Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar y darpariaethau yn Rhan 3 a Rhan 5 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (DTGT).

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

DTGT/3000 Cofrestru ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi Cyfrifo pwysau trethadwy deunyddiau a disgownt dŵr

Mae cyfrifo pwysau trethadwy deunyddiau a cheisiadau am ddisgownt dŵr yn gweithredu’n wahanol i rannau eraill y DU. Mae’r canllawiau hyn yn adlewyrchu’r darpariaethau yn Rhan 3 a Rhan 5 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (DTGT).

Yn benodol, maen nhw’n darparu trosolwg o ddulliau cyfrifo pwysau trethadwy deunydd, gan gynnwys defnyddio pont bwyso, dulliau pwyso eraill a disgownt mewn perthynas â dwr.

Maen nhw hefyd yn darparu gwybodaeth am y cosbau a allai fod yn gymwys am fethu â phennu pwysau’n briodol ac am gymhwyso’r disgownt mewn perthynas â dwr yn anghywir. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth am y cosbau a allai fod yn berthnasol am fethu cofestru ar gyfer y Dreth Gwarediad Tirlenwi “TGT” (Rhan 5).

DTGT/3010 Gweithredwr y safle tirlenwi yn cyfrifo pwysau trethadwy deunydd – defnyddio pont bwyso

Mae’r dreth gwarediadau tirlenwi yn cael ei chyfrifo ar sail pwysau'r deunydd sy’n cael ei waredu, felly mae’n bwysig pwyso’n ofalus er mwyn sicrhau bod y swm cywir o dreth yn cael ei thalu. Cyfrifoldeb gweithredwr safle tirlenwi yw cyfrifo pwysau trethadwy deunydd er mwyn pennu faint o dreth sydd i'w chodi.

Rhaid i’r gweithredwr safle tirlenwi bennu pwysau’r deunydd mewn tunelli drwy ddefnyddio pont bwyso. Rhaid pwyso pob deunydd ar bont bwyso cyn ei waredu, a byddai ACC yn disgwyl yn y rhan fwyaf o achosion y bydd hyn yn digwydd wrth i'r deunydd fynd i mewn i'r safle tirlenwi. Nid yw’n dderbyniol i ddeunydd fynd heibio’r bont bwyso neu i ddull arall o bwyso (LDTA/3070) gael ei ddefnyddio oni bai fod ACC wedi cymeradwy'r dull ymlaen llaw.

Rhaid i'r bont bwyso fodloni’r gofynion yn y ddeddfwriaeth pwysau a mesurau sy’n gymwys i'r bont bwyso dan sylw, yn unol â’r Deddf Pwysau a Mesurau 1985.

Mae ACC yn disgwyl i weithredwyr safleoedd tirlenwi sicrhau bod y bont bwyso’n cael ei graddnodi a’i chynnal a’i chadw’n rheolaidd er mwyn gwneud yn siwr ei bod yn rhoi mesuriad manwl gywir ac er mwyn lleihau’r risg ei bod yn torri i lawr.

DTGT/3020 Gweithredwr y safle tirlenwi yn cyfrifo pwysau trethadwy deunydd – dulliau pwyso eraill

Caiff gweithredwr y safle tirlenwi awdurdodedig wneud cais i ACC am gymeradwyaeth i ddefnyddio dull arall i bennu pwysau’r deunydd mewn gwarediad trethadwy. Mae hyn yn cydnabod y gallai amgylchiadau godi pryd nad yw’n bosibl i weithredwr safle tirlenwi ddefnyddio pont bwyso. Er enghraifft, pan nad oes pont bwyso ar gael ar safle tirlenwi neu pan fo'r bont bwyso wedi torri am y tro.

Bydd angen i weithredwyr safleoedd tirlenwi sy'n dymuno gwneud cais i ddefnyddio dull pwyso arall, lenwi ffurflen gais. Rhaid i ddull pwyso arall gael ei gymeradwyo gan ACC cyn bod modd ei ddefnyddio.

Bydd ACC yn cytuno ar ddull pwyso arall i bwyso gwastraff dim ond os yw wedi’i fodloni y bydd y dull arall yn arwain at gyfrifo pwyso deunydd yn deg a rhesymol. Mae’r canlynol yn enghreifftiau o ddulliau pwyso eraill y gellid eu defnyddio. Gweler DTGT/3070 am ragor o wybodaeth.

