Neidio i'r prif gynnwy

5. Esgus rhesymol

Gallwch ofyn i ni adolygu rhai cosbau neu apelio i'r tribiwnlys os credwch fod gennych esgus rhesymol. Mae hyn yn berthnasol i gosbau am fethu â:

  • llenwi ffurflen dreth mewn pryd
  • talu ffurflen dreth mewn pryd
  • cadw a diogelu cofnodion
  • cydymffurfio â, neu rwystro, Awdurdod Cyllid Cymru

Gallwch hefyd ofyn i ni adolygu cosbau cofrestru Treth Gwarediadau Tirlenwi.

Beth allai gyfrif fel esgus rhesymol

Mae esgus rhesymol yn rhywbeth a wnaeth eich atal rhag cwrdd â rhwymedigaeth treth neu gyfnod o amser y gwnaethoch gymryd gofal rhesymol i gwrdd ag ef. Er enghraifft:

  • bu farw eich partner neu berthynas agos arall ychydig cyn dyddiad cau cyflwyno neu dalu’r ffurflen dreth
  • roedd gennych salwch difrifol neu salwch oedd yn peryglu eich bywyd
  • cawsoch arhosiad annisgwyl yn yr ysbyty a wnaeth eich atal rhag delio â'ch materion treth
  • rydych chi wedi colli cofnodion trwy dân, llifogydd neu ladrad

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwn ei ystyried ac na fyddwn yn ei ystyried yn esgus rhesymol, gweler canllawiau technegol ynghylch esgusodion rhesymol.