Daeth yr ymgynghoriad i ben 31 Ionawr 2017.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem glywed eich barn ynghylch y newidiadau arfaethedig i reoliadau yn sgil diwygio’r Gyfarwyddeb Asesu Effeithiau Amgylcheddol (2011/92/EU) yn 2014.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Dyma ymgynghoriad ar y cyd â DEFRA, Llywodraeth yr Alban ac Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon.
Rydym yn ymgynghori ynghylch diwygiadau i ddeddfwriaeth ddomestig ynghylch asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer coedwigaeth, adnoddau dŵr, draenio tir, ffermio pysgod asgellog mewn dyfroedd morol a gwaith morol.
Bydd y diwygiadau hyn:
- yn symleiddio’r rheolau ar gyfer asesu effeithiau posibl prosiectau ar yr amgylchedd
- yn atgyfnerthu’r broses sgrinio ar gyfer asesu effeithiau amgylcheddol
- yn gwella’r modd y diogelir yr amgylchedd
- yn sicrhau bod gweithdrefnau’n canolbwyntio ar y ffactorau amgylcheddol y mae prosiectau’n cael effaith sylweddol arnynt.
