Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarwyddiadau i wella hygyrchedd cyflwyniadau PowerPoint.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trefnu sleidiau'n gywir

Rhowch gynnwys eich sleid yn y drefn darllen gywir fel y gall meddalwedd darllen sgrin ei ddarllen yn uchel yn gywir i ddefnyddwyr sydd â nam ar y golwg.

Trefn darllen

I osod trefn darllen, cliciwch ar Hafan > Trefnu > Dewis Chwarel.

Rhestrwch wrthrychau yn y sleid mewn trefn resymegol fel y bydd unrhyw feddalwedd darllen sgrin yn eu darllen yn uchel yn y drefn gywir.

Er mwyn aildrefnu'r gwrthrychau mewn trefn darllen newydd, llusgwch y gwrthrych i leoliad newydd neu cliciwch arno a dewiswch Dod Ymlaen neu Anfon Yn ôl.

I gadarnhau'r drefn darllen, dewiswch sleid a gwasgwch y fysell Tab. Bob tro rydych yn gwasgu'r fysell, mae’r ffocws yn symud i'r gwrthrych nesaf y bydd darllenydd sgrin yn ei ddarllen.

Gwella hygyrchedd delweddau

Sut i wneud y siartiau, y graffau a'r delweddau yn eich sleidiau PowerPoint yn hygyrch i ddefnyddwyr sydd ag anableddau golwg neu wybyddol.

I wneud eich delweddau'n fwy hygyrch:

  • defnyddiwch liw, testun, patrymau, neu siapiau i gyfleu syniadau
  • ychwanegwch destun amgen disgrifiadol at luniau, siartiau a gwrthrychau gweledol eraill
  • trefnwch ddelweddau mewn haenau, fel llun sydd â llinellau tynnu sylw, yn un gwrthrych
  • dewiswch Gweld > Graddfa er mwyn cael amcan o'r ffordd y gallai eich sleidiau ymddangos i rywun sydd â diffyg golwg lliw

Ychwanegu Testun Amgen at siart

  1. Uwcholeuwch y siart drwy glicio arni.
  2. De-gliciwch y siart a dewiswch Fformatio Ardal Siart.
  3. Dewiswch Maint a Phriodweddau > Testun Amgen.
  4. Ychwanegwch Deitl a Disgrifiad ystyrlon.

Ychwanegu Testun Amgen at ddelwedd

  1. De-gliciwch y llun a dewiswch Fformatio Llun.
  2. Dewiswch y panel Maint a Phriodweddau.
  3. Cliciwch ar y gwymplen Testun Amgen.
  4. Ychwanegwch Deitl a Disgrifiad ystyrlon.

Trefnu delweddau mewn haenau er symlrwydd

  1. Dewiswch bob un o'r delweddau rydych am eu trefnu mewn grŵp.
  2. Cliciwch ar y tab Fformatio a dewiswch Grŵp

Defnyddiwch liwiau ac arddulliau hygyrch

Adnodd gweledol yw PowerPoint yn bennaf a chaiff ei arddangos ar bellter o'r gynulleidfa yn aml. Fodd bynnag, gallwch wneud eich sleidiau PowerPoint yn fwy hygyrch drwy ddilyn ychydig o arferion gorau.

Mae'r lliwiau a'r arddulliau a ddefnyddiwch ar gyfer sleidiau, testun, siartiau a graffeg yn mynd tipyn o’r ffordd tuag at wella hygyrchedd yn PowerPoint.

Dechrau gyda thempled

Gall templedi PowerPoint parod helpu i arbed amser a gwella hygyrchedd yn y cynnwys a grëir gennych. Mae amrywiaeth o'r templedi hyn ar gael gan Microsoft i ddefnyddwyr eu lawrlwytho yn office.com.

Mae templedi o'r casgliad hwn yn cynnwys sawl nodwedd sy'n cefnogi hygyrchedd.

Awgrymiadau ynglŷn â dewis lliwiau ac arddulliau hygyrch

  • Mae cefndiroedd llwydwyn yn well i bobl sydd â gwahaniaethau canfyddiadol, fel dyslecsia.
  • Dewiswch dempledi a themâu â ffontiau sans serif 18 pwynt neu fwy.
  • Defnyddiwch gefndiroedd solet sydd â lliw testun cyferbyniol. Mae hyn yn well na chefndiroedd patrymog / â dyfrnod a themâu testun cyferbyniad isel
  • I wneud gwybodaeth yn fwy hygyrch, fformatiwch hi yn wahanol mewn mwy nag un ffordd. Er enghraifft, defnyddiwch liw a thestun i nodi elfennau gwahanol siart.

Dylunio sleidiau i bobl sydd â dyslecsia

Mae'r elfennau sy'n gwneud cyflwyniadau'n gliriach ac yn haws i'w deall i bobl sydd â dyslecsia hefyd yn eu gwneud yn well yn gyffredinol.

