Neidio i'r prif gynnwy

Dewch i wybod am gosbau treth ar gyfer Treth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi, sut maen nhw'n cael eu cyfrifo a beth allwch chi ei wneud.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Yn Awdurdod Cyllid Cymru, rydym am sicrhau bod y system dreth yng Nghymru yn deg er mwyn eich helpu i dalu'r swm cywir o dreth ar yr adeg gywir.

Os oes rhaid i chi dalu treth trafodiadau tir neu dreth gwarediadau tirlenwi ac nad ydych yn cwrdd â therfynau amser a gofynion, yna efallai y byddwch yn wynebu cosb.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu mwy os yw’n hwyrach, neu os y byddwch yn talu eich bil treth yn hwyr.

Gallwch apelio yn erbyn cosb. Mewn rhai amgylchiadau, gall cosbau gael eu gohirio, eu lleihau neu eu dileu.

Os cewch chi gosb

Bydd hysbysiad yn cynnwys y swm sy’n ddyledus gennych, sut i dalu a beth i'w wneud os nad ydych yn cytuno â phenderfyniad yr Awdurdod i godi tâl arnoch.

Mae'n rhaid i chi dalu o fewn 30 diwrnod i gael yr hysbysiad cosb, oni bai eich bod yn apelio, neu fel arall bydd llog dyddiol yn cael ei godi arnoch.

Mae TTT yn dreth a hunanasesir. Cyfrifoldeb y trethdalwr yw cwblhau a chyflwyno ffurflen dreth gywir a thalu unrhyw dreth sy'n ddyledus. Gan gynnwys llog dyddiol a chosbau os yn hwyr.

Talu cosb treth trafodiadau tir neu dreth gwarediadau tirlenwi.

Mwy nag un gosb

Byddwn yn penderfynu a yw pob cosb yn berthnasol ar sail ar y ffeithiau.

Os nad yw'r gosb yn swm penodol, byddwn yn ystyried swm cyfunol eich cosbau er mwyn sicrhau ei fod yn gymesur.

Cosbau am ffeilio'n hwyr

Gallwch gael cosb benodedig o £100 os methwch ag anfon ffurflen dreth ofynnol ar neu cyn y dyddiad ffeilio.

Ar ôl 6 mis, gall cosbau pellach fod yn berthnasol.

Ffeilio’n hwyr Cosb
Hyd at 6 mis £100
6 mis i 12 mis yn hwyr £300 ychwanegol neu 5% o unrhyw dreth sydd heb ei thalu, pa un bynnag sydd fwyaf
12 mis neu fwy yn hwyr £300 arall; neu 5% o unrhyw dreth sydd heb ei thalu, pa un bynnag sydd fwyaf

Bydd llog dyddiol yn dal i gael ei godi drwy gydol y cyfnod hwn.

Os methwch â ffeilio ffurflen dreth a'ch bod yn fwriadol yn celu gwybodaeth a fyddai'n helpu i asesu faint o dreth sy’n ddyledus gennych, gall eich cosb:

  • gael ei chodi i £300
  • fod yn swm sydd heb fod yn fwy na 95% o'r dreth sy'n ddyledus

Os byddwch yn methu â ffeilio mwy o ffurflenni treth ar amser, o fewn yr un cyfnod cosb, gall mwy o gosbau fod yn ddyledus. Gweler y canllawiau technegol am fwy o wybodaeth.

Cosbau am dalu treth yn hwyr

Gallwch gael cosb os byddwch yn methu â thalu swm o dreth erbyn dyddiad y gosb a nodir ar eich hysbysiad.

Cosb am treth trafodiadau tir hwyr

5% o swm y dreth sydd heb ei thalu

Cosb am treth gwarediadau tirlenwi hwyr

1% o swm y dreth sydd heb ei thalu, oni bai ei fod yn ail dro neu fwy i chi fethu â thalu'r dreth o fewn cyfnod cosb penodedig

Rhagor o gosbau treth hwyr

Methu â thalu (yn dechrau 30 diwrnod cyn dyddiad y gosb) Cosb
O fewn 6 mis 5% ychwanegol o unrhyw dreth sydd heb ei thalu
O fewn 12 mis 5% arall o unrhyw dreth sydd heb ei thalu

Bydd llog dyddiol yn dal i gael ei godi drwy gydol y cyfnod hwn.

Sut i apelio yn erbyn cosb

Os ydych chi'n anhapus gyda'n penderfyniad ac mae gennych chi esgus rhesymol, gallwch:

Gall cosbau hefyd gael eu lleihau, eu gohirio neu eu dileu oherwydd amgylchiadau arbennig.

Mwy o wybodaeth

Dim ond crynodeb o’r prif fathau o gosbau yw hwn ac nid yw'n cynnwys:

Edrychwch ar ein canllawiau technegol am wybodaeth fanylach.