Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r canllawiau hyn yn adlewyrchu’r darpariaethau yn Rhan 3 o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

DTTT/3010 Cyfraddau treth

(adran 24)

Mae modd gweld cyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer trafodiadau tir sy’n dod i rym (neu y tybir eu bod yn dod i rym) ar 1 Ebrill 2018 ar gyfer:

  • trafodiadau eiddo preswyl
  • trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch
  • trafodiadau amhreswyl
  • rhenti

i'w gweld ar ein tudalen cyfraddau a bandiau.

DTTT/3020 Y dreth sydd i’w chodi

(adran 27)

Ar gyfer trafodiadau nad ydynt yn gysylltiedig â thrafodiadau tir eraill sy’n ddarostyngedig i’r Dreth Trafodiadau Tir, sefydlir y rhwymedigaeth fel hyn:

  • Cam 1 – ar gyfer pob band treth sy’n berthnasol, lluosi swm y gydnabyddiaeth drethadwy sy’n dod o fewn y band hwnnw â chanran y gyfradd sy’n berthnasol ar gyfer y band hwnnw 
  • Cam 2 – cyfrifo swm y gwahanol symiau sy’n deillio o gam 1. Y cyfanswm yw swm y dreth sydd i’w chodi ar gyfer y trafodiad tir.

Mae gan ACC gyfrifiannell yn y mae modd i drethdalwyr ei defnyddio i gyfrifo’u rhwymedigaeth. Sylwch y bydd y gyfrifiannell yn pennu’r rhwymedigaeth ar sail yr wybodaeth a roddir. Pan fydd angen defnyddio gwahanol ddulliau cyfrifo ar gyfer gwahanol reolau, nid oes modd defnyddio’r gyfrifiannell.

Enghraifft 1

Mae Ms A yn prynu ei heiddo preswyl cyntaf. Mae'n costio £120,000. Y rhwymedigaeth ar gyfer treth yw:

£120,000 x 0% = £0

Mae hyn yn seiliedig ar y bandiau treth perthnasol hyn:

£0 - £225,000 0%

Enghraifft 2

Mae Mr B yn prynu ei eiddo preswyl cyntaf. Mae'n costio £350,000. Y rhwymedigaeth ar gyfer treth yw:

  • £225,000 x 0% = £0
  • £125,000 x 6% = £7,500
  • £350,000 = £7,500

Mae hyn yn seiliedig ar y bandiau treth perthnasol hyn:

£0 - £225,000 0%
£225,001 - £400,000 6%

Enghraifft 3

Mae Ms C yn prynu ei heiddo preswyl cyntaf. Mae'n costio £1,700,000. Y rhwymedigaeth ar gyfer treth yw:

  • £225,000 x 0% = 0
  • £175,000 x 6% = £10,500
  • £350,000 x 7.5% = £26,250
  • £750,000 x 10% = £75,000
  • £200,000 x 12% = £24,000
  • £1,700,000 = £135,750

Mae hyn yn seiliedig ar y bandiau treth hyn:

£0 - £225,000 0%
£225,001 - £400,000 6%
£400,001 - £750,000 7.5%
£750,001 - £1,500,000 10%
£1,500,001 onwards 12%

Enghraifft 4

Mae Ms E yn berchen ar ei phrif gartref ac mae ganddi bortffolio bychan o eiddo y mae’n eu prynu i’w gosod. Mae hi’n prynu eiddo preswyl sy’n costio £130,000 i ychwanegu at y portffolio hwnnw. Mae’n rhaid defnyddio'r cyfraddau uwch ar gyfer eiddo preswyl i asesu’r trafodiad hwn. Y rhwymedigaeth ar gyfer treth yw:

£130,000 x 4% £5,200

Mae hyn yn seiliedig ar y bandiau treth perthnasol hyn:

£0 - £180,000 4%

Enghraifft 5

Mae Mr F yn berchen ar ei brif gartref ac mae ganddo bortffolio bychan o eiddo y mae’n eu prynu i’w gosod. Mae’n prynu eiddo preswyl sy’n costio £330,000 i ychwanegu at y portffolio hwnnw. Mae’n rhaid defnyddio'r cyfraddau uwch ar gyfer eiddo preswyl i asesu’r trafodiad hwn. Y rhwymedigaeth ar gyfer treth yw:

£180,000 x 4% £7,200
£70,000 x 7.5% £5,250
£80,000 x 9% £7,200

£330,000 £19,650

Mae hyn yn seiliedig ar y bandiau treth perthnasol hyn:

£0 - £180,000 4%
£180,001 - £250,000 7.5%
£250,001 - £400,000 9%

Enghraifft 6

Mae Mr D yn berchen ar ei brif gartref ac mae ganddo bortffolio bychan o eiddo y mae’n eu prynu i’w gwerthu. Mae’n prynu eiddo preswyl sy’n costio £36,500. Gan nad yw’r trafodiad hwn yn hysbysadwy am fod y gydnabyddiaeth o dan £40,000, nid oes angen iddo ddychwelyd ffurflen dreth, ac felly nid oes angen talu treth.

