Neidio i'r prif gynnwy

1. Cofrestru fel gweithredwr

Mae 3 cam ar gyfer cofrestru fel gweithredwr safle tirlenwi, sef:

  1. Cofrestru eich sefydliad a’r safleoedd rydych chi'n eu gweithredu yng Nghymru gydag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).
  2. Rhoi eich enw i gael gwasanaethau ar-lein ACC er mwyn i chi fod yn gallu anfon eich datganiadau ar gyfer Treth Gwarediadau Tirlenwi.
  3. Cyflwyno unrhyw geisiadau sydd eu hangen arnoch ar gyfer dulliau pwyso, disgowntiau dŵr, rhyddhad adfer safle ac ardaloedd nad ydynt ar gyfer gwaredu, i ACC cyn i chi ddechrau eu gweithredu.

Rhaid i chi orffen cofrestru cyn i chi gael gweithredu fel gweithredwr safle tirlenwi yng Nghymru.