Canfod a oes raid i chi dalu cyfraddau uwch y Dreth Trafodiadau Tir (TTT) pan fyddwch yn prynu eiddo preswyl yng Nghymru.
Cynnwys
Ar gyfer eiddo preswyl, mae 2 gyfradd TTT: y brif gyfradd a’r gyfradd uwch. Mae'r canllawiau yma’n amlinellu pryd a pham y mae'r cyfraddau treth uwch yn berthnasol.
Llywodraeth Cymru sy’n gosod y cyfraddau treth.
Pryd nad oes rhaid i chi dalu TTT
Fel arfer ni fydd yn rhaid i chi dalu’r dreth os byddwch chi’n:
- prynu eiddo am lai na £225,000 ac nad ydych yn berchen ar unrhyw eiddo arall
- prynu les newydd am lai na 7 mlynedd
Pryd mae cyfraddau uwch yn berthnasol
Byddwch fel arfer yn talu cyfraddau uwch y Dreth Trafodiadau Tir pan fydd y ddwy ffactor hyn yn berthnasol:
- rydych yn prynu eiddo preswyl gwerth £40,000 neu fwy, ac
- rydych eisoes yn berchen ar 1 eiddo neu fwy arall (gweler isod)
Dylech gynnwys unrhyw eiddo preswyl:
- sydd yn berchen i chi ar ran plant o dan 18 oed (caiff rhieni eu trin fel y perchnogion, hyd yn oed os yw'r eiddo'n cael ei ddal drwy ymddiriedolaeth ac nad hwy yw'r ymddiriedolwyr)
- sydd gennych chi fuddiant ynddo fel buddiolwr ymddiriedolaeth
Rhaid i gwmnïau dalu cyfraddau uwch am unrhyw eiddo preswyl y maent yn ei brynu os yw’r:
- eiddo yn £40,000 neu fwy
- nad yw'r buddiant a brynant yn ddarostyngedig i brydles sydd â mwy na 21 mlynedd ar ôl
Mae trosglwyddiadau ecwiti hefyd o fewn cwmpas cyfraddau uwch.
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil
Mae'r rheolau'n berthnasol i'r ddau ohonoch fel petaech yn prynu'r eiddo gyda'ch gilydd, hyd yn oed os nad ydych yn gwneud hynny.
Os bydd cyfraddau uwch yn berthnasol i'r naill neu'r llall ohonoch yn unigol, mae cyfraddau uwch yn berthnasol i'r trafodiad cyfan.
Prynu gyda rhywun arall
Mae'r rheolau'n berthnasol i bob person sy'n prynu'r eiddo (a'u priod).
Os bydd cyfraddau uwch yn berthnasol i unrhyw un ohonoch yn unigol, mae cyfraddau uwch yn berthnasol i'r trafodiad cyfan.
Pryd nad yw'r cyfraddau uwch yn berthnasol
Ni fyddwch fel arfer yn talu cyfraddau uwch os:
- ydych yn defnyddio eich eiddo newydd fel eich prif gartref a’ch bod wedi gwerthu'r prif gartref yr oeddech yn berchen arno cyn i chi brynu eich cartref newydd (neu ar yr un diwrnod), neu
- bod unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i'r eiddo rydych yn ei brynu:
- mae’n werth llai na £40,000
- mae’n gymysgedd o ofod preswyl a gofod amhreswyl (er enghraifft siop gyda fflat uwch ei phen)
- mae’n eiddo 'symudol' (er enghraifft carafán, bad preswyl neu gartref symudol)
- mae’n eiddo rhydd-ddaliadol sy'n destun les sydd â mwy na 21 o flynyddoedd ar ôl, ac mae'r les ym meddiant rhywun sydd heb gysylltiad â chi
Pryd a sut i gael ad-daliad
Os ydych yn gwerthu eich prif gartref blaenorol o fewn 3 blynedd i brynu eich prif gartref newydd, fel arfer gallwch wneud cais am ad-daliad.
Yr ad-daliad hwn yw'r gwahaniaeth rhwng symiau’r uwch a'r prif gyfraddau. Gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell treth i helpu i gyfrifo hyn.
Os byddwch yn prynu prif gartref newydd, ond heb werthu eich hen brif breswylfa eto, bydd cyfraddau uwch yn dal i fod yn berthnasol i'r trafodiad.
Ni allwch gael ad-daliad os:
- ydych chi neu'ch priod/partner sifil yn dal i fod yn berchen ar unrhyw ran o'ch prif gartref blaenorol
- yw'r cyfraddau uwch yn dal i fod yn berthnasol am unrhyw reswm arall
Rhyddhad ac eithriadau
Efallai y byddwch yn gymwys i gael rhyddhad sy'n lleihau swm y dreth trafodiadau tir y byddwch yn ei thalu neu eithriad fel nad oes rhaid i chi dalu.
Os byddwch yn:
- prynu mwy nag 1 eiddo, mae'n bosibl y byddwch yn gymwys i wneud cais am ryddhad anheddau lluosog
- prynu eiddo sy'n cynnwys 2 annedd neu fwy, mae’n bosibl y gall yr eithriad ar gyfer is-annedd fod yn berthnasol
Os byddwch yn prynu 6 eiddo neu fwy, gallwch fel arfer ddewis talu naill ai:
- gyfraddau amhreswyl y Dreth Trafodiadau Tir
- cyfraddau uwch y Dreth Trafodiadau Tir gyda rhyddhad anheddau lluosog
Cymorth a chefnogaeth
Mae cyfraddau uwch yn rhan gymhleth o'r dreth. Nid yw'r canllaw hwn yn cynnwys pob senario ac ni ddylid dibynnu ar y rhain yn unig er mwyn penderfynu a oes rhaid i chi dalu unrhyw dreth.
I gael esboniad manylach, neu os ydych yn ansicr sut mae'r dreth yn berthnasol:
- defnyddiwch ein canllawiau technegol
- gwyliwch ein fideos esbonio byr am gyfraddau uwch
- efallai yr hoffech wirio gyda chyfreithiwr neu drawsgludwr