Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar gyfraddau uwch y Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer prynu eiddo preswyl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynnwys

Rhowch adborth i ni ar y canllawiau hyn

Er mwyn ein helpu i wella'r canllawiau hyn, rhowch adborth i ni (mae’n cymryd 30 eiliad).

DTTT/8001 Canllawiau trawsnewidiol ar gyfer y newid i gyfraddau uwch, Rhagfyr 2020

Diwygiodd Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygiad) 2020 y cyfraddau ar gyfer pryniannau sy’n ddarostyngedig i gyfraddau uwch yng Nghymru. Daeth y rheoliadau i rym ar 22 Rhagfyr 2020.

1. Cymhwyso'r cyfraddau newydd 

Rheoliadau 3(1) a 5(1)

Bydd trafodiadau cyfraddau uwch sydd â dyddiad dod i rym ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2020 yn ddarostyngedig i'r cyfraddau uwch yn nhabl 1 o Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygiad) 2020 ('Rheoliadau 2020').

Gweler ein tudalen cyfraddau a bandiau ar gyfer cyfraddau uwch TTT cyfredol a hanesyddol.

2. Darpariaethau trawsnewidiol

Rheoliadau 4(1) a (2)

Ni fydd Rheoliadau 2020 mewn grym (a bydd y cyfraddau cyn 22 Rhagfyr yn berthnasol) mewn perthynas ag unrhyw drafodiad pan fo:

  • contractau wedi'u cyfnewid a’r trafodiad wedi’i gwblhau cyn 22 Rhagfyr 2020
  • contractau wedi'u cyfnewid cyn 22 Rhagfyr 2020 ond nad yw’r trafodiad wedi’i gwblhau tan ar ôl 22 Rhagfyr 2020 (oni bai ei fod wedi ei eithrio gan unrhyw un o'r amgylchiadau yn Rheoliad 4(3) o Reoliadau 2020, gweler isod yn 2.1)

Enghraifft 1

Mae Mrs A yn prynu eiddo prynu-i-osod fel buddsoddiad. Mae'n cyfnewid contractau gyda'r gwerthwr ac yn cwblhau ar 21 Rhagfyr 2020.

Bydd y pryniant yn ddarostyngedig i'r cyfraddau uwch hanesyddol oedd mewn grym cyn 22 Rhagfyr 2020.

Enghraifft 2

Mae ABC Cyf yn prynu 2 fyngalo i'w hadnewyddu. Mae'r contract gyda'r gwerthwr yn cael ei gyfnewid ar 12 Rhagfyr 2020 ac mae'r pryniant yn cael ei gwblhau ar 28 Rhagfyr 2020.

Bydd y pryniant yn ddarostyngedig i'r cyfraddau uwch hanesyddol oedd mewn grym cyn 22 Rhagfyr gan nad oes yr un o'r eithriadau yn adran 2.1 isod yn berthnasol.

2.1 Eithriadau i'r darpariaethau trawsnewidiol

Rheoliad 4(3)

Bydd trafodiadau lle cafodd contractau eu cyfnewid cyn 22 Rhagfyr 2020 ond a gwblhawyd ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw yn ddarostyngedig i'r cyfraddau uwch sydd mewn grym o 22 Rhagfyr 2020 os bydd unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • bod unrhyw amrywiad i'r contract, neu aseiniad hawliau o dan y contract, ar neu ar ôl 22 Rhagfyr 2020
  • bod y trafodiad yn cael ei effeithio o ganlyniad i'r ymarfer ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw o unrhyw opsiwn, hawl rhagbrynu neu hawl debyg
  • ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw y ceir aseiniad, iswerthiant neu drafodiad arall sy'n ymwneud â chyfanrwyd neu ran o bwnc y contract o ganlyniad i'r ffaith bod person heblaw'r prynwr o dan y contract yn datblygu’r hawl i alw am drawsgludiad

Enghraifft 1

Mae Mr a Mrs E yn prynu eiddo prynu-i-osod fel buddsoddiad. Maent wedi cyfnewid contractau ar 11 Rhagfyr 2020. Maent yn amrywio'r contract ar 23 Rhagfyr 2020 gyda'r gwerthwr i gynnwys llain o dir gerllaw’r eiddo am £100,000 ychwanegol ac yn cwblhau'r trafodiad ar 11 Ionawr 2021.

Bydd y pryniant yn ddarostyngedig i’r cyfraddau uwch hanesyddol oedd mewn grym cyn 22 Rhagfyr 2020.

Enghraifft 2

Mae XYZ Cyf wrthi'n prynu bloc o fflatiau. Maent yn prynu'r fflatiau oddi wrth Mr F. Mae XYZ Cyf am werthu’r fflatiau ymlaen mewn iswerthiant i LMN Cyf. Mae XYZ Cyf yn cyfnewid contractau gyda Mr F ar 21 Rhagfyr 2020 ac yn cwblhau ar 30 Rhagfyr 2020. Mae iswerthiant y fflatiau’n cael ei gwblhau ar 31 Rhagfyr 2020.

Bydd y trafodiad hwn yn ddarostyngedig i'r cyfraddau uwch sydd mewn grym o 22 Rhagfyr 2020. 

Pan fo trafodiad sy'n ddarostyngedig i'r cyfraddau uwch yn gysylltiedig â thrafodiad arall a oedd yn ddarostyngedig i gyfraddau blaenorol y cyfraddau uwch, dylech ddilyn esiampl 2 yn DTTT/3030 er mwyn cyfrifo swm y dreth sy'n daladwy.

DTTT/8000 Cyfraddau Uwch ar gyfer prynu eiddo preswyl

(Atodlen 5 DTTT)

Mae'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â chyfraddau uwch ar gyfer prynu eiddo preswyl yn Atodlen 5 DTTT 2017.

Mae'r cyfraddau treth uwch a godir yn cael eu nodi yn y rheoliadau sydd wedi'u gwneud gan Lywodraeth Cymru a'u cymeradwyo gan Senedd Cymru.

Mae’r cyfraddau sydd mewn grym o 22 Rhagfyr 2020 ymlaen i'w gweld isod.

DTTT/8010 Trafodiadau y mae’r gyfradd uwch yn gymwys iddynt

Bydd y cyfraddau uwch yn berthnasol pan fydd trethdalwr, ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag eraill, yn prynu prif fuddiant mewn un anheddau neu ragor, a bod yr amodau perthnasol yn cael eu bodloni a dim un o'r eithriadau'n gymwys. Os oes dau brynwr neu ragor sy'n unigolion, bydd y cyfraddau uwch yn gymwys os byddant yn gymwys i unrhyw un o'r prynwyr. Bydd rheolau ar wahân yn berthnasol i gaffaeliadau os na fydd y prynwr, neu un o'r prynwyr, yn unigolyn.

DTTT/8020 Amodau'r cyfraddau uwch ar gyfer unigolion

(paragraffau 3, 11 ac 20 Atodlen 5)

Mae cyfraddau uwch yn berthnasol i drafodiad yn unol ag amodau penodedig. Mae'r amodau hyn yn amrywio yn ôl a yw'r prynwr yn unigolyn sy'n prynu annedd sengl, unigolyn sy'n prynu 2 annedd neu fwy neu lle nad yw'r prynwr yn unigolyn (e.e. cwmni).

Unigolion sy'n prynu un annedd

Pan fydd y prynwr, neu un o’r prynwyr, yn unigolyn sy'n prynu un annedd, dyma'r amodau:

  • bod y prynwr, neu'r prynwyr, i gyd yn unigolion
  • bod prif destun y trafodiad yn brif fuddiant mewn annedd
  • bod y gydnabyddiaeth drethadwy a roddir ar gyfer y prif fuddiant hwnnw yn £40,000 neu ragor
  • bod gan y prynwr, neu un o'r prynwyr, neu eu priod neu bartner sifil maen nhw’n byw gyda nhw, brif fuddiant mewn annedd arall ar ddiwedd y dydd ar y dyddiad y bydd y trafodiad yn cael effaith (yn cynnwys prif fuddiant a brynwyd ar gyfer plentyn dan oed), a
  • bod i'r buddiant yn yr annedd arall honno, ar y dyddiad y bydd caffael y prif fuddiant yn yr annedd newydd yn cael effaith, werth marchnadol o £40,000 neu ragor
  • nad yw'r buddiant a gaffaelir yn ddarostyngedig i les â mwy na 21 o flynyddoedd yn weddill arni i rywun nad yw'n gysylltiedig â'r prynwr

Unigolion sy'n prynu 2 annedd neu fwy

Pan fo'r prynwr, neu bob un o’r prynwyr, yn unigolyn sy’n prynu dau neu ragor o anheddau, dyma’r amodau:

  • bod y prynwr, neu'r prynwyr, i gyd yn unigolion
  • bod prif destun y trafodiad yn cynnwys prif fuddiannau mewn dwy annedd neu ragor a bod o leiaf ddwy o'r anheddau a brynwyd yn bodloni'r amodau uchod
  • bod y gydnabyddiaeth drethadwy a roddwyd ar sail deg a rhesymol ar gyfer y prif fuddiant yn yr annedd a brynwyd yn £40,000 neu ragor

Enghraifft 1

Mae Miss A yn prynu annedd rydd-ddaliad sy'n costio £200,000. Nid yw'n berchen ar yr un annedd arall. Ni fydd yn gorfod talu'r cyfraddau uwch ar y trafodiad ond bydd yn atebol am dalu'r prif gyfraddau ar ei chaffaeliad.

Enghraifft 2

Mae Mr B yn gwerthu ei gartref presennol ac yn prynu ei gartref newydd sy'n costio £200,000. Gan mai dim ond un annedd y mae'n berchen arni, ni fydd yn gorfod talu'r cyfraddau uwch ar y trafodiad. Bydd yn atebol am dalu'r prif gyfraddau ar y caffaeliad.

Enghraifft 3

Mae Mr a Mrs D yn byw mewn eiddo sydd ym mherchnogaeth lwyr Mr D; nid oes gan Mrs D unrhyw fuddiant yn yr eiddo hwn. Mae Mrs D yn penderfynu prynu eiddo, yn ei henw hi yn unig, ac ni fydd gan Mr D unrhyw fuddiant yn yr eiddo hwnnw. Oherwydd bod gan Mr D brif fuddiant mewn eiddo arall, pan fydd Mrs D yn prynu’r ail eiddo, bydd cyfraddau uwch i'w talu.

DTTT/8021 Amodau'r cyfraddau uwch ar gyfer y rhai nad ydynt yn unigolion (amodau ar gyfer cwmnïau)

Pan:

  • nad yw'r prynwr, neu un o'r prynwyr, yn unigolyn, ac
  • mai prif destun y trafodiad yw prif fuddiant mewn annedd, neu brif fuddiannau mewn dwy annedd neu ragor, ac
  • mae’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y prif fuddiant hwnnw yn £40,000 neu’n fwy (gall y rheol gwerth marchnadol tybiedig fod yn gymwys - gweler DTTT/2460 am ragor o fanylion)

bydd y trafodiad yn ddarostyngedig i gyfraddau uwch.

Enghraifft

Nid yw C Cyf yn berchen ar ddim buddiannau mewn eiddo preswyl. Mae'n caffael annedd rydd-ddaliad sy'n costio £60,000. Mae'n gorfod talu'r cyfraddau uwch ar y caffaeliad hwnnw, oherwydd codir y cyfraddau uwch ar unrhyw annedd a brynir gan gwmni.

DTTT/8030 Prif fuddiant

Mae Atodlen 5 i'r DTTT yn dweud mai trafodiad cyfraddau uwch yw trafodiad lle bydd prif destun y trafodiad yn cynnwys prif fuddiant mewn annedd.

Yn ei dro, diffinnir prif fuddiant (yn adran 68) fel ystad mewn ffi syml absoliwt (rhydd-ddaliad) neu gyfnod o flynyddoedd absoliwt (lesddaliad), pa un a yw'n bodoli mewn cyfraith neu mewn ecwiti (er bod lesoedd a roddir am gyfnod o lai na 7 mlynedd yn esempt).

Lle y cedwir tir yng Nghymru, bydd y buddiant cyfreithiol yn y tir yn cael ei wahanu oddi wrth y buddiant llesiannol, a elwir hefyd yn fuddiant economaidd yr eiddo.

Er mwyn bod yn drafodiad eiddo preswyl ar gyfraddau uwch, mae is-baragraffau 3(2), 11(2) a 20(1) o Atodlen 5 yn dweud ei bod yn rhaid i brif destun y trafodiad hwnnw gynnwys prif fuddiant. Ni fyddai pob trafodiad sy'n cynnwys trosglwyddo buddiant llesiannol mewn eiddo preswyl yn drafodiad, lle bydd prif destun y trafodiad hwnnw'n brif fuddiant (ac eithrio fel y dywedir yn y Ddeddf at ddibenion y Ddeddf).

Mae'r rhan fwyaf helaeth o'r trafodiadau sy'n ymwneud ag anheddau preswyl yn debygol o gynnwys trosglwyddo'r buddiannau cyfreithiol a llesiannol. Serch hynny, mae'r berchnogaeth gyfreithiol ar wahân i'r berchnogaeth lesiannol ac ni fydd y perchennog neu'r perchnogion cyfreithiol o anghenraid yr un fath â'r perchennog neu'r perchnogion llesiannol.

Y perchennog cyfreithiol sy'n dal y buddiant llesiannol yn yr eiddo ar ymddiriedaeth ar ran y perchennog llesiannol. Bydd gan y perchennog llesiannol yr hawl i'r incwm o'r eiddo neu i gyfran ohono, a hawl i'r elw neu i ran o'r elw os gwerthir ef. Felly, yn y buddiant llesiannol y mae'r gwerth.

Os bydd eiddo’n cael ei brynu yn enw mwy nag un, mae hynny’n golygu bod tir ar ymddiriedaeth (‘trust of land’). Mewn achosion o'r fath, bydd y prynwyr yn dal yr ystad gyfreithiol fel tenantiaid ar y cyd ac yn dal y buddiant llesiannol yn yr eiddo naill ai fel cyd-denantiaid neu denantiaid ar y cyd.

Bydd gan gyd-denantiaid yr hawl i gyfran gyfartal o'r eiddo. Un o brif nodweddion cyd-denantiaeth yw'r hawl goroesi sy'n golygu pan fydd un cyd-berchennog yn marw, y bydd buddiant y cyd-berchennog hwnnw yn yr eiddo'n trosglwyddo o dan y gyfraith i'r cydberchennog sy'n ei oroesi.

Bydd tenantiaid ar y cyd yn dal yr eiddo naill ai mewn cyfrannau cyfartal neu anghyfartal a elwir yn gyfrannau anrhanedig. Ceir trosglwyddo cyfran anrhanedig i drydydd parti. Gall trafodiad sy'n trosglwyddo cyfran anrhanedig hefyd gynnwys newid perchnogaeth yr ystad gyfreithiol, neu fe allai fod yn berthnasol i'r buddiant llesiannol yn unig.

Oherwydd ei bod yn bosibl i fuddiannau llesiannol gael eu trosglwyddo ar wahân i'r buddiant cyfreithiol, bwriad y polisi yw bod trafodiadau sy'n cynnwys trosglwyddiadau o'r fath yn dod o dan y darpariaethau cyfraddau uwch, os bydd yr amodau eraill yn cael eu bodloni.

Eiddo mewn cyd-berchnogaeth

(Paragraffau 5(3)-(6) a 15(3)-(6))

Os bydd trafodiad yn bodloni'r amrywiol amodau a nodir yn Atodlen 5, trafodiad cyfraddau uwch fydd hwnnw. Un o'r amodau hyn yw bod gan brynwr sy'n unigolyn brif fuddiant eisoes mewn annedd arall. Mae paragraffau 5 a 15 o Atodlen 5 yn cyfeirio at sefyllfa lle bydd gan y prynwr brif fuddiant mewn annedd arall, a bod gwerth marchnadol y buddiant hwnnw yn £40,000 neu ragor. Efallai y bydd y prynwr yn gyd-berchennog ar yr eiddo hwnnw.

Mae hyn yn golygu, wrth asesu a yw'r amod hwn yn cael ei fodloni, bod gwerth marchnadol y buddiant yn yr eiddo arall yn cael ei seilio ar fuddiant llesiannol unigol y prynwr (fel cyfran o gyfanswm gwerth yr annedd) yn hytrach na'i seilio ar y prif fuddiant yn ei gyfanrwydd.

