Neidio i'r prif gynnwy
Llun o Dr Justin Gwynn

Mae’r Dr. Justin Gwynn yn uwch wyddonydd gydag Awdurdod Diogelwch Ymbelydredd a Niwclear Norwy (DSA) yng Nghanolfan Fram yn Tromsø gan ganolbwyntio ar radioecoleg forol.

Mae wedi gweithio hefyd fel rheolwr y rhaglen radioecoleg a pharatoi ar gyfer argyfyngau gyda Sefydliad Ymchwil Diogelwch Niwclear Llychlyn (NKS) ac fel cadeirydd Pwyllgor Sylweddau Ymbelydrol Comisiwn OSPAR ers 2010.  Ar hyn o bryd, mae’n cadeirio prosiect ymchwil gydlynol IAEA gyda’r nod o ddarparu darlun cyfoes o lefelau, tueddiadau ac effeithiau radioniwclidau yn amgylchedd moroedd y byd. 

Mae ei waith yn cynnwys ar hyn o bryd ymchwil i ddefnyddio olrheiniau (tracers) ymbelydrol i ddeall cylchrediad y moroedd a llwybrau cludo llygreddau, statws a thynged llongau tanfor niwclear ar ôl eu gollwng a gwastraff ymbelydrol yn yr Arctig a radioecoleg radioniwclidau sy’n bodoli’n naturiol mewn dŵr a gynhyrchir ar lwyfannau olew a nwy. Mae ganddo brofiad helaeth o waith maes trwy fordeithiau ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol ac mae’n gyfrifol am labordy radiometreg y DSA yn Tromsø.