Mae'r awgrymiadau hyn yn eich helpu i wneud y ddau beth:

Ffontiau

Defnyddiwch ffontiau sans serif syml sydd â digon o le rhwng llythrennau.

Defnyddiwch ffont 18 pwynt o leiaf. Mae enghreifftiau o ffontiau Sans Serif da yn cynnwys: Calibri, Franklin Gothic Book, Lucida Sans a Segoe UI.

Dylech osgoi ffontiau cywasgedig, ffontiau sydd â phwysau llinell anwastad, sgript / ffontiau arddangos ffansi a ffontiau italig neu wedi'u tanlinellu.

Testun

I gadw eich testun yn hawdd ei ddarllen, cyfyngwch ar nifer y llinellau ym mhob sleid a gadewch ddigon o le uwchlaw ac islaw pob llinell.

Defnyddiwch y rheol “6 gan 7”: dim ond 6 gair fesul llinell a 7 llinell fesul sleid.

Nodiadau'r siaradwr

Defnyddiwch nodiadau'r siaradwr i roi gwybodaeth fanylach.

Mae nodiadau'r siaradwr wedi'u fformatio'n ddiofyn mewn ffont sans serif darllenadwy.

Rhannwch eich sleidiau ar ôl eich cyflwyniad fel y gall eich cynulleidfa gyfeirio at y sleidiau a'r nodiadau yn ddiweddarach. Bydd hyn yn eu helpu i gofio'r cyflwyniad ar lafar a roddwyd.

Cefndir

Gall cefndiroedd sleid gwyn llachar ei gwneud yn fwy anodd darllen y testun; dewiswch gefndir llwydwyn neu hufen yn lle hynny.

Dylai testun fod yn dywyll, gyda llawer o ofod o amgylch y llythrennau.

Fel arall, mae cefndir tywyll a thestun gwyn hefyd yn gweithio'n dda.

Delweddau

Mae delweddau yn ffordd wych o dorri blociau o destun a gwneud eich sleid yn haws i'w sganio.

Cofiwch ychwanegu testun amgen at bob delwedd yn eich cyflwyniad.

Diwyg

Mae diwyg graffig lliwgar â chyferbyniad uchel, ynghyd â lluniau a thestun, yn creu dyluniad strwythuredig.

Mae diwyg strwythuredig yn haws i bobl sydd â dyslecsia ei ddeall.

Defnyddio fformatau amgen

I wneud cyflwyniad yn fwy hygyrch i bobl sydd â golwg gwan, cadwch ef mewn fformat amgen y gall darllenydd sgrin ei ddarllen. Yna, gall defnyddwyr ei agor ar ddyfais bersonol neu ei drosglwyddo i ddarllenydd Braille.

Creu fersiwn dogfen o gyflwyniad

  1. Agorwch y cyflwyniad PowerPoint.
  2. Dewiswch Ffeil > Allforio > Creu Taflenni.
  3. I greu fersiwn Word, dewiswch Creu Taflenni.

Opsiynau fformatio i allforio sleidiau:

  • i arddangos sleidiau cyflwyniad yn gyntaf, ac wedyn nodiadau'r cyflwyniad, dewiswch Nodiadau islaw sleidiau
  • i gynnwys delweddau sleidiau yn y ddogfen Word, dewiswch Gludo ac yna Iawn

Cofiwch ychwanegu Teitlau Sleidiau gan ddefnyddio Arddulliau Pennawd ac ychwanegu Testun Amgen at bob delwedd er mwyn gwella hygyrchedd yn y ddogfen Word a allforir.

Teitlau sleidiau

Ychwanegwch golon (:) ar ôl rhif pob sleid yn y ddogfen ac yna copïwch a gludwch y teitl priodol o'r cyflwyniad PowerPoint.

Arddulliau pennawd

Uwcholeuwch deitl y sleid ac yna dewiswch Hafan > Pennawd 1.

I weld amlinelliad o'r cyflwyniad gyda phenawdau sleidiau, dewiswch Gweld > Chwarel Gwe-lywio.

(Weithiau, mae pobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin neu Braille yn adolygu'r broses we-lywio gyntaf er mwyn cael trosolwg o'r ddogfen.)

Testun Amgen

  1. De-gliciwch ar y ddelwedd yn y sleid.
  2. Dewiwch Llun ac yna dewiswch Testun Amgen.

Ychwanegwch deitl ystyrlon a theitl sy'n disgrifio'r ddelwedd yn y blwch priodol.

Gwirio hygyrchedd

Defnyddiwch wirydd hygyrchedd mewnol Microsoft i helpu i sicrhau bod eich cynnwys yn hawdd i bobl o bob gallu ei ddarllen a llywio drwyddo.