Enghraifft 7

Mae Y Cyf yn caffael eiddo amhreswyl rhydd-ddaliadol sy’n costio £300,000. Y rhwymedigaeth yw:

£225,000 x 0% £0
£25,000 x 1% £250
£50,000 x 5% £2,750

£330,000 £3,500

Mae hyn yn seiliedig ar y bandiau treth perthnasol hyn:

£0 - £225,000 0%
£225,001 - £250,000 1%
£250,001 - £1,000,000 5%

Enghraifft 8

Mae W Cyf yn caffael les ar gyfer eiddo amhreswyl wedi i’r cyn berchennog ei aseinio i’r cwmni. Telir premiwm o £3,500,000. Y rhwymedigaeth yw:

£225,000 x 0% £0
£25,000 x 1% £250
£750,000 x 5% £37,500
£2,500,000 x 6% £150,000

£330,000 £187,750

Mae hyn yn seiliedig ar y bandiau treth perthnasol hyn:

Hyd at £225,000 x 0% 0%
£225,001 - £250,000 1%
£250,001 - £1,000,000 5%
£1,000,001 ac uwch 6%

DTTT/3030 Y dreth sydd i'w chodi – trafodiadau cysylltiol

(adran 28)

Pan fydd trafodiad yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol, dyma’r dull a ddefnyddir i gyfrifo swm y dreth:

  • Cam 1 – cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi ar gyfanswm y gydnabyddiaeth a roddir ar gyfer yr holl drafodiadau cysylltiol. Mae hyn yn golygu ymdrin â’r trafodiadau cysylltiol fel petaent yn un trafodiad
  • Cam 2 – pennu’r ffracsiwn sy’n berthnasol i’r trafodiad presennol. Gwneir hyn drwy rannu’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad hwnnw â chyfanswm y gydnabyddiaeth ar gyfer yr holl drafodiadau cysylltiol
  • Cam 3 – lluosi’r dreth sydd i’w chodi (a bennwyd yn ystod cam 1) â’r ffracsiwn sy’n cael ei bennu yn ystod cam 2

‘Cyfanswm y gydnabyddiaeth’ yw cyfanswm yr holl gydnabyddiaeth a delir am yr holl drafodiadau cysylltiol.

Mae’n bosibl y bydd angen ffurflen dreth neu ffurflen dreth ychwanegol mewn perthynas â’r trafodiadau cysylltiol cynharach gan fod y gwaith cyfrifo’n berthnasol i bob trafodiad cysylltiol (gan gynnwys y rheini sydd wedi cael eu trethu’n barod), bob tro y mae trafodiad cysylltiol arall.

Mae Enghraifft 2 (isod) yn esbonio sut i gyfrifo trafodiadau cysylltiol lle bu newid mewn cyfraddau a bandiau rhwng y trafodiadau. Mae'r enghraifft yn defnyddio'r cyfraddau amhreswyl, ond dylid dilyn yr un fethodoleg ar gyfer pob set arall o gyfraddau a bandiau. 

Enghraifft 1

Mae A Cyf yn prynu eiddo amhreswyl sy’n costio £500,000 ar 1 Mehefin 2018. Dilynir hyn gan ddau drafodiad cysylltiol arall, a’r ddau ar gyfer eiddo amhreswyl. Dyddiad dod i rym yr ail drafodiad yw 1 Awst 2020 a rhoddir cydnabyddiaeth o £350,000. Dyddiad dod i rym y trydydd trafodiad yw 1 Tachwedd 200 a rhoddir cydnabyddiaeth o £1,100,000. At ddibenion yr enghraifft hon, nid oes unrhyw newidiadau i’r cyfraddau treth na’r bandiau treth yn ystod y cyfnod hwn. Ni fu unrhyw newidiadau i gyfraddau amhreswyl yn ystod y cyfnod hwn.

Trafodiad 1

Mae’r trafodiad cyntaf yn arwain at rwymedigaeth o £13,500 ar gyfer treth. Mae’n rhaid llenwi ffurflen dreth a thalu’r dreth ar gyfer y trafodiad hwn, erbyn 1 Gorffennaf 2018. 

Trafodiad 2

Gan fod y trafodiad cyntaf a’r ail yn drafodiadau cysylltiol, mae rheolau cyfrifo trafodiadau cysylltiol (fel y gwelir isod) yn cael eu cymhwyso ar gyfer y ddau drafodiad. Cyfanswm y gydnabyddiaeth yw £850,000 (trafodiad 1 - £500,000 + trafodiad 2 - £350,000) a’r rhwymedigaeth ar gyfer treth ar sail cyfanswm y gydnabyddiaeth yw £31,000 (cam 1). Y ffracsiwn ar gyfer yr ail drafodiad yw 7/17 (350,000/850,000) a’r ffracsiwn ar gyfer y trafodiad cyntaf yw 10/17 (500,000/850,000) (cam 2). Felly, y dreth sy’n ddyledus ar gyfer yr ail drafodiad yw £12,764.71 (£31,000 x 7/17). Y dreth sy’n ddyledus ar gyfer y trafodiad cyntaf yw £18,235.29 (cam 3). Mae’n rhaid i A Cyf gyflwyno ffurflen dreth a thalu’r dreth (£12,764.71), ar gyfer yr ail drafodiad erbyn 31 Awst 2020. Rhaid i A Cyf ddychwelyd ffurflen dreth ychwanegol ar gyfer y trafodiad cyntaf a thalu’r dreth, wedi tynnu unrhyw dreth a dalwyd yn barod, erbyn 31 Awst 2020. Y dreth sy’n ddyledus ar y trafodiad nawr yw £18,235.29, wedi tynnu’r £13,500 sydd wedi’i dalu’n barod, felly dim ond £4,735.29 sydd angen ei dalu ar y ffurflen dreth ychwanegol mewn perthynas â’r trafodiad cyntaf.

