Gweithredu Trefn o Adnabod Gwartheg yn Electronig (EID Gwartheg) yng Nghymru: crynodeb o ymatebion
Eich barn ar gweithredu trefn o Adnabod Gwartheg yn Electronig (EID Gwartheg) yng Nghymru
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Diben yr ymgynghoriad
Gofynnodd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru i'r gymuned ffermio roi eu hymateb i'r bwriad o gyflwyno Tagiau Adnabod Electronig ar Wartheg (EID Gwartheg) yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar ddefnyddio tagiau clust Amledd Isel (LF).
Dyma brif ganfyddiadau'r ymgynghoriad:
- ar gyfer pob llo sy’n cael ei eni ar ôl cyflwyno EID Gwartheg, rhaid i o leiaf un tag clust a roddir arno fod yn dag EID swyddogol
- bydd angen gallu darllen tagiau EID gwartheg yn weledol a byddant ar gael fel tag baner, botwm neu fetel
- bydd fformat rhifau adnabod gwartheg yn newid wrth gyflwyno EID Gwartheg
- bydd tagiau EID gwartheg yn WYSIWYG (Yr hyn a welwch yw’r hyn a gewch - yr un rhif fydd ar y sglodyn ag a fydd wedi'i brintio ar y tag)
- does dim cynlluniau ar hyn o bryd i aildagio'r fuches bresennol
- cytunir ar yr amserlen ar gyfer tagiau EID swyddogol yn y dyfodol
- nid oes bwriad ei weithredu yng Nghymru tan 2027 fan cynharaf
Y sefyllfa ar hyn o bryd
Mae trafodaethau ynghylch datblygu polisi a gweithredu EID Gwartheg yng Nghymru wedi bod ar y gweill ers mis Awst 2011, pan fabwysiadodd y Comisiwn Ewropeaidd gynigion ar 'Dyfeisiau adnabod electronig ar gyfer adnabod gwartheg i gryfhau diogelwch bwyd ac iechyd anifeiliaid yn yr UE ymhellach’.
Rhaid rhoi tag clust swyddogol â rhif unigryw arno ar holl dda byw Cymru (ac eithrio moch) a rhaid cofnodi'u symudiadau a'u holrhain yn gywir drwy gydol eu bywydau. O fewn yr UE, rhaid i dagiau clust da byw gydymffurfio â safonau technegol rhyngwladol, gan gynnwys safonau'r Sefydliad Safoni Rhyngwladol (ISO) ar gyfer codau adnabod.
Mae'r gofynion presennol ar gyfer adnabod da byw yng Nghymru wedi'u nodi yn Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007. Mae'n ofyn cyfreithiol cydymffurfio â'r rheolau adnabod da byw ac mae'n rhan bwysig o'r ymdrech i atal, rheoli a dileu clefydau a diogelu iechyd y cyhoedd.
Fel mae'r rheolau ar hyn o bryd, rhaid rhoi tag gwartheg un ar bob clust. Enw'r naill yw'r prif dag, yr ail dag yw enw'r llall. Bydd y drefn hon yn para o dan EID Gwartheg. Bydd pob anifail yn cael rhif adnabod unigryw a fydd yn cael ei roi iddo pan gaiff ei eni ('rhif adnabod unigol’). Caiff y rhif hwn ei brintio ar y ddau dag.
O dan yr EID Gwartheg, bydd angen i un tag clust fod â sglodyn electronig gyda rhif adnabod unigol yr anifail arno. Bydd rhif adnabod unigol yr anifail yn cael ei brintio hefyd yn allanol ar y tag clust. O ran y tag EID, gallwch ddefnyddio tag baner, botwm neu fetel neu dag profi meinwe.
