Rheon Tomos Aelod Anweithredol
Mae Rheon Tomos wedi gwasanaethu fel Aelod Anweithredol o'n bwrdd ers mis Hydref 2020.
Mae Rheon yn gyfrifydd cymwysedig. Mae wedi dal swyddi uwch yn y Comisiwn Archwilio a Deloitte. Yna gweithiodd yn annibynnol ac fel Partner i TDE Associates.
Mae meysydd arbenigedd Rheon yn cynnwys gwella perfformiad, asesu risg a rheoli a llywodraethu. Mae'r rhain yn cynnwys cefnogi sefydliadau a hyfforddiant ledled y DU ar gyfer y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddu.
Mae gan Rheon hefyd brofiad cyfarwyddwr anweithredol sylweddol gyda:
- Awdurdod S4C
- ESTYN
- Cymwysterau Cymru
- Comisiynydd y Gymraeg
- Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
- National Theatre Wales (Productions) Limited
- Amgueddfa Genedlaethol Cymru
- Urdd Gobaith Cymru
