Neidio i'r prif gynnwy

1. Cyflwyniad

1.1 Cyffredinol

Cyhoeddir yr Hysbysiad hwn gan Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) o dan adran 17(5) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (“DTGT”) ac adran 191 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (“DCRhT”). Mae’r Hysbysiad yn atodol i:

  • Rhan 2 o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 (cymysgeddau o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân), ac
  • adran 39 o DCRhT (dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth).

Mae’r Hysbysiad yn ymwneud â’r dreth sydd i’w chodi ar warediadau gronynnau mân. Gronynnau mân yw gronynnau a gynhyrchir gan broses trin gwastraff sy’n cynnwys elfen o driniaeth fecanyddol.

Pan fo cymysgedd o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân:

  • yn bodloni gofynion 1 i 6 yn adran 16 o DTGT a gofynion 1 i 4 yn rheoliad 4 o Reoliadau 2018, ac
  • yn cael ei waredu ar safle tirlenwi awdurdodedig,

caniateir trin y cymysgedd fel cymysgedd cymwys o ddeunyddiau a bydd y dreth gwarediadau tirlenwi i’w chodi ar y gyfradd is ar warediadau o’r gymysgedd.

Mae rhai o ofynion Rheoliadau 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig wneud pethau a bennir yn yr Hysbysiad ACC, neu wneud pethau yn unol â’r Hysbysiad ACC. Hwn yw’r Hysbysiad ACC y mae’r Rheoliadau yn cyfeirio ato.

Mae’r Hysbysiad hwn yn dod i rym ar 3 Ebrill 2023 ac yn parhau i gael effaith oni bai, a hyd nes, y caiff ei dynnu yn ôl gan Hysbysiad dilynol a gyhoeddir o dan adran 17(5) o DTGT. Mae’n disodli fersiynau blaenorol sydd wedi bod mewn grym ers 1 Ebrill 2018.

1.2 Y personau y mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â’r Hysbysiad hw

Rhaid i weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yng Nghymru gydymffurfio â’r Hysbysiad hwn os ydynt yn dymuno i unrhyw gymysgeddau o ddeunyddiau:

  • sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân, ac
  • a waredir ar eu safleoedd tirlenwi awdurdodedig ar neu ar ôl 1 Ebrill 2018,

gael eu trin fel cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau.

  • Safle tirlenwi awdurdodedig yw safle y rhoddwyd trwydded amgylcheddol mewn perthynas ag ef yn awdurdodi gwaredu deunydd drwy dirlenwi o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 a bod y drwydded honno yn parhau mewn grym.
  • Gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig yw deiliad y drwydded amgylcheddol sy’n awdurdodi gwaredu deunydd drwy dirlenwi ar y safle.

1.3 Geirfa

Yn yr Hysbysiad hwn:

  • mae “chi”, “ichi” neu “eich” yn gyfeiriad at weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig;
  • ystyr “safle tirlenwi” yw safle tirlenwi awdurdodedig;
  • ystyr “cymysgedd o ronynnau mân” yw cymysgedd o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân.

Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn yr Hysbysiad hwn ac yn DTGT yr ystyr a roddir iddynt yn DTGT.

2. Y gofynion cyn derbyn

2.1 Cyffredinol

Cyn derbyn llwyth sydd ar ffurf cymysgedd o ronynnau mân i’w waredu ar eich safle tirlenwi:

Rhaid ichi gynnal arolygiad gweledol i ganfod pa un a yw’r llwyth ar ffurf:

  • un neu ragor o ddeunyddiau cymwys, a
  • swm bychan o un deunydd anghymwys neu ragor sy’n atodol i’r deunyddiau cymwys.

Rhaid ichi hefyd gynnal gwiriadau cyn derbyn eraill i ganfod pa un a yw’r llwyth ar ffurf cymysgedd cymwys o ddeunyddiau a llenwi holiadur cyn derbyn mewn perthynas â’r cymysgedd o ronynnau mân yn y llwyth. Rhaid i’r holiadur ddarparu’r wybodaeth a bennir yn adran 2.2 o’r Hysbysiad hwn.