Pan mae ACC yn cael cais wedi’i lenwi a dogfennau ategol, bydd yn adolygu'r cais a chaiff ofyn am gyngor arbenigol gan bartneriaid perthnasol megis Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn dilyn yr adolygiad, bydd ACC yn rhoi gwybod yn ysgrifenedig i weithredwr y safle tirlenwi beth yw ei benderfyniad. Bydd modd adolygu neu apelio yn erbyn y penderfyniad hwn.

Os yw ACC yn cymeradwyo cais, bydd yn nodi manylion y gymeradwyaeth, gan gynnwys unrhyw amodau a pha mor hir bydd y cytundeb yn para. Gall cymeradwyaeth ymwneud â’r holl warediadau trethadwy y gwneir y cais mewn cysylltiad â nhw, neu â disgrifiadau penodol (sef llifoedd gwastraff). Pan fo ACC yn cymeradwyo defnyddio dull arall i bennu pwysau’r deunydd, rhaid i weithredwr y safle tirlenwi ddefnyddio'r dull hwn yn unol â’r cytundeb. Caiff ACC wirio cywirdeb y dull a ddefnyddir, er enghraifft drwy brofi llwythi yn ystod archwiliad. Dylid hysbysu ACC am unrhyw newidiadau i arferion busnes a fydd yn effeithio ar ddibynadwyedd y dull hwn. Caiff ACC amrywio neu ddirymu cytundeb unrhyw bryd, yn ysgrifenedig.

Mae ACC yn cydnabod bod safleoedd tirlenwi yn gweithredu y tu allan i oriau gweithredu ACC. Er mwyn caniatau i safleoedd weithredu pan fo bont bwyso’n torri y tu allan i'r oriau yma, mae gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn cael eu hannog i wneud cais i ACC am gymeradwyaeth i ddull pwyso arall ar adeg cofrestru gan fod rhaid cael cymeradwyaeth i ddefnyddio dull pwyso arall cyn bod modd ei ddefnyddio.

DTGT/3030 Disgownt mewn perthynas â dwr sydd wedi’i gynnwys mewn deunydd

Er mwyn cael disgownt am ddŵr sy'n bresennol mewn deunydd, rhaid i weithredwr safle tirlenwi wneud cais i ACC am gymeradwyaeth. Mae hyn yn wahanol i weithrediad trethi tirlenwi mewn rhannau eraill o’r DU.

Bydd yn ofynnol i weithredwyr safleoedd tirlenwi hawlio'r disgownt dŵr yn eu ffurflen dreth trwy ddarparu manylion tunelledd y dŵr sydd i’w ddisgowntio ar gyfer pob cyfnod cyfrifyddu.

Dan y TGT, mae gweithredwr safle tirlenwi yn atebol am y disgownt mewn perthynas â dwr fel y trethdalwr, ac mae’n ofynnol iddo gael y contractau a'r prosesau priodol gyda’u cwsmeriaid (cynhyrchwyr dwr) er mwyn i’r trethdalwr fod yn fodlon ei fod yn gallu gweithredu’r disgownt mewn perthynas â dwr.

Rhaid i weithredwyr safleoedd tirlenwi sicrhau bod y cynhyrchydd gwastraff wedi darparu'r holl ddogfennaeth a thystiolaeth angenrheidiol, gan fod hyn yn ofynnol fel rhan o'r broses o wneud cais am gymeradwyaeth disgownt dŵr.

Bydd angen i weithredwyr safleoedd tirlenwi lenwi ffurflen gais os ydyn nhw’n dymuno gwneud cais i gymhwyso disgownt mewn perthynas â dwr.

Defnydd angenrheidiol neu ychwanegiadau dŵr

Mae’r amgylchiadau pryd gellir cymhwyso’r disgownt mewn perthynas â dwr wedi’u cyfyngu i achosion teg pryd mae angen ychwanegu neu ddefnyddio dwr.

Nid yw ACC o’r farn y dylid cymhwyso’r disgownt lle bo dŵr yn bresennol oherwydd glaw neu eira, felly os bydd cynhyrchydd gwastraff yn storio’r deunydd gwastraff y tu allan cyn ei waredu, ni ddylai unrhyw ddŵr ychwanegol sy’n bresennol yn y deunydd hwnnw oherwydd glaw neu eira, gael ei ystyried fel rhan o’r disgownt dŵr.

