Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwyr

Prosiect Mordeithiau Darganfod - Her Cymru

Mae Her Cymru yn mynd i'r afael â datblygiad personol pobl ifanc drwy addysg awyr agored – hyfforddiant hwylio yn benodol. Her Cymru yw unig sefydliad Hyfforddiant Hwylio Ieuenctid Cymru.

Roedd eu ‘Prosiect Mordeithiau Darganfod’ yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc o gymunedau difreintiedig gymryd rhan yn wirfoddol mewn llawer o wahanol feysydd addysg a dysgu ar gychod, gan gael anturiaethau unigryw a thipyn o hwyl!

Bu dros 265 o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn 47 o deithiau hwylio dyddiol a phreswyl yn 2019, gyda llawer yn ennill achrediad, ac yn gwella eu hyder a’u gallu i gyfathrebu a gweithio fel tîm.

Canmolodd y beirniaid y prosiect am ei lwyddiant o ran darparu cyfleoedd dysgu drwy brofiad cynhwysol a hygyrch i grwpiau agored i niwed a oedd hefyd yn dysgu sgiliau hanfodol.