Trafodiad 3

Mae’r trydydd trafodiad yn gysylltiedig â thrafodion 1 a 2. Felly cymhwysir y rheolau cyfrifo ar gyfer trafodiadau cysylltiol (fel y gwelir isod) ar gyfer pob un o’r trafodiadau hyn eto. Cyfanswm y gydnabyddiaeth ar gyfer y 3 trafodiad yw £1,950,000 (trafodiad 1 - £500,000 + trafodiad 2 - £350,000 + trafodiad 3 - £1,100,000), a’r rhwymedigaeth ar gyfer treth ar sail cyfanswm y gydnabyddiaeth yw £95,500 (cam 1). Y ffracsiwn ar gyfer y trydydd trafodiad yw 22/39 (1,100,000/1,950,000), (500,000/1,950,000) a 10/39 ar gyfer yr ail drafodiad (500,000/1,950,000), a 7/39 ar gyfer y trafodiad cyntaf (350,000/1,950,000) (cam 2). Y dreth sy’n ddyledus ar gyfer y trydydd trafodiad yw £53,871.79 (£95,500 x 22/39), ar gyfer yr ail drafodiad - £24,487.17 (£95,500 x 10/39), ac ar gyfer y trafodiad cyntaf - £17,141.02 (£95,500 x 7/39).

Rhaid i A Cyf ddychwelyd ffurflen dreth a thalu’r dreth ar gyfer y trydydd trafodiad erbyn 1 Rhagfyr 2020. Hefyd, rhaid i A Cyf ddychwelyd 2 ffurflen dreth ychwanegol ar gyfer y trafodiad cyntaf a’r ail. O ran y trafodiad cyntaf, rhaid i A Cyf ddychwelyd ffurflen dreth a thalu’r dreth erbyn 1 Rhagfyr 2020. Y dreth sy’n ddyledus ar y trafodiad hwnnw nawr yw £24,487.18. Ond, gan fod £18,235.29 (£13,500 + £4,735.29) wedi’i dalu’n barod, dim ond £6,251.89 sydd i’w dalu. Rhaid i A Cyf ddychwelyd ffurflen dreth ar gyfer yr ail drafodiad hefyd. Rhaid i A Cyf ddychwelyd ffurflen dreth a thalu’r dreth erbyn 1 Rhagfyr 2020. Y dreth sy’n ddyledus ar y trafodiad hwnnw nawr yw £17,141.03. Ond, gan fod £12,764.71 wedi’i dalu’n barod, dim ond £4,376.32 sydd i’w dalu.

Enghraifft 2

Yn yr enghraifft hon bu newid yn y cyfraddau rhwng yr adeg y digwyddodd trafodiadau 1 a 2 a’r adeg digwyddodd trafodiad 3. Ymrwymodd B Cyf i dri thrafodiad ar wahân, ond cysylltiol ar gyfer eiddo rhydd-ddaliadol amhreswyl. Manylir ar y dyddiadau, a'r gydnabyddiaeth ar gyfer pob trafodiad yn y tabl isod:

Trafodiad Dyddiad Cydnabyddiaeth
Trafodiad 1 01/11/2020 £100,000
Trafodiad 2 01/12/2020 £500,000
Trafodiad 3 01/01/2021 £700,000

Trafodiad 1

Nid oes atebolrwydd treth o ganlyniad i’r trafodiad cyntaf. Ond mae angen ffurflen dreth ar gyfer y trafodiad hwn. Rhaid ei gwneud erbyn 1 Rhagfyr 2020.

Trafodiad 2

Gan fod y trafodiad cyntaf a'r ail drafodiad yn gysylltiol, mae’r rheolau cyfrifo trafodiadau cysylltiol (fel y dangosir uchod) yn berthnasol i'r ddau drafodiad.

Cyfanswm y gydnabyddiaeth yw £600,000 (trafodiad 1 - £100,000 + trafodiad 2 - £500,000) a'r rhwymedigaeth dreth yn seiliedig ar gyfanswm y gydnabyddiaeth yw £18,500 (cam 1).

Y ffracsiwn ar gyfer yr ail drafodiad yw 5/6 (500,000/600,000) a'r ffracsiwn ar gyfer y trafodiad cyntaf yw 1/6 (100,000/600,000) (cam 2). Y dreth sy'n ddyledus ar gyfer yr ail drafodiad felly yw £15,416.67 (£18,500 x 5/6). Y dreth sy'n ddyledus ar gyfer y trafodiad cyntaf yw £3,083.33 (cam 3). Rhaid i A Cyf anfon ffurflen dreth, a thalu'r dreth (£15,416.67), ar gyfer yr ail drafodiad erbyn 31 Rhagfyr 2020. Rhaid i A Cyf hefyd wneud ffurflen dreth arall ar gyfer y trafodiad cyntaf, a thalu'r dreth o £3,083.33 erbyn 31 Rhagfyr 2021.

Trafodiad 3

Mae'r trydydd trafodiad yn gysylltiedig â thrafodiadau 1 a 2, ac felly mae rheolau cyfrifo trafodiadau cysylltiol (fel y dangosir isod) yn berthnasol i bob un o'r trafodiadau eto. Fodd bynnag, mae'r cyfraddau a’r bandiau wedi newid rhwng trafodiad 2 a thrafodiad 3.

Cyfanswm y gydnabyddiaeth ar gyfer pob un o'r 3 trafodiad yw £1,300,000 (trafodiad 1 - £100,000 + trafodiad 2 - £500,000 + trafodiad 3 - £700,000), a'r rhwymedigaeth dreth yn seiliedig ar gyfanswm y gydnabyddiaeth ar y "cyfraddau a bandiau newydd" yw £55,750 (cam 1).