Os cynhyrchir llwythi lluosog o’r un cymysgedd o ronynnau mân gan yr un cynhyrchydd gwastraff, caniateir llenwi un holiadur mewn perthynas â’r holl lwythi hynny. Ond rhaid ichi lenwi holiaduron ar wahân:

  1. ar gyfer cymysgeddau o ronynnau mân sy’n tarddu o gynhyrchwyr gwastraff gwahanol, a
  2. ar gyfer cymysgeddau o ronynnau mân sy’n tarddu o’r un cynhyrchydd gwastraff ond sy’n deillio o wahanol ffrydiau gwastraff a/neu broses.

Rhaid ichi ddiweddaru pob holiadur cyn derbyn a lenwir yn rheolaidd a’i storio’n ddiogel yn unol ag adran 38 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 er mwyn ichi allu dangos bod pob ffurflen dreth sy’n ymwneud â gwarediad o’r cymysgedd o ronynnau mân yn gywir ac yn gyflawn.

Os ydych yn methu â chydymffurfio ag unrhyw un o’r gofynion hyn, bydd y dreth gwarediadau tirlenwi i’w chodi ar y gyfradd safonol ar warediad pob llwyth y mae’r methiant yn ymwneud ag ef.

Os ydych yn methu â llenwi holiadur cyn derbyn a’i storio’n ddiogel, gallwch hefyd fod yn agored i gosb o dan reoliad 8(1)(b)(i) o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018.

2.2 Yr hyn sydd i’w gynnwys ar holiadur cyn derbyn

Rhaid i bob holiadur cyn derbyn a lenwir ddarparu’r wybodaeth a ganlyn am y cymysgedd o ronynnau mân y mae’n ymwneud ag ef.

  1. Enw a chyfeiriad busnes y cynhyrchydd gwastraff.
     
  2. Disgrifiad o fusnes y cynhyrchydd gwastraff a’r cyfleuster lle y cynhyrchir y cymysgedd o ronynnau mân.
     
  3. Manylion pob ffrwd wastraff y mae’r cymysgedd o ronynnau mân yn deillio ohoni, gan gynnwys
    1. y cod ar gyfer pob ffrwd wastraff. Caiff disgrifiad o'r cymysgedd o ronynnau mân a'r cod(au) priodol ar gyfer y cymysgedd o'r rhestr o wastraffoedd ei bennu gan Benderfyniad y Comisiwn 2000/532/EC ac fe'i nodir yn 'Waste Classification: Guidance on the classification and assessment of waste (1st edition v1.1), Technical Guidance WM3’.
    2. datganiad ynghylch pa un a yw unrhyw un o’r ffrydiau gwastraff yn cynnwys gwastraff peryglus, ac
    3. os yw unrhyw ffrydiau gwastraff yn cynnwys gwastraff peryglus, rhestr o’r ffrydiau gwastraff hynny.
       
  4. Manylion pob proses a ddefnyddir i drin y ffrydiau gwastraff er mwyn cynhyrchu’r cymysgedd o ronynnau mân.
     
  5. Datganiad ynghylch pa un a dynnir gypswm ymaith o’r ffrydiau gwastraff wrth gynhyrchu’r cymysgedd o ronynnau mân; ac os tynnir gypswm ymaith, disgrifiad o’r broses a ddefnyddir i’w dynnu ymaith.
     
  6. Manylion unrhyw broses ddarnio neu gyfuno a ddefnyddir i gynhyrchu’r cymysgedd o ronynnau mân (fel y’i nodir yn 'Waste Classification: Guidance on the classification and assessment of waste (1st edition v1.1), Technical Guidance WM3’). 
     
  7. Manylion trefniadau storio’r cymysgedd o ronynnau mân:
    1. yn y cyfleuster lle y cynhyrchir y cymysgedd,
    2. wrth ei drosglwyddo i’ch safle tirlenwi, ac
    3. ar unrhyw gam arall cyn ei waredu.
       
