Gallwch wneud cais ar-lein os ydych yn credu fod gennych hawl i ad-daliad Treth Trafodiadau Tir.
Cynnwys
Gwneud cais am ad-daliad
Gallwch wneud cais am:
- ad-daliad cyfraddau uwch y Dreth Trafodiadau Tir gan eich bod bellach wedi gwerthu eich prif breswylfa flaenorol
- ad-daliad treth a ordalwyd
- ad-daliad os oeddech wedi talu drwy gamgymeriad
- ad-daliad am eich bod yn hawlio rhyddhad anheddau lluosog (MDR)
Faint o amser mae ad-daliad yn ei gymryd
Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen, gall gymryd 15 i 20 diwrnod gwaith i'w phrosesu. Gall gymryd mwy o amser os bydd angen mwy o wybodaeth arnom.
Diwygiadau
Os ydych angen newid unrhyw beth arall ar eich ffurflen dreth, gallwch ddefnyddio'r ffurflen ddiwygio eich ffurflen dreth ar-lein.
Cymorth
Os ydych chi'n ansicr a allwch wneud cais am ad-daliad neu eich bod angen ffurflen mewn fformat gwahanol, yna cysylltwch â ni.