Daeth yr ymgynghoriad i ben 26 Tachwedd 2015.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae Pennod 10 Polisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol 4 (TAN4) yn pennu polisïïau cynllunio ar gyfer datblygu safleoedd manwerthu a chanolfannau manwerthu.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae Polisi Cynllunio Cymru yn hybu canolfannau manwerthu presennol fel y lleoliadau mwyaf priodol ar gyfer manwerthu a swyddogaethau ategol eraill.
Nod yr adolygiad yw diweddaru Pennod 10 y Polisi Cynllunio a TAN4 fel ei fod yn cyd-fynd ag amcanion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod canolfannau sydd wedi’u sefydlu yn fwy bwyiog atyniadol a hyfwy.
Y prif feysydd o newid o fewn Polisi Cynllunio Cymru yw:
- Amcanion diwygiedig ar gyfer y polisi cynllunio manwerthu i gynnwys yr angen am hyblygrwydd wrth ymateb i newidiadau yn y farchnad
- Mwy o bwyslais ar yr angen i bolisïau manwerthu gael eu cynnwys o fewn strategaeth fanwerthu o fewn y Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) sy’n cael eu hategu gan uwchgynlluniau a sefydlu cynlluniau i helpu i gyflawni’r strategaeth
- Y gofyniad i’r CDLlau sefydlu hierarchiaeth o ganolfannau sydd wedi’u datblygu’n lleol
- Canllawiau cliriach ar ddefnyddioldeb yn destun i’r prawf dilyniannol
- Polisïau diwygiedig ar gyfer delio â defnydd newydd a chanolfannau sy’n newid; a chysondeb o ran terminoleg.
Bu diwygiadau cynhwysfawr i TAN4 ac ar ei ffurf ddrafft mae bellach yn adlewyrchu ac yn cefnogi’r canllawiau a amlinellwyd yn y drafft a ddiweddarwyd o Bennod 10 y Polisi Cynllunio. Mae TAN4 yn cynnig rhagor o gyngor technegol ar y meysydd pwnc canlynol:
- Amcanion ar gyfer manwerthu
- Heirarchiaeth canolfannau
- Strategaethau manwerthu uwchgynlluniau a chynlluniau lle
- Profion anghenion manwerthu
- Y prawf dilyniannol
- Ffryntiadau manwerthu
- Newid defnydd a rheoli datblygiadau
- Gorchmynion Datblygu Lleol
- Monitro dangosyddion