Gallwch roi'r prif dag yn y naill glust neu'r llall ond bydd angen i chi allu ei ddarllen o bell a bydd yn fawr neu'n ganolig ei faint. Bydd yr un wybodaeth ar yr ail dag ond gall hefyd gynnwys gwybodaeth reoli. Rhaid i'r ail dag gael ei roi yn y glust arall i'r prif dag a gall fod yn dag baner, botwm neu fetel. Ar gyfer lloi fydd yn cael eu geni ar ôl cyflwyno EID Gwartheg, rhaid i o leiaf un tag clust fod yn EID. Gall y ceidwad ddewis ai'r prif dag neu'r ail dag fydd hwnnw. Yn ôl ymateb rhanddeiliaid y diwydiant, bydd ceidwaid yn falch o gael cadw'r hyblygrwydd hwnnw.
Y broses ymgynghori
Gwahoddwyd sylwadau fel rhan o ymgynghoriad 8 wythnos, a ddechreuodd ar 19 Mehefin 2025 ac a ddaeth i ben ar 14 Awst 2025. Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar dudalennau ymgyngoriadau gwefan Llywodraeth Cymru. Mae ymatebwyr yn cael cyflwyno eu safbwyntiau a'u sylwadau yn Gymraeg a Saesneg, drwy'r post, drwy e-bost neu gan ddefnyddio ffurflen ymateb ar-lein. Cafodd y ddolen i'r ymgynghoriad ei hanfon drwy e-bost i amrywiaeth eang o randdeiliaid.
Mae pob un o'r ymatebion wedi cael eu hystyried a'u dadansoddi ac mae'r adroddiad hwn yn ceisio cyflwyno'r holl safbwyntiau a themâu a gafwyd yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad.
Dim ond i Gymru yr oedd yr ymgynghoriad yn gymwys.
Crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad
Daeth cyfanswm o 30 o ymatebion i law.
Cwestiwn 1 - A ydych o blaid gwneud gweithredu EID Gwartheg yn orfodol ar gyfer lloi newydd-anedig yng Nghymru?
| Na. o Ymatebion | Ymatebion fel % | |
| Ydw | 23 | 77% |
| Nac Ydw | 6 | 20% |
| Ddim Yn Gwybod | 1 | 3% |
| Cyfanswm | 30 |
Mae hyn yn dangos bod mwyafrif cryf o blaid gweithredu EID Gwartheg orfodol ar gyfer lloi newydd-anedig yng Nghymru.
Cefnogaeth i EID Gwartheg
Mynegodd llawer o ymatebwyr eu cefnogaeth gref i Dagiau Electronig Gwartheg (EID) gorfodol, yn enwedig ar gyfer lloi newydd-anedig:
- ystyrir ei bod yn hen bryd gwneud hyn ac y byddai'n fuddiol ar gyfer rheoli a chofnodi data
- bydd yn ei gwneud yn haws olrhain anifeiliaid, yn gwella eu lles ac yn rheoli clefydau'n well
- mae'n cyd-fynd ag egwyddorion 'digidol yw'r diofyn' ac yn ein helpu i foderneiddio
- cafodd ei groesawu gan grwpiau diwydiant fel Panel Iechyd Anifeiliaid Cymru, NFU Cymru ac aelodau'r FUW
- cefnogwyd fformatau tagio hyblyg (baner, botwm, metel, profion meinwe)
- cymeradwywyd y penderfyniad i beidio ag ail-dagio'r fuches bresennol
Pryderon a godwyd
Mynegodd rhai ymatebwyr bryderon am ei effaith a'r rhesymau y tu ôl i'r polisi:
- pryderon lles anifeiliaid: gall tagiau achosi poen neu ddifrod.
- y llywodraeth yn estyn ei gafael yn rhy bell: ystyrir ei fod yn enghraifft o or-reoli, yn enwedig ar fuchesi bach a phori cadwraethol.
- beirniadaeth wleidyddol: yn cael ei ystyried gan rai fel cam i wneud Cymru'n wahanol heb fod angen.
- gwrthwynebiad i ail-dagio'r fuches hanesyddol.