Ni fydd ACC ond yn ystyried ceisiadau pan mae’r dwr yn bresennol fel mater o raid yn y deunydd at y dibenion canlynol:

  • bod rhaid ei ychwanegu er mwyn gallu cludo’r deunydd i’w waredu
  • bod rhaid ei ychwanegu i echdynnu mwyn
  • bod rhaid ei ychwanegu yn ystod proses ddiwydiannol, neu
  • ei fod yn deillio’n anochel o ganlyniad i broses ddiwydiannol, neu
  • dod y deunydd yn weddillion trin elifiant neu garthion mewn gwaith trin dŵr

Y broses ymgeisio

Pan mae ACC yn cael cais wedi’i lenwi a dogfennau ategol, bydd yn  ystyried y cais a chaiff ofyn am gyngor technegol arbenigol gan bartneriaid perthnasol megis Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn dilyn hyn, bydd ACC yn rhoi gwybod yn ysgrifenedig i weithredwr y safle tirlenwi beth yw ei benderfyniad. Bydd modd adolygu neu apelio yn erbyn y penderfyniad hwn.

Os yw ACC yn cymeradwyo cais, bydd yn nodi manylion y gymeradwyaeth, gan gynnwys unrhyw amodau a pha mor hir bydd y cytundeb yn para. Caiff ACC amrywio neu ddirymu cytundeb unrhyw bryd, yn ysgrifenedig. Bydd yn ofynnol i weithredwyr safleoedd tirlenwi sy'n derbyn cymeradwyaeth gadw cofnod disgownt dŵr yn nodi pob gwarediad trethadwy y cymhwysir disgownt iddo.

Dylai’r gweithredwr safle tirlenwi ymgysylltu ag ACC cyn gynted â phosibl mewn perthynas â chais am ddisgownt dŵr. Mae cytuno disgownt dŵr gyda chynhyrchydd gwastraff cyn cael cymeradwyaeth ACC yn cael ei wneud ar risg gweithredwr y safle tirlenwi ei hun, gan nad oes unrhyw sicrwydd y bydd ACC yn cymeradwyo'r cais nac ar ba sail y bydd yn gwneud hynny.

Amodau cytundeb disgownt dŵr

Yn aml rhoddir cytundebau disgownt dŵr yn unol ag amodau penodol. Gall yr amodau hyn amrywio o un cytundeb i'r llall a gellir eu hamrywio yn ystod oes cytundeb. Cyfrifoldeb gweithredwr y safle tirlenwi, fel y trethdalwr, yw sicrhau cydymffurfiad â'r amodau. Pan fydd amod yn dibynnu ar wybodaeth neu gymorth a ddarperir gan gynhyrchydd gwastraff, cyfrifoldeb gweithredwr y safle tirlenwi yw sicrhau'r wybodaeth neu'r help hwn.

Os rhoddir cytundeb disgownt dŵr yn unol ag amodau, bydd y rhain yn cael eu nodi yn yr hysbysiad sy'n cymeradwyo'r disgownt dŵr. Yn gyffredinol, bydd yr amodau'n cynnwys y gofynion canlynol:

  • rhaid i weithredwr y safle tirlenwi gynnal adolygiad blynyddol o'r disgownt dŵr ac anfon yr adolygiad wedi'i gwblhau i ACC gan ddefnyddio'r ffurflen a ddarperir gan eu rheolwr cysylltiadau cwsmeriaid
  • rhaid i weithredwr y safle tirlenwi sicrhau bod dadansoddiad mewnol ac allanol o'r cynnwys dŵr sy'n bresennol yn y deunydd sy'n cael ei waredu o dan gymeradwyaeth disgownt dŵr yn cael ei gynnal.
  • rhaid i weithredwr y safle tirlenwi sicrhau bod dadansoddiad mewnol a/neu allanol o’r cynnwys dŵr sy’n bresennol yn y deunydd sy’n cael ei waredu o dan gymeradwyaeth disgownt dŵr yn cael ei gynnal
  • rhaid i weithredwr y safle tirlenwi anfon copïau o'r dadansoddiad uchod i ACC ar gais
  • rhaid i weithredwr y safle tirlenwi hysbysu ACC os oes unrhyw newidiadau arfaethedig yn y broses trin gwastraff, offer neu ddulliau cynhyrchu a allai effeithio ar y disgownt dŵr o fewn 30 diwrnod i nodi neu gael gwybod am y newidiadau
  • rhaid i weithredwr y safle tirlenwi hysbysu ACC am unrhyw newidiadau i gyfansoddiad y llif gwastraff o fewn 30 diwrnod i nodi neu gael gwybod am y newidiadau

Gall methu â chydymffurfio ag amodau cytundeb disgownt dŵr arwain at adennill treth a gollwyd a/neu gosb (gweler DTGT/3060).

