn sy'n 17 05 07

17 06 04

Deunyddiau inswleiddio ar wahân i'r hyn sy'n 17 06 01 a 17 06 03

17 09 04

Gwastraff adeiladu a dymchwel cymysg ar wahân i'r hyn sy'n 17 09 01, 17 09 02 a 17 09 03

19 01 12

Lludw a slag ar wahân i'r hyn sy'n 19 01 11

19 04 01

Gwastraff gwydrol

19 12 09 (deunydd nad yw’n ronynnau mân)

Mwynau (er enghraifft, tywod, cerrig)

19 13 02

Gwastraff solet o adfer pridd ar wahân i'r hyn sy'n 19 13 01

20 01 02

Gwydr

Cyfnodau cyfrifyddu

Mae pob gweithredwr safle tirlenwi yn cytuno ar gyfnod cyfrifyddu gyda ni ar gyfer dychwelyd ffurflen Treth Gwarediadau Tir. Rydym rhaid yn dderbyn pob ffurflen erbyn diwrnod gwaith olaf y mis yn dilyn diwedd y cyfnod cyfrifyddu.

Mae’r rhan fwyaf o weithredwyr safleoedd tirlenwi’n gweithio’n unol â chwarteri calendr safonol:

  • Ebrill i Fehefin
  • Gorffennaf i Fedi
  • Hydref i Ragfyr
  • Ionawr i Fawrth

Felly, un ffurflen Treth Gwarediadau Tirlenwi ar gyfer y gweithredwr safle tirlenwi hwnnw yn cynnwys y data ar gyfer unrhyw chwarter penodol.

Fodd bynnag, mae lleiafrif bychan o weithredwyr safleoedd tirlenwi’n gweithio’n unol â chyfnodau amgen o dri mis (er enghraifft Mai i Orffennaf, neu Mehefin i Awst). Byddem yn derbyn y ffurflenni hyn erbyn diwrnod gwaith olaf y mis canlynol (diwedd mis Awst neu ddiwedd mis Medi yn yr enghreifftiau hyn). Mae'r addasiadau a wnaed i ddata a ddarparwyd gan y gweithredwyr hyn wedi'u nodi yn adran Dulliau y datganiadau ystadegol.

Esemptiadau

Gall rhai enghreifftiau o waredu deunyddiau gael eu hystyried yn esempt rhag Dreth Gwarediadau Tirlenwi ac felly ni fyddant yn cael eu hadrodd i ni. Nid ydym yn casglu unrhyw ddata ar y gwarediadau esempt hyn. Ar hyn o bryd mae dau warediad esempt:

Amryfal warediad deunydd ar yr un safle

Pan mae’r deunydd wedi cael ei gynnwys eisoes ar ffurflen dreth a bod treth wedi’i thalu wrth ei waredu ar yr un safle. Mae hyn yn sicrhau mai dim ond un waith y bydd gwarediadau lluosog o’r un deunydd ar yr un safle awdurdodedig yn agored i Dreth Gwarediadau Tir.

Mynwentydd anifeiliaid anwes

Mae’n berthnasol i safleoedd tirlenwi awdurdodedig nad ydynt ond yn derbyn gwaredu cyrff neu lwch anifeiliaid anwes marw (ac unrhyw flwch neu wrn sy’n eu cynnwys). Gan fod y gwarediadau mewn mynwentydd anifeiliaid anwes yn esempt, nid oes raid i weithredwyr mynwentydd o'r fath gofrestru gyda ni gyfrif ar gyfer Treth Gwarediadau Tir. Nid yw’r esemptiad yn cwmpasu safleoedd tirlenwi eraill sy’n derbyn gweddillion anifeiliaid anwes a mathau eraill o wastraff.

Rhyddhadau

Gall gweithredwyr safle tirlenwi yn hawlio rhyddhad ar rai gwarediadau trethadwy ar safleoedd awdurdodedig. Mewn achosion hyn, nid ydym yn codi y dreth os bydd y rhyddhad yn cael ei hawlio mewn ffurflen dreth. Caiff rhyddhadau eu gosod mewn 4 categori cyffredinol:

  • deunydd a dynnir o wely afon, o wely’r môr neu o ddyfroedd eraill drwy garthu
  • deunydd sy’n deillio o fwyngloddio a chwarela
  • ail-lenwi mwyngloddiau brig a chwareli
  • ac adfer safleoedd

Disgownt dŵr

Caiff gweithredwr safle tirlenwi wneud cais i ni am gymeradwyaeth i gymhwyso un neu fwy disgownt. Mae pob disgownt yn perthnasol i ddŵr sydd mewn deunydd wrth gyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy o ffynhonnell benodol. Gall y disgownt mewn perthynas â dŵr ynwedi’u cyfyngu i achosion cyfiawn pryd y mae angen ychwanegu neu ddefnyddio dŵr.