Awgrymiadau ar gyfer ei weithredu
Roedd argymhellion manwl ar gyfer ei gyflwyno'n rhwydd:
- ei gyflwyno fesul cam gyda hyfforddiant a chefnogaeth ddigonol
- amser paratoi clir a chyfathrebu cynnar o'r dyddiad trosglwyddo
- rhaid profi ac ariannu integreiddio EID Cymru â systemau marchnadoedd
- rhaid bod modd darllen tagiau yn weledol ac yn electronig
- dylid cefnogi tagio ôl-weithredol i osgoi systemau deuol
Goblygiadau cost
Roedd y gost yn thema gododd sawl gwaith:
- pryderon am gostau tagio uwch a baich ychwanegol ar ffermwyr
- angen eglurder ynghylch y costau i farchnadoedd da byw a chefnogaeth y llywodraeth ar gyfer costau integreiddio
- pryderon y gallai ffermwyr archebu rhy ychydig o dagiau oherwydd ansicrwydd, gan arwain at aneffeithlonrwydd
Cwestiwn 2 - A oes gennych unrhyw sylwadau neu bryderon ynglŷn â defnyddio technoleg Amledd Isel (LF) ar gyfer gweithredu EID Gwartheg yng Nghymru?
| Sylw | Na. o Ymatebion |
| Cefnogaeth I LF | 14 |
| Pryderon Am LF | 5 |
| Yn Ffafrio UHF | 7 |
| Goblygiadau Cost | 5 |
| Alinio  Safonau’r DU/UE | 6 |
| Hyblygrwydd Yn Y Dyfodol | 4 |
Cefnogaeth i Dechnoleg LF
- Mae LF yn cael ei ddefnyddio'n helaeth, mae wedi profi'i werth ac yn gydnaws â seilwaith presennol EID defaid.
- Yn cyd-fynd â rheoliadau'r UE a chynlluniau gweithredu Lloegr.
- Mae undebau ffermio a grwpiau'r diwydiant yn ei gefnogi.
- Yn cael ei ystyried yn gadarn a chost-effeithiol, ac yn cyd-fynd â safonau rhyngwladol.
Pryderon am LF
- Nid oes modd ei ddarllen o bell a phroblemau diogelwch posibl.
- Risg na fydd yn gydnaws â datblygiadau technolegol yn y dyfodol.
Yn ffafrio Technoleg UHF
- Modd darllen UHF o fwy o bellter.
- Mae'r Alban wedi mabwysiadu UHF a gallai fod yn fodel posibl.
- Pryderon am gostau hirdymor newid technolegau yn y dyfodol.
Goblygiadau cost
- Costau darllenwyr a thagiau newydd, yn enwedig ar gyfer ffermydd sydd heb offer LF.
- Costau ychwanegol i farchnadoedd, proseswyr ac ar draws y gadwyn gyflenwi.
Alinio â Safonau'r DU / UE
- Galwadau cryf am gysondeb â Lloegr ac alinio â gofynion yr UE.
- Mae LF wedi'i gymeradwyo gan ISO a'r UE, gan hwyluso masnach a rhyngweithrededd.
Hyblygrwydd yn y dyfodol
- Galwadau ar Lywodraeth Cymru i ganiatáu mabwysiadu UHF yn y dyfodol.
- Diddordeb mewn tagiau a darllenwyr dau amledd wrth i dechnoleg esblygu.
Cwestiwn 3 - A oes gennych rywbeth arall i'w ddweud am adnabod ac olrhain gwartheg yng Nghymru?
Cefnogaeth ar gyfer EID
- Cefnogaeth gref i EID i olrhain gwartheg a rheoli clefydau'n well.
- Yn cael ei ystyried yn hanfodol ar gyfer adnabod gwartheg yn y dyfodol.
- Cefnogaeth i'w darllen yn weledol ac i gysondeb o ran lliwiau tagiau.
Pryderon am y system bresennol
- Rhai'n teimlo bod y system bresennol yn ddigon da ac yn amau a oes angen newid.
- Awgrymu y dylid gwella'r system bresennol yn hytrach na chael gwared arni.