Y ffracsiwn ar gyfer y trydydd trafodiad yw 7/13 (700,000/1,300,000) (cam 2). Y dreth sy'n ddyledus ar gyfer y trydydd trafodiad yw £30,019.23 (£55,750 x 7/13). (cam 3)

Er mwyn cyfrifo unrhyw dreth ychwanegol sy'n ofynnol ar gyfer trafodiadau 1 a 2 bydd angen i B Cyf gyfrifo cyfanswm y gydnabyddiaeth (£1,300,000) gan ddefnyddio'r "hen gyfraddau a bandiau". Mae hyn yn £56,500. (cam 1)

Y ffracsiwn ar gyfer yr ail drafodiad yw 5/13 (500,000/1,300,000) (cam 2). Y dreth sy'n ddyledus ar gyfer yr ail drafodiad yw £21,730.77 (£56,500 x 5/13). (cam 3)

Y ffracsiwn ar gyfer y trafodiad cyntaf yw 1/13 (100,000/1,300,000) (cam 2). Y dreth sy'n ddyledus ar gyfer y trafodiad cyntaf yw £4,346.15 (£56,500 x 1/13). (cam 3)

Rhaid i B Cyf anfon ffurflen dreth, a thalu'r dreth, am y trydydd trafodiad erbyn 31 Ionawr 2021. Rhaid i A Cyf hefyd wneud 2 ffurflen dreth arall ar gyfer y trafodiad cyntaf a'r ail drafodiad. Mewn perthynas â'r trafodiad cyntaf rhaid i A Cyf wneud ffurflen dreth a thalu'r dreth, erbyn 31 Ionawr 2021. Y dreth sy'n ddyledus ar y trafodiad hwnnw bellach yw £4,346.15, fodd bynnag, gan fod £3,083.33 eisoes wedi’i dalu dim ond £1,262.82 sydd angen ei dalu. Rhaid i B Cyf hefyd wneud ffurflen dreth arall ar gyfer yr ail drafodiad. Y dreth sy'n ddyledus ar y trafodiad hwnnw bellach yw £21,730.77, fodd bynnag, gan fod £15,416.67 eisoes wedi’i dalu dim ond £6,314.10 sydd angen ei dalu.

DTTT/3040 Newidiadau i fandiau treth a chyfraddau treth

(adran 24)

Daw cyfraddau a bandiau treth i rym o 1 Ebrill 2018 ymlaen ar gyfer yr holl drafodiadau y mae’r Dreth Trafodiadau Tir yn berthnasol iddynt. Gall Gweinidogion Cymru gyflwyno newidiadau ar ôl hynny, drwy lunio rheoliadau sy’n cynnwys y newidiadau. Bydd y rheoliadau’n effeithiol unwaith y byddant yn cael eu rhoi gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd y cyfraddau a’r bandiau’n dod yn effeithiol ar unwaith, ond cyfraddau a bandiau dros dro fydd y rhain nes bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi’u cymeradwyo (a rhaid i hynny ddigwydd cyn pen 28 diwrnod (Cynulliad) i roi'r rheoliadau gerbron).

DTTT/3041 Darpariaethau trosiannol ar gyfer newid Hydref 2022 i’r prif gyfraddau preswyl

Diwygiodd Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygiad) 2022 y cyfraddau ar gyfer pryniannau sy’n ddarostyngedig i’r prif gyfraddau preswyl yng Nghymru. Daethant i rym ar 10 Hydref 2022.

1. Cymhwyso cyfraddau newydd

Rheoliad 3

Bydd trafodiadau prif gyfraddau preswyl sydd â dyddiad dod i rym ar neu ar ôl 10 Hydref 2022 yn ddarostyngedig i'r prif gyfraddau preswyl yn nhabl 1 o Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygiad) 2022 ('Rheoliadau 2022').

Gweler y dudalen cyfraddau a bandiau ar gyfer cyfraddau cyfredol a blaenorol TTT.

2. Darpariaethau trosiannol

Rheoliad 4

Ni fydd Rheoliadau 2022 mewn grym (a bydd y cyfraddau cyn 10 Hydref 2022 yn berthnasol) ar gyfer unrhyw drafodiad pan fo:

  • contractau wedi'u cyfnewid ac mae’r trafodiad wedi’i gwblhau cyn 10 Hydref 2022.
  • contractau wedi’u cyfnewid cyn 10 Hydref 2022 ond nad yw’r trafodiad wedi’i gwblhau tan neu ar ôl 10 Hydref 2022 a bod dewis yn cael ei wneud i drethu’r trafodiad ar y cyfraddau sy’n dod i rym cyn 10 Hydref 2022 (fel yr eglurir isod)

2.1 Dewis cymhwyso darpariaethau trosiannol

Rheoliad 6

Pan fo’r prif gyfraddau preswyl cyn 10 Hydref 2022 yn gymwys o dan Reoliad 4, mae’n bosibl o dan Reoliad 6 dewis bod y cyfraddau hyn yn gymwys. Pan na wneir dewisiad, bydd y prif gyfraddau preswyl sy’n dod i rym o 10 Hydref 2022 yn berthnasol.

Gellir gwneud y dewisiad o dan 2 amgylchiad.

  1. Pan fo contractau wedi’u cyfnewid cyn 10 Hydref 2022 a bod y contract wedi’i gyflawni’n sylweddol cyn y dyddiad hwnnw (cyfeiriwch at TTTD/2150 am ragor o wybodaeth am gyflawni’n sylweddol).
  2. Pan fo contractau wedi’u cyfnewid cyn 10 Hydref 2022, a bod y contract wedi’i gwblhau ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw. Caniateir i’r dewisiad hwn gael ei wneud ar yr amod nad oes unrhyw ddigwyddiad ar neu ar ôl 10 Hydref 2022, o’r math a restrir yn Rheoliad 5, sy’n golygu bod effaith y contract ar gwblhau yn wahanol i effaith y contract pan ymrwymwyd iddo gyntaf.