  8. Amcangyfrif o gyfanswm tunelledd y cymysgedd o ronynnau mân sydd i’w anfon i’ch safle tirlenwi bob blwyddyn. Os ydych yn gweithredu mwy nag un safle, rhaid ichi amcangyfrif cyfanswm y tunelledd sydd i’w anfon i’ch holl safleoedd.

Rhaid i’r holiadur a lenwir gynnwys datganiad:

  • oddi wrth y cynhyrchydd gwastraff, neu berson sy’n gweithredu ar ran y cynhyrchydd gwastraff, ac
  • oddi wrthych chi, neu berson sy’n gweithredu ar eich rhan,

bod yr wybodaeth a ddarperir yn yr holiadur yn gywir hyd eithaf ei wybodaeth a’i gred/eich gwybodaeth a’ch cred.

2.2.1 Trefniadau trosiannol

Os oeddech, yn union cyn 1 Ebrill 2018, wedi eich cofrestru o dan adran 47 o Ddeddf Cyllid 1996 at ddibenion treth dirlenwi’r DU ac:

  • os ydych wedi llenwi holiadur cyn derbyn mewn perthynas â chymysgedd o ronynnau mân cyn 1 Ebrill 2018 yn unol â pharagraffau
    6.5.1 a 6.5.2 o Hysbysiad Ecséis LFT1, ac
  • os yw’r holiadur hwnnw yn eich meddiant o hyd,

nid oes angen ichi lenwi holiadur cyn derbyn newydd ar gyfer y cymysgedd hwnnw o dan adran 2.1 o’r Hysbysiad hwn. Fodd bynnag, rhaid ichi adolygu’r holiadur presennol a’i ddiweddaru os yw hynny’n briodol.

3. Y gofynion sy’n ymwneud â phrofion Colled wrth Danio

3.1 Cyffredinol

Diben y prawf Colled wrth Danio yw canfod cynnwys organig y deunydd sydd wedi ei gynnwys mewn cymysgedd o ronynnau mân. Defnyddir y gwahaniaeth o ran màs y deunydd a brofir cyn ac ar ôl y broses danio i ganfod canran Colled wrth Danio’r deunydd.

Rhaid ichi gydymffurfio â’r gofynion sy’n ymwneud â phrofion Colled wrth Danio a nodir yn y Rhan hon o’r Hysbysiad.

Rhaid i gymysgeddau o ronynnau mân:

  • sy’n tarddu o gynhyrchwyr gwastraff gwahanol, neu
  • sy’n tarddu o’r un cynhyrchydd gwastraff, ond o wahanol ffrydiau gwastraff a/neu broses,

gael eu trin fel cymysgeddau ar wahân at ddibenion y gofynion sy’n ymwneud â’r profion Colled wrth Danio.

Mae’r gofynion sy’n ymwneud â’r profion Colled wrth Danio yn gymwys mewn perthynas â phob safle tirlenwi ar wahân. Os ydych yn weithredwr mwy nag un safle tirlenwi, rhaid ichi gydymffurfio â phob gofyniad Colled wrth Danio mewn perthynas â phob safle ar wahân.

3.2 Amlder profion Colled wrth Danio

Rhaid ichi gynnal profion Colled wrth Danio ar gymysgeddau o ronynnau mân sy’n bresennol ar eich safle/safleoedd tirlenwi:

  • ar yr adegau a’r cyfnodau a bennir isod, neu
  • pryd bynnag y mae ACC yn rhoi cyfarwyddyd ichi wneud hynny.

3.2.1 Y prawf Colled wrth Danio cyntaf

Rhaid ichi gynnal prawf Colled wrth Danio cyntaf ar bob cymysgedd o ronynnau mân:

  • cyn bod y 500 tunnell gyntaf o’r cymysgedd wedi ei ddwyn ar eich safle tirlenwi, neu
  • os yw’n gynharach, o fewn y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r dyddiad y dygir y llwyth cyntaf o’r cymysgedd ar eich safle tirlenwi.