DTGT/3040 ACC yn cyfrifo pwysau trethadwy deunydd

Efallai y bydd adegau pryd mae ACC yn ystyried ei bod yn briodol cyfrifo pwysau trethadwy deunydd.  Gallai hyn fod pan nad oes ffurflen dreth wedi’i dychwelyd mewn perthynas â’r gwarediad neu pryd mae ACC yn diwygio ffurflen dreth o ganlyniad i ymholiad, er enghraifft. Bydd ACC yn trafod gyda gweithredwr y safle tirlenwi pryd mae angen cymryd camau o’r fath.

Caiff ACC bennu pwysau deunydd mewn gwarediad trethadwy os:

  1. nad oes ffurflen dreth wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â’r gwarediad; neu
  2. mae ACC yn diwygio ffurflen dreth o ganlyniad i ymholiad ac mae gweithredwr safle tirlenwi yn mynd ati wedyn i gyfrifo pwysau'r deunydd ac yn cymhwyso’r canlyniad wrth wneud neu ddiwygio ffurflen dreth mewn perthynas â’r gwarediad hwnnw.

Caiff ACC dderbyn hyn fel pwysau trethadwy’r deunydd os yw wedi’i fodloni ei fod yn gywir.

Pan mae angen i ACC gyfrifo pwysau’r deunydd, caiff wneud hynny drwy ddefnyddio dull pwyso y mae’n ei ystyried yn briodol ac yna caiff gymhwyso unrhyw ddisgownt dwr y cytunwyd arno. Fodd bynnag, mae amgylchiadau pryd caiff ACC ddiystyru disgownt dwr, megis pryd nad oes ffurflen dreth wedi’i dychwelyd mewn perthynas â gwarediad, pryd mae ACC yn ystyried bod anghydffurfio wedi digwydd neu pryd nad oes dull pwyso arall y cytunwyd arno neu ddisgownt dwr wedi’i gymhwyso’n briodol.

DTGT/3050 Cosb am fethu â phennu pwysau yn briodol

Yn ychwanegol at atebolrwydd posibl am Dreth Gwarediadau Tirlenwi pellach lle nad yw pwysau yn cael ei bennu'n iawn, caiff ACC roi cosb os yw gweithredwr safle tirlenwi yn methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd i ddefnyddio pont bwyso pan fo un ar gael, neu os nad yw’r bont bwyso yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol ar gyfer pwysau a mesuriadau.

Caiff ACC roi cosb os cytunodd i ddull pwyso arall ond nad yw’r pwyso’n digwydd yn unol â’r cytundeb.

Caiff ACC roi hyd at £500 o gosb mewn perthynas â phob gwarediad trethadwy y mae’r methiant yn gysylltiedig ag ef. Rhaid i ACC roi hysbysiad i weithredwr y safle tirlenwi am y gosb a aseswyd.

Gallai’r gweithredwr safle tirlenwi fod yn agored i gosbau pellach dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, megis cosbau am wybodaeth anghywir mewn ffurflenni treth a methu â thalu treth.

DTGT/3060 Cosb am gymhwyso’r disgownt mewn perthynas â dwr yn anghywir

Caiff ACC roi cosb os yw gweithredwr safle tirlenwi yn cymhwyso:

  • disgownt heb gael cymeradwyaeth gan ACC
  • disgownt sy’n fwy na’r disgownt a gymeradwywyd gan ACC
  • torri un neu fwy o'r amodau sy'n gysylltiedig â disgownt dŵr sydd wedi’i gymeradwyo gan ACC

Caiff ACC roi hyd at £500 o gosb mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy y cymhwysir disgownt iddo yn y naill neu’r llall o’r ffyrdd hyn. Rhaid i ACC roi hysbysiad i weithredwr y safle tirlenwi am y gosb a aseswyd.