Rhaid gwneud y dewis hwn o dan Reoliad 6:

  • mewn ffurflen Treth Trafodiadau Tir (TTT), neu
  • mewn diwygiad i ffurflen dreth o'r fath

Dim ond lle na fydd yn arwain at godi mwy o dreth o ganlyniad i ddefnyddio’r cyfraddau cyn 10 Hydref 2022 y gellir gwneud dewisiad.

Mae canllawiau pellach ar gwblhau'r ffurflen dreth TTT a chyfrifiad LTT ar gael yn y canllawiau ar gyfer llenwi ffurflen Treth Trafodiadau Tir.

2.2 Eithriadau i'r darpariaethau trosiannol

Rheoliad 5

Bydd trafodiadau lle cafodd contractau eu cyfnewid cyn 10 Hydref 2022 ond a gwblhawyd ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, yn ddarostyngedig i'r prif gyfraddau preswyl sydd mewn grym o 10 Hydref 2020 os bydd unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • bod unrhyw amrywiad i'r contract, neu aseiniad hawliau o dan y contract, ar neu ar ôl 10 Hydref 2022
  • bod y trafodiad yn cael ei effeithio o ganlyniad i'r ymarfer ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw o unrhyw opsiwn, hawl rhagbrynu neu hawl debyg
  • ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw y ceir aseiniad, iswerthiant neu drafodiad arall sy'n ymwneud â chyfanrwydd neu ran o bwnc y contract o ganlyniad i'r ffaith bod person heblaw'r prynwr o dan y contract yn datblygu’r hawl i alw am drosglwyddiad

Ar gyfer trafodiadau cysylltiol

Pan fo trafodiad yn ddarostyngedig i'r prif gyfraddau preswyl yn gysylltiedig â thrafodiad arall yn ddarostyngedig i gyfraddau blaenorol y prif gyfraddau preswyl, dilynwch esiampl 2 yn DTTT/3030 er mwyn cyfrifo swm y dreth sy'n daladwy.

DTTT/3050 Newidiadau i fandiau treth a chyfraddau treth – rheoliadau’n peidio â chael effaith

(adran 26)

Os bydd y rheoliadau’n peidio â chael effaith oherwydd nad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi pleidleisio ar y rheoliadau, neu wedi pleidleisio i’w gwrthod, ymdrinnir â’r rheoliadau fel ‘rheoliadau a wrthodir’. Bydd y rheoliadau a wrthodir wedi bod mewn grym am gyfnod a elwir yn ‘gyfnod interim’. Y cyfnod interim yw’r cyfnod o’r dyddiad y daeth y rheoliadau a wrthodir i rym ac sy’n dod i ben ar y dyddiad y mae’r rheoliadau’n peidio â chael effaith.

Os bydd y dyddiad y mae trafodiad yn cael effaith o fewn y cyfnod interim, y cyfraddau a oedd yn dod o dan y rheoliadau a wrthodir sy’n gymwys i'r trafodiad. Mae 3 eithriad i’r rheol honno. Os bydd un o’r eithriadau’n gymwys, y cyfraddau a’r bandiau sy’n gymwys yw’r rhai a fyddai wedi bod mewn grym pe na bai’r rheoliadau a wrthodir wedi’u gwneud.

Eithriad 1

Os oes rhaid i’r prynwr ddychwelyd ffurflen dreth sy’n cynnwys dyddiad ffeilio sydd yn y cyfnod interim, ac nad yw’n dychwelyd y ffurflen honno cyn diwedd y cyfnod interim. 

Eithriad 2

Os oes rhaid i’r prynwr ddychwelyd ffurflen dreth am y tro cyntaf am drafodiad trethadwy yn un o’r amgylchiadau hyn:

  • dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth pan fydd cydnabyddiaeth yn dod i ben neu pan fydd cydnabyddiaeth yn cael ei chanfod
  • ffurflen dreth o ganlyniad i drafodiad cysylltiol diweddarach
  • ffurflen dreth o ganlyniad i les yn parhau ar ôl cyfnod penodol neu am gyfnod amhenodol
  • ffurflen dreth yn ofynnol o ganlyniad i ddyddiad ailystyried les

Eithriad 3

Os bydd y prynwr yn hawlio ad-daliad o dan S63A TCMA, ymdrinnir â’r hawliad hwnnw fel diwygiad i’r ffurflen dreth, ac mae ffurflen dreth ychwanegol yn ofynnol oherwydd: 

  • un o’r rhesymau yn eithriad 2
  • mae ffurflen dreth ychwanegol yn ofynnol yn sgil tynnu rhyddhad yn ôl
  • ffurflen dreth ar gyfer trafodiad cyfradd uwch.

