Neidio i'r prif gynnwy

Ceir gwahanol gyfraddau a bandiau trethi ar gyfer gwahanol fathau o eiddo. Gweinidogion Cymru sy'n pennu'r cyfraddau a'r bandiau ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir (TTT). Maent yn cael eu cymeradwyo gan Senedd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae faint o TTT rydych chi'n ei thalu yn dibynnu ar:

  • pryd wnaethoch chi brynu'r eiddo
  • p'un ai ei fod yn eiddo preswyl neu beidio
  • faint wnaethoch chi dalu amdano

Fel arfer y ‘dyddiad dod i rym’ yw’r diwrnod y gwnaethoch gwblhau pryniant yr eiddo.

Gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell dreth i'ch helpu chi i ddarganfod faint o dreth y byddwch chi'n ei thalu.

Prif gyfraddau trethi preswyl

Pan fyddwch yn prynu eiddo preswyl (rhydd-ddaliad neu lesddaliad) bydd y cyfraddau canlynol yn gymwys i'r gyfran o'r pris yr ydych yn ei dalu ym mhob band.

Trafodiadau sy’n dod i rym ar 10 Hydref 2022 neu wedi hynny 
Trothwy’r pris Cyfradd TTT
Y gyfran hyd at a chan gynnwys £225,000 0%
Y gyfran dros £225,000 hyd at a chan gynnwys £400,000 6%
Y gyfran dros £400,000 hyd at a chan gynnwys £750,000 7.5%
Y gyfran dros £750,000 hyd at a chan gynnwys £1,500,000 10%
Y gyfran dros £1,500,000 12%

Mae gennym ganllawiau trosiannol ar gyfer newid prif gyfraddau preswyl Hydref 2022. Mae hyn yn ymhelaethu ar y rheoliadau ac yn cwmpasu pa gyfraddau fydd yn berthnasol i drafodiad.

Example

Ym mis Tachwedd 2022 byddwch yn prynu tŷ am £280,000. Rydych chi'n talu'r canlynol:

  • 0% ar y £225,000 cyntaf = £0
  • 6% ar y £55,000 terfynol = £3,300
  • cyfanswm TTT = £3,300
Trafodiadau sydd â dyddiad dod i rym rhwng 1 Gorffennaf 2021 a 9 Hydref 2022
Trothwy'r pris Cyfradd TTT
Y gyfran hyd at a chan gynnwys £180,000 0%
Y gyfran dros £180,000 hyd at a chan gynnwys £250,000 3.5%
Y gyfran dros £250,000 hyd at a chan gynnwys £400,000 5%
Y gyfran dros £400,000 hyd at a chan gynnwys £750,000 7.5%
Y gyfran dros £750,000 hyd at a chan gynnwys £1,500,000 10%
Y gyfran dros £1,500,000 12%

Mae'r cyfraddau hyn hefyd yn gymwys rhwng 1 Ebrill 2018 a 26 Gorffennaf 2020.

Enghraifft

Ym mis Awst 2021 byddwch yn prynu tŷ am £260,000. Rydych chi'n talu'r canlynol:

  • 0% ar y £180,000 cyntaf = £0
  • 3.5% ar y £70,000 nesaf = £2,450
  • 5% ar y £10,000 terfynol = £500
  • cyfanswm TTT = £2,950
Trafodiadau â dyddiad dod i rym rhwng 27 Gorffennaf 2020 a 30 Mehefin 2021
Trothwy'r pris Cyfradd TTT
Y gyfran hyd at a chan gynnwys £250,000 0%
Y gyfran dros £250,000 hyd at a chan gynnwys £400,000 5%
Y gyfran dros £400,000 hyd at a chan gynnwys £750,000 7.5%
Y gyfran dros £750,000 hyd at a chan gynnwys £1,500,000 10%
Y gyfran dros £1,500,000 12%

Enghraifft

Ym mis Mai 2021 byddwch yn prynu tŷ am £300,000. Rydych chi'n talu'r canlynol:

  • 0% ar y £250,000 cyntaf = £0
  • 5% ar y £50,000 terfynol = £2,500
  • cyfanswm TTT = £2,500

Cyfraddau trethi preswyl uwch

Pan fyddwch yn prynu eiddo preswyl a chithau eisoes yn berchen ar un neu ragor o eiddo preswyl efallai y bydd angen ichi dalu'r cyfraddau preswyl uwch.

Os ydych yn disodli'ch prif breswylfa efallai na fydd y cyfraddau uwch yn gymwys.

Pan:

  • mae cwmnïau'n prynu eiddo preswyl, mae’n rhaid iddynt dalu'r cyfraddau preswyl uwch
  • mae ymddiriedolaethau’n prynu eiddo preswyl, efallai y bydd yn rhaid iddynt dalu'r cyfraddau preswyl uwch

Bydd y cyfraddau canlynol yn berthnasol i'r gyfran o'r pris rydych chi'n ei dalu ym mhob band.

Trafodiadau â dyddiad dod i rym ar 22 Rhagfyr 2020 neu ar ôl hynny
Trothwy pris Cyfradd TTT
Y gyfran hyd at ac yn cynnwys £180,000 4%
Y gyfran dros £180,000 hyd at ac yn cynnwys £250,000 7.5%
Y gyfran dros £250,000 hyd at ac yn cynnwys £400,000 9%
Y gyfran dros £400,000 hyd at ac yn cynnwys £750,000 11.5%
Y gyfran dros £750,000 hyd at ac yn cynnwys £1,500,000 14%
Y gyfran dros £1,500,000 16%

Nid yw'r cyfraddau hyn yn berthnasol pan gyfnewidiwyd contractau cyn y dyddiad hwn.

