Neidio i'r prif gynnwy

Pryd a sut i gyhoeddi PDF a ffeiliau eraill ar LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb

Dylech gyhoeddi'r rhan fwyaf o gynnwys ar ffurf tudalennau gwe (a elwir weithiau yn dudalennau HTML) ar LLYW.CYMRU. Mae hyn yn golygu bod modd i bawb ddefnyddio ein gwefan.

Cyflwyniad i hygyrchedd a ffeiliau

Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio LLYW.CYMRU. Mae'n bwysig bod y cynnwys rydym yn ei gyhoeddi yn hygyrch i bawb.

Rhaid i’n gwefan gydymffurfio â gofynion hygyrchedd yn unol â rheolau hygyrchedd (ar wefan legislation.gov.uk) a safonau Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2 AA (ar w3.org).

Mae creu cynnwys fel tudalennau gwe yn golygu nad oes yn rhaid i ddefnyddwyr weithio mor galed. Mae'n lleihau eu llwyth gwybyddol. Y rheswm am hyn yw:

  • mae'r holl gynnwys mewn un lle, ac nid oes yn rhaid i ddefnyddwyr lawrlwytho cymhwysiad (ap) ar wahân er mwyn darllen rhywbeth
  • mae tudalennau gwe yn bodloni'r safonau hygyrchedd
  • mae'n haws llywio drwy dudalennau gwe
  • mae'n haws ac yn gynt i ddiweddaru tudalennau gwe na dogfen PDF sefydlog
  • mae tudalennau gwe sydd â dolen i ganllawiau cysylltiedig ar dudalen gwe arall yn rhoi taith well i'r defnyddiwr
  • mae tudalennau gwe yn haws i'w defnyddio ar ddyfeisiau symudol

Gallai eich cynnwys fod yn un o'r mathau o gynnwys ar gyfer LLYW.CYMRU sy’n seiliedig ar HTML, fel y gwelwch chi yn yr enghraifft o ganllawiau ar y wefan.

Pryd i gyhoeddi PDF neu ffeil arall

Gellir defnyddio PDFs neu ffeiliau eraill yn yr achosion canlynol:

  • dogfennau strategol uchel eu proffil
  • ffurflenni lle mae angen i ddefnyddiwr fewnbynnu gwybodaeth
  • data strwythuredig, er enghraifft taenlenni neu ffeiliau csv
  • taflenni neu lyfrynnau i’w hargraffu a'u rhannu
  • posteri i’w hargraffu a’u harddangos
  • dogfennau manwl technegol sy'n annhebygol o newid
  • cynnwys y mae'n rhaid ei gyflwyno mewn ffordd benodol, fel deddfwriaeth neu ddogfen Hawdd ei Deall
  • dogfennau â chynnwys na ellir ei gyhoeddi fel HTML ar hyn o bryd, er enghraiff ffeithlun, tabl mawr neu fap

Os caiff PDF neu ffeiliau o fath arall eu cyhoeddi ar LLYW.CYMRU, rhaid bod y penderfyniad yn seiliedig ar hyn ac wedi'i gefnogi gan dystiolaeth gan ymchwil defnyddwyr. Mae hyn yn sicrhau bod ein cynnwys yn canolbwyntio ar ddefnyddwyr.

Safonau

Os oes angen dilys o ran defnyddwyr i gyhoeddi PDF, rhaid iddo ddilyn y safonau ar gyfer creu dogfennau ar lein hygyrch.

Cefnogaeth

Os ydych yn gweithio ar rhywbeth ar gyfer LLYW.CYMRU, mae angen i chi siarad â'ch rheolwr gwe i drafod anghenion defnyddwyr.

Gall rheolwyr gwe hefyd gysylltu â'r tîm Digidol Corfforaethol.