Neidio i'r prif gynnwy

Ein nod yw cyflwyno Dyfeisiau Adnabod Electronig Gwartheg (BEID) ar gyfer lloi newydd eu geni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae amser cyflwyno Dyfeisiau Adnabod Electronig ar wartheg (BEID) yng Nghymru yn agosáu, gyda chyhoeddi'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar Gweithredu Trefn o Adnabod Gwartheg yn Electronig yng Nghymru.

Ar ôl edrych yn ofalus ar yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu mynd yn ei blaen â chyflwyno Tagiau Adnabod Electronig (BEID) ar gyfer lloi newydd-anedig yng Nghymru, gan ddefnyddio technoleg Amledd Isel (LF). 

Disgwylir cyflwyno BEID ar gyfer lloi newydd-anedig yng Nghymru yn 2027. Bydd canllawiau ar ddefnyddio tagiau EID Gwartheg yn cael eu cyhoeddi cyn hir. Rydyn ni’n eich cynghori i archebu dim ond digon o dagiau confensiynol ar gyfer y lloi rydych yn eu disgwyl yn 2026.

Am ragor o wybodaeth, gweler y cwestiynau cyffredin isod.

Pam rydyn ni'n cyflwyno EID ar gyfer gwartheg yng Nghymru?

Rydyn ni'n cyflwyno EID gwartheg yng Nghymru er mwyn i ni allu olrhain gwartheg yn well, rheoli clefydau'n well a diogelu iechyd pobl ac anifeiliaid. Bydd yn arwain at lai o wallau cofnodi, yn symleiddio prosesau mewn mannau allweddol fel ffermydd a lladd-dai, ac yn gwella lles anifeiliaid gan y bydd modd darllen tagiau heb orfod dal yr anifail.

Oes rhaid i mi ddefnyddio tagiau EID Gwartheg?

Nid ydym yn disgwyl y bydd tagiau EID Gwartheg swyddogol yn orfodol tan 2027 ar gyfer lloi a anwyd ar ôl dyddiad penodol.

Pryd ca’ i brynu tagiau EID Gwartheg swyddogol?

Bydd ceidwaid gwartheg yn cael o leiaf 12 mis o rybudd cyn i'r tagiau ddod yn orfodol ar gyfer adnabod lloi newydd-anedig.

A ga’ i ddefnyddio'r stoc tagiau gwartheg sydd gennyf eisoes?

Gallwch barhau i ddefnyddio'r tagiau sydd gennych nes bod EID Gwartheg yn dod yn orfodol ar gyfer lloi a anwyd ar ôl dyddiad penodol. Peidiwch ag archebu mwy na'r hyn y bydd ei angen arnoch dros y 12 mis nesaf.

A ga’ i ddefnyddio unrhyw fath o dag fel tag EID Gwartheg?

Cewch, gall tagiau EID Gwartheg fod yn dagiau baner, botwm neu fetel.

Sut bydd y rhifau gwartheg yn yr EID Gwartheg yn newid?

Bydd rhifau gwartheg ar yr EID Gwartheg yn dilyn y fformat ar gyfer defaid, gan ddechrau ar 70,000. Y prif newidiadau yw newid cod y wlad o 'UK' i 'GB', ychwanegu rhagddodiad '0' i gadw rhif y fuches, a dileu'r digid gwirio.

 CCCSHHHHHHAAAAA
Tag Gweledol GB076542170000
Microsglodyn:826076542170000
 (C = Cod y Wlad, S = Rhif Cyfresol, H = Rhif y Fuches, A = Rhif yr Anifail)

A fydd angen i fi ail-dagio fy muches?

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gynlluniau i ail-dagio gwartheg. Ond rydyn ni'n gweithio gyda'r diwydiant i ystyried opsiynau yn y dyfodol ar gyfer estyn yr EID Gwartheg i holl wartheg Prydain.

Faint fydd tagiau EID Gwartheg swyddogol yn ei gostio?

Ar hyn o bryd nid oes prisiau wedi'u cadarnhau ar gyfer tagiau EID Gwartheg swyddogol yng Nghymru, ond disgwylir iddynt gostio mwy na'r tagiau presennol 'gweld yn unig' gan fod y tagiau EID yn gwneud mwy.

