Gwiriwch a oes angen i chi dalu Treth Trafodiadau Tir (TTT) pan fyddwch yn prynu neu'n prydlesu eiddo neu dir yng Nghymru.
Cynnwys
Disodlodd TTT Dreth Tir y Dreth Stamp (SDLT) yng Nghymru o 1 Ebrill 2018. Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn casglu ac yn rheoli'r dreth ar ran Llywodraeth Cymru.
Pwy sy'n gorfod talu
Rhaid i chi dalu TTT os ydych yn prynu eiddo neu dir dros drothwy pris penodol yng Nghymru. Y trothwy yw pan fydd y dreth yn dechrau bod yn berthnasol.
Ar hyn o bryd, y trothwy TTT yw:
- £180,000 ar gyfer eiddo preswyl (os nad ydych yn berchen ar eiddo arall)
- £225,000 ar gyfer tir ac eiddo amhreswyl
Yn seiliedig ar gyfraddau a bandiau TTT a osodir gan Lywodraeth Cymru.
Mae rheolau gwahanol os ydych eisoes yn berchen ar un eiddo preswyl neu fwy, ac efallai y bydd angen i chi dalu'r cyfraddau preswyl uwch. Fodd bynnag, os ydych yn disodli eich prif breswylfa, efallai na fydd y cyfraddau uwch yn berthnasol. Gweler ein canllawiau cyfraddau uwch.
Rydych yn talu'r dreth pan:
- fyddwch yn prynu eiddo rhydd-ddaliadol
- fyddwch yn prynu lesddaliad newydd neu un sy'n bodoli eisoes
- mae tir neu eiddo yn cael ei drosglwyddo i chi yn gyfnewid am daliad, er enghraifft, rydych yn cymryd morgais neu'n prynu cyfran mewn tŷ
Mae TTT yn dreth a hunanasesir. Cyfrifoldeb y trethdalwr yw cwblhau a chyflwyno ffurflen dreth gywir a thalu unrhyw dreth sy'n ddyledus.
Faint fyddwch chi’n ei dalu
Mae faint rydych chi'n ei dalu yn dibynnu a yw'r eiddo'n breswyl neu amhreswyl.
Gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell dreth i'ch helpu i weld faint y byddwch yn ei dalu.
Gallai'r swm rydych chi'n ei dalu gael ei effeithio os ydych chi'n prynu:
- eiddo pan fyddwch eisoes yn berchen ar un
- mwy nag un eiddo
- eiddo sydd y ddwy ochr i’r ffin
Gallwch ddefnyddio ein gwiriwr i ddarganfod a yw cod post yng Nghymru ar gyfer Treth Trafodiadau Tir.
Rhyddhadau
Mewn rhai achosion, efallai y byddwch yn gallu cael rhyddhad sy'n lleihau swm y dreth y byddwch yn ei thalu. Gall cyfreithiwr neu drawsgludydd eich helpu i hawlio unrhyw ryddhad rydych yn gymwys i'w gael.
Nid oes rhyddhad i brynwyr tro cyntaf yng Nghymru.
Mae rhyddhadau penodol ar gyfer:
- prynu mwy nag un eiddo (anheddau lluosog)
- symud eiddo o amgylch strwythur grŵp
- elusennau sy'n prynu eiddo
I weld y rhestr lawn ewch i’n canllawiau technegol ar ryddhadau.
Sut a phryd i dalu
Rhaid i chi anfon ffurflen TTT at ACC a thalu'r dreth o fewn 30 diwrnod i'r diwrnod ar ôl cwblhau (neu 'ddyddiad dod i rym' arall y trafodiad).
Os oes gennych gyfreithiwr neu drawsgludydd, gallwch ofyn iddynt ffeilio eich ffurflen ar-lein a thalu'r dreth ar eich rhan. Byddant fel arfer yn ychwanegu'r swm at y swm rydych yn ei dalu iddyn nhw.
Os na fyddant yn gwneud hyn ar eich rhan, bydd angen i chi gwblhau ac anfon ffurflen dreth bapur a thalu'r dreth eich hun.
Yr adegau nad oes angen i chi ffeilio ffurflen
Nid oes rhaid i chi ffeilio ffurflen dreth a thalu TTT os:
- yw eiddo’n cael ei adael i chi mewn ewyllys ac nad ydych yn gwneud unrhyw daliad am ei drosglwyddo
- yw eiddo'n cael ei drosglwyddo oherwydd ysgariad neu ddiddymiad partneriaeth sifil
- ydych yn prynu eiddo rhydd-ddaliadol am lai na £40,000
Ar gyfer trafodiadau lesddaliadol, nid oes rhaid i chi ffeilio a thalu TTT os ydych yn prynu:
- les newydd neu les wedi'i haseinio am gyfnod o 7 mlynedd neu fwy, cyn belled â bod:
- y premiwm yn llai na £40,000 a’r
- rhent blynyddol yn llai na £1,000
- les newydd neu les wedi'i haseinio am gyfnod o lai na 7 mlynedd, cyn belled â bod y swm yr ydych yn ei thalu’n llai na throthwy cyfradd sero TTT preswyl neu amhreswyl
Mwy o wybodaeth
Ar gyfer achosion cymhleth, neu os ydych yn ansicr sut mae'r dreth yn berthnasol:
- efallai y byddwch am holi cyfreithiwr neu drawsgludydd
- defnyddiwch ein canllawiau i weithwyr treth proffesiynol