Neidio i'r prif gynnwy

Mae hwn yn dweud wrth weithredwyr safleoedd tirlenwi beth sydd raid iddynt ei wneud wrth dderbyn gronynnau mân gwastraff ar safle er mwyn cymhwyso am y gyfradd is o dreth. Mae hyn yn cynnwys archwiliadau cyn derbyn, holiadur cyn derbyn a phrawf Colled wrth Danio. Mae’r prawf Colled wrth Danio yn brawf labordy i benderfynu ar gynnwys organig y deunydd.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

Mae gronynnau mân yn ddeunydd a gynhyrchir gan broses trin gwastraff mecanyddol. Gallant ddod o’r canlynol:

  • gwastraff anadweithiol sy’n gymwys am y gyfradd is o dreth
  • deunydd organig sy’n dod o dan y gyfradd safonol o dreth, neu
  • gwastraff cymysg.

Dim ond gronynnau mân anorfod sy’n cynnwys ychydig iawn o ddeunydd organig sy’n gymwys am y gyfradd is o dreth. Dilynwch y gweithdrefnau hyn i wneud yn siŵr bod y gronynnau mân rydych chi’n eu derbyn yn cymhwyso am y gyfradd is o dreth ac nad oes gormod o ddeunydd organig ynddynt.

Os na fyddwch yn dilyn y gweithdrefnau hyn, efallai y bydd rhaid i chi dalu cosbau ac efallai y bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn ailasesu eich treth.