3.2.2 Profion dilynol

Rhaid ichi gynnal profion Colled wrth Danio pellach ar bob cymysgedd o ronynnau mân ar gyfnodau a bennir drwy gyfeirio at y dangosyddion risg yn y Tabl isod.

  • Os oes unrhyw un neu ragor o’r dangosyddion risg uchel yn bresennol mewn perthynas â’r cymysgedd, rhaid ichi ei drin fel cymysgedd risg uchel a chynnal prawf ar bob llwyth o’r cymysgedd a ddygir ar y safle tirlenwi hyd nes y bydd pob un o’r tri dangosydd risg isel yn bresennol.
     
  • Mewn unrhyw achos arall, rhaid ichi drin y cymysgedd fel cymysgedd risg isel a chynnal prawf arno yn ôl y cyfnodau a bennir mewn perthynas â chymysgeddau risg isel.

Lefel Risgl

Dangosyddion risg

Amlder profion

Isel

  • Mae arolygiadau gweledol yn dangos bod y cymysgedd ar ffurf:
    • un neu ragor o ddeunyddiau cymwys, a
    • swm bychan o un deunydd anghymwys neu ragor sy’n atodol i’r deunyddiau cymwys.
       
  • Mae’r gwiriadau cyn derbyn eraill yn dangos yn glir ac yn gyson bod y cymysgedd yn gymysgedd cymwys o ddeunyddiau (gweler adran 16 o DTGT).
     
  • Nid yw’r cymysgedd wedi methu’r prawf Colled wrth Danio fwy nag unwaith yn ystod yr 20 prawf Colled wrth Danio diwethaf.*

Rhaid ichi gynnal prawf:

  • ar 1 llwyth o’r cymysgedd ar gyfer pob 1,000 o dunelli o’r cymysgedd a ddygir ar y safle tirlenwi, neu
  • ar 1 llwyth o’r cymysgedd bob 6 mis,
    pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf.

Uchel

  • Nid yw arolygiadau gweledol yn dangos bod y cymysgedd ar ffurf:
    • un neu ragor o ddeunyddiau cymwys, a
    • swm bychan o un deunydd anghymwys neu ragor sy’n atodol i’r deunyddiau cymwys.
       
  • Nid yw’r gwiriadau cyn derbyn eraill yn dangos yn glir ac yn gyson bod y cymysgedd yn gymysgedd cymwys o ddeunyddiau (gweler adran 16 o DTGT).
     
  • Mae’r cymysgedd wedi methu’r prawf Colled wrth Danio fwy nag unwaith yn ystod yr 20 prawf Colled wrth Danio diwethaf.*

Rhaid ichi gynnal prawf ar bob llwyth o’r cymysgedd a ddygir ar y safle tirlenwi hyd nes:

  • nad yw’r cymysgedd wedi methu’r prawf Colled wrth Danio fwy nag unwaith yn ystod yr 20 prawf Colled wrth Danio diwethaf*, a
  • nad yw’r arolygiadau gweledol na’r gwiriadau cyn derbyn eraill yn dangos y dylid trin y cymysgedd fel cymysgedd risg uchel.

Ar y pwynt hwnnw, caniateir ailddosbarthu’r cymysgedd yn gymysgedd risg isel a chynnal profion arno yn unol â hynny.

* Gweler adran 3.3.2 o’r Hysbysiad hwn ar gyfer yr amgylchiadau lle y caiff cymysgedd o ronynnau mân ei drin fel pe bai wedi methu’r prawf Colled wrth Danio; a gweler adran 3.3 o’r Hysbysiad hwn ar gyfer amgylchiadau lle y caniateir anwybyddu canlyniad prawf Colled wrth Danio.