Os bydd y prynwr yn briod neu mewn partneriaeth sifil, bydd ei fuddiant yn cael ei gyfuno â buddiant ei gymar neu ei bartner sifil i asesu a yw wedi cyrraedd y trothwy £40,000 neu beidio, heblaw bod y cwpwl bellach yn byw ar wahân (yn unol â diffiniad paragraff 25(3) o Atodlen 5 DTTT) ar y dyddiad y bydd y trafodiad dan sylw'n cael effaith.

Darpariaethau tybio

(paragraff 29)

Mae’r darpariaethau tybio ym mharagraffau 27 a 28 o Atodlen 5 i DTTT yn gymwys mewn perthynas â setliadau penodol sy'n rhoi'r hawl i'r buddiolwr feddiannu'r annedd am oes neu hawl i incwm a enillir mewn cysylltiad â'r eiddo, a hefyd mewn cysylltiad ag ymddiriedolaethau noeth sy'n cynnwys lesddaliadau.

Effaith y darpariaethau tybio hyn yw mai'r buddiolwr yn hytrach na'r ymddiriedolwr sy'n cael ei drin fel y prynwr (neu'r sawl sy'n dal neu'n gwaredu buddiant mewn annedd). Mae'r darpariaethau tybio hyn yn golygu bod angen edrych drwy'r ymddiriedolaeth (boed honno'n ymddiriedolaeth noeth neu'n fath penodol o ymddiriedolaeth ar gyfer setliad y cyfeiriwyd ato yn y paragraff uchod) er mwyn i'r buddiolwr benderfynu a yw'r cyfraddau uwch yn gymwys. Mae hyn yn sicrhau mai'r person cywir sy'n atebol am y dreth (h.y. y person sy'n cael y buddiant economaidd yn sgil yr eiddo).

Nod y rheolau hyn yw ei gwneud yn hollol glir y bydd trafodiadau preswyl sy'n cynnwys y mathau o fuddiant llesiannol a grybwyllir uchod yn dod o dan y darpariaethau cyfraddau uwch, hyd yn oed pan na fydd perchnogion yr ystad gyfreithiol yn newid.

Mae'r rheolau hyn yn trin testun y math hwnnw o drafodiad fel petai'n cynnwys prif fuddiant, lle y tybir bod y gwerthwr, yn union cyn y trafodiad, yn berchen ar brif fuddiant yn rhinwedd y darpariaethau tybio, ac y tybir, yn yr un modd, fod y prynwr, yn union ar ôl y trafodiad, yn berchen ar y prif fuddiant.

Bydd hyn yn golygu, er enghraifft, os bydd rhywun yn caffael cyfran anrhanedig yn unig mewn annedd (o dan drefniant tenantiaid ar y cyd), ond bod y perchnogion cyfreithiol a'r tenantiaid ar y cyd eraill yn cadw eu budd hwy yn yr annedd, yna, y caiff y caffaeliad ei drin o hyd fel petai rhywun wedi caffael prif fuddiant. Bydd y cyfraddau uwch yn berthnasol (a bwrw bod yr amodau eraill yn cael eu bodloni).

Enghraifft 1

Mae Mr A yn berchen ar nifer o anheddau prynu-i'w-gosod ar y cyd â Mr B. Mr A yw perchennog cyfreithiol yr eiddo ac Mae Mr A a Mr B yn berchen ar y buddiant llesiannol fel tenantiaid ar y cyd (mewn cyfrannau cyfartal). Mae Mr B yn awyddus i gael gwared ar ei fuddiant mewn un o'r anheddau (anheddiad Y) ac mae Ms C yn barod i brynu'r 50% o fuddiant llesiannol yn yr annedd (am £50,000). Mae Ms C eisoes yn berchen ar nifer o anheddau prynu-i'w-gosod a phob un â gwerth marchnadol sy'n fwy na £40,000 ar y dyddiad y bydd buddiant llesiannol Mr B yn anheddiad Y yn cael effaith. Ni fydd perchnogaeth gyfreithiol annedd Y yn newid a bydd yn aros yn enw Mr A yn unig. Mae Ms C yn atebol am dalu'r cyfraddau uwch wrth gaffael buddiant llesiannol annedd Y oherwydd bod yr holl amodau perthnasol wedi'u bodloni ac y tybir bod Ms C yn berchen ar brif fuddiant yn yr annedd ar ôl iddi gaffael ei buddiant yn yr annedd a ddelir fel tenant ar y cyd.

Les a roddwyd yn wreiddiol am gyfnod o lai na 7 mlynedd yw'r buddiant a gaffaelwyd

(paragraff 37 Atodlen 5) 

Nid yw ystad ar lesddaliad sydd â llai na saith mlynedd yn weddill arni ar y dyddiad y'i rhoddwyd yn cael ei hystyried yn brif fuddiant, at ddibenion rhoi cyfraddau uwch TTT ar waith.

Mae'r prif fuddiant a gaffaelwyd yn ddarostyngedig i les

(paragraffau 3, 13 ac 20 Atodlen 5)

Ni chodir y cyfraddau uwch ar brif fuddiant mewn annedd os bydd y buddiant a gaffaelir yn ddarostyngedig i les sydd â chyfnod o fwy na 21 mlynedd yn weddill arni, ac nad yw'r les yn cael ei dal gan neb sy'n gysylltiedig â phrynwr y buddiant sy'n rifersiwn ar y les. Bydd y ffeithiau sy'n berthnasol i'r les yn cael eu hystyried ar ddiwedd y dydd ar y dyddiad y bydd caffael y buddiant sy'n rifersiwn ar y les yn cael effaith.

DTTT/8040 Sut mae penderfynu faint yw gwerth buddiant llesiannol mewn annedd arall

(paragraffau 5, a 15 Atodlen 5)

Mae'r rheolau ar gyfer penderfynu a yw buddiant llesiannol mewn annedd arall yn werth £40,000 neu ragor, yn amrywio, a dibynnu a yw'r buddiant llesiannol yn yr annedd yn eiddo i gyd-denantiaid, ynteu i denantiaid ar y cyd.

Bydd buddiannau pâr priod, neu rai sydd mewn partneriaeth sifil, boed y rheini'n gyd-denantiaid ynteu'n denantiaid ar y cyd, yn cael eu cyfuno i bennu gwerth y buddiant llesiannol yn yr annedd arall heblaw eu bod yn byw ar wahân ar y dyddiad pan fydd y trafodiad a ystyrir ar gyfer atebolrwydd am dalu cyfraddau uwch yn cael effaith.

Ar gyfer cyd-denantiaid, rhennir gwerth marchnadol yr annedd sydd yn eu perchnogaeth eisoes, ar ddyddiad caffael yr annedd newydd, â nifer y cyd-denantiaid.

Enghraifft 1

Mae Mr A yn prynu eiddo prynu-i'w-osod am £100,000. Mae eisoes yn berchen ar ei brif gartref gyda'i bartner (dibriod) fel cyd-denantiaid. Gwerth marchnadol y cartref hwnnw yw £250,000. Buddiant Mr A yn y cartref yw £125,000 (£250,000/2). Mae'n atebol am dalu'r cyfraddau uwch ar y pryniant. 

Enghraifft 2

Dynes sengl yw Miss B, ac mae hi'n prynu ei chartref cyntaf sy’n costio £100,000. Mae ei nain a'i thaid wedi gadael tŷ iddi hi ac i'w saith o wyrion eraill a ddefnyddir yn dŷ gwyliau gan y teulu. Yr wyrion biau'r tŷ gwyliau fel cyd-denantiaid. Ei werth marchnadol yw £200,000. Buddiant llesiannol Miss B yn y tŷ gwyliau yw £25,000 (£200,000/8). Gan fod ei buddiant yn y tŷ gwyliau'n werth llai na £40,000, nid yw'n atebol am dalu'r cyfraddau uwch wrth gaffael ei phrif gartref a bydd yn cael ei hasesu ar sail y prif gyfraddau a bandiau.

Enghraifft 3

Mae Ms C mewn partneriaeth sifil â Ms D. Mae Ms C yn prynu eiddo prynu-i'w-osod am £60,000. Mae eisoes yn berchen ar ei phrif gartref gyda'i phartner sifil fel cyd-denantiaid. Gwerth marchnadol y cartref hwnnw yw £75,000. Buddiant Ms C yn y cartref yw £75,000. Y rheswm dros hyn yw bod buddiant ei phartner sifil yn cael ei drin fel ei buddiant hi at ddibenion penderfynu ynglŷn ag atebolrwydd am dalu'r cyfraddau uwch. Felly, mae'n atebol am dalu'r cyfraddau uwch ar y pryniant. Pe na byddai'r ddwy fenyw mewn partneriaeth sifil, yna, buddiant llesiannol Ms C yn ei chartref presennol fyddai £37,500 (£75,000/2) ac ni fyddai wedi bod yn atebol am dalu'r cyfraddau uwch wrth brynu ei heiddo prynu-i'w-osod.

Tenantiaid ar y cyd

Ar gyfer tenantiaid ar y cyd, bydd gwerth marchnadol yr annedd y maent yn berchen arno eisoes, ar ddyddiad caffael yr annedd newydd, yn cael ei luosi â chanran y buddiant y bydd gan y prynwr yr hawl iddi.

Enghraifft 1

Mae Mr A yn prynu eiddo prynu-i'w-osod am £100,000. Mae eisoes yn berchen ar ei brif gartref gyda'i bartner (dibriod) fel tenantiaid ar y cyd ac mae Mr A yn berchen ar 40% o'r buddiant llesiannol yn y cartref. Gwerth marchnadol y cartref hwnnw yw £250,000. Buddiant Mr A yn y cartref yw £100,000 (£250,000 x 40%). Mae'n atebol am dalu'r cyfraddau uwch ar y pryniant.

Enghraifft 2

Mae Miss B yn prynu ei chartref cyntaf sy'n costio £150,000. Mae ganddi fuddiant ar y cyd â dau ffrind, fel tenantiaid y cyd sy'n berchen ar gyfrannau cyfartal, mewn fflat a brynwyd yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol. Nid yw'r tri ffrind wedi byw yn y fflat ers pum mlynedd, ac mae'n cael ei gosod i fyfyrwyr. Gwerth marchnadol y fflat yw £140,000. Buddiant llesiannol Miss B yn y fflat yw £46,620 (£140,000 x 33.3%). Oherwydd bod ei buddiant yn y fflat yn werth £40,000 neu ragor, bydd caffael ei phrif annedd yn golygu ei bod yn atebol am dalu cyfraddau uwch TTT.

DTTT/8050 Diffinio annedd at ddibenion cyfraddau uwch

(paragraffau 35 a 36 Atodlen 5)

Annedd i ddibenion DTTT yw eiddo preswyl sy’n un annedd. Mae annedd yn cynnwys anheddau yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn y byd. Os na fydd yr annedd yng Nghymru nac yn Lloegr yna, ystyrir bod nifer o gysyniadau cyfraith tir sy'n bodoli yng nghyfraith Cymru a Lloegr yn cyfateb i'r rheini yn y gwledydd eraill hynny.

Yn yr un modd, bydd y rheolau sy'n berthnasol i anheddau ym mherchnogaeth neu ar ran plentyn y tu allan i Gymru, yn berthnasol yn yr un modd ag y byddant yng Nghymru, gan gynnwys wrth ystyried yr hyn sy'n cyfateb i ddirprwyon a benodir gan y llys yn y gwledydd hynny.

Annedd at ddibenion y cyfraddau uwch yw adeilad neu ran o adeilad sydd:

  • yn cael ei ddefnyddio neu'n addas i'w ddefnyddio'n annedd, neu
  • wrthi'n cael ei adeiladu neu'n cael ei addasu i'w ddefnyddio'n annedd (a fydd yn cynnwys anheddau a brynir oddi ar gynllun)

Mae adeilad sy'n addas i'w ddefnyddio'n annedd yn fater o ffaith, ac elfen bwysig wrth ystyried hyn fydd a all y preswylwyr fyw'n annibynnol ar y preswylwyr sy'n byw mewn mannau eraill yn yr adeilad, a oes mynediad ar wahân a phreifat i'r ardaloedd a feddiannir ac ati. Mewn tŷ amlfeddiannaeth, bydd diffyg cegin breifat neu ystafell ymolchi breifat yn arwydd bod y tŷ yn ei grynswth yn annedd yn hytrach na bod yr ystafelloedd unigol o fewn y tŷ hwnnw'n anheddau ar wahân.

Bydd annedd at ddibenion y cyfraddau uwch yn cynnwys tai gwyliau ac eiddo wedi'u dodrefnu a osodir ar gyfer gwyliau (gan gynnwys y rheini sy'n cyfyngu ar gyfnodau preswylio ac yn atal yr annedd rhag cael ei meddiannu drwy'r flwyddyn gron, ac eiddo megis cabanau parciau gwyliau).

Mae'r ardd neu'r tir ac unrhyw adeiladau yn yr ardd neu ar y tir yn rhan o'r annedd, i’r graddau y maent yn cael eu hystyried yn eiddo preswyl i ddibenion DTTT, a hefyd bydd y gydnabyddiaeth a roddir i'r rhain yn agored i'r cyfraddau uwch hefyd. Serch hynny, os bydd yr adeiladau yn yr ardd neu ar y tir (neu fflat ar wahân, er enghraifft fflat islawr mewn tŷ) yn anheddau eu hunain hefyd, bydd y prynwr yn caffael mwy nag un annedd yn sgil ei bryniant, a bydd cyfraddau uwch TTT yn daladwy.

Os bydd yr anheddau ychwanegol yn bodloni amodau'r rheolau sy'n berthnasol i is-anheddau, yna ni fydd y cyfraddau uwch yn berthnasol.

Os bydd trethdalwr yn caffael tir preswyl nad yw'n cynnwys annedd (er enghraifft rhan o ardd) yna, ni fydd y cyfraddau uwch yn berthnasol oherwydd, ni fydd y trafodiad yn cynnwys prynu annedd.

Bydd prif destun trafodiad hefyd yn fuddiant mewn annedd (megis pryniant oddi-ar gynllun) os:

  • bydd contract wedi'i gyflawni'n sylweddol
  • bydd y prif destun yn cynnwys buddiant mewn adeilad neu ran o adeilad sy'n cael ei adeiladu neu'n cael ei addasu o dan y contract i'w ddefnyddio'n annedd, ac
  • nad yw'r adeiladu neu'r addasu wedi dechrau erbyn i'r contract gael ei gyflawni'n sylweddol

Os yw'r tir a berchnogir yn dir amhreswyl a bod y trethdalwr yn ceisio, neu wedi cael caniatâd cynllunio i'w droi'n breswylfa, ni chaiff y prif fuddiant yn y tir ei drin fel petai'n fuddiant mewn annedd nes bydd yr adeiladu neu'r addasu'n dechrau mewn gwirionedd. Ni fydd ceisio neu gael caniatâd cynllunio cael ei ystyried yn broses adeiladu neu addasu adeilad i'w ddefnyddio'n annedd. Serch hynny, petai eiddo o'r fath yn cael ei werthu ar ôl dechrau adeiladu neu addasu, a bod amodau eraill cyfraddau uwch TTT yn berthnasol i'r trafodiad, yna, byddai gofyn i'r prynwr dalu cyfraddau uwch TTT ar y caffaeliad.

Nid yw annedd sy'n gymwys ar gyfer cyfraddau uwch TTT yn cynnwys buddiannau a ddelir neu a gaffaelir mewn carafanau, cychod byw a chartrefi symudol.

Wrth ddiffinio eiddo preswyl, bydd TTT yn diffinio adeiladau penodol yn adeiladau preswyl (er enghraifft llety preswyl i blant ysgol) ac yn diffinio adeiladau eraill yn adeiladau nad ydynt yn cael eu defnyddio'n annedd (er enghraifft carchar). At ddibenion rheolau cyfraddau uwch TTT, ni chodir y cyfraddau uwch ar ddim o'r adeiladau a restrir.