Caiff gweithredwr safle tirlenwi pan fydd y dŵr yn bresennol fel mater o raid yn y deunydd at y dibenion canlynol:

  • bod rhaid ei ychwanegu er mwyn gallu cludo’r deunydd i’w waredu
  • bod rhaid ei ychwanegu i echdynnu mwyn
  • bod rhaid ei ychwanegu yn ystod proses ddiwydiannol
  • ei fod yn deillio’n anochel o ganlyniad i broses ddiwydiannol
  • neu bod y deunydd yn weddillion trin elifiant neu garthion mewn gwaith trin dŵr

Bydd yn ofynnol i weithredwyr safleoedd tirlenwi hawlio'r disgownt mewn perthynas â dŵr yn eu ffurflen dreth. Mae hyn drwy ddarparu manylion y tunelledd dŵr i'w ddisgowntio ar gyfer pob cyfnod cyfrifyddu. Nid yw wedi’i gynnwys mewn unrhyw bwysau yr adroddwyd ei fod yn destun y cyfraddau safonol neu is.

O fis Ebrill 2021, fe ddechreuon ni gasglu’r cod Rhestr Wastraffoedd (LoW) y mae disgowntiau dŵr wedi’u cymhwyso oddi tanynt. I gefnogi defnyddwyr ein hystadegau, rydym yn cyhoeddi isod y rhestr o godau LoW y mae disgowntiau dŵr yn gyffredinol wedi'u cymhwyso oddi tanynt o fis Ebrill 2021 hyd yma. Yn flynyddol, byddwn yn adolygu ac yn diweddaru'r rhestr hon gydag unrhyw godau LoW ychwanegol a ddefnyddir yn gyffredinol gan weithredwyr ar gyfer disgowntiau dŵr.

Ar eu pen eu hunain, nid yw codau Rhestr Wastraffoedd (LoW) yn ddigon i bennu a yw deunydd yn gymwys ar gyfer disgownt dŵr. Ar gyfer pob deunydd, rhaid i weithredwr y safle tirlenwi wneud cais i ACC, gan ddangos bod y broses y deilliodd y deunydd ohoni yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth, fel y nodir yng nghanllawiau DTGT/3030 Awdurdod Cyllid Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am esemptiadau, rhyddhadau a disgownt, gweler y canllawiau technegol ar wefan yr Awdurdod a’r ddeddfwriaeth ar gyfer Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.

Cod Rhestr Wastraffoedd

Disgrifiad

03 03 07

Gwastraff cymysg na ellir ei ailgylchu

07 02 12

Slwtsh o drin elifion ar y safle ar wahân i'r hyn sy'n 07 01 11

11 01 10

Slwtsh a gweddillion hidlydd ar wahân i'r hyn sy'n 11 01 09

19 02 03

Sefydlynnau a gweddillion hidlydd nad ydynt yn beryglus

19 02 06

Gweddillion hidlydd

19 08 01

Deunydd ar ôl sgrinio dŵr gwastraff/carthion

19 08 14 Slwtsh o driniaethau eraill o ddŵr gwastraff diwydiannol heblaw’r rhai a grybwyllwyd yn 19 08 13

19 10 04

Gwastraff peiriannau darnio ceir

19 12 01 Papur a chardbord

Gwarediadau heb eu hawdurdodi

Gallai gwaredu deunydd fel gwastraff fod yn agored i Dreth Gwarediadau Tirlenwi ni waeth ymhle cafodd y gwarediad ei wneud. Gall gwarediadau a wnaed y tu allan i safle tirlenwi awdurdodedig fod yn agored i’r gyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi (£137.00 y dunnell ar gyfer 2019-20). Rydym yn cymhwyso y gyfradd hon, yn ddiwahân, i bob deunydd a waredir, ni waeth os yw’r deunydd yn agored i'r gyfradd safonol neu’n gymwys ar gyfer y gyfradd is.

Nid oes yr un o’r esemptiadau neu ryddhadau sy’n gymwys i warediadau ar safleoedd tirlenwi awdurdodedig ar gael i warediadau anawdurdodedig.

Gellir cael rhagor o wybodaeth ar warediadau heb eu hawdurdodi ar wefan yr Awdurdod.