DTTT/3060 Cyfrifo’r dreth – darpariaethau rhyddhad sy’n effeithio ar y dull cyfrifo

(adran 29)

Mae’r rhyddhadau canlynol yn effeithio ar y dull o gyfrifo’r dreth sy’n ddyledus:

  • rhyddhad ar gyfer caffaeliadau sy’n ymwneud ag anheddau lluosog
  • rhyddhad ar gyfer trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan bersonau sy’n arfer hawliau ar y cyd
  • rhyddhad caffael

DTTT/3070 Rhyddhadau

(adran 30)

Mae’r rhyddhadau sydd ar gael naill ai’n rhyddhadau llawn sy’n arwain at ryddhau’r holl dreth sy’n daladwy ar y trafodiad, neu’n rhyddhad rhannol pan na fydd rhywfaint o’r gydnabyddiaeth a roddir yn cael ei rhyddhau, gan gynnwys rhai pan fydd y dull cyfrifo’n amrywio. Mewn rhai achosion, fel rhyddhad i elusennau, gall fod naill ai’n rhyddhad llwyr neu’n rhyddhad rhannol. Wrth hawlio rhyddhad, mae’n bwysig bod y trethdalwr yn dewis y rhyddhad cywir, ac os yw’n bosibl i’r rhyddhad hwnnw fod yn llwyr neu’n rhannol, ei fod yn dewis yr opsiwn cywir.

Rhaid hawlio pob rhyddhad, ac eithrio rhyddhad lluoedd arfog sy’n ymweld a rhyddhad pencadlysoedd milwrol rhyngwladol, ar y ffurflen dreth gyntaf a ddychwelir mewn perthynas â’r trafodiad hwnnw neu mewn diwygiad i'r ffurflen honno. Os na fydd y trethdalwr yn cadw at y cyfnod a ganiateir ar gyfer diwygio’r ffurflen dreth gyntaf, bydd hynny’n golygu na fydd yn gallu gwneud cais i gael cymhwyso’r rhyddhad.

O ran rhyddhad lluoedd arfog sy’n ymweld a rhyddhad pencadlysoedd milwrol rhyngwladol, mae’n bosibl cyflwyno’r hawliad yn y ffurflen dreth ar gyfer y trafodiad tir hwnnw, neu mewn diwygiad i'r ffurflen honno, neu drwy hawlio ad-daliad am unrhyw dreth a ordalwyd. Nid yw’r cyfyngiad amser ar gyfer cyflwyno hawliad o’r fath yn berthnasol i hawlio ad-daliad.

Mae’r rhyddhadau wedi’u cynnwys yn atodlenni 9 i 22 DTTT ac maent yn darparu ar gyfer:

  • Rhyddhad gwerthu ac adlesu
  • Rhyddhad cyllid eiddo arall
  • Rhyddhad ar gyfer bondiau cyllid arall
  • Rhyddhad ar gyfer ymgorffori partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig
  • Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau sy’n ymwneud ag anheddau lluosog
  • Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau penodol o anheddau
  • Rhyddhad ar gyfer trafodiadau penodol sy’n ymwneud â thai cymdeithasol
  • Rhyddhad grŵp
  • Rhyddhad atgyfansoddi a rhyddhad caffael
  • Rhyddhad elusennau
  • Rhyddhad i gwmnïau buddsoddi penagored
  • Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau gan gyrff cyhoeddus a chyrff iechyd
  • Rhyddhad prynu gorfodol a rhyddhad rhwymedigaethau cynllunio
  • Rhyddhadau amrywiol

DTTT/3080 Rhyddhad: gwrthweithio osgoi trethi – y rheol wedi’i thargedu yn erbyn osgoi trethi

(adran 31)

Mae unrhyw hawliad am ryddhad yn ddarostyngedig i reol wedi’i thargedu yn erbyn osgoi trethi (‘TAAR’). Mae’r TAAR yn gweithredu fel na all y trethdalwr hawlio rhyddhad pan fydd y trafodiad yn ‘drefniant osgoi talu trethi’ neu’n rhan o drefniant o’r fath. Mae trefniant yn drefniant osgoi talu trethi pan mai cael ‘mantais drethiannol’ ar gyfer unrhyw berson yw’r prif ddiben, neu un o’r prif ddibenion, pam y mae rhywun yn ymrwymo i’r trefniant, ac nad oes sylwedd economaidd na masnachol dilys i’r trefniant (ac eithrio cael
mantais drethiannol).

Mae ‘trefniadau’ yn cynnwys unrhyw drafodiad, unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb, unrhyw ddealltwriaeth, unrhyw addewid, neu unrhyw gyfres o drefniadau o’r fath.

Diffinnir ‘mantais drethiannol’ yn fras fel hyn:

  • hawlio rhyddhad treth neu gynnydd mewn rhyddhad rhag treth
  • ad-dalu treth neu gynnydd mewn ad-daliad treth
  • osgoi neu leihau swm y codir treth arno, a
  • gohirio talu treth neu ddwyn ymlaen ad-daliad treth

Bwriedir i’r TAAR fod yn gymwys i achosion pan fydd rhyddhad yn cael ei hawlio mewn amgylchiadau lle nad yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu rhoi’r rhyddhad hwnnw. Felly, mewn sefyllfaoedd lle mae trafodiad yn cael ei drefnu mewn modd sy’n cydymffurfio â’r arfer cyffredinol, a phan fydd y trethdalwr yn hawlio rhyddhad fel y bwriedir, yna ni fydd yr hawliad hwnnw’n dod o fewn cwmpas y rheol hon yn erbyn osgoi trethi. Fodd bynnag, pan fydd trefniadau ychwanegol yn cael eu gwneud neu gamau ychwanegol yn cael eu cymryd er mwyn creu sefyllfa lle bodlonir yr amodau i hawlio rhyddhad yn unig, bydd yr hawliad yn dod o dan y darpariaethau hyn ac ni ddylai gael ei gyflwyno.