DTTT/8060 Eithriadau i'r cyfraddau uwch

Nid yw cyfraddau uwch TTT yn berthnasol i'r canlynol:

  • trafodiadau lle bydd y gydnabyddiaeth a roddir am gaffael y buddiant yn llai na £40,000
  • trafodiadau amhreswyl neu ddefnydd cymysg
  • is-anheddau pan fydd amodau penodol yn cael eu bodloni
  • disodli prif breswylfa pan fydd amodau penodol yn cael eu bodloni
  • buddiannau a gaffaelir yn yr un brif annedd pan fydd yr amodau'n cael eu bodloni
  • cadw buddiannau mewn cartref priodasol blaenorol ar ôl ysgariad neu ddiddymu partneriaeth sifil
  • pryniant gan ddirprwy a benodwyd gan y llys ar ran plentyn o dan oed
  • trafodiadau lle bydd y buddiant a gaffaelir, o dan amgylchiadau penodol, yn ddarostyngedig i les sydd â mwy na 21 o flynyddoedd yn weddill arni i rywun ac eithrio person â chysylltiad

Caiff ACC herio ymdrechion i drefnu'n artiffisial i osgoi talu TTI ar gyfraddau uwch, drwy roi'r Rheol Gyffredinol yn erbyn Osgoi Trethi ar waith.

DTTT/8070 Trafodiadau amhreswyl a chymysg

Os bydd trethdalwr yn caffael prif fuddiant mewn chwech annedd neu ragor drwy un trafodiad, caiff y trethdalwr ddewis ymdrin â'r trafodiad fel trafodiad amhreswyl. Os bydd y trethdalwr yn dewis trin y pryniant fel hyn, yna, defnyddir cyfraddau amhreswyl TTT i gyfrifo atebolrwydd y trethdalwr. Neu, gallai'r trethdalwr drin y trafodiad fel petai'n drafodiad preswyl, ac os gwneir hawliad, gellid rhoi'r rheolau ar gyfer rhyddhad anheddau lluosog ar waith. Os dilynir yr opsiwn hwn, yna defnyddir cyfraddau uwch TTT i gyfrifo'r atebolrwydd.

Os bydd trethdalwr yn gwneud trafodiad defnydd cymysg, er enghraifft, fferm neu siop â fflat uwchben, bydd cyfraddau treth amhreswyl yn berthnasol i'r trafodiad.

Mae'n bwysig nodi, er y gellir trethu caffael yr eiddo ar gyfraddau amhreswyl, nad yw hynny'n golygu bod yr anheddau'n eiddo amhreswyl pan fydd yn rhaid ystyried yr buddiannau mewn anheddau a ddelir gan drethdalwr ar gyfer trafodiadau yn y dyfodol.

Enghraifft

Mae Mr a Mrs A yn prynu siop sglodion â fflat uwch ei phen ar 1 Mehefin 2020. Cyn caffael yr eiddo hwn, nid oeddent yn berchen ar yr un eiddo arall. Trafodiad defnydd-cymysg yw hwn, ac felly y cyfraddau amhreswyl fydd yn berthnasol i'r caffael. Dair blynedd wedyn, mae Mr a Mrs A yn caffael tŷ sy'n costio £150,000 i'w ddefnyddio'n brif fan preswylio. Maent yn dewis gadael y fflat uwchben y siop sglodion (sydd â gwerth marchnadol o £70,000) yn wag. Maent yn atebol am dalu cyfraddau uwch TTT wrth gaffael y tŷ oherwydd bod ganddynt, ar adeg y caffael, brif fuddiant mewn annedd gwerth mwy na £40,000 (y fflat uwch ben y siop sglodion) ac nad ydynt yn prynu man preswylio yn lle eu hunig neu eu prif fan preswylio.

DTTT/8080 Is-anheddau

(paragraff 14 Atodlen 5)

Pan fo:

  • unigolyn, neu grŵp o unigolion yn prynu mwy nag un annedd i gymryd lle eu prif breswylfa, neu
  • unigolyn neu grŵp o unigolion yn prynu mwy nag un annedd ac nid ydynt yn berchen ar unrhyw fuddiannau eraill mewn anheddau

efallai na fydd cyfraddau uwch yn berthnasol i'r trafodiad pan fo’r:

  • annedd neu'r anheddau ychwanegol o fewn yr un adeilad neu ar dir yr annedd arall (y ‘prif annedd’), a
  • bod faint o gydnabyddiaeth a roddwyd, yn seiliedig ar ddosraniad cyfiawn a rhesymol am y prif annedd yn fwy na neu gyfwerth â dwy ran o dair o gyfanswm y gydnabyddiaeth a roddwyd

Gelwir yr anheddau ychwanegol hyn yn is-anheddau. A phan fodlonir yr amodau, mae’r trafodiadau’n elwa o'r eithriad ar gyfer is-annedd a dylid eu trethu ar y prif gyfraddau preswyl.

Yn y rhan fwyaf o achosion, dylai prisiad y prif annedd gynnwys yr ardd a’r tiroedd i gyd, ac unrhyw adeiladau allanol (heb gynnwys yr is-annedd/is-anheddau).

Efallai y bydd achosion lle bydd rhan o’r ardd neu’r tir yn bodoli’n glir er budd yr is-annedd yn unig. Yn yr achosion hyn, ni ddylai’r trethdalwr gynnwys y rhan hwnnw o dir ym mhrisiad y prif annedd

Gall yr eithriad is-anheddau hefyd fod yn berthnasol pan fo mwy nag 1 annedd ychwanegol.

Pan fo:

  • trafodiad yn cynnwys 2 annedd ychwanegol neu fwy sydd o fewn yr un adeilad neu ar dir y prif annedd, a’r;
  • gydnabyddiaeth a roddwyd, yn seiliedig ar ddosraniad cyfiawn a rhesymol am y prif annedd yn fwy na neu’n hafal i ddwy ran o dair o gyfanswm y gydnabyddiaeth a roddwyd

Bydd yr eithriad is-annedd yn berthnasol a dylid trethu'r trafodiadau ar y prif gyfraddau preswyl.

Rhaid i'r is-annedd fod yn annedd ynddo’i hun ar ddyddiad y daw’r trafodiad i rym. Mae hyn yn golygu y dylai allu cynnal rhywun yn byw'n annibynnol ar y prif annedd. Rhaid i’r annedd fod yn breifat ac yn ddiogel.

Er mwyn penderfynu a yw eiddo'n cynnwys un neu fwy o anheddau, dylid cymryd nifer o ffactorau i ystyriaeth. Mae'r ffactorau canlynol yn arwydd o p'un ai yw rhywbeth yn annedd neu'n addas i'w ddefnyddio fel annedd ynddo’i hun. Nid oes un ffactor sy’n gorbwyso’r lleill; dylid ystyried pob un o’r ffactorau. Dylai'r ffactorau gael eu hystyried ar gyfer yr eiddo fel y mae/yr oedd ar y dyddiad y daeth y trafodiad i rym.

  1. Toiled a chyfleusterau ymolchi

    Dylai pob annedd gynnwys toiled, sinc (heblaw am sinc y gegin) a baddon neu gawod.
     
  2. Man ar gyfer 'byw' a chysgu

    Ym mhob annedd, dylai fod lle i wely, rhywle i eistedd a rhywle i fwyta.
     
  3. Y cyfleusterau i storio, paratoi a choginio bwyd, yn ogystal â 'golchi llestri'

    Dylai pob annedd gynnwys cegin a fyddai fel arfer yn cynnwys popty a/neu hob, dŵr poeth ac oer, man i baratoi bwyd (er enghraifft cownter) a lle i storio bwyd.
     
  4. Mynediad annibynnol i'r ddwy annedd

    Os yw'r is-annedd yn yr un adeilad â'r prif annedd, nid oes o reidrwydd angen cael drws yn uniongyrchol i'r tu allan; gellir mynd i mewn i'r eiddo drwy gyntedd/landing cymunedol. Fodd bynnag, os yw'r mynediad drwy ardal fyw'r prif annedd, yna mae'n annhebygol y caiff ei ystyried yn is-annedd.
     
  5. Os yw'n bosibl mynd i mewn i’r is-annedd o’r prif annedd (ac i'r gwrthwyneb) dylai fod drws y gellir ei gloi yn ei le.
     
  6. Dylai'r preswylydd fod â rhywfaint o reolaeth dros gyflenwad y gwasanaethau cyfleustodau.

    Pan fo gan dwy ran yr eiddo reolaethau annibynnol dros gyfleustodau (gan gynnwys uned defnyddwyr trydanol, stopcock, falf ynysu nwy/olew, thermostat), mae hyn yn awgrymu y gall pob rhan fod yn annedd ar wahân ynddo’i hun. Fodd bynnag, nid yw absenoldeb y cyfleusterau hyn o reidrwydd yn dynodi un annedd.

Dylai’r profion hyn gael eu cymhwyso i'r eiddo cyfan, nid i’r is-annedd yn unig. Er enghraifft, lle mae gwaith wedi'i wneud ar un tŷ i greu anecs, ond bod yr unig gegin yn yr adeilad o fewn yr anecs, mae'n annhebygol y caiff ei ystyried yn brif annedd ac is-annedd, ond yn hytrach yn un annedd.

Bydd yr un peth yn wir lle ceir mynediad i’r anecs drwy gyntedd cymunedol a ddefnyddir hefyd gan breswylwyr y prif annedd i fynd o un ystafell i'r llall o fewn y prif annedd. Mae gan yr eiddo yn Ffigur A (isod) fynedfa gymunedol y gellir cael mynediad i ddwy ran ar wahân o'r eiddo ohoni. Mae hyn yn fwy tebygol o olygu bod yr eiddo yn cynnwys dau annedd.

Fodd bynnag, yn Ffigur B (isod) mae cyntedd y gellir cael mynediad at nifer o ystafelloedd ohono ac mae angen defnyddio'r cyntedd i symud o gwmpas ardal fyw rhan o'r eiddo. Mae hyn yn llai tebygol o olygu bod yr eiddo wedi’i rannu'n ddau annedd ar wahân.

Mae Ffigur A yn dangos tŷ sydd wedi'i isrannu'n ddwy annedd gyda chyntedd cyffredin rhyngddynt sydd â drws mynediad i'r ddwy ran wahanol o'r un eiddo.

Mae Ffigur B yn dangos tŷ gyda chyntedd lle mae mynediad unigol i bob un o'r ystafelloedd oddi ar y cyntedd, heblaw am dair sy'n gydgysylltiedig, lle nad oes ond un drws ohonynt i'r cyntedd.

Mae tynnu gosodiadau yn unig yn annhebygol o wneud yr eiddo'n anaddas i'w ddefnyddio fel annedd. Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, bydd y pibellau a'r cylchedwaith yn aros, sy'n golygu y gellid ail-osod yr eitemau'n hawdd.

Mae presenoldeb caniatâd cynllunio ar gyfer anecs neu debyg yn arwydd bod mwy nag un annedd ar yr eiddo. Yn ogystal, mae dadgyfuno at ddibenion y Dreth Gyngor yn arwydd bod yr eiddo’n cynnwys mwy nag un annedd.

Enghraifft 1

Mae Mr a Mrs A yn prynu tŷ teras sydd â fflat yn yr islawr. Y pris prynu yw yw £300,000. Nid ydynt yn berchen ar unrhyw eiddo preswyl arall. Swm yr arian a dalwyd, wedi’i ddosranu ar sail cyfiawn a rhesymol am y maisonette yw: £225,000. Gan fod y pris pynu yn 75% o’r pris prynu (sy’n fwy na dwy ran o dair o gyfanswm y gydnabyddiaeth) mae’r fflat yn yr islawr yn is-annedd. Felly, nid yw’r cyfraddau uwch yn berthnasol i'r trafodiad. Gall Mr a Mrs A hefyd ddewis hawlio rhyddhad anheddau lluosog a chyfrifo faint o dreth sy’n ddyledus yn unol â’r rheolau hynny.

Enghraifft 2

Mae Mrs B yn prynu busnes bach gosod llety gwyliau, sy’n cynnwys tri annedd o fewn yr un tir; sef prif eiddo â phedair ystafell wely, a dau fwthyn gydag un ystafell wely yr un. Nid yw'n berchen ar unrhyw eiddo preswyl arall. Mae'n talu cyfanswm o £600,000 am yr eiddo. Y swm o arian a dalwyd, yn seiliedig ar ddosraniad cyfiawn a rhesymol am y prif annedd yw £400,000. Mae'r swm o arian a dalwyd am y prif annedd yn union ddwy ran o dair o'r pris prynu. Nid yw'r cyfraddau uwch yn berthnasol i'r trafodiad hwn. Gall Mrs B ddewis hawlio rhyddhad annedd lluosog a chyfrifo faint o dreth sy’n ddyledus yn unol â’r rheolau hynny.

Enghraifft 3

Mae Mr C, nad yw'n berchen ar unrhyw anheddau eraill ar y dyddiad y bydd yn trafodiad yn cael effaith, yn prynu busnes bach gosod tai gwyliau sy'n cynnwys cyfanswm o 4 annedd o fewn yr un tir. Mae’r anheddau’n cynnwys prif eiddo gyda phedair ystafell wely a thri bwthyn gydag un ystafell wely yr un. Mae'n talu cyfanswm o £700,000 am yr eiddo. Y swm o arian a dalwyd am y prif annedd, yn seiliedig ar ddosraniad cyfiawn a rhesymol o gyfanswm y pris prynu yw £400,000. Mae hyn yn fwy nag un rhan o dair o gyfanswm y gydnabyddiaeth. Felly bydd cyfraddau uwch yn berthnasol i’r trafodiad hwn.

Fodd bynnag, mae'n dderbyniol i'r pryniant gael ei strwythuro fel bod y prif annedd yn cael ei brynu mewn un trafodiad tir a'r eiddo sydd i’w gosod fel tai gwyliau mewn trafodiad cysylltiol diweddarach ar wahân. Codir prif gyfraddau TTT ar y brif annedd, a chodir y cyfraddau uwch ar y tri bwthyn. Caiff Mr C ddewis gwneud hawliad am ryddhad anheddau lluosog a chyfrifo faint sy’n ddyledus yn unol â’r rheolau hynny.

Enghraifft 4

Mae Miss D yn prynu eiddo sy'n cynnwys tŷ gwledig mewn tir, ynghyd â sawl bwthyn clwm o fewn y tir hwnnw. Mae gan bob un o'r bythynnod clwm ardd furiog sydd er budd y bythynnod hynny. Wrth brisio'r prif annedd, er mwyn penderfynu a all eithriad is-annedd fod yn berthnasol, ni ddylai'r trethdalwr gynnwys gerddi'r bythynnod yn eu prisiad.

Os nad yw'r bythynnod ar dir y prif annedd yna mae'n annhebygol y byddan nhw’n cael eu hystyried fel is-anheddau i'r prif annedd.

DTTT/8090 Disodli prif breswylfa

(paragraffau 8 ac 17 o Atodlen 5)

Caiff trethdalwr sy'n gwerthu ei brif breswylfa ac yn ei disodli â phreswylfa newydd sy’n unig neu’n brif breswylfa ('prif breswylfa') naill ai o fewn 36 mis i werthu'r cyn brif breswylfa, neu o fewn 36 mis ar ôl gwerthu'r prif breswylfa, dalu'r prif gyfraddau ar y trafodiad, yn hytrach na'r cyfraddau uwch.

I fod yn gymwys ar gyfer yr eithriad hwn, rhaid mai'r eiddo a werthwyd oedd unig breswylfa neu brif breswylfa'r trethdalwr ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o dair blynedd cyn dyddiad dod i rym y trafodiad (prynu'r prif breswylfa newydd). 

O ran trafodiadau lle bydd y brif breswylfa'n cael ei gwerthu o fewn y cyfnod o 36 mis ar ôl caffael yr eiddo i'w disodli, rhaid i'r trethdalwr ddilyn rheolau'r cyfraddau uwch ar gyfer y trafodiad ar y dyddiad yr oedd y trafodiad perthnasol yn cael effaith ac rhaid talu cyfraddau uwch TTT. Os bydd yr amodau perthnasol ar gyfer disodli prif breswylfa'n cael eu bodloni, caiff y trethdalwr hawlio ad-daliad lle bydd angen.

Dim ond i'r trafodiadau hynny y bydd unigolyn neu unigolion yn eu gwneud y mae'r rheolau ynglŷn â disodli prif breswylfa'n berthnasol ac nid i'r rheini a wneir gan gwmnïau neu berson an-naturiol eraill, neu gan unigolion a chwmnïau neu bersonau an-naturiol eraill ar y cyd.

DTTT/8091 Cyfraddau uwch a thrafodion cysylltiol

Mae’r rhan hon o’r canllawiau yn disgrifio sut mae’r darpariaethau cyfradd uwch yn gysylltiedig â thrafodion cysylltiol.