A fydd angen i fi brynu darllenydd EID a darllen gwartheg yn electronig ar fy fferm?

Ni fydd angen i chi ddarllen tagiau EID ar eich fferm. Bydd marchnadoedd a lladd-dai yn gwneud hynny. Ond gallwch ddewis prynu darllenydd os gallai hynny'ch helpu i reoli'ch buches.

Os ydw i eisoes yn defnyddio tagiau rheoli EID Gwartheg amledd isel (LF) ar fy ngwartheg, beth sydd angen i mi ei wneud?

Fydd dim angen i chi wneud unrhyw beth. Gallwch barhau i ddefnyddio'ch tagiau rheoli EID ochr yn ochr â'r rhai swyddogol ar gyfer lloi newydd-anedig. Nodwch fod tagiau rheoli yn defnyddio rhifau sglodion gwahanol ac mae angen 'tag bwced' i'w cysylltu â'r ID swyddogol.

A fydd y tagiau EID Gwartheg swyddogol yn WYSIWYG? 

Byddant, bydd tagiau EID Gwartheg swyddogol yn WYSIWYG (Yr hyn a welwch yw'r hyn a gewch - 'What you see Is What You Get'). Bydd y rhif sydd wedi'i brintio ar y tag yn cyfateb i'r rhif yn y sglodyn ac ni fydd angen 'tag bwced' arnoch i gysylltu rhifau. 

Mae gen i wartheg ar dir rwy'n ei ffermio yng Nghymru a Lloegr, a fydd EID Gwartheg yn cael ei gyflwyno ar yr un pryd yn y ddwy wlad?

Rydym yn gweithio'n agos gyda Defra i geisio sicrhau bod y broses o gyflwyno EID Gwartheg yn digwydd yr un pryd yng Nghymru a Lloegr.

Rydych wedi cytuno i ddefnyddio technoleg Amledd Isel (LF) ar dagiau EID Gwartheg swyddogol Cymru, ond ga i ddefnyddio tag Amledd Uchel Iawn (UHF) hefyd?

Cewch, gellir defnyddio tagiau EID UHF fel tag rheoli ar loi newydd-anedig yng Nghymru.

Os ydw i'n prynu gwartheg o'r Alban a bod tagiau EID Gwartheg swyddogol UHF wedi'u rhoi arnynt, beth dylwn i ei wneud?

Os ydych chi'n prynu gwartheg o'r Alban gyda thagiau EID UHF, gallwch barhau i'w defnyddio. Bydd y tag yn dangos y rhif ID swyddogol y byddwch yn gallu ei ddarllen yn weledol, ond ni fydd EID UHF yn cael ei gydnabod fel ID swyddogol yng Nghymru.

A fyddwch chi'n dal i gyhoeddi pasbortau gwartheg papur?

Byddwn, bydd pasbortau papur yn dal i gael eu cyhoeddi am y tro. Yn y dyfodol, efallai y byddwn yn eu dileu'n raddol unwaith y bydd gan y rhan fwyaf o wartheg Cymru dagiau EID Gwartheg, ond bydd angen cytundeb ar hyn ar draws Prydain Fawr.

Mae sôn wedi bod am EID ar gyfer gwartheg ers cyflwyno EID defaid. Pam yr arafwch cyn eu cyflwyno yng Nghymru?

Mae hi wedi cymryd amser i gyflwyno EID Gwartheg am nad oedd systemau olrhain y DU yn gallu cefnogi'r fformat rhifo newydd. Yng Nghymru, rydym wrthi'n datblygu EIDCymru i fod yn gronfa ddata aml-rywogaeth newydd i gymryd lle'r CTS a BCMS ar gyfer ceidwaid gwartheg Cymru. Rydyn ni'n bwriadu cyflwyno EID ar gyfer holl wartheg Cymru unwaith y byddwn wedi trosglwyddo BCMS i EIDCymru. 

Mae'r Alban eisoes yn defnyddio ScotEID ar gyfer ei holl dda byw, ac mae Lloegr yn gweithio ar ei system aml-rywogaeth LIS ei hun.