Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarwyddiadau i wella hygyrchedd taenlenni Excel.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dechreuwch gyda thempled Excel hygyrch

Gall templedi Excel parod helpu i arbed amser a gwella hygyrchedd yn y cynnwys a grëir gennych. Mae amrywiaeth o'r templedi hyn ar gael gan Microsoft i ddefnyddwyr eu lawrlwytho yn office.com.

Mae templedi o'r casgliad hwn yn cynnwys sawl nodwedd sy'n cefnogi hygyrchedd.

Er enghraifft:

  • mae llawer o ofod gwyn, sy'n eu gwneud yn haws i'w darllen
  • mae'r lliwiau'n gwrthgyferbynnu'n dda, sy'n ei gwneud yn haws gwahaniaethu rhyngddynt, hyd yn oed i ddarllenwyr sydd â diffyg golwg lliw. Mae'r lliwiau a'r cyferbyniad a ddewisir yn bwysig i ddefnyddwyr sydd â golwg gwan neu ddiffyg golwg lliw
  • i ddefnyddwyr nad ydynt yn gweld lliw o gwbl ac sydd ond yn gweld du a gwyn, mae'r cyferbyniad yn dal i weithio'n dda.
  • o ran testun, mae ffontiau mwy o faint yn haws i ddefnyddwyr sydd â golwg gwan (12 pwynt yw'r maint lleiaf a argymhellir)
  • mae llawer o ddefnyddwyr sydd â golwg gwan yn dibynnu ar ddarllenwyr sgrin. Mae'r templedi hyn yn cynnwys penawdau a labeli disgrifiadol rhagosodedig. Bydd defnyddwyr sydd â golwg gwan yn deall eu hystyr yn hawdd pan fydd darllenydd sgrin yn eu darllen yn uchel.
  • mae rhaglenni darllen sgrin hefyd yn darllen enwau taflenni gwaith, felly gwnewch yn siŵr bod y labeli hynny'n glir ac yn ddisgrifiadol. Hefyd, mae'n well bob amser sicrhau nad oes unrhyw daflenni gwag yn eich llyfr gwaith.

Creu tablau hygyrch o setiau data

Gall tablau eich helpu i nodi set ddata yn ôl enw, neu gymhwyso fformat mwy caboledig sy'n gwneud y data yn fwy amlwg. Drwy enwi a fformatio'ch tabl yn ofalus, gallwch fod yn siŵr bod pawb yn gallu deall eich data. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd â golwg gwan neu ddefnyddwyr meddalwedd darllen sgrin.

I droi'ch data Excel yn dabl:

  1. dewiswch unrhyw gell yn eich set ddata
  2. ar y rhuban, dewiswch y botwm Mewnosod ac yna Tabl
  3. llusgwch yr adran wedi'i huwcholeuo er mwyn addasu neu ailddiffinio amrediad y gell.
  4. dewiswch ‘Mae gan fy nhabl benawdau'

Mae hyn yn bwysig o ran hygyrchedd, am fod darllenwyr sgrin yn defnyddio penawdau tablau i we-lywio.

Rhowch enw disgrifiadol ar eich tabl:

  1. cliciwch unrhyw le yn y tabl a dewiswch y tab Dylunio
  2. o dan Enw'r Tabl, rhowch enw mwy disgrifiadol na'r enw generig ‘Tabl_1’

Gydag enw disgrifiadol, gallwch nawr neidio'n gyflym i'r tabl gan ddefnyddio'r gorchymyn 'Ewch I' neu'r blwch 'Enw'. Gallwch hefyd gyfeirio'n hawdd at y tabl mewn fformiwlâu.

Mae enw tabl ystyrlon fel "RhestrCyflogeion" yn fwy defnyddiol na'r enw generig "Tabl1" neu god cyfeirio tabl megis: $A$3:$D$16.

Gall rhai fformatau tabl fod yn anodd i bobl sydd â golwg gwan, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis fformat sydd â chyferbyniad da ac sy'n hawdd ei ddarllen.

Dyma rai awgrymiadau i wneud eich tabl mor hygyrch â phosibl, gan ddefnyddio'r tab Dylunio:

  • Mae Excel yn cynnwys rhesi pennawd yn ddiofyn am eu bod yn hanfodol o ran hygyrchedd
  • i wneud y labeli yn y golofn gyntaf yn fwy amlwg, dewiswch Colofn Gyntaf ac yna dewiswch resi wedi'u bandio. Mae hyn yn gwneud y bwlch rhwng rhesi yn fwy gweladwy.
  • mae llawer o arddulliau tabl y gellir dewis o'u plith. Gall tablau lliw golau â chyferbyniad isel fod yn anodd i unrhyw un eu darllen, ond mae hyd yn oed yn fwy anodd i bobl sydd â golwg gwan. Mae arddulliau sy'n defnyddio gwyn a lliw tywyll bob yn ail, megis du, llwyd tywyll neu las tywyll, yn cynnig cyferbyniad da sy'n gwneud tabl yn fwy hygyrch.
  • er mwyn sicrhau bod y testun y tu mewn i'r tabl yn ddarllenadwy, gallwch addasu maint y ffont, y rhesi a'r colofnau. Ewch i'r tab Hafan, dewiswch Maint y Ffont a mwyhewch y ffont i bwynt 14
  • gwnewch yn siŵr bod digon o le o amgylch y testun i'w atal rhag ymddangos yn rhy lawn. Gall testun gorlawn fod yn arbennig o anodd i ddefnyddwyr sydd â dyslecsia ei ddarllen (o dan Fformat, dewiswch Uchder Rhes a'i mwyhau i 30. Mae hyn yn golygu bod mwy o uchder i'r rhesi)
  • os yw'r testun yn dal i fod yn rhy fawr i gael ei roi yn y celloedd yn gyfforddus, dewiswch y colofnau a a chliciwch ar Fformat unwaith eto
  • dewiswch Lled Colofn Awtoffitio ac yna ychwanegwch ychydig mwy o ofod gwyn â llaw drwy lusgo gwahanwyr y golofn tuag allan
  • Mae'n arfer dda mwyhau maint y ffont a defnyddio print trwm ar gyfer teitl eich tabl, i'w wneud yn fwy amlwg, yn debyg i elfen 'Pennawd 1'

Creu siartiau hygyrch

Mae'r siartiau a'r graffiau a grëir gennych yn Excel yn helpu i wneud gwybodaeth gymhleth yn haws i'w deall. Er mwyn gwneud y wybodaeth weledol hon yn hygyrch i'r rhai sydd â golwg gwan, bydd angen i chi ddefnyddio geiriau'n ofalus. Drwy hyn, gall pobl sydd â golwg gwan ddeall yr hyn y mae eraill yn ei weld. Os ydych yn labelu elfennau o'r siart yn ofalus ac yn cynnwys Testun Amgen, bydd pob defnyddiwr yn deall y data'n well.

Creu siart o'ch tabl data

  1. Dewiswch y data rydych am eu defnyddio ar gyfer y siart.
  2. Cliciwch ar y tab Mewnosod
  3. Dewiswch Math o Siart o blith yr opsiynau sydd ar gael.

Gwneud elfennau siart yn hygyrch

Teitl siart

Dewiswch y teitl siart generig – Siart 1 – a rhoi teitl ystyrlon yn ei le.

Ychwanegu Teitlau echelau

  1. Dewiswch y siart, a chliciwch ar Dylunio > Ychwanegu Elfen Siart > Teitlau Echelau.
  2. Dewiswch y Brif Echel Lorweddol neu'r Brif Echel Fertigol.
  3. Yn y siart, dewiswch y maes Teitl Echel newydd a theipiwch deitl sy'n disgrifio'r echel yn glir.

Ychwanegu Labeli data

  1. Dewiswch y siart, ac yna cliciwch ar Dylunio > Ychwanegu Elfen Siart > Labeli Data.
  2. Dewiswch Pen Allanol.

Fformat labeli data

  1. Dewiswch yr echel lorweddol neu fertigol.
  2. Dewiswch Fformat > Dewis Cyfredol > Dewis Fformat.
  3. Ar y chwarel Fformat Echel, gosodwch yr opsiynau i addasu'r fformat a darllenadwyedd yr echel. Mae'r opsiynau yn cynnwys math o echel, croesau echel, safle, ticau, safle labeli a fformat cyfyngau a rhifau.

Fformat ffontiau

Defnyddiwch destun lliw golau ar gefndir tywyll (neu destun tywyll ar gefndir golau) a chymhwyswch ffont sans serif syml 12 pwynt neu fwy.

I wneud hyn:

  1. dewiswch y testun yn y siart rydych am ei newid
  2. cliciwch ar y tab Hafan a newidiwch y Ffont, Maint y Ffont, Lliw'r Ffont a phriodweddau eraill.

Ychwanegu Testun Amgen

  1. De-gliciwch y siart a dewiswch Fformatio Ardal Siart.
  2. Dewiswch Maint a Phriodweddau > Testun Amgen.
  3. Ychwanegwch Deitl a Disgrifiad ystyrlon.

Ar ôl ychwanegu'r elfennau hyn, bydd eich siartiau yn cyfleu data yn well yn weledol ac i ddefnyddwyr sydd â golwg gwan / defnyddwyr darllenwyr sgrin.

Gwirio hygyrchedd

Defnyddiwch wirydd hygyrchedd mewnol Microsoft i helpu i sicrhau bod eich cynnwys yn hawdd i bobl o bob gallu ei ddarllen a llywio drwyddo.