Yn y pen draw, bydd a oes gan drefniant brif ddiben economaidd neu fasnachol dilys yn dibynnu ar ffeithiau’r trafodiad. Er enghraifft, ni ddylai’r TAAR wahardd elusen rhag hawlio rhyddhad pan fydd yn caffael eiddo at ddibenion elusennol (er enghraifft, i ddarparu cartref i bobl sy’n bodloni dibenion elusennol yr elusen) oherwydd, er efallai nad oes rheswm masnachol dros gaffael yr eiddo, mae diben economaidd gan fod yr elusen wedi cyfnewid arian parod am ased ffisegol - yr eiddo - y bydd yn ei ddefnyddio i ddatblygu ei ddibenion elusennol.

Mae ‘treth’ at ddibenion yr adran hon yn fwy eang na Threth Trafodiadau Tir yn unig, ac mae’n cynnwys rhai trethi a osodir ar lefel y DU hefyd (yn benodol - treth incwm, treth gorfforaeth, treth enillion cyfalaf, treth dir y dreth stamp, treth gadw y dreth stamp neu’r dreth stamp). Bydd hyn yn sicrhau pan ymrwymir i drafodiad tir yng Nghymru (y byddai rhyddhad ar ei gyfer yn dderbyniol fel arall) nad oes modd hawlio rhyddhad rhag y Dreth Trafodiadau Tir os yw’r trafodiad tir yn rhan o drefniadau i osgoi’r dreth arall honno, neu drethi eraill. Ni fydd gwahardd hawlio rhyddhad o dan y Dreth Trafodiadau Tir yn yr amgylchiadau hyn, yn lleihau effaith unrhyw gamau y gall CThEM eu cymryd i adennill y dreth sydd heb ei datganoli sydd wedi’i hosgoi.

Enghraifft 1

Rhyddhad gwerthu ac adlesu a rhyddhad grŵp: Nid yw’r TAAR yn gymwys.

Mae rhyddhad gwerthu ac adlesu yn darparu na fydd unrhyw Dreth Trafodiadau Tir yn cael ei chodi ar unrhyw bremiwm sy’n daladwy nac ar y rhent sy’n daladwy o dan y les a roddir i’r gwerthwr gan y prynwr. Diben y rhyddhad hwn yw sicrhau nad oes Treth Trafodiadau Tir yn cael ei chodi ar yr hyn sydd, yn ei hanfod, yn drafodiad cyllid - mae’r gwerthwr yn cael cyfandaliad ac yn talu ‘llog’ ar ffurf rhent i’r prynwr.

Fodd bynnag, pan fydd y les yn dod i ben, bydd y prynwr wedi caffael rhydd-ddaliad dilyffethair neu fuddiant lesddaliadol felly mae’n briodol i Dreth Trafodiadau Tir barhau i fod yn ddyledus ar y pris prynu a dalwyd i'r gwerthwr.

Un o’r gofynion ar gyfer rhyddhad gwerthu ac adlesu yw mai’r gwerthwyr yw’r sawl sy’n cael y les hefyd (gweler paragraff 2(b) Atodlen 9 LTTA).

Mae A Cyf yn dymuno ymrwymo i drefniant gwerthu ac adlesu gyda thrydydd parti sydd heb gysylltiad â nhw (Y Cyf) ond mae’n dymuno i’r les gael ei rhoi i is-gwmni A Cyf (B Cyf). Mae rhesymau masnachol cadarn pam y dylai B Cyf fod yn berchen ar y les yn hytrach nag A Cyf.

Pe bai A Cyf yn gwerthu’r eiddo i Y Cyf ac yn ei gwneud yn ofynnol i Y Cyf roi’r les i B Cyf, ni fyddai amodau’r rhyddhad gwerthu ac adlesu wedi’u bodloni gan nad oedd y les wedi cael ei rhoi i’r gwerthwr yn ystod cam gwerthu’r trefniadau.

Gallai A Cyf naill ai:

  • aseinio neu drosglwyddo’r eiddo i B Cyf i ddechrau; byddai B Cyf yn rhoi dyledeb i A Cyf, yn gydnabyddiaeth am y trosglwyddiad hwnnw; yna byddai B Cyf yn gwerthu’r eiddo i Y Cyf; byddai Y Cyf yn rhoi’r les yn ôl i B Cyf; ac yn y man, bydd B Cyf yn talu’r ddyledeb naill ai o’i gronfeydd ei hun neu drwy ddefnyddio’r arian a dalwyd gan Y Cyf i B Cyf, neu 
  • ymrwymo i'r gwerthu a’r adlesu yn y ffordd arferol, fel bod y les yn cael ei rhoi i A Cyf gan Y Cyf; a bod A Cyf wedyn yn trosglwyddo neu’n aseinio’r les ar unwaith i B Cyf

Ar gyfer y naill drefniant neu’r llall, byddai’r gydnabyddiaeth yn seiliedig ar werth marchnadol yr eiddo a drosglwyddir gan A Cyf i B Cyf, gan fod y trafodiad yn un rhwng partïon cysylltiedig.

Yn yr opsiwn cyntaf, bydd B Cyf yn hawlio rhyddhad grŵp fel nad oes unrhyw Dreth Trafodiadau Tir yn cael ei thalu wrth i A Cyf aseinio neu drosglwyddo’r eiddo iddo a bydd B Cyf yn hawlio’r rhyddhad gwerthu ac adlesu (er mwyn i Y Cyf dalu Treth Trafodiadau Tir ar y pris prynu ac fel nad yw B Cyf yn talu Treth Trafodiadau Tir ar y premiwm na’r rhent sy’n ddyledus o dan yr adles).

