Sut i greu PDFs a dogfennau Microsoft Office hygyrch.
Yn y casgliad hwn
Cymwysiadau Microsoft Office
“If we connect with the broadest possible audience, we not only make products that more people can use, we also just make better products.” – Egwyddor Dylunio Cynhwysol.
Mae'r canllaw hwn yn dangos i chi sut i ddefnyddio cymwysiadau Microsoft Office i greu:
- dogfennnau hygyrch
- taenlenni hygyrch
- cyflwyniadau hygyrch
- negeseuon e-bost hygyrch
Mae sicrhau bod deunyddiau digidol yn hygyrch cyn cyhoeddi yn rhan o arferion gorau Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn ofyniad cyfreithiol yn sgil cyflwyno rheoliadau newydd yn y DU. Mae'r rhain yn dilyn Cyfarwyddeb yr UE ar Hygyrchedd Gwefannau a Chymwysiadau Symudol y Sector Cyhoeddus.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r holl ddeunyddiau sy'n cael eu paratoi a'u cyhoeddi ar wefannau'r sector cyhoeddus fod yn hygyrch i bawb. Mae'n rhaid iddynt gyrraedd safon uwch, sy'n cynnwys defnyddwyr technolegau cynorthwyol. Mae hyn yn cynnwys meddalwedd darllen sgrin, rhaglenni testun-i-lais a dyfeisiau sy'n gallu darllen Braille.