3.2.3 Profion cynnar

Gallwch ddewis cynnal prawf Colled wrth Danio yn gynharach nag sy’n ofynnol o dan yr Hysbysiad hwn. Os ydych yn gwneud hynny, rhaid pennu’r pwynt pryd y mae’n rhaid cynnal y prawf Colled wrth Danio nesaf ar gymysgedd o ronynnau mân drwy gyfeirio at y pwynt pryd y cynhaliwyd y prawf cynnar ar y cymysgedd.

3.2.4 Profion hwyr neu brofion nas cynhaliwyd

  • Os nad ydych yn cynnal prawf Colled wrth Danio sy’n ofynnol o dan yr Hysbysiad hwn, neu
  • os ydych yn cynnal prawf Colled wrth Danio ar y cymysgedd yn hwyrach nag sy’n ofynnol,

rhaid pennu’r pwynt pryd y mae’n rhaid cynnal y prawf Colled wrth Danio nesaf ar y cymysgedd drwy gyfeirio at y pwynt pryd y dylid bod wedi cynnal y prawf hwyr neu’r prawf nas cynhaliwyd.

Mae’r dreth gwarediadau tirlenwi i’w chodi ar y gyfradd safonol ar bob llwyth o’r gymysgedd a waredir ar ôl y llwyth y dylid bod wedi cynnal y prawf hwyr neu’r prawf nas cynhaliwyd arno, hyd nes y cynhelir prawf Colled wrth Danio pellach ar y gymysgedd.

3.2.5 Cyfarwyddyd i gynnal prawf Colled wrth Danio

Caiff ACC, ar unrhyw adeg, roi cyfarwyddyd ichi gynnal prawf Colled wrth Danio ar gymysgedd o ronynnau mân.

Os nad ydych yn cydymffurfio â’r cyfarwyddyd, mae’r dreth gwarediadau tirlenwi i’w chodi ar y gyfradd safonol ar bob llwyth o’r cymysgedd a waredir ar ôl y dyddiad y dylid bod wedi cynnal y prawf, hyd nes y cynhelir prawf Colled wrth Danio pellach ar y cymysgedd.

3.3 Cynnal profion Colled wrth Danio

Rhaid cynnal pob prawf Colled wrth Danio:

  • ar sampl gynrychioliadol o’r cymysgedd o ronynnau mân a gynhyrchir yn unol ag adran 3.3.1 o’r Hysbysiad hwn, ac
  • yn unol â’r fethodoleg a nodir yn adran 3.3.2 o’r Hysbysiad hwn.

3.3.1 Cynhyrchu sampl gynrychioliadol

Er mwyn cynhyrchu sampl gynrychioliadol o’r cymysgedd, rhaid ichi:

  • cymryd samplau o 6 man gwahanol, o leiaf, o fewn llwyth o’r cymysgedd;
  • sicrhau bod y samplau a gymerir yn cynnwys samplau o bob rhan o’r llwyth, h.y. y brig, y canol a’r gwaelod, a bod y samplau yn cael eu dewis ar hap fel arall;
  • sicrhau bod y samplau yn cael eu cymysgu’n drylwyr; a
  • cynhyrchu sampl gyfansawdd (neu sampl feistr) o’r cymysgedd hwn o samplau.

Y sampl gyfansawdd (neu’r sampl feistr) hon yw’r sampl gynrychioliadol y mae’n rhaid ei pharatoi ar gyfer y prawf Colled wrth Danio.

3.3.2 Methodoleg y prawf Colled wrth Danio

Paratoi’r sampl

Rhaid ichi baratoi’r sampl gynrychioliadol ar gyfer y prawf Colled wrth Danio drwy gymryd y camau a ganlyn:

  1. sychu 1kg o’r sampl gynrychioliadol ar dymheredd rhwng 30°C a 50°C hyd nes y ceir pwysau cyson;
  2. creu côn o’r sampl 1kg a’i hollti i ddewis is-sampl 200g;
  3. tynnu ymaith unrhyw ddeunydd o’r is-sampl:
    1. sydd o fewn Grŵp 1 (creigiau a phridd) neu Grŵp 2 (deunydd cerameg neu goncrit) o’r Tabl yn Atodlen 1 i Ddeddf Treth
    2. sy’n fwy nag 20mm;
       
