Neidio i'r prif gynnwy

2. Gofyn am adolygiad

Mae adolygiad yn asesiad o sut y gwnaethom benderfyniad treth; sy’n cael ei gynnal gan rywun yn yr Awdurdod nad oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â'ch achos. Yn ystod yr adolygiad efallai y byddwn yn cysylltu â chi er mwyn gwirio neu egluro gwybodaeth.

Sut i ofyn am adolygiad

Mae angen i chi ofyn am adolygiad o fewn 30 diwrnod o'r dyddiad y byddwn yn cyhoeddi ein llythyr penderfyniad. Os byddwch yn gwneud cais ar ôl y dyddiad cau hwn, efallai y byddwn yn dal i benderfynu edrych arno.

Bydd arnom angen:

  • eich enw neu’ch enw busnes
  • rhif cyfeirnod eich achos (bydd hwn ar y llythyr penderfyniad)
  • beth rydych chi'n anghytuno ag ef a pham
  • os yw'n berthnasol, beth yw swm cywir y dreth sy'n daladwy yn eich barn chi a sut yr ydych chi wedi'i gyfrifo

I gael adolygiad o gosb, bydd arnom hefyd angen:

  • dyddiad cyhoeddi'r gosb
  • y dyddiad y gwnaethoch ffeilio'ch ffurflen dreth
  • manylion pam yr ydych chi'n anghytuno â'r gosb
  • os yw'n berthnasol, eich esgus rhesymol dros ffeilio neu dalu hwyr

Dylech hefyd ddweud wrthym os oes gennych unrhyw wybodaeth ychwanegol, neu os ydych chi'n credu ein bod wedi methu rhywbeth.

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Gweler ein polisi preifatrwydd ynglŷn â sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni.

Beth sy'n digwydd nesaf

Fel arfer bydd yr adolygiad yn cymryd hyd at 45 diwrnod, ond gall hyn newid os cytunir ar hynny.

Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i drafod amserlen amgen os na allwn ddod i gasgliad o fewn ein cyfnod arferol.

Pan fyddwn wedi gorffen, byddwch yn derbyn llythyr i naill ai gadarnhau, diwygio neu ganslo'r penderfyniad treth.

Os byddwch yn derbyn cosb o ganlyniad i'r adolygiad, rhaid i chi ei thalu o fewn 30 diwrnod i ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad, oni bai eich bod yn penderfynu apelio yn ei herbyn.

Anghytuno ag adolygiad

Gallwch ofyn i'r tribiwnlys treth wrando ar eich apêl, rhaid i chi wneud hyn o fewn 30 diwrnod i lythyr penderfyniad yr adolygiad.