Daeth yr ymgynghoriad i ben 14 Awst 2025.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae’r crynodeb o ymatebion bellach ar gael.
Manylion am y canlyniad
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem glywed eich barn ynghylch y bwriad i weithredu trefn o adnabod gwartheg yn electronig yng Nghymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae’r cynigion yn cynnwys:
- y gofyn i bob llo gael tag clust EID statudol
- gall tagiau EID gael eu darllen yn weledol a byddant ar gael fel tagiau baner, botwm neu fetel
- trefn newydd ar gyfer rhoi rhifau adnabod i wartheg
- tagio cyfatebol – bydd y rhif sydd wedi’i raglennu ar y slodyn yn cyfateb i’r rhif sydd wedi’i argraffu ar y tag
Nid oes disgwyl i hyn gael ei weithredu yng Nghymru hyd 2027 ar y cynharaf.
