Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynigion ar gyfer gwasanaethau trên newydd, gorsafoedd a thrafnidiaeth gydgysylltiedig yn ne-ddwyrain Cymru wedi eu hamlinellu gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi galw ar Lywodraeth y DU i “chwarae ei ran” wrth wneud gwelliannau i reilffyrdd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daw fel rhan o waith parhaus i fynd i’r afael â thagfeydd a gwella cysylltiadau trafnidiaeth yn y rhanbarth.  

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru yr adroddiad ‘casgliadau newydd’, sy’n nodi yr angen am rwydwaith integredig o opsiynau trafnidiaeth newydd sydd ddim yn dibynnu ar draffyrdd.  

Gan ymateb i’r adroddiad heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi yr angen am ddewis arall cynaliadwy, hirdymor i ddefnyddio ceir.  

Mae rhan o’r ymateb hwn yn cynnwys cyhoeddi uchelgeisiau a chynigion sy’n rhoi amlinelliad o’u huchelgais ar gyfer y gwasanaethau rheilffordd.  Byddai’r rhain yn golygu uwchraddio sylweddol ar Brif Reilffordd De Cymru o ran capasiti, cyflymder y trenau, cerbydau a thrydaneiddio dros ardal eang – gan arwain at welliannau megis amser y daith rhwng Caerdydd a Bristol Temple Meads yn 35 munud a Chaerdydd i Lundain mewn 85 munud.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd y cyfle hefyd i roi amlinelliad o’i huchelgeisiau a’i chynigion ar gyfer Gogledd Cymru, a fyddai hefyd yn arwain at fwy o wasanaethau, amseroedd teithio gwell a gwelliannau sylweddol i’r seilwaith.   

Mae wedi ail-ddatgan y galwadau ar Lywodraeth y DU i chwarae ei rhan wrth gyflawni’r uchelgeisiau hyn, i gydnabod y setliad presennol ar ddatganoli.  

Meddai Ken Skates, y Gweinidog Trafnidiaeth, yr Economi a Gogledd Cymru:  

Dwi’n croesawu’r adroddiad diweddaraf hwn gan y Comisiwn, a dwi am ddiolch iddyn nhw am eu gwaith parhaus.  Mae eu hadroddiad yn tynnu sylw at yr angen i bartneriaid ddod at ei gilydd a chwarae eu rhan wrth droi yr argymhellion yn realiti.   

Rydym wedi ymrwymo i gyflawni ein cyfrifoldebau ar gyfer bysiau, gwella ffyrdd a theithio llesol. Mae’n rhaid i Lywodraeth y DU gwblhau ei hadolygiad o’r rheilffyrdd y bu oedi sylweddol yn ei gylch, datganoli rheilffyrdd yn gyfan gwbl i Gymru, a chynnig setliad cyllido teg, fel y gallwn ddechrau cywiro y blynyddoedd o danfuddsoddi haneysddol gan San Steffan yn y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru.  

Byddwn yn parhau gyda’r camau y gallwn eu cymryd nawr, ond mae’n rhaid i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan i gyflawni yr uwchraddio mawr sy’n cael ei argymell gan y Comisiwn.