  4. cofnodi pwysau:
    1. y deunydd a dynnir ymaith, a
    2. yr is-sampl sy’n weddill;
       
  5. malu’r is-sampl sy’n weddill yn fân i ronynnau o 2mm neu lai i gynhyrchu sampl homogenaidd;
     
  6. pwyso unrhyw ddeunydd nad yw’n pasio drwy’r rhidyll 2mm a chofnodi ei bwysau cyn ychwanegu’r deunydd hwnnw yn ôl at yr is-sampl; a
     
  7. cymysgu a homogeneiddio’r is-sampl gyfunedig.

Yna rhaid cynnal y prawf Colled wrth Danio ar 20g o’r is-sampl gyfunedig, yn unol â’r fethodoleg a nodir isod. Rhaid cadw gweddill yr is-sampl am gyfnod o 3 mis sy’n dechrau â dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth y rhoddir cyfrif am waredu’r llwyth arni, fel y gellir ei hail brofi os yw’n briodol (gweler adran 3.4 o’r Hysbysiad hwn).

Cynnal prawf Colled wrth Danio ar sampl

Rhaid ichi gynnal y prawf Colled wrth Danio ar yr is-sampl gyfunedig drwy gymryd y camau a ganlyn:

  1. cymryd o leiaf 20g o’r is-sampl gyfunedig;
  2. ei gosod mewn dysgl sych a bwyswyd a chofnodi ei phwysau;
  3. ei sychu mewn ffwrn ar dymheredd o 180°C hyd nes y ceir pwysau cyson;
  4. ei hoeri mewn dysychwr am o leiaf 45 munud a chofnodi ei phwysau;
  5. ei throsglwyddo i ffwrnais fwffwl ar dymheredd o 440°C am o leiaf 5 awr; ac
  6. ei hoeri mewn dysychwr am o leiaf 45 munud a chofnodi ei phwysau eto.
Cyfrifo’r ganran Colled wrth Danio

Rhaid ichi gyfrifo canran Colled wrth Danio’r cymysgedd yn unol â’r fformiwla a ganlyn:

% Colled wrth Danio = (A x 100) / ((B x C / D) – E)

Pan fo:

  • A y pwysau (mewn gramau) a gollir wrth danio ar 440°C;
  • B yn 20 (h.y. pwysau’r sampl 20g);
  • C yn 200 (h.y. pwysau’r sampl 200g);
  • D yn bwysau’r sampl ar ôl tynnu ymaith y deunydd Grŵp 1 a Grŵp 2 sy’n fwy na 20mm;
  • E y pwysau (mewn gramau) a gollir wrth sychu’r sampl 20g ar dymheredd o 180°C.

Os yw’r ganran Colled wrth Danio a ddangosir gan y prawf yn 10% neu lai, mae’r cymysgedd o ronynnau mân i’w drin fel pe bai wedi pasio’r prawf. Os yw’r ganran Colled wrth Danio a ddangosir gan y prawf yn fwy na 10%, mae’r cymysgedd i’w drin fel pe bai wedi methu’r prawf Colled wrth Danio (ond gweler adran 3.4 o’r Hysbysiad hwn).

Os yw cymysgedd o ronynnau mân yn methu’r prawf Colled wrth Danio, mae’r dreth gwarediadau tirlenwi i’w chodi ar y gyfradd safonol ar warediad y llwyth y cymerwyd y sampl ar gyfer y prawf ohono.

3.4 Ail brofi os methir prawf Colled wrth Danio

Os yw cymysgedd o ronynnau mân yn methu’r prawf Colled wrth Danio, caniateir cynnal un ail brawf ar y cymysgedd os bodlonir yr amodau a ganlyn:

  • nad yw’r ganran Colled wrth Danio a ddangosir gan y prawf Colled wrth Danio gwreiddiol yn uwch na 10.5%, ac
  • y cynhelir yr ail brawf:
    • o fewn cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y cafwyd canlyniad y prawf Colled wrth Danio gwreiddiol,
    • drwy ddefnyddio’r is-sampl gyfunedig a baratowyd yn unol ag adran 3.2.2 o’r Hysbysiad hwn at ddibenion y prawf Colled wrth Danio gwreiddiol, ac
    • yn unol â’r fethodoleg a nodir yn adran 3.3.2 o’r Hysbysiad hwn.

