Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein hon i ddiwygio ffurflen Treth Trafodiadau Tir (TTT) er mwyn hawlio rhyddhad anheddau lluosog (MDR).

Dylech hawlio MDR pan fyddwch yn cyflwyno'ch ffurflen TTT. Os na wnaethoch ei hawlio a’ch bod yn sylweddoli’n ddiweddarach y dylech fod wedi gwneud hynny, gallwch ddiwygio eich ffurflen a hawlio ad-daliad o'r dreth ychwanegol a dalwyd.

Dim ond o fewn 12 mis i ddyddiad ffeilio eich ffurflen dreth wreiddiol y gallwch chi ddiwygio eich ffurflen er mwyn hawlio MDR.

Fel arfer mae'n cymryd 15 i 20 diwrnod gwaith i brosesu eich hawliad. Gall hyn gymryd mwy o amser os bydd angen mwy o wybodaeth arnom.

Gallwch wneud cais i hawlio MDR os:

  • mai chi yw prynwr yr eiddo
  • mai chi yw’r cyfreithiwr neu'r trawsgludydd a weithredodd dros y prynwr yn y pryniant gwreiddiol (cyn belled â’ch bod yn dal i weithredu ar eu rhan)
  • ydych yn rhywun arall sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu ar ran y prynwr

Cyn i chi ddechrau

Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi'i chwblhau'n rhannol, felly gwnewch yn siŵr bod y wybodaeth ganlynol gennych chi cyn i chi ddechrau. Efallai y bydd angen i chi ofyn i'ch cyfreithiwr neu'ch trawsgludydd.

Beth fydd ei angen arnoch

Manylion y trafodiad gwreiddiol

Cyfeirnod Unigryw y Trafodiad (CUT)

Mae hwn yn rif 12 digid oddi ar eich ffurflen Treth Trafodiadau Tir. Cysylltwch â'ch cyfreithiwr neu’ch trawsgludydd os nad yw hwn gennych chi.

Ynglŷn â'r eiddo a brynwyd

  • Cyfeiriad a chod post.
  • Enw a dyddiad geni'r prynwr.
  • Gwerth yn cael ei roi i'r brif annedd.

Swm yr ad-daliad

Bydd angen i chi gyfrifo faint rydych chi'n ei hawlio’n ôl drwy'r rhyddhad. I wneud hyn:

  1. Cyfrifwch faint o dreth y dylech fod wedi'i thalu gan gymryd MDR i ystyriaeth.
  2. Edrychwch ar faint o dreth wnaethoch chi ei thalu.
  3. Eich ad-daliad yw'r gwahaniaeth rhwng faint y gwnaethoch ei dalu a faint y dylech fod wedi'i dalu.

Am fwy o wybodaeth ar sut i gyfrifo eich ad-daliad, gallwch ddefnyddio ein cyrifiannell MDR a’n canllawiau MDR.

Manylion am yr anheddau

Bydd arnoch angen gwybodaeth am yr anheddau sy'n gysylltiedig â'r trafodiad gan gynnwys:

  • faint o anheddau rydych chi'n hawlio MDR ar eu cyfer
  • a yw unrhyw anheddau’n is-anheddau
  • cyfleusterau yn yr anheddau
  • mynediad i'r anheddau

Manylion banc

Manylion cyfrif banc y person fydd yn derbyn y taliad:

  • enw deiliad y cyfrif
  • rhif y cyfrif
  • cod didoli
  • enw a chyfeiriad y banc

Mae’n rhaid i hwn fod yn gyfrif cyfredol.

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Gweler ein polisi preifatrwydd ynglŷn â sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni.

Cymorth

Os oes angen cymorth arnoch neu yr hoffech y ffurflen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.