Yn yr ail opsiwn, bydd A Cyf yn hawlio rhyddhad gwerthu ac adlesu gan fod yr amodau wedi cael eu bodloni a bydd B Cyf yn hawlio rhyddhad grŵp ar yr aseiniad fel na fyddai unrhyw Dreth Trafodiadau Tir yn daladwy ar unrhyw gydnabyddiaeth yr oedd B Cyf yn ei thalu (neu a oedd yn cael ei thrin fel cydnabyddiaeth a oedd yn cael ei thalu gan adran 22 LTTA) i A Cyf. Bydd Y Cyf yn dal i dalu ar y gydnabyddiaeth y mae’n ei rhoi am y gwerthu yn y trefniant gwerthu ac adlesu.
 
Wrth edrych ar y trefniadau i gyd, A Cyf oedd yn berchen ar yr eiddo, ond mae’r adles yn cael ei rhoi gan Y Cyf i B Cyf. Fodd bynnag, er na fyddai wedi bod yn bosibl hawlio rhyddhad yn sgil y trafodiadau hyn, a bod trefniadau wedi’u gwneud i sicrhau bod modd cael rhyddhad, nid yw’r trefniadau hyn yn drefniadau osgoi trethi. Mae hyn oherwydd bod sylwedd economaidd neu fasnachol dilys i’r trefniadau.

Bwriad rhyddhad grŵp, o fewn cyfyngiadau, yw atal codi tâl o dan y Dreth Trafodiadau Tir pan fydd ased yn parhau i fod o fewn grŵp. Felly, byddai trosglwyddo’r eiddo cyn gwerthu ac adlesu, neu aseinio’r les ar ôl adlesu, yn gyson â’r egwyddorion a’r polisi sydd y tu ôl i’r ddeddfwriaeth - bydd yr ased yn parhau o fewn y grŵp, ac mae treth yn cael ei thalu ar yr ased pan fydd yn gadael y grŵp. Mewn sefyllfa gwerthu ac adlesu, dylai’r prynwr (Y Cyf) dalu swm o Dreth Trafodiadau Tir, ond mae’r elfen adlesu’n cael ei rhyddhau rhag talu treth. Yn yr un modd, gellir hawlio rhyddhad grŵp pan fodlonir yr amodau perthnasol pan fydd trosglwyddo’n digwydd rhwng cwmnïau grŵp. Yn yr achos hwn, mae’r unig rwymedigaeth ar gyfer treth sy’n codi ar gyfer y prynwr (Y Cyf) yn parhau, ac nid yw A Cyf na B Cyf wedi cael mantais drethiannol nad yw wedi’i bwriadu ar eu cyfer.

Ar sail y ffeithiau hyn, nid oes unrhyw arwydd bod unrhyw rai o’r camau wedi cael eu cymryd yn llwyr neu’n bennaf er mwyn cael mantais drethiannol. Mae’r dilyniant o drafodiadau’n rhan o’r trefniadau cyllido arferol ac, yn yr achos hwn, mae rhesymau masnachol dilys pam bod y grŵp angen i B Cyf ddal yr ased yn hytrach nag A Cyf. Mae’r grŵp wedi cyfuno dau ryddhad mewn ffordd gyfreithlon, sy’n arwain at godi'r trethi a fwriadwyd.

Enghraifft 2

Rhyddhad grŵp: Nid yw’r TAAR yn gymwys

Enghreifftiau o drefniadau neu drafodiadau a fydd, ar sail y ffeithiau moel, yn nodi ac nid yn gwahardd hawlio rhyddhad. Mae’r enghreifftiau hefyd yn tybio nad yw’r trafodiadau a ddisgrifir yn rhan o unrhyw gynllun neu drefniant mwy a allai arwain at ganlyniadau treth:

  • trosglwyddo eiddo i gwmni grŵp, gan gofio am y posibilrwydd y gellid gwerthu cyfranddaliadau yn y cwmni dros 3 blynedd ar ôl y dyddiad trosglwyddo (gellid adennill y rhyddhad a all godi petai’r cyfranddaliad yn cael ei werthu)
  • trosglwyddo eiddo i gwmni grŵp cyn gwerthu cyfranddaliadau yn y cwmni sy’n trosglwyddo, er mwyn i’r eiddo barhau i fod yn y grŵp a pheidio â chael ei drosglwyddo i’r sawl sy’n prynu’r cyfranddaliadau

DTTT/3090 TAAR a rheolau eraill yn erbyn osgoi trethi

Yn ogystal â’r TAAR, mae’r ddeddfwriaeth ar drethi datganoledig yn cynnwys darpariaethau eraill yn erbyn osgoi trethi. Y mwyaf arwyddocaol yw’r Rheol Gyffredinol yn Erbyn Osgoi Trethi (‘GAAR’).

Cynlluniwyd y GAAR i weithio yn erbyn manteision treth sy'n codi o ganlyniad i'r trefniadau osgoi treth artiffisial a ddefnyddiwyd gan y trethdalwr.

Mae'r GAAR yn annibynnol ar y rheolau eraill yn erbyn osgoi trethi, a gellid ei ddefnyddio i herio trefniant artiffisial, a ddefnyddiwyd mewn gwirionedd i fanteisio ar ddiffyg, neu ddiffyg canfyddedig, yn y rheolau eraill yn erbyn osgoi trethi.

Er y gall dadleuon lluosog fod yn seiliedig ar feysydd eraill y ddeddfwriaeth dreth ddatganoledig, gall yr Awdurdod Cyllid ddewis defnyddio her GAAR yn unig. Ni chaiff trethdalwr wrthwynebu defnyddio’r GAAR oherwydd nad yw dulliau eraill sydd ar gael i'r Awdurdod Cyllid i herio'r trefniant artiffisial wedi cael eu defnyddio.

Mae arweiniad llawn am y GAAR ar gael yn TCMA/8000.