Os chi a gynhaliodd y prawf Colled wrth Danio gwreiddiol, cewch gynnal yr ail brawf eich hun. Os ACC a gynhaliodd y prawf Colled wrth Danio gwreiddiol, cewch ofyn i ACC gynnal yr ail brawf.

Os yw’r ganran Colled wrth Danio a ddangosir gan yr ail brawf yn 10% neu lai, cewch anwybyddu canlyniad y prawf gwreiddiol at ddibenion yr Hysbysiad hwn ac at ddibenion Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018.

3.5 Y gofynion o ran cadw cofnodion o brofion Colled wrth Danio

Rhaid ichi gadw cofnod o bob prawf Colled wrth Danio a gynhelir gennych. Rhaid i’r cofnod gynnwys yr wybodaeth a ganlyn:

  1. Eich enw, cyfeiriad eich busnes a’ch rhif ffôn.
     
  2. Y rhif cofrestru a aseiniwyd ichi gan ACC.
     
  3. Cyfeiriad y safle tirlenwi y cymerwyd sampl o lwyth o’r cymysgedd o ronynnau mân ohono.
  4. Rhif adnabod trafodiad y llwyth y cymerwyd y sampl ohono.
     
  5. Manylion y prawf, gan gynnwys:
    1. y dyddiad y cymerwyd y sampl o’r cymysgedd o ronynnau mân;
    2. y dyddiad y cynhaliwyd y prawf Colled wrth Danio ar y sampl;
    3. y dyddiad y cafwyd canlyniad y prawf (os yw’n wahanol);
    4. os cynhaliwyd y prawf ar eich rhan, y person a gynhaliodd y prawf;
    5. canlyniad y prawf (gan gynnwys y ganran Colled wrth Danio a ddangosodd y prawf).
       
  6. Os yw’r cymysgedd o ronynnau mân wedi methu’r prawf Colled wrth Danio:
    1. manylion y camau a gymerwyd yn dilyn y prawf;
    2. tunelledd y llwyth y cymerwyd y sampl ohono;
    3. manylion y cynhyrchydd gwastraff y cafwyd y llwyth ganddo, gan gynnwys:

(i) enw cynhyrchydd y gwastraff, ei gyfeiriad busnes a’i rif ffôn, a

(ii) disgrifiad o’r cyfleuster lle y cynhyrchwyd y llwyth;

    1. manylion y ffrwd wastraff yr oedd y llwyth yn tarddu ohoni.

Os yw’r cofnod yn ymwneud â phrawf Colled wrth Danio a fethwyd, rhaid iddo hefyd gynnwys datganiad oddi wrthych chi, neu berson sy’n gweithredu ar eich rhan, fod yr wybodaeth a ddarparwyd yn y cofnod yn gywir hyd eithaf eich gwybodaeth a’ch cred/ei wybodaeth a’i gred.

Rhaid ichi storio’r cofnod yn ddiogel yn unol ag adran 38(1) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 er mwyn ichi allu dangos bod y ffurflen dreth sy’n ymwneud â gwarediad y llwyth y cymerwyd sampl y prawf Colled wrth Danio ohono yn gywir ac yn gyflawn.

Os ydych yn methu â chadw cofnod o brawf Colled wrth Danio neu’n methu â’i storio’n ddiogel, yn unol â’r adran hon, gallwch fod yn agored i gosb o dan reoliad 8(1)(b)(ii) o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018.

