Neidio i'r prif gynnwy

Pryd a pham y gallai ACC wirio a yw swm y Dreth Trafodiadau Tir (TTT) neu'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) yr ydych yn ei dalu yn gywir.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Overview

Ein nod yw sicrhau bod y system dreth yng Nghymru yn deg, er mwyn eich helpu i dalu'r swm iawn o dreth ar yr adeg iawn.

Rydym yn gwybod fod y rhan fwyaf o'r ffurflenni treth TTT a TGT wedi'u ffeilio'n gywir a bod y swm cywir o dreth yn cael ei dalu. Ond weithiau mae angen i ni wirio ffurflenni ar ôl iddynt gael eu cyflwyno. Er enghraifft, efallai y bydd angen i ni:

  • ddeall eich trafodiad yn fwy manwl
  • gwneud yn siwr ei bod yn gywir
  • gwneud yn siwr bod y system dreth yn gweithio fel y dylai

Efallai y byddwn yn gofyn i chi:

  • am swm y dreth a nodir yn eich ffurflen dreth, neu
  • pam nad ydym wedi derbyn ffurflen dreth

Yna gellir cyfrifo eich sefyllfa dreth gywir drwy:

  • benderfyniad
  • asesiad
  • ymholiad

Yna mae swm y dreth ac unrhyw log yn ddyledus, a rhaid ei dalu o fewn 30 diwrnod i'n llythyr penderfyniad. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosbau os y byddwch chi’n hwyr.

Penderfyniad: os na fyddwch yn cyflwyno ffurflen dreth

Os na fyddwch yn ffeilio'ch ffurflen dreth erbyn y dyddiad cau, efallai y byddwn yn amcangyfrif faint o dreth y mae'n rhaid i chi ei thalu. Gelwir hyn yn 'benderfyniad'. 

Gellir gwneud penderfyniad hyd at 4 blynedd yn unig ar ôl eich dyddiad ffeilio perthnasol.

Asesiad: os yw'r dreth wedi’i hasesu’n anghywir

Os ydym yn credu eich bod wedi hunan-asesu'n anghywir, efallai y byddwn yn gwneud asesiad ar gyfer y swm cywir o dreth yr ydym yn credu sy'n ddyledus.

Gellir cyhoeddi asesiad o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • pan fo’r sefyllfa wedi’i hachosi’n ddiofal neu'n fwriadol,
  • lle mae’r amser i ni ymholi wedi dod i ben ac na fyddem wedi gallu disgwyl colli treth ar sail y wybodaeth oedd ar gael
  • mewn perthynas â’r Rheol Gwrthweithio Osgoi Trethi Cyffredinol
  • mewn perthynas â chredyd treth.

Rhaid cyhoeddi asesiadau o fewn terfynau amser penodol.

Am fwy o wybodaeth am asesiadau, gweler ein canllawiau technegol.

Ymholiad: unrhyw beth i'w wneud â ffurflen dreth

Efallai y bydd angen i chi ddarparu mwy o wybodaeth am eich ffurflen dreth.

Nid yw hyn bob amser yn golygu bod problem gyda'ch ffurflen gan ein bod efallai’n cynnal hapwiriadau.

Agor ymholiad

Rhaid i ni ddweud wrthych chi pan fyddwn ni’n agor yr ymholiad. Os ydych wedi awdurdodi asiant i weithredu ar eich rhan, byddwn yn rhoi gwybod iddyn nhw hefyd.

Gall ymholiad agor o fewn 12 mis i'r dyddiad:

  • yr oedd y ffurflen dreth i fod i gael ei chyflwyno
  • y cawsom y ffurflen (os y cafodd ei chyflwyno'n hwyr)
  • y gwnaethoch ddiwygio eich ffurflen

Yn ystod ymholiad

Byddwn yn gofyn i chi am wybodaeth yn ystod ymholiad. Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn ymweld â'ch eiddo neu'ch safle busnes.

Os yw swm y dreth a nodir yn y ffurflen dreth yn is nac y dylai fod, efallai y cewch gyfle i ddiwygio eich ffurflen er mwyn dangos y dreth ychwanegol sy'n ddyledus.

Os ydych chi'n ansicr ynglŷn â pham yr ydych chi’n cael eich holi am rywbeth, cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau i egluro.

Cau ymholiad

Pan fyddwn yn cau'r ymholiad, byddwn yn eich hysbysu o’n penderfyniad drwy hysbysiad cau. Bydd hyn yn cadarnhau bod naill ai:

  • dim angen gwneud unrhyw newidiadau i'ch ffurflen dreth
  • y bydd newidiadau'n cael eu gwneud i'ch ffurflen dreth er mwyn dangos unrhyw wahaniaeth yn swm y dreth sy'n ddyledus

Anghytuno â phenderfyniad treth

Os ydych chi'n anhapus gyda'n penderfyniad, gallwch:

Os nad ydych yn deall sut y gwnaethom ein penderfyniad, gallwch gysylltu â ni a byddwn yn gwneud ein gorau i egluro. Gallwch hefyd geisio cyngor cyfreithiol.

Mwy o wybodaeth

Dim ond crynodeb yw hwn o sut yr ydym yn gwneud yn siŵr bod swm y dreth y byddwch yn ei thalu’n gywir. Am fwy o wybodaeth am asesiadau ac ymholiadau ACC, ewch i’n canllawiau technegol.