Gallai’r gweithredwr safle tirlenwi fod yn agored i gosbau pellach dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, megis cosbau am wybodaeth anghywir mewn ffurflenni treth a methu â thalu treth.

DTGT/3070 Dulliau pwyso eraill

Gall ACC gytuno ar ddull amgen ar gyfer cyfrifo pwysau deunydd trethadwy, yn ôl ei ddisgresiwn. Mae'r canlynol yn enghreifftiau o ddulliau amgen; nid yw’n rhestr hollgynhwysfawr.

Dull penodedig 1: pwysau mwyaf a ganiateir i gynhwysydd

Disgrifiad o’r dull

Mae’r dull hwn yn golygu cofnodi’r pwysau mwyaf y caiff cerbyd/cynhwysydd fel lori, sgip, wagen reilffordd, ac ati eu cludo, a chymhwyso’r gyfradd briodol o dreth.

Pwysau mwyaf

Gallwch naill ai ddefnyddio’r hyn sydd ar y plât i nodi'r pwysau mwyaf y caiff y cerbyd ei gludo, neu'r pwysau a nodir yn y tablau isod.

Dylech ddefnyddio pwysau gros ar blât y cerbyd/cynhwysydd, llai ei bwysau gweili.

Rhaid trin unrhyw gerbydau sydd wedi’u llenwi’n rhannol fel rhai llawn ar gyfer eich cyfrifiad treth chi.

Lorïau heb graen neu fwced

Math o gerbyd Pwysau mwyaf
Lori 4 echel 20 tunnell
Lori 3 echel 15 tunnell
Lori 2 echel 10 tunnell

Lorïau â chraen neu fwced

Os oes craen neu fwced wedi’i ffitio i gerbyd, mae’r pwysau mwyaf y gellir ei gludo yn gostwng ddwy dunnell.

Math o gerbyd Pwysau mwyaf
Lori 4 echel gyda chrafanc 18 tunnell
Lori 3 echel gyda chrafanc 13 tunnell
Lori 2 echel gyda chrafanc 8 tunnell

Cerbydau nwyddau ysgafn, faniau neu geir

Math o gerbyd Pwysau mwyaf
Cerbydau nwyddau ysgafn Mae plât y gwneuthurwr, sydd fel arfer yng nghafn drws y teithiwr, yn dangos y pwysau gros mwyaf.
Faniau a cheir eraill Mae llawlyfr y cerbyd yn dangos pwysau cerbyd gros mwyaf y cerbyd. Tynnwch o hyn y pwysau gweili sydd yn llawlyfr y cerbyd er mwyn cael y pwysau y gall y cerbyd ei gludo.

Pa gofnodion i'w cadw

I weithredu’r dull hwn, rhaid cofnodi pob gwastraff sy’n dod i’ch safle(oedd), gan ddangos y rhif adnabod a’r math o gerbyd/cynhwysydd, disgrifiad o'r gwastraff sy’n cael ei gludo, a’r dyddiad pryd cafodd y gwastraff ei waredu ar eich safle. Rhaid i chi hefyd sefydlu trywydd archwilio neu gofrestr sy’n cofnodi’r pwysau gros, y pwysau gweili net a’r pwysau cludo mwyaf ar gyfer pob cerbyd/cynhwysydd sy’n defnyddio eich safle(oedd) i waredu gwastraff.

Dull penodedig 2 - trosi o gyfaint i bwysau

Disgrifiad o’r dull

I weithredu’r dull hwn, bydd angen i chi wybod beth yw capasiti ciwbig y cerbydau (lorïau, sgip, wagenni rheilffordd, ysgraff ac ati) sy’n cludo gwastraff i’ch safle. Dylid defnyddio'r rhain gyda’r categorïau gwastraff a’r ffactorau trosi a nodir isod.

I gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth pwysau a mesurau, rhaid i gapasiti ciwbig mwyaf y cynhwysydd fod yn lluosrif i 0.1 metr ciwbig. Dim ond i un lle degol y gall mesuriad fynd.

Os yw’r cyfrifiad yn arwain at dunelledd sy’n fwy na chapasiti cludo cyfreithlon y cerbyd, bydd o fudd i chi ddefnyddio dull y pwysau mwyaf a ganiateir i’r cynhwysydd (Dull Penodedig 1).

Wrth gyfrifo’r dreth, rhaid cymryd bod yr holl gynwysyddion a cherbydau yn llawn.