3.6 Camau ychwanegol i’w cymryd os methir prawf Colled wrth Danio

Pan fo cymysgedd o ronynnau mân sy’n bresennol ar eich safle yn methu’r prawf Colled wrth Danio, rhaid ichi hefyd:

  • cyflwyno’r cofnod o’r prawf Colled wrth Danio (gweler adran 3.5 o’r Hysbysiad hwn) i ACC yn unol ag adran 3.7 o’r Hysbysiad hwn,
  • adolygu’r gwiriadau cyn derbyn a gynhaliwyd ar y cymysgedd,
  • adolygu’r holiadur cyn derbyn sy’n ymwneud â’r cymysgedd, a’i ddiwygio os oes angen, a
  • cyfeirio at y Tabl yn 3.2.2 o’r Hysbysiad hwn er mwyn penderfynu a oes angen cynnal profion ar y cymysgedd yn amlach.

Rhaid ichi roi cyfrif am warediad y llwyth y cymerwyd sampl y prawf ohono a thalu treth ar y gyfradd safonol arno.

3.7 Y gofynion o ran adrodd ar brofion Colled wrth Danio

3.7.1 Gwybodaeth ar y ffurflen dreth TGT

Rhaid ichi ddarparu’r wybodaeth a ganlyn ar bob ffurflen dreth a ddychwelir gennych i ACC:

  1. Nifer y profion Colled wrth Danio a gynhaliwyd (gennych chi neu gan ACC), yn ystod y cyfnod cyfrifyddu y mae’r ffurflen dreth yn ymwneud ag ef, ar gymysgeddau o ronynnau mân a oedd yn bresennol ar eich safle/safleoedd tirlenwi.
  2. Nifer y profion hynny a oedd yn brofion Colled wrth Danio a fethwyd (h.y. nifer y profion lle roedd y ganran Colled wrth Danio a ddangoswyd gan y prawf yn uwch na 10%).
  3. Nifer y profion hynny a basiodd y prawf Colled wrth Danio.
  4. Nifer y profion yr ydych yn aros am ganlyniadau ar eu cyfer.
  5. Nifer y profion y gwnaethoch eu methu.

3.7.2 Gwybodaeth i gyd-fynd â ffurflen dreth TGT

Ym mhob achos, rhaid i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol ynghyd â phob ffurflen dreth a ddychwelir gennych i ACC:

  1. Am y profion Colled wrth Danio a gofnodwyd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu, dadansoddiad o faint o'r profion a gynhaliwyd o dan y categorïau risg isel a risg uchel, yn y drefn honno (gweler adran 3.2.2 o'r Hysbysiad hwn).
     
  2. Cyfanswm pwysau trethadwy gwarediadau o gymysgeddau o ronynnau mân y mae treth gwarediadau tirlenwi cyfradd safonol yn berthnasol iddo, mewn perthynas â'r cyfnod cyfrifyddu hwnnw.

3.7.3 Gwybodaeth ychwanegol yn dilyn prawf Colled wrth Danio a fethwyd

Os methwyd unrhyw brofion Colled wrth Danio yn ystod y cyfnod cyfrifyddu, ynghyd â’r ffurflen dreth, rhaid amgáu: 

  • ffurflen prawf Colled wrth Danio Awdurdod Cyllid Cymru, wedi’i chwblhau, a
  • cofnodion y profion Colled wrth Danio hynny gyda’r ffurflen dreth (oni bai y cynhaliwyd y profion Colled wrth Danio gan ACC). 

Rhaid i bob cofnod prawf Colled wrth Danio gynnwys yr wybodaeth a bennir yn adran 3.5 o’r Hysbysiad hwn.

Nid yw’r adran hon o’r Hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol ichi ddarparu gwybodaeth neu gofnodion am brawf Colled wrth Danio a fethwyd:

  • os cynhaliwyd ail brawf gennych ar y cymysgedd o ronynnau mân a fethodd y prawf Colled wrth Danio yn unol ag adran 3.4 o’r Hysbysiad hwn, neu os cynhaliodd ACC ail brawf arno, ac
  • os nad oedd y ganran Colled wrth Danio a ddangoswyd gan yr ail brawf yn uwch na 10%.