Neidio i'r prif gynnwy

Sut i ddiwygio ffurflen Treth Trafodiadau Tir er mwyn cywiro camgymeriad.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sut i ddiwygio furflen dreth

Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i roi gwybod i ni os ydych wedi:

  • gwneud camgymeriad ar ffurflen dreth
  • anfon ffurflen dreth mewn camgymeriad
  • anfon ffurflen dreth ddyblyg

Ni allwn dderbyn diwygiadau i ffurflenni treth dros y ffôn.

Pryd y gallwch chi ddiwygio ffurflen

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i ddiwygio ffurflen Treth Trafodiadau Tir hyd at 12 mis o'r dyddiad ffeilio.

Os byddwch yn dod o hyd i wall mewn ffurflen dreth fwy na 12 mis ar ôl y dyddiad ffeilio, cysylltwch â ni ar unwaith.

Treth wedi’i thandalu

Rhaid i chi dalu'r Dreth Trafodiadau Tir sy’n ddyledus i ni ar unwaith.

Mae'n bosibl y bydd llog a chosbau i’w talu ar dreth ddyledus sydd heb ei thalu.

Wedi derbyn cosb

Bydd angen i chi ddefnyddio ffurflen ar wahân i ofyn am adolygiad o'ch hysbysiad cosb. 

Hawlio ad-daliad

Os ydych yn credu eich bod wedi gordalu treth gallwch wneud cais am ad-daliad ar-lein.

Rhyddhad anheddau lluosog (MDR)

Dylech hawlio MDR pan fyddwch yn cyflwyno'ch ffurflen TTT. Os na wnaethoch ei hawlio a’ch bod yn sylweddoli’n ddiweddarach y dylech fod wedi gwneud hynny, gallwch ddiwygio eich ffurflen a hawlio ad-daliad o'r dreth ychwanegol a dalwyd.

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Gweler ein polisi preifatrwydd ynglŷn â sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni.

Cymorth

Os oes angen help arnoch neu eich bod angen y ffurflen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.