Yn y canllaw hwn
1. Crynodeb
Caiff awdurdodau lleol wneud cais am grant o hyd at £250,000 i wella gwasanaethau cyhoeddus drwy dechnoleg ddigidol.
Mae'r grant yn helpu awdurdodau lleol i wneud y canlynol:
- gwella sut y maent yn defnyddio technoleg ddigidol
- cydweithio gydag awdurdodau lleol eraill
- osgoi dyblygu gwaith tebyg sydd eisoes yn cael ei wneud mewn awdurdodau lleol eraill
- helpu'r rhai â phrosiectau bach i ddechrau datblygu safonau a gwasanaethau cyffredin