Disodli prif breswylfa a thrafodion cysylltiol

Mae’r rheolau ar gyfer eithriad disodli prif breswylfa yn berthnasol yn y sefyllfa ganlynol:

  • mae trethdalwr wedi prynu dwy annedd neu ragor fel rhan o nifer o drafodion cysylltiol (gweler DTTT/2040)
  • mae un o’r anheddau’n disodli prif breswylfa bresennol y trethdalwyr, a
  • chafodd yr annedd a fydd yn disodli prif breswylfa bresennol y trethdalwyr ei phrynu mewn trafodiad ar wahân i’r anheddau eraill

Pan fydd un o’r trafodiadau cysylltiol yn cynnwys prynu prif breswylfa yn lle un arall, ac yn bodloni’r meini prawf yn DTTT/8090, gall y trethdalwr ddefnyddio’r eithriad hwnnw ar gyfer y trafodiad hwnnw. Mae hyn yn golygu bod y prif gyfraddau treth preswyl yn berthnasol i’r trafodiad hwnnw. Mae’r cyfraddau uwch yn berthnasol i’r trafodiad(au) ar gyfer yr anheddau sydd ar ôl yn yr un ffordd.

Gan fod y trafodiadau hyn yn gysylltiol, ac mae un o’r trafodiadau ar y prif gyfraddau, a’r un arall (rhai eraill) ar gyfraddau uwch, er mwyn cyfrifo’r dreth, dylai’r trethdalwr ddilyn dull cyfrifo a fydd yn arwain at ddosrannu cyfanswm y gydnabyddiaeth ar gyfer pob trafodiad rhwng y prif gyfraddau a’r cyfraddau uwch. Mae modd dod o hyd i’r dull cyfrifo isod.

Dim ond pan fydd y brif breswylfa newydd yn cael ei phrynu mewn trafodiad cysylltiol ar wahân i’r anheddau eraill sy’n cael eu prynu y bydd y dull cyfrifo hwn yn berthnasol. Pan fydd y brif breswylfa newydd yn cael ei phrynu yn yr un trafodiad ag un neu ragor o’r anheddau, bydd yr amodau yn DTTT/8020 ar gyfer prynu 2 annedd neu ragor yn berthnasol.

Prynu dwy annedd neu ragor pan nad oes gan y trethdalwr brif breswylfa’n barod

Pan fydd trethdalwr, nad oes ganddo unrhyw fuddiant mewn annedd arall yn barod a phan nad yw’r eithriad ar gyfer disodli prif breswylfa yn berthnasol, yn prynu:

  • dwy annedd neu ragor fel rhan o nifer o drafodiadau cysylltiol, ac
  • mae dyddiad dod i rym y ddau drafodiad yr un fath

bydd gan y prynwr brif fuddiant mewn annedd arall ar ddiwedd dyddiad dod i rym pob trafodiad, felly bydd pob trafodiad yn ddarostyngedig i gyfraddau uwch os bydd amodau eraill DTTT/8020 yn cael eu bodloni.

Pan fydd y trafodiadau cysylltiol wedi’u strwythuro i ddigwydd ar wahanol ddiwrnodau, bydd y prif gyfraddau preswyl yn berthnasol i’r trafodiad cyntaf, a bydd y cyfraddau preswyl uwch yn berthnasol i’r trafodiad(au) diweddarach ar gyfer anheddau ychwanegol.

Gan fod y trafodiadau hyn yn gysylltiol, ac oherwydd bod un o’r trafodiadau ar y prif gyfraddau, a’r un arall (rhai eraill) ar gyfraddau uwch, er mwyn cyfrifo’r dreth, dylai’r trethdalwr ddilyn dull cyfrifo a fydd yn arwain at ddosrannu cyfanswm y gydnabyddiaeth ar gyfer pob trafodiad rhwng y prif gyfraddau a’r cyfraddau uwch. Dylai’r trethdalwr ddilyn y dull cyfrifo isod i gyfrifo faint o dreth sy’n ddyledus:

Dull cyfrifo

Pan fydd trethdalwr yn prynu dau eiddo neu ragor fel rhan o drafodiadau cysylltiol ar wahân, a phan fydd un o’r trafodiadau’n cael ei drethu ar y brif gyfradd breswyl, a’r trafodiad arall (trafodiadau eraill) ar y cyfraddau preswyl uwch, yna dylid dilyn y dull cyfrifo canlynol:

  • Cam 1 Cyfrifwch y dreth ar gyfer y gydnabyddiaeth lawn (ar gyfer pob trafodiad) ar y prif gyfraddau.
  • Cam 2 Cyfrifwch y dreth ar gyfer y gydnabyddiaeth lawn (ar gyfer pob trafodiad) ar y cyfraddau uwch.
  • Cam 3 Cyfrifwch y gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad ar y brif gyfradd fel canran o gyfanswm y gydnabyddiaeth.
  • Cam 4 Cyfrifwch y gydnabyddiaeth ar gyfer trafodiad(au) cyfradd uwch fel canran o gyfanswm y gydnabyddiaeth.
  • Cam 5 Lluoswch gyfanswm y dreth ar y brif gyfradd (cyfanswm wedi’i gyfrifo yng ngham 1) â chanran y gydnabyddiaeth sydd i’w chodi ar y prif gyfraddau (cyfanswm wedi’i gyfrifo yng ngham 3).
  • Cam 6 Lluoswch gyfanswm y dreth ar y cyfraddau uwch (cyfanswm wedi’i gyfrifo yng ngham 2) â chanran y gydnabyddiaeth sydd i’w chodi ar y cyfraddau uwch (cyfanswm wedi’i gyfrifo yng ngham 4).
  • Cam 7 Cyfanswm camau 5 a 6 yw’r dreth sy’n ddyledus.

Enghraifft 1

Mae Mr a Mrs A yn prynu dwy annedd mewn dau drafodiad ar wahân ond cysylltiol. Mae’r trafodiad cyntaf yn ymwneud â gwerthu tŷ a fydd yn disodli prif breswylfa Mr a Mrs A, a’r gydnabyddiaeth y mae Mr a Mrs A yn ei thalu yw £300,000. Mae’r eithriad disodli prif breswylfa yn berthnasol i’r trafodiad cyntaf. Mae’r ail drafodiad ar gyfer eiddo llai (buddsoddiad prynu i osod) a’r gydnabyddiaeth y mae Mr a Mrs A yn ei thalu yw £200,000. Felly, cyfanswm y gydnabyddiaeth yw £500,000.

Dylai Mr a Mrs A gyfrifo’r TTT sy’n ddyledus fel hyn:

  • y dreth sy’n ddyledus ar y prif gyfraddau yn seiliedig ar gyfanswm y gydnabyddiaeth o £500,000 yw £15,000
  • y dreth sy’n ddyledus ar y cyfraddau uwch yn seiliedig ar gyfanswm y gydnabyddiaeth o £500,000 yw £37,450
  • mae’r trafodiad cyntaf (y mae’r eithriad disodli prif breswylfa yn berthnasol iddo) yn cyfrif am 60% o'r gydnabyddiaeth. Felly, y dreth sy’n ddyledus ar gyfer y trafodiad cyntaf yw £9,000 (£15,000 x 0.6)
  • mae’r ail drafodiad (ar y cyfraddau uwch) yn cyfrif am 40% o’r gydnabyddiaeth. Felly, y dreth sy’n ddyledus ar gyfer yr ail drafodiad yw £14,980 (£37,450 x 0.4)
  • cyfanswm y dreth sy’n ddyledus ar gyfer y trafodiad yw £23,980

Enghraifft 2

Mae Mr B yn prynu ei gartref cyntaf am £250,000, ac annedd gyfagos am £200,000, ac mae’n bwriadu gosod hon. Mae’r eiddo’n cael eu gwerthu mewn dau drafodiad ar wahân ond cysylltiol, gyda’r un dyddiad dod i rym. Bydd y ddau drafodiad yn ddarostyngedig i’r cyfraddau preswyl uwch.

Mae’n dderbyniol i Mr B strwythuro’r trafodiadau er mwyn i ddyddiad dod i rym prynu’r annedd a fydd yn brif breswylfa iddo ddigwydd ddiwrnod yn gynharach na dyddiad prynu ei eiddo buddsoddi. Felly, byddai’n talu’r prif gyfraddau preswyl ar y trafodiad ar gyfer ei brif breswylfa, a chyfraddau preswyl uwch ar y trafodiad ar gyfer ei eiddo buddsoddi, a byddai’n defnyddio’r dull cyfrifo sydd wedi’i nodi uchod.

DTTT/8100 'Unig neu brif breswylfa'

Mae beth yw unig neu brif breswylfa rhywun yn gwestiwn o ffaith. Nid yw’n dibynnu ar a yw’r unigolyn sy’n byw yn yr eiddo’n berchen ar y breswylfa neu beidio.

Dim ond un man preswyl sydd gan y rhan fwyaf o unigolion. Yr annedd honno yw eu hunig neu eu prif breswylfa.

Er enghraifft:

  • person sy'n berchen ar fflat ac yn byw yno'n barhaol
  • person sy'n rhentu fflat, a dyna lle mae'n byw yn barhaol

Os bydd unigolyn yn rhentu annedd a dyna’i unig neu brif breswylfa a’i fod hefyd yn berchen ar annedd y mae’n ei osod, er ei fod yn berchen ar un annedd ac yn rhentu'r llall, nid yr annedd y mae’n berchen arno fydd ei unig na'i brif breswylfa.

Pan fo'r unigolyn yn berchen ar fwy nag un annedd

Mae angen ystyried y ffeithiau’n llawn er mwyn canfod ymhle mae prif breswylfa'r unigolyn hwnnw.

Enghraifft

Maen nhw'n byw yng Nghaerdydd yn ystod yr wythnos gyda'r teulu ac yn treulio sawl penwythnos a sawl wythnos yn ystod y flwyddyn yng Nghricieth mewn tŷ gwyliau y maen nhw'n berchen arno. O ran y ffeithiau hyn yn unig, y prif breswylfa fyddai eu cartref yng Nghaerdydd.

Nid oes cyfle yn y TTT i enwebu un o'r preswylfeydd yn brif breswylfa.

Ond mae'n ddigon posib nad y brif breswylfa yw'r breswylfa lle mae'r unigolyn yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser. Er fel arfer, fel yr uchod, dyna fydd y sefyllfa.

Nododd Nourse J hyn yn Frost v Feltham (Frost v Feltham (1981) 1 W.L.R. 452):

"Os oes rhywun yn byw mewn dau dŷ ni ellir ateb y cwestiwn, pa un mae’n ei ddefnyddio fel ei brif dŷ neu ei dŷ pwysicaf, dim ond drwy gyfeirio at y ffordd y mae'n rhannu ei amser rhwng y ddau."

Beth i'w ystyried wrth archwilio beth yw unig neu brif breswylfa person

  • A yw’r unigolyn yn briod, mewn partneriaeth sifil, neu'n cyd-fyw? Os felly, ble mae'r priod, y partner sifil neu'r person mae’n cyd-fyw â nhw yn byw?
  • Oes gan yr unigolyn blant? Os felly, ble maen nhw'n byw? Ble maen nhw'n mynd i'r ysgol?
  • Ym mha breswylfa mae'r unigolyn wedi cofrestru i bleidleisio?
  • Ble mae lle gwaith yr unigolyn?
  • Sut mae pob preswylfa wedi ei dodrefnu?
  • Pa gyfeiriad a ddefnyddir ar gyfer gohebiaeth?
  • Ble mae'r unigolyn wedi cofrestru gyda'r meddyg a'r deintydd?
  • Ble mae car yr unigolyn wedi ei gofrestru a'i yswirio?
  • Pa un yw’r brif breswylfa ar gyfer y dreth cyngor?

Nid yw'r rhain yn hollgynhwysfawr, ac nid oes un pwynt sy’n penderfynu.

Anheddau sy'n eiddo i neu'n cael eu gwaredu gan unigolyn

Bydd y cwestiwn yn un o ffaith wrthrychol. Ai'r hen annedd oedd unig neu brif breswylfa'r unigolyn ar yr adeg berthnasol?

Wrth ystyried annedd sydd wedi’i chaffael, rydym yn ystyried ai bwriad yr unigolyn yw mai dyma fydd ei unig neu ei brif breswylfa.

Gall ffeithiau sy'n gysylltiedig â'r pryniant hwnnw fod yn berthnasol er mwyn naill ai:

  • gefnogi bwriad datganedig y trethdalwr ar yr adeg prynu, neu
  • i ddangos bwriad gwahanol

Enghreifftiau:

  • os yw'r trethdalwr yn cael yr annedd newydd gyda morgais a bod hwnnw’n nwydd prynu-i-osod, byddai hynny’n arwydd o fwriad y trethdalwr
  • petai eiddo’n cael ei roi gydag asiant gosod yn fuan ar ôl ei brynu, neu petai tenant yn byw yno sydd â hawliau gwarchodedig. Gall fod yn arwydd o fwriad i beidio â defnyddio'r eiddo fel unig neu brif breswylfa

Neu os yw'r eiddo'n agos at y teulu a bod y trethdalwr yn bwriadu symud yn nes er mwyn darparu gofal. Ond yna nad oes angen y gefnogaeth honno mwyach, efallai oherwydd marwolaeth neu'r perthynas hwnnw'n symud. Mae'r dystiolaeth yn cefnogi'r bwriad hwnnw, hyd yn oed os nad yw'r trethdalwr yn symud i'r annedd honno.

DTTT/8110 Gwerthu'r cyn brif breswylfa cyn prynu prif breswylfa newydd

Cyfeiriwch at DTTT/8090 wrth ddarllen y canllawiau hyn. 

Os bydd trethdalwr wedi gwerthu ei gyn brif breswylfa cyn prynu prif breswylfa newydd, yna, os bodlonir yr amodau, bydd y trethdalwr yn talu'r TTT ar y prif gyfraddau, ac nid ar y cyfraddau uwch, ni waeth sawl eiddo arall y mae’n berchen arnynt.

Dyma'r amodau:

  • ar y dyddiad y bydd y caffael yn cael effaith, y bwriedir i'r annedd fod yn unig neu'n brif breswylfa i'r trethdalwr ('prif breswylfa')
  • yn ystod y tair blynedd sy'n dod i ben ar y dyddiad y bydd caffael y brif breswylfa newydd yn cael effaith, bod y prynwr neu gymar neu bartner sifil y prynwr ar y pryd wedi cael gwared ar brif fuddiant mewn cyn brif breswylfa
  • nad oedd ganddo brif fuddiant yn y cyn brif breswylfa honno, gan gynnwys unrhyw fuddiant yn yr ardd neu’r tiroedd, ar ôl cael ei wared (oni fydd cymar neu bartner sifil trethdalwr yn cadw prif fuddiant yn yr eiddo hwnnw ac nad yw'n cyd-fyw â'r trethdalwr ragor), ac
  • nad oes yr un annedd arall y bwriedid iddi fod yn brif breswylfa newydd wedi'i chaffael yn ystod y cyfnod rhwng gwerthu'r cyn brif breswylfa a chaffael y brif breswylfa newydd

Enghraifft 1

Mae Ms A yn gwerthu ei phrif breswylfa ar 1 Ebrill 2020. Ar 1 Ionawr 2022, mae'n prynu annedd y mae'n bwriadu iddi fod yn brif breswylfa iddi. Nid yw'n berchen ar yr un buddiant arall mewn anheddau. Yn y cyfamser, bu'n byw mewn annedd ar rent. Mae Ms A yn disodli ei phrif breswylfa ac wedi gwneud hynny o fewn tair blynedd i werthu'r cyn brif breswylfa. Mae'r eithriad a ddarperir felly'n berthnasol i brynu'r brif breswylfa newydd a bydd prif gyfraddau TTT yn berthnasol. Dylid nodi hefyd fod y trafodiad wedi'i eithrio o'r rheolau cyfraddau uwch beth bynnag (ac nad oes cyfyngiad amser ar hyn) oherwydd nad yw Ms A yn berchen ar fuddiant mewn annedd arall adeg y pryniant.

Enghraifft 2

Mae Mr B yn berchen ar bedair annedd prynu-i'w-gosod a'i brif breswylfa. Ar 1 Ebrill 2020, mae'n gwerthu ei brif breswylfa ac yn symud i un o'i eiddo prynu-i'w-osod gwag. Ar 1 Rhagfyr 2020, mae'n prynu annedd newydd gyda'r bwriad o ddefnyddio honno'n brif breswylfa. Mae Mr B wedi caffael yr annedd newydd, gan fwriadu iddi fod yn brif breswylfa iddo, o fewn y tair blynedd a ganiateir. Felly, caiff talu prif gyfraddau TTT.

