Neidio i'r prif gynnwy

Darganfyddwch pryd a sut i dalu Treth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) i Awdurdod Cyllid Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd i dalu

Ar ôl cyflwyno ffurflen TGT, bydd angen i chi dalu unrhyw dreth sy'n ddyledus.

Rhaid i chi gwblhau’r taliad erbyn diwrnod gwaith olaf y mis sy'n dilyn y mis y daw’r cyfnod cyfrifyddu i ben.

Er enghraifft, os bydd eich cyfnod cyfrifyddu yn dod i ben ar 15 Mawrth, bydd angen i chi gwblhau'r taliad erbyn 30 Ebrill.

Rhaid i'r taliad llawn ddod i law erbyn y dyddiad mae’n ddyledus, neu efallai y codir cosbau a llog arnoch.

Sut i dalu

Ar ôl i chi gyflwyno’ch ffurflen, i dalu bydd angen i chi ddefnyddio’ch Cyfeirnod Unigryw Treth Trafodiad (CUT) 12 digid o’ch cyfrif ar-lein.

Mae'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud y taliad wedi'i chynnwys yn y slip talu. Gallwch lawrlwytho hwn pan fyddwch yn cyflwyno'ch ffurflen.

Ffyrdd o dalu

Taliadau digidol

Gallwch dalu drwy:

  • Daliadau Cyflymach
  • CHAPS
  • Bacs (rhaid derbyn y taliad 4 diwrnod gwaith cyn dyddiad mae’n ddyledus)

Mae angen i chi:

  • ddefnyddio eich CUT fel eich cyfeirnod talu
  • gwirio fod y taliad yn cyfateb i'r union swm a ddangosir ar y ffurflen dreth
  • gwneud taliad ar wahân ar gyfer pob ffurflen dreth

Os hoffech ychwanegu cyfeirnod ychwanegol ar gyfer eich prosesau mewnol, rhestrwch hyn ar ôl y cyfeirnod.

Peidiwch â rhoi bylchau, llythrennau, 'CTU', nac unrhyw beth arall cyn y nodau yn eich cyfeirnod talu. Efallai y bydd eich taliad yn cael ei oedi os nad yw'r cyfeirnod yn cyfateb.

Manylion cyfrif ACC i'w defnyddio
Enw'r cyfrif Welsh Revenue Authority Tax
Cod didoli 60 70 80
Rhif y cyfrif 10028838
Banc NatWest
Cyfeiriad Government Banking CST Parklands
De Havilland Way
Horwich
Bolton
BL6 4YU

Taliadau tramor

Defnyddiwch y manylion hyn i dalu o gyfrif tramor:

Rhif y cyfrif (IBAN) GB46NWBK60708010028838
Cod Adnabod Banc (BIC) NWBKGB2L

Taliadau gyda siec

Cymorth a chefnogaeth

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am dalu neu os oes angen help arnoch, cysylltwch â ni.