Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein hon i hawlio'r Dreth Trafodiadau Tir (TTT) a dalwyd ar y gyfradd uwch yn ôl gan eich bod bellach wedi gwerthu eich prif breswylfa flaenorol.

Gallwch wneud cais am ad-daliad TTT os:

  • mai chi yw prynwr yr eiddo y codwyd y gyfradd uwch arno
  • mai chi yw’r cyfreithiwr neu'r trawsgludydd a weithredodd dros y prynwr yn y pryniant gwreiddiol (cyn belled â’ch bod yn dal i weithredu ar eu rhan)
  • eich bod yn rhywun arall sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu ar ran y prynwr

Mae'n rhaid eich bod wedi gwerthu eich prif breswylfa flaenorol o fewn 3 blynedd i brynu'r eiddo newydd er mwyn bod yn gymwys i gael ad-daliad.

Fel arfer mae'n cymryd 15 i 20 diwrnod gwaith i brosesu'ch cais. Gall hyn gymryd mwy o amser os bydd angen mwy o wybodaeth arnom.

Cyn i chi ddechrau

Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi'i chwblhau'n rhannol, felly gwnewch yn siŵr bod y wybodaeth ganlynol gennych chi cyn i chi ddechrau. Efallai y bydd angen i chi ofyn i'ch cyfreithiwr neu'ch trawsgludydd.

Manylion y trafodiad gwreiddiol

Bydd angen i chi ddarparu'r canlynol:

  • Cyfeirnod Unigryw Trafodiad (UTRN) 12 digid oddi ar eich ffurflen dreth
  • dyddiad dod i rym y trafodiad (y diwrnod y gwnaethoch gwblhau pryniant yr eiddo fel arfer)
  • cyfeiriad a chod post y brif breswylfa flaenorol
  • manylion am y prynwr, gan gynnwys:
    • enw llawn
    • dyddiad geni
    • os oedd unrhyw brynwyr eraill (ac a ydynt yn briod)

Swm yr ad-daliad a gyfrifwyd

Fel arfer dyma'r swm a dalwyd gennych ar y cyfraddau minws y swm a fyddai wedi bod yn ddyledus ar y prif gyfraddau.

Gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell dreth i’ch helpu i weithio hyn allan.

Defnyddiwch y dyddiad pan brynoch eich tŷ newydd er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn defnyddio'r cyfraddau cywir.

Enghraifft 1

  • Rydych yn prynu eiddo am £250,000 ar 1 Gorffennaf 2021, y dyddiad dod i rym.
  • Ar gyfraddau uwch, gwnaethoch dalu £12,450.
  • Ar y prif gyfraddau byddech wedi talu £2,450.
  • £12,450 - £2,450 = £10,000 o ad-daliad i'w hawlio.

Enghraifft 2

  • Rydych yn prynu eiddo am £180,000 ar 3 Mai 2021, y dyddiad dod i rym.
  • Ar gyfraddau uwch, gwnaethoch dalu £7,200.
  • Ar y prif gyfraddau byddech wedi talu £0.
  • £7,200 - £0 = £7,200 o ad-daliad i'w hawlio.

Tystiolaeth eich bod wedi gwerthu eich prif breswylfa flaenorol

Bydd angen i chi ddarparu copi electronig i'w uwchlwytho yn ystod eich cais am ad-daliad, sy’n dangos bod eich prif breswylfa flaenorol wedi’i gwerthu.

Os oedd yr eiddo yng Nghymru neu’n Lloegr, bydd arnom angen copi wedi'i lofnodi a'i ddyddio o un o'r canlynol:

  • ffurflen trosglwyddo eiddo (TR1)
  • ffurflen trosglwyddo rhan o eiddo (TP1)
  • contract gwerthu

Os nad oedd yr eiddo yng Nghymru nac yn Lloegr, bydd angen datganiad cwblhau arnom yn lle hynny, yn dangos:

  • y cyfanswm oedd yn ddyledus ar ôl cwblhau'r trafodiad
  • sut y cafodd y cyfanswm ei greu

Ni allwn dderbyn:

  • TR1 neu TP1 sy'n ymwneud â'ch prif breswylfa Newydd
  • TR1 neu TP1 heb lofnod ar gyfer eich prif breswylfa flaenorol
  • tystysgrif Treth Trafodiadau Tir

Manylion banc

Bydd angen i chi wybod a wnaethoch dalu'r dreth o'ch cyfrif banc chi neu o gyfrif rhywun arall, megis eich cyfreithiwr.

A rhowch fanylion y person sydd i dderbyn yr ad-daliad, gan gynnwys:

  • enw deiliad y cyfrif
  • rhif y cyfrif
  • cod didoli

Gwneud cais am ad-daliad

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Gweler ein polisi preifatrwydd ynglŷn â sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni.

Cymorth

Os oes angen help arnoch neu os hoffech gael y ffurflen hon mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.