Enghraifft 2a

Mae'r un ffeithiau a nodwyd ar gyfer Mr B yn berthnasol, fel yn enghraifft 2. Serch hynny, ar 1 Mehefin 2021, bydd Mr B yn caffael buddiant mewn annedd newydd y mae'n bwriadu iddi fod yn brif breswylfa iddo. Nid yw'n gwerthu'r annedd a brynodd ar 1 Rhagfyr 2020. Nid oes gan Mr B yr hawl i dalu prif gyfraddau TTT ar yr annedd a gaffaelodd ar 1 Mehefin 2021. Ni fydd y rheolau ynglŷn â phrynu rhyng-drafodiadau yn berthnasol oherwydd ei fod wedi caffael annedd arall gan fwriadu iddi fod yn brif breswylfa yn ystod y cyfnod rhwng gwerthu'r cyn brif breswylfa a chaffael yr annedd yn awr (caffael yr 'ail' brif breswylfa).

Enghraifft 3

Mae Mr C a Mr D yn caffael prif breswylfa newydd. Maent wedi bod mewn partneriaeth sifil ers 1 Mai 2020. Roedd Mr C wedi caffael ei brif breswylfa (fel unig berchennog) ar 1 Gorffennaf 2008. Roedd Mr D wedi caffael ei brif breswylfa (fel unig berchennog) ar 1 Awst 2007. Ers 1 Mawrth 2009, mae Mr C a Mr D wedi byw yn yr annedd sy'n eiddo i Mr C (Mae Mr D wedi gosod yr annedd y mae'n berchen arni ar rent i denantiaid). Ar 1 Medi 2020, mae Mr C yn gwerthu ei gartref (ac nid oes ganddo'r un buddiant ynddo bellach). Ar yr un diwrnod, mae Mr C a Mr D yn caffael annedd newydd fel cyd-denantiaid. Codir prif gyfraddau TTT ar y trafodiad, er bod Mr D yn berchen ar ail annedd, oherwydd bod y cyn brif breswylfa'n eiddo i bartner sifil Mr D, a bod Mr C a Mr D yn cyd-fyw ar yr adeg y cafwyd gwared â hi.

Enghraifft 3a

Mae'r ffeithiau ynglŷn â Mr C a Mr D yr un fath ar wahân i'r ffaith nad ydynt mewn partneriaeth sifil. Wrth gaffael yr annedd newydd, bydd y cyfraddau uwch yn berthnasol (gan dybio bod yr annedd yn costio mwy na £40,000 a bod yr holl amodau perthnasol eraill yn cael eu bodloni) oherwydd nid yw Mr D wedi disodli prif breswylfa a'i fod yn berchen ar annedd arall.

Enghraifft 3b

Mae'r ffeithiau ynglŷn â Mr C a Mr D yr un fath ag yn 3a. Serch hynny, cyn prynu'r brif breswylfa newydd ar y cyd, mae Mr C yn ailforgeisio'r brif breswylfa y mae'n berchen arni eisoes. Penderfynir y bydd Mr D yn dod yn gyd-forgeisai ar gyfer 50% o'r morgais sy'n weddill ac felly, mae Mr D hefyd yn dod yn berchennog ar yr annedd fel tenant ar y cyd â Mr C. Gwerth marchnadol yr eiddo yw £250,000, a'r swm sy'n weddill i'w dalu ar y morgais yw £100,000. Gan fod tybiaeth/rhyddhau dyled, tybir bod Mr D wedi caffael prif fuddiant yn yr annedd sy'n costio £50,000 (felly mae'n berchen ar 20% o fuddiant yn yr annedd). Gan ei fod eisoes yn berchen ar annedd, mae'r cyfraddau uwch yn berthnasol i'r trafodiad hwn ac nid yw'r eithriad ar gyfer buddiannau yn yr un brif breswylfa yn berthnasol. Petai Mr C a Mr D wedi bod mewn partneriaeth sifil, byddai'r eithriad wedi bod yn berthnasol oherwydd y dybiaeth fyddai bod gan Mr D fuddiant yn yr eiddo cyn (yn sgil y bartneriaeth sifil) ac ar ôl y trafodiad, a, chyn ac ar ôl y trafodiad hwnnw, mai'r annedd yw unig neu brif breswylfa'r prynwr.

Enghraifft 4a

Gwerthodd Mr a Mrs E eu prif breswylfa ar 1 Mawrth 2015 gan eu bod yn mynd i weithio dramor. Yn ystod eu hamser dramor, maent yn dewis rhentu cartref. Maent hefyd yn berchen ar eiddo prynu-i'w-osod. Ar 1 Medi 2018 maent yn dychwelyd i Gymru, ac ar 20 Tachwedd 2018 maent yn prynu annedd a fydd yn brif breswylfa newydd iddynt. Ni fydd y cyfraddau preswyl uwch yn gymwys i'r trafodiad hwn gan fod dyddiad pryd mae’r trafodiad yn cael effaith yn digwydd ar neu cyn 26 Tachwedd 2018.

Enghraifft 4b

Mae'r ffeithiau yr un fath ag yn enghraifft 4a uchod. Serch hynny, wythnos cyn y dyddiad cwblhau disgwyliedig (sef 20 Tachwedd 2018), mae’r gwerthwyr yn gofyn a oes modd amrywio'r contract fel mai 5 Rhagfyr 2018 fydd y dyddiad cwblhau. Mae Mr a Mrs E yn cytuno. Gan fod y dyddiad pryd mae’r trafodiad yn cael effaith yn digwydd ar 5 Rhagfyr 2018, bydd y cyfraddau preswyl uwch yn gymwys i’r trafodiad.

DTTT/8120 Gwerthu'r cyn brif breswylfa ar ôl prynu prif breswylfa newydd

Pan fydd trethdalwr wedi prynu ei unig neu ei brif breswylfa newydd ('prif breswylfa') cyn gwerthu ei brif breswylfa, neu'r annedd y tybir ei bod yn hen brif breswylfa iddo, os bodlonir yr amodau, gellir ystyried y caffaeliad yn un sy'n disodli prif breswylfa. Bydd y trethdalwr wedi talu cyfraddau uwch TTT wrth brynu'r brif breswylfa newydd oherwydd bod ganddo, neu y tybiwyd bod ganddo, fuddiant mewn annedd arall (yr hen brif breswylfa) ar ddyddiad cael effaith y trafodiad lle y caffaelwyd y brif breswylfa newydd.

Cyfeiriwch at DTTT/8090 wrth ddarllen y canllawiau hyn. 

Os bodlonir yr amodau, bydd y trethdalwr naill ai’n gallu diwygio'r ffurflen dreth o dan adran 41 DCRhT 2016 (os yw hynny o fewn y cyfnod a ganiateir - cyn pen 12 mis ar ôl y dyddiad ffeilio) neu hawlio ad-daliad o dan adran 63 DCRhT 2016. Rhaid gwneud hawliad o'r fath cyn pen pedair blynedd o'r diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio'r ffurflen gais y mae'r hawliad yn berthnasol iddi. Yr ad-daliad fydd y gwahaniaeth rhwng y swm o TTT a dalwyd a'r swm o TTT a fyddai wedi bod yn daladwy, petai'r trafodiad wedi'i drethu ar y prif gyfraddau yn hytrach nag ar y cyfraddau uwch.

Dyma'r amodau:

  • ar y dyddiad y bydd y caffael yn cael effaith, y bwriedir i'r annedd fod yn unig neu'n brif breswylfa i'r trethdalwr ('prif breswylfa')
  • yn ystod y tair blynedd sy'n dechrau ar y diwrnod ar ôl y dyddiad y bydd caffael y brif breswylfa newydd yn cael effaith, y bydd y prynwr neu gymar y prynwr, neu gyn-gymar neu bartner sifil neu gyn bartner sifil ar y pryd, yn cael gwared ar y prif fuddiant mewn cyn brif breswylfa’r prynwyr
  • Yr eiddo a waredwyd oedd cyn brif breswylfa'r prynwr ar unrhyw adeg yn ystod y 3 blynedd cyn y dyddiad yr oedd y caffaeliad yn cael effaith
  • nad oes ganddo fuddiant yn y cyn brif breswylfa honno ar ôl y gwaredu (oni fydd cymar neu bartner sifil trethdalwr yn cadw prif fuddiant yn yr eiddo hwnnw ac nad yw'n cyd-fyw â'r trethdalwr ragor), ac

Enghraifft

Mae Mr a Mrs A yn berchen ar eu prif breswylfa ond nid ydynt yn berchen ar yr un eiddo arall. Maent yn prynu ail eiddo gyda'r bwriad iddo fod yn brif breswylfa newydd iddynt ar 1 Ebrill 2020. Nid ydynt wedi gwerthu eu prif breswylfa bresennol eto ac felly, codir cyfraddau uwch TTT ar y caffaeliad. Ar 1 Rhagfyr 2020, maent yn gwerthu'r brif breswylfa gyfredol. Gan eu bod wedi gwerthu'r cyn brif breswylfa o fewn tair blynedd i ddyddiad caffael y brif breswylfa newydd (roedd ganddynt tan 1 Ebrill 2023 (dair blynedd o'r diwrnod ar ôl dyddiad pan oedd caffael y brif breswylfa newydd yn cael effaith) i gael gwared ar yr annedd), maent yn cael hawlio ad-daliad o'r cyfraddau uwch a dalwyd. Mae ganddynt tan 2 Mai 2024 i hawlio (bedair blynedd o'r diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio'r ffurflen dreth ar gyfer y brif breswylfa newydd).

DTTT/8130 Rheolau lle bydd unig neu brif gyn breswylfa'n cael ei gwerthu o fewn y cyfnod ffeilio ar gyfer caffael unig neu brif breswylfa newydd

(paragraff 23 Atodlen 5)

Os, ar ddiwedd y dydd ar y dyddiad y bydd y trafodiad yn cael effaith, y bydd gan drethdalwr fuddiannau mewn mwy nag un annedd, rhaid iddo hunanasesu'r dreth sy'n daladwy, yn unol â'r rheolau ynglŷn â disodli prif breswylfa, drwy ddefnyddio cyfraddau uwch TTT. Bydd rheolau arbennig yn berthnasol pan fydd y trethdalwr yn berchen ar brif breswylfa gan fwriadu i'r annedd newydd a gaffaelir fod yn brif breswylfa newydd iddo.

Mewn achosion lle y byddai gan y trethdalwr yr hawl i ddiwygio'u ffurflen dreth neu hawlio ad-daliad ar gyfraddau uwch TTT oherwydd ei fod wedi gwerthu ei gyn brif breswylfa bydd gan y trethdalwr yr hawl i hunanasesu'r trafodiad sy'n caffael y brif breswylfa newydd ar sail prif gyfraddau TTT pan fydd yr amodau a ganlyn yn cael eu bodloni:

  • bod y cyn brif breswylfa'n cael ei gwerthu o fewn y cyfnod ffeilio ar gyfer caffael y brif breswylfa newydd, ac
  • nad yw'r ffurflen gais ar gyfer y caffaeliad hwnnw wedi'i dychwelyd eto

Rhaid dychwelyd y ffurflen gais ar gyfer caffael y brif breswylfa newydd ar ôl gwerthu'r hen brif breswylfa. Nid oes modd dychwelyd y ffurflen dreth gan ragweld y caiff y breswylfa ei gwerthu (hyd yn oed os yw hynny i fod i ddigwydd ar yr un diwrnod ag y caiff y ffurflen dreth ei ffeilio, oni fydd trafodiad y gwerthiant wedi'i gwblhau).

Enghraifft 1

Mae Miss A yn prynu prif breswylfa newydd. Mae hefyd yn gwerthu ei hen brif breswylfa. Serch hynny, nid yw dyddiad cwblhau'r ddau drafodiad yr un fath. Bydd y brif breswylfa newydd yn cael ei phrynu ar 1 Ebrill 2020 a bydd yr hen brif breswylfa'n cael ei gwerthu ar 20 Ebrill 2020. Bydd Miss A yn dychwelyd ei ffurflen gais ar gyfer prynu ei phrif breswylfa newydd ar 21 Ebrill 2020 ac yn hunanasesu'r trafodiad drwy ddefnyddio prif gyfraddau TTT. Mae hyn yn bosibl oherwydd ei bod wedi dychwelyd y ffurflen dreth ar ôl gwerthu ei chyn brif breswylfa.

Enghraifft 2

Mae ffeithiau Mr B yr un fath ag ar gyfer Miss A uchod. Serch hynny, mae'n dychwelyd ei ffurflen dreth ar gyfer y brif breswylfa newydd ar 7 Ebrill 2020. Oherwydd nad yw gwerthiant yr hen eiddo wedi'i gwblhau, rhaid i Mr B hunanasesu caffael y brif breswylfa newydd ar y cyfraddau uwch a diwygio'i ffurflen dreth ar ôl gwerthu'r cyn brif breswylfa (neu o fewn yr amser a ganiateir ar gyfer hawlio).

DTTT/8140 Rhyng-drafodiadau

(paragraffau 9, 18 a 24 Atodlen 5)

Mae cyfraddau uwch y TTT yn cynnwys rheolau sy'n ymwneud â sefyllfaoedd lle bydd y trethdalwr yn gwerthu prif breswylfa, yn prynu annedd na fwriedir iddi fod yn brif breswylfa ar y dyddiad y bydd y trafodiad yn cael effaith (neu cyn hynny), ac y bydd wedyn yn prynu prif breswylfa gan ddymuno rhoi'r eithriadau sy'n berthnasol i brif breswylfa ar waith ar ei chyfer. Bydd y trafodiad sy'n rhoi effaith i gaffael annedd a gaffaelir rhwng gwerthu'r hen brif breswylfa a chaffael y brif breswylfa newydd yn cael ei alw'n 'rhyng-drafodiad'.

Heb y rheolau hyn, gallai fod yn bosibl i'r trethdalwr strwythuro'i bryniannau yn y fath fodd er mwyn prynu dwy annedd, heb orfod talu'r cyfraddau uwch ar y naill na'r llall. Mae rheolau rhyng-drafodiad TTT wedi cael eu cynllunio i sicrhau bod rhaid i'r dreth sy’n daladwy ar y rhyng-drafodiad gael ei ailfarnu mewn rhai amgylchiadau.

Mae rhyng-drafodiad yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch os yw’r rheolau ar ryng-drafodiadau yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r prynwyr.

Bydd y rheolau ynglŷn â rhyng-drafodiadau'n berthnasol:

  • pan fydd y prynwr mewn rhyng-drafodiad yn disodli ei brif breswylfa drwy drafodiad arall o fewn tair blynedd i waredu ei unig neu ei brif breswylfa blaenorol, a
  • phan fydd y rhyng-drafodiad hwnnw'n digwydd yn ystod y cyfnod interim

Bydd y cyfnod interim yn dechrau ar y dyddiad y bydd y trafodiad yn cael effaith, gan olygu y bydd yr unig neu'r brif breswylfa flaenorol yn cael ei gwaredu, a bydd yn dod i ben ar y dyddiad cael effaith trafodiad sy'n gymwys ar gyfer eithriad disodli prif breswylfa, neu y mae paragraff 3(6) o Atodlen 4ZA i Ddeddf Cyllid 2003 yn berthnasol (SDLT), neu baragraff 2(2) o Atodlen 2A i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (yr Alban) 2013 yn berthnasol.