Ffactorau trosi

Sylwch: os yw’r gwastraff yn dod o fewn mwy nag un categori, mae’r ffactor trosi uchaf yn gymwys i'r holl wastraff.

Categori gwastraff Mathau nodweddiadol o wastraff Metrau ciwbig i dunelli - lluoswch gyda Llathenni ciwbig i dunelli - lluoswch gyda
Gwastraff anweithredol neu anadweithiol Anhydawdd mewn dwr gan mwyaf neu anfiodiraddadwy neu fiodiraddadwy araf iawn, er enghraifft tywod, isbridd, concrid, briciau, ffibr mwynol, gwydr ffibr ac ati 1.5 1.15

Gwastraff diwydiannol cyffredinol: nad yw’n arbennig, heb ei gywasgu.

(Gan fod cywasgu’n gallu cynyddu dwysedd y categori hwn o wastraff yn fawr, os ydych chi’n derbyn gwastraff cywasgedig bydd angen i chi uwchgodi’r ffactor trosi yn unol â hynny.)

Papur a phlastigion 0.15 0.11
Cerdyn, paledi, plastrfwrdd, gwastraff ffreutur, blawd llif, tecstilau, lledr 0.4 0.3
Coed, gwastraff adeiladu, gwastraff ffatri ac ysgubion ac ati 0.6 0.46
Tywod ffowndri, slag, lludw tanwydd wedi’i bylori, lludw gwastraff wedi'i losgi 1.5 1.15
Gwastraff cartref - heb ei gywasgu Gwastraff nad yw’n arbennig nac yn adweithiol o safleoedd domestig, gan gynnwys gwastraff cartref 0.2 0.15
Gwastraff cartref - wedi’i gywasgu (gan gynnwys pob gwarediad swmp) Gwastraff nad yw’n arbennig nac yn adweithiol o safleoedd domestig, gan gynnwys gwastraff cartref 0.4 0.30

Gwastraff masnachol - heb ei gywasgu

(Gan fod cywasgu’n gallu cynyddu dwysedd y categori hwn o wastraff yn fawr, os ydych chi’n derbyn gwastraff cywasgedig bydd angen i chi uwchgodi’r ffactor trosi yn unol â hynny.)

Gwastraff nad yw’n arbennig nac yn adweithiol o siopau, ysbytai, canolfannau hamdden, swyddfeydd ac ati, gan gynnwys gwastraff amwynder dinesig, gwastraff parciau a gerddi, sbwriel stryd, gwastraff archfarchnadoedd, siopau a bwytai, gwastraff cyffredinol swyddfa. 0.2 0.15
Gwastraff arbennig Wedi'i ddiffinio gan reoliadau amgylcheddol - yn cyfateb yn fras i wastraff peryglus 1.0 0.76

Pa gofnodion i'w cadw

Rhaid i chi gofnodi pob gwastraff sy’n dod i’ch safle(oedd), gan ddangos y rhif adnabod a’r math o gerbyd/cynhwysydd, disgrifiad o'r gwastraff sy’n cael ei gludo, a’r dyddiad pryd mae’n cael ei waredu ar eich safle. Rhaid i gyfaint y cerbyd/cynhwysydd gael ei gofnodi a rhaid cael tystiolaeth gan y cludwr gyda pha ddogfennau bynnag.

Dull Penodedig 3 - pwyso'r gwastraff cyn ei dderbyn ar y safle

Disgrifiad o’r dull

Cewch dderbyn gwastraff sydd wedi’i bwyso draw o’ch safle tirlenwi. Os oes trywydd archwilio clir, gan gynnwys cofnod o bwysau ar gyfer pob cerbyd, cynhwysydd, wagen ac ati - ac maen nhw’n mynd yn uniongyrchol i'r safle - gellir defnyddio’r cynllun yma i gyfrifo’r Dreth Tirlenwi.

Pa gofnodion i'w cadw

I weithredu’r dull hwn, rhaid cofnodi pob gwastraff sy’n dod i’ch safle(oedd), gan ddangos y rhif adnabod a’r math o gerbyd/cynhwysydd, disgrifiad o'r gwastraff sy’n cael ei gludo, a’r dyddiad pryd mae’r gwastraff yn cael ei waredu ar eich safle. Rhaid i chi hefyd gofnodi a chadw tocynnau'r bont bwyso.