Enghraifft

Os fyddwch chi'n prynu ail gartref am £260,000, byddwch chi'n talu:

Cyfraddau a bandiau Treth sy’n ddyledus
4% ar y £180,000 cyntaf £7,200
7.5% ar y £70,000 nesaf £5,250
9% ar y £10,000 olaf £900
Cyfanswm y TTT fydd £13,350
Trafodiadau â dyddiad dod i rym rhwng 1 Ebrill 2018 a 21 Rhagfyr 2020
Trothwy'r pris Cyfradd TTT
Y gyfran hyd at a chan gynnwys £180,000 3%
Y gyfran dros £180,000 hyd at a chan gynnwys £250,000 6.5%
Y gyfran dros £250,000 hyd at a chan gynnwys £400,000 8%
Y gyfran dros £400,000 hyd at a chan gynnwys £750,000 10.5%
Y gyfran dros £750,000 hyd at a chan gynnwys £1,500,000 13%
Y gyfran dros £1,500,000 15%

Mae'r cyfraddau hyn hefyd yn berthnasol lle mae'r dyddiad dod i rym ar ôl 21 Rhagfyr 2020, ond bod y contractau wedi’u cyfnewid cyn y dyddiad hwn.

Enghraifft

Os prynwch ail gartref am £260,000 byddwch yn talu:

Cyfraddau a bandiau Treth sy'n ddyledus
3% ar y £180,000 cyntaf £5,400
6.5% ar y £70,000 nesaf £4,550
8% ar y £10,000 olaf £800
Cyfanswm yr TTT fydd £10,750

Cyfraddau treth eiddo amhreswyl

Mae'r cyfraddau hyn yn berthnasol pan fyddwch chi'n prynu eiddo amhreswyl (rhydd-ddaliad neu lesddaliad) fel:

  • siopau
  • swyddfeydd
  • tir amaethyddol

Bydd y cyfraddau canlynol yn berthnasol i'r gyfran o'r pris rydych chi'n ei dalu ym mhob band.

Trafodiadau â dyddiad dod i rym ar 22 Rhagfyr 2020 neu ar ôl hynny
Trothwy pris Cyfradd TTT
Y gyfran hyd at ac yn cynnwys £225,000 0%
Y gyfran dros £225,000 hyd at ac yn cynnwys £250,000 1%
Y gyfran dros £250,000 hyd at ac yn cynnwys £1,000,000 5%
Y gyfran dros £1,000,000 6%
Trafodiadau â dyddiad dod i rym rhwng 1 Ebrill 2018 a 21 Rhagfyr 2020
Trothwy'r  pris Cyfradd TTT
Y gyfran hyd at a chan gynnwys £150,000 0%
Y gyfran dros £150,000 hyd at a chan gynnwys £250,000 1%
Y gyfran dros £250,000 hyd at a chan gynnwys £1,000,000 5%
Y gyfran dros £1,000,000 6%

Rhent eiddo amhreswyl

Os ydych yn talu rhent hefyd ar les a roddir, gallai rheolau fod yn gymwys sy'n dileu'r trothwy o 0% (gweler y tabl uchod), gelwir hyn yn rheol ‘rhent perthnasol’. Newidiodd trothwy’r rhent perthnasol ym mis Chwefror 2021.

Ar gyfer unrhyw drafodiad a gwblhawyd:

  • cyn 4 Chwefror 2021, y trothwy rhent perthnasol yw £9,000
  • ar neu ar ôl 4 Chwefror 2021, y trothwy rhent perthnasol yw £13,500

Gweler ein canllawiau technegol ar lesoedd am fwy o wybodaeth ynglŷn ag a yw’r rheol hon yn berthnasol i chi.

Gallai'r rhent dros dymor les sydd newydd gael ei rhoi fod yn agored i TTT ac fe'i cyfrifir ar ei werth cyfredol net (NPV).

Gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell dreth i gyfrifo'r swm rhent rydych chi'n talu treth arno.

Pan fydd treth yn daladwy ar renti sy'n ddyledus o dan dymor les, mae'r cyfraddau canlynol yn gymwys.

Trafodiadau â dyddiad dod i rym ar 22 Rhagfyr 2020 neu ar ôl hynny
Trothwy Gwerth Net Presennol (NPV) Cyfradd TTT
Y gyfran hyd at ac yn cynnwys £225,000 0%
Y gyfran dros £225,000 hyd at ac yn cynnwys £2,000,000 1%
Y gyfran dros £2,000,000 2%
Trafodiadau â dyddiad dod i rym rhwng 1 Ebrill 2018 a 21 Rhagfyr 2020
Trothwy NPV Cufradd TTT
Y gyfran hyd at a chan gynnwys £150,000 0%
Y gyfran dros £150,000 hyd at a chan gynnwys £2,000,000 1%
Y gyfran dros £2,000,000 2%

Enghraifft

Os rhoddir les newydd ichi ar swyddfa ag NPV o £170,000 byddwch yn talu:

Cyfraddau a bandiau Treth sy’n ddyledus
0% ar y £150,000 cyntaf £0
1% ar y £20,000 olaf £200
Cyfanswm yr TTT fydd £200