Neidio i'r prif gynnwy

Fel cyfreithiwr neu drawsgludydd, defnyddiwch y gyfrifiannell hon i’ch helpu i gyfrifo'r dreth sy'n ddyledus ar drafodiadau os ydych yn hawlio rhyddhad anheddau lluosog (MDR).

Gellir hawlio'r rhyddhad os yw trethdalwr yn prynu mwy nag un annedd yng Nghymru (anheddau lluosog) gan yr un gwerthwr naill ai:

  • mewn un trafodiad gyda'r un dyddiad dod i rym
  • mewn nifer o drafodiadau cysylltiol

Mae angen i chi wybod:

  • os mai prif gyfraddau neu gyfraddau uwch y dreth sy’n berthnasol
  • cyfanswm y pris prynu ar gyfer pob annedd
  • nifer yr anheddau dan sylw
  • cyfanswm y pris prynu ar gyfer yr holl dir arall

Gwasanaeth ar-lein Awdurdod Cyllid Cymru

Ar gyfer achosion mwy cymhleth gan gynnwys trafodiadau cysylltiol, neu os nad ydych yn siŵr sut mae'r dreth neu'r rhyddhad yn berthnasol:

Dylid defnyddio'r gyfrifiannell hon fel canllaw yn unig. Cyfrifoldeb y trethdalwr o hyd yw sicrhau eu bod yn hunanasesu'n gywir y dreth sydd i'w thalu.

Defnyddio porwyr ar gyfer gwasanaethau ar-lein Awdurdod Cyllid Cymru