Enghraifft 1

Mae Mr a Mrs A yn gwerthu eu prif breswylfa ar 1 Ebrill 2020. Maent yn bwriadu prynu eiddo llai ac maent hefyd yn awyddus i brynu annedd prynu-i'w osod er mwyn cael incwm ar ôl ymddeol. Maent yn prynu'r annedd prynu-i'w-osod ar yr un diwrnod, heb fwriadu iddi fod yn brif breswylfa iddynt. Nid ydynt yn berchen ar yr un buddiant arall mewn anheddau. Nid oes angen iddynt dalu'r cyfraddau uwch wrth gaffael yr eiddo oherwydd, ar ddiwedd 1 Ebrill 2020, dim ond mewn un annedd y mae ganddynt fuddiant. Felly, nid yw'r amodau sylfaenol ar gyfer talu'r cyfraddau uwch yn bresennol. Byddant yn symud i gartref eu merch tra byddant yn dal i chwilio am eu prif breswylfa. Ar 1 Medi 2021, maent yn prynu eu hunig neu eu prif breswylfa i ddisodli eu hen annedd. Nid ydynt yn talu'r cyfraddau uwch, oherwydd er eu bod yn berchen ar ail annedd (yr annedd prynu i'w-gosod sydd bellach yn rhyng-drafodiad), mae'r amodau sy'n berthnasol i ddisodli'r unig neu'r brif breswylfa wedi'u bodloni. Serch hynny, mae rheolau'r rhyng-drafodiad yn berthnasol oherwydd yn ystod y cyfnod interim rhwng 1 Ebrill 2020 a 1 Medi 2021 maent wedi caffael annedd lle na chodwyd y cyfraddau uwch. Felly, rhaid i Mr a Mrs ailasesu pryniant yr eiddo interim a dychwelyd ffurflen dreth arall erbyn 2 Hydref 2021 (30 diwrnod ar ôl diwrnod cael effaith caffael y brif breswylfa newydd, h.y. yr un dyddiad â dyddiad ffeilio'r trafodiad hwnnw). Rhaid talu'r dreth ychwanegol, a honno wedi'i chyfrifo ar sail y cyfraddau a'r bandiau sydd mewn grym ar y dyddiad y caiff y trafodiad interim effaith, erbyn yr un dyddiad.

Enghraifft 2

Mae'r ffeithiau ar gyfer Mr a Mrs B yr un fath ag ar gyfer Mr a Mrs A. Serch hynny,dyddiad caffael yr unig neu'r brif breswylfa ddisodli yw 1 Gorffennaf 2023. Gan nad yw'r unig neu'r brif breswylfa wedi cael ei disodli o fewn y cyfnod pan fydd yr eithriad i'r cyfraddau uwch yn berthnasol, bydd angen iddynt dalu'r cyfraddau uwch ar yr annedd a gaffaelwyd ar 1 Gorffennaf 2023. Serch hynny, ni fydd angen iddynt ailasesu'r dreth sy'n daladwy ar y rhyng-drafodiad.

DTTT/8150 Buddiant a gaffaelwyd yn yr un brif breswylfa

(paragraffau 7 ac 16 Atodlen 5)

Bydd yr eithriad i reolau cyfraddau uwch TTT yn berthnasol pan fydd prif destun y trafodiad yn brif fuddiant mewn annedd pan:

  • yn union cyn y dyddiad daeth y trafodiad i rym roedd gan y prynwr neu ei briod neu ei bartner sifil brif fuddiant yn yr annedd eisoes, ac 
  • yn union cyn ac ar ôl y dyddiad y caiff y trafodiad effaith, yw unig neu brif breswylfa'r prynwr.

Mae’r eithriad o’r rheolau cyfraddau uwch ar gyfer y trafodiadau hyn yn sicrhau nad yw’r cyfraddau uwch yn cael eu cymhwyso i drafodiad lle mae prynwr (neu ei briod neu bartner sifil) eisoes yn dal prif fuddiant yn yr unig breswylfa neu’r brif breswylfa ac yna mae buddiant arall neu fuddiant gwahanol yn cael ei gaffael ynddo neu drosto.

Er enghraifft os bydd yr eiddo'n eiddo ar y cyd ac y bydd un cyd-berchennog yn trosglwyddo'u buddiant i gyd i'r llall, sy'n preswylio yn yr annedd fel ei brif breswylfa, ni chaiff cyfraddau uwch eu cymhwyso.

Mae hyn yn cynnwys achosion lle bydd y trethdalwr yn ildio les ar ei brif breswylfa ac yna'n ei chael eto (a'i fod yn berchen ar eiddo eraill hefyd) yn ogystal â lle bydd y trethdalwr yn caffael estyniad ar les a roddir fel les newydd ond fel rifersiwn ar wahân. 

Nid yw’r rheolau'n berthnasol i achosion lle bydd rhywun yn caffael buddiant gwahanol neu ychwanegol mewn annedd nad yw'n brif breswylfa iddo. Felly, os bydd rhywun sy'n berchen ar nifer o anheddau yn estyn y les ar annedd nad yw'n brif breswylfa iddo, bydd, a thybio bod y gydnabyddiaeth drethadwy yn £40,000 neu ragor, yn atebol am dalu cyfraddau uwch TTT ar y trafodiad tir hwnnw. 

Example 1

Mae Mr a Mrs A wedi priodi’n ddiweddar. Maent yn byw yn yr annedd yr oedd Mrs A yn berchen arno (cyn priodi). Ar wahân i hynny, mae Mr A yn berchen, gyda’i frawd, ar annedd sy’n cael ei ddefnyddio fel cartref gwyliau. Chwe mis ar ôl y briodas, maent yn cytuno y bydd Mr A yn defnyddio ei gynilon i dalu at y morgais ar annedd Mrs A felly maent yn caffael 50% o fuddiant yn yr annedd. Er mwyn cyflawni'r trafodiad hwn, bydd angen iddynt ailforgeisio. Gwerth yr annedd ar y farchnad agored yw £250,000, ac mae morgais o £200,000 arno. Mae Mr A yn defnyddio £50,000 o’i gynilon i dalu at y morgais sy'n weddill. Cymerir morgais newydd yn enwau Mr a Mrs A ar y cyd, a rhoddir gwybod i Gofrestrfa Tir EM fod Mr a Mrs A yn denantiaid ar y cyd. Felly, y gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad yw’r £50,000 o arian parod a ddefnyddiwyd i fodloni neu ryddhau ei wraig o’r rhan o’i dyled hi o'r forgais a rhagdybiaeth Mr A o 50% o ddyled y forgais (ar ôl talu ati) - £75,000 – cyfanswm o £125,000. Mae Mr A eisoes yn berchen ar annedd a heblaw am y rheol hon byddai cyfraddau uwch TTT yn gymwys. Bydd y prif gyfraddau TTT yn gymwys i’r trafodiad, yn dibynnu ar y trothwy cyfradd sero.

Enghraifft 2

Tri ffrind yw Ms B, Mr C a Ms D ac maent wedi prynu eiddo ar y cyd fel tenantiaid ar y cyd, pob un â chyfran gyfartal yn yr annedd. Costiodd yr annedd £350,000 a chafwyd morgais ar gyfer £300,000 (llog yn unig). Mae pob un o'r tri unigolyn yn meddiannu'r annedd fel ei unig neu ei brif breswylfa. Chwe blynedd ar ôl ei gaffael, mae Mr C yn penderfynu ei fod am symud i mewn gyda'i bartner. Nid yw'n awyddus i gadw'i fuddiant yn yr eiddo ac fe benderfynir y bydd Ms a Ms D yn prynu ei fuddiant anrhanedig yn yr annedd. Nid yw Ms B yn dal buddiant mewn unrhyw annedd arall, ond mae gan Ms D fuddiant o 50% mewn annedd prynu-i'w-osod y mae'n berchen arni gyda'i brawd.

Mae'r eiddo bellach yn werth £480,000 ac fe gytunir y bydd Ms B a Ms D yn trefnu i dalu £160,000 i Mr C am ei gyfran. Y trefniant a wneir yw y bydd Ms B a Ms D yn ysgwyddo'i ddyled ar y morgais (£100,000) ac yn talu £60,000 iddo ar ffurf arian parod. Gan mai cyfanswm y gydnabyddiaeth a roddir ar gyfer y trafodiad tir yw £160,000 mae Ms B a Ms C yn gorfod dychwelyd ffurflen dreth sy'n cynnwys y ffigur hwn i ddangos y gydnabyddiaeth a roddwyd.

Ni fydd y cyfraddau uwch yn berthnasol i'r trafodiad tir hwn er bod un o'r prynwyr, sef Ms D, yn berchen ar fuddiant mewn annedd arall. Y rheswm dros hyn yw mai'r annedd y mae'n caffael ei buddiant ychwanegol ynddi yw ei phrif breswylfa.

DTTT/8160 Cymheiriaid a phartneriaid sifil yn prynu ar eu pen eu hunain

(paragraff 25 Atodlen 5)

Os bydd person:

  • yn briod neu mewn partneriaeth sifil
  • bod y cwpwl yn cyd-fyw ar ddyddiad y caffaeliad, ac
  • mai dim ond un cymar neu bartner sifil sy'n caffael y prif fuddiant naill ai ar ei ben ei hun neu gydag unigolion eraill;

yna pennir bod y ddau gymar a phartner sifil yn brynwyr. Bydd angen ystyried eu buddiannau nhw neu eu plentyn dan oed mewn unrhyw annedd er mwyn sefydlu a yw'r trafodiad yn drafodiad eiddo preswyl ar gyfraddau uwch.

Bydd trethdalwyr sy'n briod neu mewn partneriaeth sifil yn cael eu trin fel petaent yn cyd-fyw oni fyddant wedi gwahanu:

  • o dan orchymyn llys ag awdurdodaeth gymwys (er enghraifft y llys teulu yng Nghymru neu lys tebyg mewn gwlad arall)
  • drwy weithred wahanu, neu
  • mewn ffaith a bod yr amgylchiadau'n golygu bod y gwahanu'n debygol o fod yn barhaol

Enghraifft

Mae Mr a Mrs A yn briod a heb wahanu. Maent yn byw yn yr annedd a gaffaelwyd gan Mrs A cyn iddynt briodi. Mae’n berchen iddi hi yn unig (ac mae’n werth £150,000 ar y farchnad). Mae Mr A yn penderfynu caffael eiddo prynu-i’w-osod, yn ei enw ef yn unig. Codir cyfraddau uwch TTT ar yr eiddo prynu-i'w-osod oherwydd bod buddiannau Mrs A mewn anheddau'n cael eu hystyried at ddibenion penderfynu a fydd angen talu'r cyfraddau uwch, fel petai hithau hefyd yn brynwr, neu fel petai Mr A yn berchen ar fuddiant yn eu prif breswylfa. Gan ei bod eisoes yn berchen ar brif fuddiant mewn eiddo gwerth £40,000 neu ragor, mae'r cyfraddau uwch yn gymwys i gaffael yr eiddo prynu-i'w-osod.

DTTT/8170 Addasu'r eiddo adeg ysgaru, diddymu partneriaeth sifil ac ati

(paragraffau 26 Atodlen 5)

Mae rhoi cyfraddau uwch TTT ar waith, ar gyfer unigolion, yn dibynnu ar ba fuddiannau sydd gan yr unigolyn neu y tybir sydd gan yr unigolyn mewn anheddau eraill. Mae'r rheolau hyn yn eithrio rhai buddiannau a gedwir am fod prynwr yn berchen ar fuddiant (fel tenant ar y cyd) gyda'i gyn gymar neu bartner sifil yn sgil gorchymyn o dan:

  • adran 24 (1) (b) o Ddeddf Achosion Priodasol 1973
  • adran 17(1)(a)(ii) o Ddeddf Achosion Priodasol a Theulu 1984
  • paragraff 7(1)(b) o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004, neu
  • paragraff 9 o Atodlen 7 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004

Mae hyn yn golygu, os bydd unigolyn yn cadw buddiant mewn annedd yn sgil un o bedair darpariaeth uchod (ac nad yr annedd honno yw unig neu brif breswylfa'r unigolyn), nad ystyrir y buddiant hwnnw wrth sefydlu a yw'r unigolyn yn berchen ar fuddiannau mewn anheddau ychwanegol.

Nid yw’r eithriad yn gymwys pan fydd cwpl wedi gwahanu, oni bai fod y llog yn cael ei gadw oherwydd un o’r 4 gorchymyn llys uchod ac mae’n rhaid i’r gorchymyn llys fod ar waith cyn i’r annedd newydd gael ei phrynu.

Ystyrir bod gorchymyn cydsynio sy’n gwneud addasiad eiddo o dan 1 o’r 4 darpariaeth uchod yn orchymyn o dan 1 o’r 4 darpariaeth uchod. 

Os caiff gorchymyn llys ei roi o dan un o’r pedair darpariaeth uchod ar ôl i’r unigolyn brynu eiddo newydd, nid yw’n bosibl hawlio ad-daliad am unrhyw dreth cyfraddau uwch a dalwyd ar y pryniant.

Enghraifft

Ar ôl i'w briodas â Mrs A chwalu, mae gofyn i Mr A, o dan orchymyn o dan adran 24(1)(b) o Ddeddf Achosion Priodasol 1973 gadw'i fuddiant yn y cyn gartref priodasol, tan y dyddiad pan fydd plentyn ieuengaf y briodas yn cyrraedd 21 oed neu'n cwblhau ei addysg drydyddol. Bryd hynny, bydd yr eiddo'n cael ei farchnata i'w werthu gan rannu'r elw yn unol â thelerau'r gorchymyn llys. Heb y rheolau hyn, byddai Mr A, pan fyddai'n prynu ei brif breswylfa newydd (neu brif breswylfa i ddisodli'r hen breswylfa), yn cael ei drin fel pe bai'n berchen ar y buddiant yn y cyn gartref priodasol ac o bosibl yn atebol am dalu cyfraddau uwch TTT ar y pryniant hwnnw. Nid oes ganddo ddewis ond cadw'r buddiant oherwydd y gorchymyn llys ac, oherwydd nad yw'n bodloni'r amodau eithrio ar gyfer disodli'r brif breswylfa, byddai fel arall yn atebol am dalu'r cyfraddau uwch. Mae'r rheolau serch hynny'n caniatáu iddo gadw'r buddiant yn y cyn gartref priodasol a chael ei drin fel pe na bai ganddo fuddiant yn yr annedd honno.

DTTT/8180 Setliadau ac Ymddiriedolaethau Noeth

(paragraffau 27,28,29, 30 a 31 Atodlen 5)

Ar gyfer y rheolau cyffredinol sy'n berthnasol i ymddiriedolwyr, gan gynnwys ystyr setliad ac ymddiriedolaeth noeth.

DTTT/8190 Ymddiriedolaethau noeth a setliadau - tybio bod y buddiolwr yn brynwr neu'n berchennog

(paragraffau 27 ac 28 Atodlen 5)

Bydd y ffordd yr ymdrinnir â phrynu anheddau preswyl ychwanegol, at ddibenion y darpariaethau ynghylch cyfraddau uwch, yn gwahaniaethu a dibynnu ar a yw'r ymddiriedolwr yn ymddiriedolwr mewn ymddiriedolaeth noeth, ymddiriedolaeth sy'n rhoi'r hawl i'r buddiolwr feddiannu'r annedd am oes neu incwm a enillir yng nghyswllt yr annedd neu unrhyw ymddiriedolaeth arall ('setliad').

Os:

  • prif fuddiant mewn annedd, gan gynnwys dyroddi les, neu gaffael mwy nag un annedd;
  • gan ymddiriedolwr, neu nifer o ymddiriedolwyr, mewn setliad, ar ei ben ei hun neu gydag eraill nad ydynt yn ymddiriedolwyr, ac
  • o dan delerau'r setliad bydd gan y buddiolwr (neu'r buddiolwyr) yr hawl i feddiannu'r annedd am oes neu â'r hawl i'r incwm a enillir

yna, er mwyn penderfynu a fydd gofyn talu'r cyfraddau uwch, bydd angen edrych ar y buddiolwyr i benderfynu, petaent hwy yn hytrach na'r ymddiriedolaeth wedi caffael yr annedd, a fyddent yn atebol am dalu cyfraddau uwch y TTT. Petai'r buddiolwyr (neu unrhyw un ohonynt) wedi bod yn atebol am dalu'r cyfraddau uwch yna, rhaid i'r ymddiriedolwr(wyr) ffeilio'u ffurflen dreth gan gynnwys hunanasesiad a gyfrifwyd gan ddefnyddio cyfraddau uwch y TT.

Bydd angen ystyried buddiant y buddiolwr yn yr anheddau hefyd os dyroddir les ac os yw'r prynwr yn gweithredu fel ymddiriedolwr i ymddiriedolaeth noeth. Pwrpas hyn yw sicrhau nad oes modd rhoi lesoedd i ymddiriedolwyr noeth ac nad yw'r rheolau arferol sy'n berthnasol i ddyroddi les o'r fath yn cael eu camddefnyddio er mwyn osgoi cyfraddau uwch y TTT.