Awgrymiadau ar gyfer Gwella:
- galwadau am groesgyfeirio profion TB a data CTS yn well
- ceisiadau am gyfathrebu cliriach a chanllawiau haws eu deall i ffermwyr
- diddordeb mewn dulliau tagio sy'n para'n hirach ac yn adnabod anifeiliaid yn well
Materion cost a gweithredu
- Pryderon am gostau i randdeiliaid ar draws y gadwyn gyflenwi.
- Cwestiynau ynghylch cymorth ariannu a dibynadwyedd tagiau.
- Angen sicrwydd ar gapasiti gweithgynhyrchu a phrisio teg.
Cyfleoedd Integreiddio Data
- Diddordeb cryf mewn cysylltu EID â data symud, iechyd a chlefydau.
- Cefnogaeth ar gyfer cronfa ddata aml-rywogaeth yng Nghymru ac olrhain gwell.
- Awgrymiadau i ymgorffori statws BVD, cofnodion brechu a data sicrwydd.
Cwestiwn 4 - Rydym wedi gofyn sawl cwestiwn penodol am EID Gwartheg yn yr ymgynghoriad hwn ond a oes gennych unrhyw adborth cysylltiedig ar adnabod gwartheg yng Nghymru:
O blaid symlrwydd ac ymarferoldeb
- Mae galwadau cryf am system syml nad yw'n fiwrocrataidd feichus.
- O blaid technoleg Amledd Isel (LF) gan ei bod yn hawdd ei defnyddio a bod y seilwaith yn bod eisoes.
- Ceisiadau am dagiau melyn am eu bod yn haws eu darllen ac i sicrhau cysondeb.
Cost a chymorth ariannol
- Mae pryderon am gostau ychwanegol newidiadau Llywodraeth Cymru.
- Awgrymiadau o blaid cymorth ariannol neu gymhellion, tebyg i gynlluniau yn Iwerddon.
- Pwyslais ar fforddiadwyedd ar gyfer ffermydd bach a mynydd.
Yn gydnaws ar draws ffiniau
- Pwyslais dro ar ôl tro ar allu alinio â system Lloegr.
- Pwysigrwydd y fasnach drawsffiniol ac osgoi dyblygu neu ddryswch.
- Argymhelliad i osgoi ei gyflwyno ar anterth y tymor geni lloi a symud gwartheg.
Cynllun ymgysylltu a chyfathrebu â rhanddeiliaid
- Galwadau am barhau i ymgysylltu â ffermwyr a rhanddeiliaid eraill.
- Angen cyfathrebu clir, hawdd ei ddeall â ffermwyr am y newidiadau ac amserlenni.
- Ceisiadau am offer sy'n gweithio ar ffonau symudol i hwyluso rheoli data ar y fferm.
Pryderon technegol a gweithredol
- Siom bod y digid gwirio wedi'i ddileu, sy'n ei gwneud yn haws darllen tagiau'n weledol.
- Pryderon y gallai unigolion niwroamrywiol ei chael yn anodd darllen tagiau.
- Cwestiynau am ail dagiau electronig presennol a'u cydnawsedd.
Uniondeb data a dibynadwyedd system
- Pryderon am gael gwared ar basbortau gwartheg a dibynnu ar EID yn unig.
- Pwysigrwydd i farchnadoedd a lladd-dai bod data dibynadwy ar gael 24 awr y dydd.
- Cefnogaeth ar gyfer cronfa ddata aml-rywogaeth yng Nghymru sy'n cynnwys data iechyd a sicrwydd.
Cwestiwn 5 - Pa un o'r canlynol sy'n eich disgrifio orau fel rhywun sy'n ymateb i'r ymgynghoriad?
| Math | Na. o Ymatebion | Ymatebion fel % |
| Lladd-Dy | 2 | 7% |
| Magu Neu Besgi Eidoniaid | 3 | 10% |
| Buches Sugno | 6 | 20% |
| Buches Odro | 1 | 3% |
| Cyflenwr Tagiau | 5 | 17% |
| Undeb Ffermwyr | 2 | 7% |
| Awdurdod Lleol | 2 | 7% |
| Marchnad | 1 | 3% |
| Buches Gymysg | 1 | 3% |
| Arall | 4 | 13% |
| Buches Bedigri | 2 | 7% |
| Milfeddyg | 1 | 3% |
Y Gymraeg (Cwestiynau 6 a 7)
Cwestiwn 6 - Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol gweithredu EID Gwartheg yng Nghymru ar yr iaith Gymraeg?