Yn yr un modd, os bydd:

  • unigolyn yn fuddiolwyr o dan setliad
  • prif fuddiant mewn annedd yn ffurfio rhan o eiddo'r ymddiriedolaeth, ac
  • o dan delerau'r setliad bydd gan y buddiolwr (neu'r buddiolwyr) yr hawl i feddiannu'r annedd am oes neu â'r hawl i'r incwm a enillir

neu os bydd:

  • rhywun yn fuddiolwr o dan ymddiriedolaeth noeth ac am gyfnod o flynyddoedd absoliwt (les boed honno wedi'i chaffael drwy rodd neu aseiniad), mewn annedd yn ffurfio rhan o eiddo'r ymddiriedolaeth

yna, er mwyn sefydlu'r atebolrwydd am dalu'r cyfraddau uwch, bydd angen edrych ar y buddiolwyr i benderfynu beth fyddai'r sefyllfa petaent hwy, yn hytrach na'r ymddiriedolaeth yn dal y buddiant yn yr annedd. Felly, er mwyn penderfynu pwy biau buddiannau a ddelir neu a waredir, bydd unigolyn yn cael ei drin fel pe bai'n berchen ar fuddiannau neu'n gwaredu buddiannau mewn eiddo a ddelir neu a waredir gan yr ymddiriedolaeth.

Enghraifft 1

Mae A (Ymddiriedolwyr) Cyf yn ymddiriedolwyr mewn setliad sydd yn ymddiriedolaeth â buddiant mewn meddiannaeth (h.y. mae gan y buddiolwyr yr hawl i incwm yr ymddiriedolaeth wrth iddo godi). Un buddiolwr sydd. Mae'r ymddiriedolwr yn prynu annedd, sy'n costio £200,000. Penderfynir a fydd angen i'r ymddiriedolwr dalu cyfraddau uwch TTT ar sail yr eiddo y mae'r buddiolwr yn berchen arno. Bydd angen i'r ymddiriedolwr benderfynu a fyddai'r buddiolwr, petai'n caffael yr annedd ei hun, yn atebol am dalu cyfraddau uwch TTT. Petai'r buddiolwr yn gorfod talu'r cyfraddau uwch, efallai oherwydd ei fod yn berchen ar fuddiant arall mewn annedd sy'n werth £40,000 neu ragor ar y dyddiad y bydd yr ymddiriedolwyr yn caffael eiddo'r ymddiriedolaeth neu fod y buddiolwyr yn blentyn y mae ei rieni'n berchen ar eiddo, neu fod cymar y buddiolwr yn berchen ar annedd, neu fod y buddiolwr yn gwmni, er enghraifft. Pe na bai'r buddiolwr yn atebol am dalu cyfraddau uwch TTT pe bai wedi caffael yr annedd yn ei hawl ei hun, yna, ni fyddai angen i'r ymddiriedolwyr ychwaith dalu'r cyfraddau uwch. Pe bai mwy nag un buddiolwr, yna, byddai angen i bob buddiolwr gael ei ystyried ar wahân, ac, fel sy'n wir am gydbrynwyr, os bydd amodau'r cyfraddau uwch yn cael eu bodloni ar gyfer un, byddant yn cael eu trin fel petaent yn cael eu bodloni yng nghyswllt pob un ohonynt.

Enghraifft 2

Mae B (Ymddiriedolwyr) Cyf yn ymddiriedolwyr mewn setliad sy'n ymddiriedolaeth ddewisol. Un buddiolwr sydd. Mae'r ymddiriedolwr yn prynu annedd sy'n costio £200,000. Gan mai ymddiriedolaeth ddewisol yw'r ymddiriedolaeth, nid yw buddiannau unigol y buddiolwr yn yr eiddo'n berthnasol wrth gymhwyso cyfraddau uwch TTT i'r trafodiad. Bydd gofyn i'r ymddiriedolwr dalu cyfraddau uwch TTT ar eu caffaeliad.

Enghraifft 3

Mae C (Ymddiriedolwyr) Cyf yn gweithredu fel ymddiriedolwr noeth ar ran Mr D. Mae'r ymddiriedolwr yn prynu, dan gyfarwyddyd Mr D, annedd ar rydd-ddaliad sy'n costio £200,000. Bydd y rheolau sy'n berthnasol i ymddiriedolwyr noeth yn berthnasol; bydd y rheolau'n cael eu rhoi ar waith fel petai'r buddiant wedi'i freinio yn y sawl y penodwyd yr ymddiriedolwr i weithredu ar ei ran a bod gweithredoedd yr ymddiriedolwr yn weithredoedd gan yr unigolyn. Os caffaelwyd y buddiant yn yr annedd drwy ddyroddi les, yna ni fyddai'r rheolau arferol sy'n ymwneud ag ymddiriedolwyr noeth yn berthnasol. Yn hytrach, bydd cyfraddau uwch TTT yn dal yn berthnasol i'r trafodiad oherwydd ni fydd y rheol arferol, sef bod ymddiriedolwr noeth yn cael ei drin fel y prynwr yng nghyswllt rhoi les yn berthnasol at ddibenion penderfynu a fydd angen talu cyfraddau uwch TTT.

DTTT/8200 Atebolrwydd unigolion sy'n ymddiriedolwyr mewn setliad am dalu treth

(paragraff 31 Atodlen 5)

Os:

  • caffaelir prif fuddiant mewn annedd, neu fwy nag un annedd
  • gan ymddiriedolwr, neu nifer o ymddiriedolwyr, mewn setliad, ar ei ben ei hun neu gydag eraill nad ydynt yn ymddiriedolwyr, ac
  • os bydd yr ymddiriedolwr hwnnw'n unigolyn (neu os bydd yr holl ymddiriedolwyr yn unigolion), ac
  • o dan delerau'r setliad na fydd gan y buddiolwr (neu'r buddiolwyr) yr hawl i feddiannu'r annedd am oes na'r hawl i'r incwm a enillir

yna, ymdrinnir â'r ymddiriedolwr fel pe bai’n berchennog llesiannol ac, er ei fod yn unigolyn (neu'n unigolion), bydd caffael, dal neu waredu prif fuddiant ganddynt mewn annedd yn cael ei drin yn yr un modd â phe na bai'r ymddiriedolwr hwnnw'n unigolyn.

Hynny yw, os bydd yr amodau a restrir uchod yn cael eu bodloni, bydd caffael unrhyw brif fuddiant mewn eiddo'n golygu bod gofyn talu cyfraddau uwch TTT cyn belled ag y bydd hynny'n bodloni'r gofynion sylfaenol ar gyfer rhoi'r cyfraddau uwch ar waith (bod y gydnabyddiaeth a roddir yn £40,000 neu ragor) ac na fydd dim o'r eithriadau'n berthnasol (er enghraifft, bydd y buddiant yn ddarostyngedig i les sydd â mwy na 21 mlynedd yn weddill arni).

DTTT/8210 Rhiant yn caffael ar ran plentyn o dan oed

(paragraff 30 Atodlen 5)

Os bydd rhiant yn caffael annedd ar ran plentyn o dan oed, yna bydd y rhiant, neu unrhyw gymar neu bartner sifil i'r rhiant, (gan gynnwys llys-rieni), yn hytrach na'r plentyn, yn cael ei drin fel petai'n brynwr, neu fel petai'n dal neu'n gwaredu'r buddiant. Ni fydd y rheol sy'n ymwneud â'r cysylltiad â chymar neu bartner sifil y plentyn ond yn berthnasol os bydd y pâr priod neu'r partneriaid sifil yn cyd-fyw.

Serch hynny, dylid nodi mewn unrhyw achos y bydd y ddau riant naturiol yn cael eu hystyried yn rhieni i'r plentyn, felly, boed y ddau'n cyd-fyw neu beidio, bydd y rhieni naturiol yn cael eu trin fel petaent yn caffael, yn perchnogi neu'n gwaredu'r buddiant yn annedd y plentyn o dan oed, hyd yn oed os dim ond un o'r rhieni sy'n talu am yr annedd.

Enghraifft 1

Mae Mrs a Mrs A, rhieni naturiol AA, plentyn o dan oed, yn penderfynu prynu annedd yn y dref lle y bydd AA yn mynd i'r brifysgol. Mae Mr a Mrs A yn berchen ar gartref y teulu. Penderfynir mai perchennog llesiannol yr eiddo newydd fydd AA, nid y rhieni. Er y bydd buddiant llesiannol yn yr annedd yn cael ei gaffael yn enw AA (a'r buddiant cyfreithiol yn cael ei ddal drwy ymddiriedolaeth noeth yn enwau'r rhieni), bydd gofyn talu cyfraddau uwch TTT ar y caffaeliad Nes bydd AA yn troi’n ddeunaw oed, bydd Mr a Mrs A yn cael eu trin fel petaent yn dalu y prif fuddiant yn yr annedd. Petai'r annedd wedi'i chaffael yn yr un modd ond ar ôl i AA droi'n ddeunaw oed, ni fyddai'r cyfraddau uwch yn gymwys oherwydd y byddai'r arian i gaffael yr annedd mewn gwirionedd wedi'i roi'n rhodd i AA.

Enghraifft 2

Partneriaid dibriod yw Mr B a Ms C ac maent yn rhieni naturiol i BC, plentyn o dan oed. Mae Mr B a Ms C yn byw yn yr eiddo sydd ym mherchnogaeth lwyr Ms C (gwerth marchnadol cyfredol £200,000) ac nid yw Mr B yn berchen ar ddim buddiannau mewn anheddau eraill. Mae eu plentyn hwythau hefyd yn bwriadu mynd i'r brifysgol. Mae Mr B yn penderfynu defnyddio rhywfaint o'r arian y mae wedi'i etifeddu i brynu annedd i BC (a fydd ym mherchnogaeth lesiannol BC ac ym mherchnogaeth gyfreithiol Mr B). Er nad yw Mr B a Ms C yn briod ac mai Mr B ar ei ben ei hun sy'n rhoi effaith i'r caffaeliad, bydd gofyn talu cyfraddau uwch TTT ar y caffaeliad oherwydd bod Ms C hefyd yn rhiant i BC a'i bod hithau'n berchen ar fuddiant mewn annedd. Ar y llaw arall, petai Mr B wedi prynu'r buddiant cyfreithiol a llesiannol iddo'i hun, ni fyddai'r cyfraddau uwch wedi bod yn daladwy oherwydd, er bod gan Ms C brif fuddiant, sef prif breswylfa Mr B, ni fydd hynny'n cael ei ystyried oherwydd nad yw ef a Ms C yn briod.

DTTT/8220 Llys sydd wedi'i benodi'n ddirprwy'n caffael ar ran plentyn o dan oed

(paragraff 30 Atodlen 5) 

Mae rheol arbennig yn dweud na fydd y rheol arferol, sef y tybir bod rhiant y plentyn yn prynu, yn dal neu'n gwaredu annedd, yn berthnasol pan fydd y prynwr neu'r perchennog yn ddirprwy sydd wedi'i benodi gan lys o dan adran 16 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005, neu'n rhywun sydd wedi'i benodi o dan ddarpariaeth debyg mewn gwlad y tu allan i Gymru a Lloegr. Rhaid i'r annedd fod wedi'i chaffael yn enw'r plentyn neu ar ran y plentyn.

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer peidio â thalu cyfraddau uwch TTT, nid oes angen caffael, dal na gwaredu'r buddiant, gan ddirprwy (neu ddirprwyon) a benodir gan y llys yn unig ddirprwy ond mae'n rhaid i un o'r bobl sy'n caffael yr annedd fod yn ddirprwy a benodwyd gan y llys. Gallai perchnogion eraill o'r fath, er enghraifft, gynnwys rhieni'r plentyn neu berthnasau neu warcheidwaid eraill.

Lle bydd annedd yn cael ei chaffael, ei dal, neu ei gwaredu gan ddirprwy, ni fydd yr annedd honno'n cael ei thrin at ddibenion cyfraddau uwch TTT fel petai'n fuddiant i rieni'r plentyn. Yn hytrach, mewn sefyllfaoedd eithriadol, er mwyn penderfynu pa gyfraddau sy'n berthnasol i'r trafodiad, neu'r buddiannau mewn anheddau sy'n eiddo i'r rhieni, bydd y buddiant yn cael ei drin fel pe bai’n cael ei gaffael gan y plentyn neu’n eiddo iddo.

Mae'n bosibl felly i rieni plentyn sydd â dirprwy a benodwyd gan y llys, fod yn berchen ar fuddiant mewn annedd ac i'r plentyn gaffael buddiant mewn annedd drwy ei ddirprwy ac na chodir cyfraddau uwch TTT ar bryniant y plentyn. Serch hynny, byddai ail gaffaeliad gan y dirprwy ar ran y plentyn o bosibl yn golygu bod gofyn talu cyfraddau uwch TTT.

Yn ei hanfod, at ddibenion cyfraddau uwch TTT, bydd y plentyn y penodir dirprwy ar ei gyfer gan y llys, yn cael ei drin fel pe bai’n oedolyn. Bydd trafodiadau tir a pherchnogaeth anheddau'r plentyn at ddibenion cyfraddau uwch TTT yn cael eu datgysylltu oddi wrth gaffaeliadau ei rieni a'u perchnogaeth hwythau ar fuddiannau mewn anheddau.

Enghraifft 1

Mae AA yn blentyn da oed, ac o ganlyniad i esgeuluster meddygol, mae wedi cael swm sylweddol o arian. Mae B, cyfreithiwr, wedi cael ei benodi gan y llys o dan adran 16 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 i fod yn ddirprwy i AA. Mae AA yn byw gyda'i rieni, mewn cartref y mae'r rhieni hynny'n berchen arno. Ar ôl y dyfarniad, bydd rhieni AA yn cyflwyno sylwadau i B sy'n dweud nad yw eu cartref presennol i ddiwallu anghenion AA yn y dyfodol. Mae B yn cytuno ac yn cymeradwyo prynu cartref mwy addas gan ddefnyddio rhywfaint o'r arian a ddyfarnwyd i'r plentyn. Mae B yn caffael yr annedd yn enw AA. Nid yw rhieni AA yn dymuno gwerthu eu cartref presennol. Ni fydd cyfraddau uwch TTT yn berthnasol i'r achos hwn. Serch hynny, petai B wedyn, a'r annedd gyntaf yn dal yn eiddo i AA, yn caffael ail annedd ar ran AA (efallai er mwyn sicrhau twf cyfalaf ac incwm) yna byddai cyfraddau uwch TTT yn daladwy ar y caffaeliad hwnnw herwydd bod AA drwy ei ddirprwy, eisoes yn berchen ar fuddiant mewn annedd.

DTTT/8230 Prif fuddiannau mewn eiddo a etifeddwyd

(paragraff 34 Atodlen 5)

Os bydd trethdalwr yn etifeddu buddiant mewn eiddo a'r buddiant hwnnw'n fwy na 50% o werth y buddiant, yna, bydd y buddiant yn cael ei drin fel petai'r trethdalwr yn berchen arno o ddyddiad yr etifeddu ymlaen. Bydd trethdalwr yn cael ei drin fel petai'n berchen ar gyfran lesiannol o fwy na 50% os:

  • bydd ganddo hawl, fel unigolyn, i fuddiant sy'n fwy na 50%
  • bydd y trethdalwr a'i gymar neu ei bartner sifil, gyda'i gilydd yn berchen, fel tenantiaid ar y cyd, ar fuddiant sy'n fwy na 50%, neu
  • na fydd mwy na thri o gyd-denantiaid a dau o'r cyd-denantiaid hynny'n drethdalwr a'u cymar neu eu partner sifil yn berchen ar yr eiddo

Dylid nodi bod unrhyw fuddiant y mae plant o dan oed yn berchen arno'n cael ei ystyried yn eiddo y mae eu rhiant yn berchen arno oni fydd y buddiant yn cael ei ddal yn sgil caffael eiddo gan ddirprwy a benodwyd gan lys.

Os bydd y buddiant a etifeddwyd yn 50% neu'n llai (yn eiddo i'r trethdalwr neu, lle bydd hynny'n berthnasol, o'u hystyried ynghyd â buddiannau sy'n eiddo i gymar neu i bartner sifil y trethdalwr), ni fydd yn cael ei drin ar unwaith yn fuddiant mewn annedd arall at ddibenion y rheolau ynglŷn â chyfraddau uwch. Yn hytrach, bydd yn cael ei drin fel buddiant mewn eiddo arall dair blynedd yn unig ar ôl y dyddiad etifeddu. Serch hynny, os, yn ystod y tair blynedd hynny, y bydd buddiant y trethdalwr yn yr annedd yn newid oherwydd:

  • amrywiad yn y trefniant
  • caffael buddiannau eraill yn yr annedd, neu,
  • briodas neu ymrwymo i bartneriaeth sifil

yna, os bydd y buddiant yn fwy na 50%, bydd yn cael ei drin ar unwaith yn brif fuddiant at ddibenion y ddeddfwriaeth cyfraddau uwch.

Y dyddiad etifeddu yw'r dyddiad pan fydd yr unigolyn yn caffael y budd a bod y caffaeliad hwnnw'n bodloni neu'n rhan-fodloni hawl o dan ewyllys neu ddiffyg ewyllys yr ymadawedig neu mewn perthynas ag ewyllys o’r fath.

Bydd rheolau arbennig yn berthnasol i'r dyddiad etifeddu pan fydd trefniant wedi'i amrywio. Os bydd amrywiad o'r fath yn digwydd o fewn dwy flynedd i farwolaeth yr unigolyn, yna ystyrir mai'r dyddiad caffael fydd y dyddiad etifeddu'n unol â'r amrywiad.

Enghraifft 1

Mr AA a Miss BA yw mab a merch Mrs A, Mrs A. Mae Mrs A, gwraig weddw, yn marw ar 1 Ionawr 2020. Mae'n berchen ar ddwy annedd (y ddwy yn werth yr un faint â'i gilydd sef £200,000 yr un) ac mae'n gadael cyfran gyfartal o'r rhain i'w dau blentyn. Caniateir profiant ar 1 Ebrill 2020 ac mae'r eiddo'n cael eu trosglwyddo i Mr AA a Miss BA, fel tenantiaid ar y cyd, bryd hynny. Gan eu bod yn berchen ar gyfran gyfartal o'r ddwy annedd, nid oes gan Mr AA na Miss BA fuddiant mewn annedd a etifeddwyd sy'n fwy na 50% Os nad oes gan y naill na'r llall fuddiannau eraill mewn annedd a fyddai'n gymwys i'w hystyried yn brif fuddiant, gallai'r ddau brynu annedd heb fod wedyn yn atebol am dalu cyfraddau uwch TTT, yn ystod y tair blynedd ar ôl y dyddiad etifeddu.

Example 2

Mae'r ffeithiau yr un fath ag yn enghraifft 1 uchod. Serch hynny, ar ôl caniatáu profiant a chaffael yr anheddau fel tenantiaid ar y cyd, bydd Mr AA a Miss BB yn amrywio'r ewyllys er mwyn i'r ddwy annedd gael eu hetifeddu'n unigol, fel bod Mr AA yn berchen yn llwyr ar un a Miss BA yn berchen ar y llall. Bydd yr amrywiad yn digwydd ar 1 Hydref 2020. O'r dyddiad hwnnw ymlaen, bydd Mr AA yn cael ei drin fel petai'n berchen ar 100% o'r buddiant yn ei eiddo ef (a bydd Miss BA yn berchen ar 100% o'r buddiant yn ei heiddo hithau). Petai'r naill neu'r llall yn caffael prif fuddiant mewn annedd arall ar ôl y dyddiad hwnnw, yna byddai'r cyfraddau uwch yn berthnasol, er bod yr annedd wedi'i hetifeddu. Os caffaelwyd yr annedd newydd yn y cyfnod pryd roedd tenantiaid ar y cyd yn berchen ar yr anheddau a etifeddwyd a chyn 1 Hydref 2020, ni fydd y cyfraddau uwch yn gymwys (a chymryd nad oes gan yr un ohonynt brif fuddiant mewn annedd arall). Bydd caffael annedd newydd ar 1 Hydref 2020 neu ar ôl hynny (a chymryd nad yw er mwyn cael prif neu unig annedd newydd) yn agored i gyfraddau uwch TTT.

DTTT/8240 Trefniadau cyllid eraill

(paragraff 33 Atodlen 5)

Os bydd yr annedd yn ddarostyngedig i drefniant cyllid eiddo arall, gyda golwg ar y 'trafodiad cyntaf', yr unigolyn, yn hytrach na'r sefydliad ariannol, fydd yn cael ei drin yn brynwr wrth benderfynu a oes gofyn talu cyfraddau uwch TTT ar y trafodiad. Oni fyddai'r rheol hon yn bodoli, bydda'r cyfraddau uwch yn berthnasol i bob trafodiad gan y sefydliad ariannol yng nghyswllt trefniadau cyllid eiddo arall oherwydd mai'r sefydliad ariannol fyddai'n cael ei ystyried er mwyn penderfynu a oedd yn atebol am dalu'r cyfraddau uwch, yn hytrach na'r sawl sydd wedi gwneud y trefniant gyda'r sefydliad ariannol.

Enghraifft 1

Mae Mr a Mrs A yn dymuno caffael annedd a hefyd yn dymuno rhoi effaith i'r pryniant hwnnw drwy adnau arian parod a chyllid sy'n bodloni'r rheolau trefniadau cyllid eiddo arall. Bydd angen i'r sefydliad ariannol benderfynu a yw naill ai Mr neu Mrs A yn berchen ar brif fuddiant mewn annedd arall. Yn yr enghraifft hon, nid yw na Mr na Mrs A yn berchen ar brif fuddiant yn yr un annedd arall. Felly, mae angen defnyddio prif gyfraddau TTT i gyfrifo'r faint o TTT sy’n daladwy oherwydd nid yw'r 'person' yn y trefniant cyllid eiddo arall yn berchen ar brif fuddiant arall.

Enghraifft 2

Mae Mr a Mrs A hefyd yn dymuno caffael annedd a hefyd yn dymuno rhoi effaith i'r pryniant hwnnw drwy adnau arian parod a chyllid sy'n bodloni'r rheolau trefniadau cyllid eiddo arall. Serch hynny, maent yn awyddus i gadw'u hannedd bresennol (a'u cartref presennol) i'w osod ar rent ar ôl caffael yr annedd newydd. Oherwydd y byddai Mr a Mrs B yn atebol am dalu'r cyfraddau uwch pe btaent wedi prynu'r cartref drwy ddefnyddio cynnyrch morgais confensiynol, byddai cyfraddau uwch TTT yn berthnasol i'r 'trafodiad cyntaf' yn y trefniant cyllid eiddo arall hefyd.

DTTT/8250 Partneriaethau - buddiannau a gaffaelir gan bartner

(paragraff 32 Atodlen 5)

Sylwch: 'Partner' a 'phartneriaeth' yn yr adran hon yn cyfeirio at bartneriaid busnes ac nid at gymar, partner sifil na phobl sy'n cyd-fyw (os bydd y cymar neu'r partner sifil hefyd yn bartner busnes, yna bydd hynny'n cael ei wneud yn glir yn yr enghreifftiau).

Os bydd partner (sy'n unigolyn) mewn partneriaeth yn caffael prif fuddiant mewn annedd naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag unigolion eraill ac nad yw'r annedd yn cael ei chaffael at ddibenion y bartneriaeth, bydd rheolau arbennig yn berthnasol. Enghraifft o hyn fyddai lle bydd y partner yn caffael ei unig neu ei brif breswylfa, neu lle bydd yn caffael eiddo prynu-i'w-osod.

Y rheol honno yw na chaiff yr un prif fuddiant a ddelir gan neu ar ran y bartneriaeth at ddibenion y fasnach eu trin fel petaent yn cael eu dal gan neu ar ran y partner. Felly, os bydd partneriaeth sy'n masnachu fel datblygwr eiddo neu fusnes sy’n berchen ar brif fuddiannau mewn anheddau at ddibenion y fasnach honno (er enghraifft busnes ffermio), ni chaiff y buddiannau hynny eu trin fel pe baent yn cael eu dal gan y partneriaid unigol.

Serch hynny, os bydd eiddo'n cael ei berchnogi drwy bartneriaeth a bod yr eiddo hwnnw'n cael ei ddefnyddio mewn busnes gosod eiddo, ni fydd y prif fuddiannau yn yr annedd honno'n cael eu defnyddio mewn masnach a bydd buddiannau'r partner yn yr eiddo hwnnw'n cael eu trin fel prif fuddiant sy'n eiddo i'r partner.

Dylid cofio hefyd bod yr eiddo a gaffaelir gan bartneriaeth yn cael ei drin fel petai'n cael ei gaffael gan y partneriaid (DTTT 5080). Felly, pan fydd partneriaeth yn caffael annedd (at ba ddiben bynnag), bydd yn bwysig penderfynu a yw cyfraddau uwch TTT yn berthnasol i'r pryniant hwnnw. Er mwyn penderfynu hyn, bydd yn bwysig gwybod a oes unhryw un o'r partneriaid yn berchen ar brif fuddiannau mewn anheddau er mwyn penderfynu a yw cyfraddau uwch TTT yn berthnasol i gaffaeliad y bartneriaeth.

Enghraifft 1

Mae Partneriaeth Y yn cynnwys pedwar partner sy'n unigolion. Mae gan y partneriaid yr hawl i gyfrannau cyfartal o'r elw ar ffurf incwm. Maent yn cynnal masnach datblygu ac ailddatblygu eiddo. Mae'r bartneriaeth ar hyn o bryd yn berchen ar bedair annedd y mae'n eu hailddatblygu i'w hailwerthu. Gwerth pob annedd yw £200,000. Mae Partner A yn prynu ei phrif breswylfa (pryniant gan brynwr tro cyntaf). Mae'n ddibriod ac nid yw mewn partneriaeth sifil ac nid yw ychwaith yn berchen ar yr un buddiant arall mewn anheddau eraill. Er gwaetha'r ffaith ei bod, drwy'r bartneriaeth, yn berchen ar bedwar prif fuddiant, pob un yn werth £50,000, ni fydd yn atebol am dalu cyfraddau uwch TTT wrth brynu ei phrif breswylfa oherwydd y rheolau arbennig sy'n berthnasol i bartneriaid.

Enghraifft 2

Mae'r ffeithiau ar gyfer partneriaeth W yr un fath ag ar gyfer partneriaeth Y uchod. Serch hynny, mae un o'r pedair annedd y mae'r bartneriaeth yn berchen arnynt yn cael ei gosod ar gytundebau tenantiaeth byrddaliad sicr. Gan nad yw'r annedd yn cael ei dal at ddibenion y fasnach (ond ei bod yn hytrach yn cael ei dal at ddibenion gosod eiddo, hyd yn oed os yw'n hynny'n ymylol i'r fasnach), bydd partner A yn cael ei thrin fel petai'n berchen ar brif fuddiant mewn annedd arall pan fydd yn prynu ei phrif breswylfa. Felly, bydd cyfraddau uwch TTT yn berthnasol wrth gaffael yr annedd honno. Pe bai Partner A yn disodli ei hunig neu ei phrif breswylfa, a phe bai'n bodloni gofynion, ni fyddai'n atebol am dalu cyfraddau uwch TTT ar y trafodiad.

Enghraifft 3

Partneriaeth sydd newydd ei ffurfio yw Partneriaeth U sy'n cynnwys tri unigolyn. Bydd yn masnachu fel datblygwr ac ailddatblygwr eiddo. Yr eiddo cyntaf y mae'n ei brynu yw fflat sy'n costio £200,000. Nid oes yr un partneriaid yn berchen ar brif fuddiant mewn annedd. Prif gyfraddau TTT sy'n berthnasol i'r caffaeliad hwn. Flwyddyn wedyn, bydd yr annedd honno'n cael ei gwerthu ac fe gaffaelir annedd newydd (y tro hwn am £105,000). Yn y flwyddyn rhwng prynu'r annedd gyntaf a chaffael yr annedd newydd, mae Partner B hefyd wedi caffael, ar ei ben ei hun, annedd i'w defnyddio'n unig neu'n brif breswylfa iddo (gwerth marchnadol £150,000). Y tro hwn, cyfraddau uwch TTT yn berthnasol i'r caffaeliad. Y rheswm dros hyn yw oherwydd ar ddyddiad caffael annedd newydd y bartneriaeth, bod un o'r unigolion a oedd yn prynu'r annedd drwy'r bartneriaeth yn dal buddiant mewn annedd arall â gwerth marchnadol o £40,000 neu ragor.

DTTT/8260 Prif fuddiant yn ddarostyngedig i les

(paragraffau 3, 13 a 21 Atodlen 5)

Os bydd y prif fuddiant a gaffaelir yn ddarostyngedig i les, gall hyn effeithio ar a fydd cyfraddau uwch TTT yn berthnasol i'r trafodiad neu beidio. Ni chaiff trafodiad ei drin fel trafodiad eiddo preswyl ar y cyfraddau uwch os, ar ddiwedd y dyddiad y bydd y trafodiad yn cael effaith, y bydd yr amodau a ganlyn wedi'u bodloni.

  • bod y buddiant a brynwyd yn ddarostyngedig i les
  • bod prif destun y trafodiad yn rifersiwn ar y les honno
  • bod cyfnod o fwy na 21 yn weddill ar y les, ac
  • nad yw'r les yn cael ei dal gan neb sydd â chysylltiad â'r prynwr

Bydd gan rywun gysylltiad â'r prynwr os bydd yn bodloni'r amodau yn Adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010.

Os bydd yr eiddo'n ddarostyngedig i les ar ddiwedd y dydd ar y dyddiad y bydd y trafodiad yn cael effaith, bydd effaith hynny yr un fath ar unigolyn (neu unigolion) sy'n prynu un eiddo, neu'n prynu sawl eiddo drwy un trafodiad, neu lle na fydd y prynwr yn unigolyn.

Enghraifft 1

Mae Mr A yn berchen ar nifer o anheddau buddsoddi ac ar ei gartref ei hun. Mae'n prynu rhydd-ddaliad annedd sy'n ddarostyngedig i les â 30 mlynedd yn weddill arni. Mae'r les yn cael ei dal gan Mrs Y. Nid oes ganddi hi gysylltiad â Mr A. Mae'n talu 50,000 am y buddiant rhydd-ddaliad. Er bod y gydnabyddiaeth drethadwy a roddir yn fwy na £40,000, nid yw cyfraddau uwch TTT yn berthnasol oherwydd bod y prif fuddiant a gaffaelwyd yn bodloni'r amodau a restrwyd uchod.

Enghraifft 2

Mae Mrs B yn berchen ar ei chartref ar y cyd â'i gŵr. Ei werth marchnadol yw £300,000. Mae merch Mrs B sy'n oedolyn, Miss B, wedi prynu les hir ar dŷ y mae'n ei ddefnyddio'n brif breswylfa. Mae cyfnod o fwy na 60 mlynedd yn weddill ar y les. Flwyddyn wedyn, mae'r rhydd-ddaliad ar gael i'w brynu. Ni all Miss B fforddio'i brynu. Mae Mrs B yn cytuno i'w brynu am £45,000. Gan fod Mrs B eisoes yn berchen ar brif fuddiant mewn annedd sydd â gwerth marchnadol o £40,000 neu ragor, bydd angen iddi dalu cyfraddau uwch TTT ar y buddiant rhydd-ddaliad y mae'n ei gaffael yn awr, oherwydd, er bod yr eiddo a gaffaelir gan Mrs B yn ddarostyngedig i les, mae'r les wedi'i breinio mewn person cysylltiedig, sef Miss B.

Enghraifft 3

Mae C Cyf yn cynnal busnes dychwelyd-ar-les Mae'n prynu eiddo gan unigolion ac yna'n rhoi les yr eiddo i'r unigolion hynny (ynghyd â thaliad unswm). Yn gyfnewid am hyn, bydd yn cael rhent am yr eiddo, a phan ddaw'r les i ben pan fydd yr unigolion yn marw, bydd yn perchnogi'r eiddo. Mae Mrs W (pensiynwraig weddw 70 oed) yn ymrwymo i drefniant dychwelyd-ar-les â C Cyf. Yn gyfnewid am les am oes i feddiannu'r eiddo am rent o £600 y mis a £100,000, mae'n gwerthu ei chartref i C Cyf (gwerth marchnadol yr eiddo yw £200,000). Ar yr un dyddiad ag y cwblheir y gwerthiant, rhoddir les i Mrs W am 25 mlynedd i'w hestyn ar yr un telerau os digwydd i Mrs W fyw y tu hwnt i'r dyddiad hwnnw, a bod y les yn cael ei hildio os digwydd iddi farw cyn hynny. Mae C Cyf, drwy roi'r les i Mrs W, gan nad oes gan y cwmni gysylltiad â hi, yn bodloni'r amodau ac felly nid yw'n atebol am dalu'r cyfraddau uwch TTT.

Gweminarau wedi'u recordio