A ydych credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
A ydych yn credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?
Cefnogaeth ar gyfer cyfathrebu dwyieithog
- Mae llawer o ymatebwyr yn cefnogi cyfathrebu dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) ar gyfer yr holl ddeunyddiau am EID Gwartheg.
- Mae'n cael ei ystyried yn ffordd o wella'r Gymraeg a sicrhau cynhwysiant.
- Nododd rhai fod llawer o geidwaid gwartheg Cymru yn siarad Cymraeg, a byddai systemau dwyieithog yn cefnogi cadw teuluoedd Cymraeg eu hiaith mewn amaethyddiaeth.
Dim effaith neu dim angen newid
- Roedd sawl ymateb wedi nodi "dim effaith", neu "dim", gan awgrymu na fyddai'r rhoi'r system ar waith yn effeithio'n gadarnhaol nac yn negyddol ar y Gymraeg.
- Roedd rhai yn teimlo bod y Gymraeg eisoes yn cael digon o gefnogaeth.
Risgiau i'r Gymraeg drwy ddirywiad amaethyddol
- Mewn un ymateb manwl, rhybuddiwyd y gallai polisïau'r llywodraeth (e.e. trefn brofi TB) yrru ffermwyr bach allan o fusnes.
- Gallai hyn arwain at ddirywiad cymunedau gwledig Cymraeg eu hiaith, gan effeithio ar iaith a bioamrywiaeth.
Argymhellion dros effaith gadarnhaol
- Sicrhau bod yr holl ganllawiau a chefnogaeth yn ddwyieithog
- Osgoi cyflwyno'r system yn ystod y tymhorau ffermio prysuraf
- Defnyddio tagiau melyn ar gyfer cysondeb a gwelededd
- Darparu offer dwyieithog sy'n gallu gweithio ar ffôn symudol
- Cynnig cymorth ariannol i liniaru costau
Cwestiwn 7 - Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid y broses o weithredu EID Gwartheg yng Nghymru er mwyn gwneud y canlynol:
sicrhau ei bod yn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy cadarnhaol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, neu
liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?
Dim effaith neu ddim angen newid
- Dywedodd sawl ymatebydd "Na" neu "Dim effaith", gan nodi nad ydynt yn credu y bydd gweithredu EID Gwartheg yn effeithio'n gadarnhaol nac yn negyddol ar y Gymraeg.
Cefnogaeth i ddwyieithrwydd
- Roedd rhai ymatebion yn pwysleisio pwysigrwydd statws cyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg, yn enwedig mewn deunyddiau cyfathrebu a chymorth.
- Roedd yr awgrymiadau yn cynnwys sicrhau bod ffurflenni a systemau'n ddwyieithog, gan alinio â chronfeydd data dwyieithog presennol.
Ystyriaethau diwylliannol a hunaniaeth
- Tynnodd ychydig o ymatebwyr sylw at arwyddocâd diwylliannol yr iaith Gymraeg, gan nodi ei rôl yn yr hunaniaeth Gymreig a phwysigrwydd cadw ei gwelededd mewn polisi amaethyddol.
Argymhellion ymarferol
- Cynigiodd un ymateb fod canllawiau a chronfeydd data yn ddwyieithog, gan sicrhau bod y system yn hygyrch i siaradwyr Cymraeg.
- Nododd un arall y dylai cymorth ac adnoddau fod ar gael yn gyfartal yn y ddwy iaith.
Cwestiwn 8 – Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech dynnu ein sylw at unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw, gallwch wneud hynny yma:
Ni wnaeth trwch yr ymatebwyr ateb y cwestiwn hwn (83%). O'r rhai a roddodd ateb, y prif bwyntiau oedd:
Rhwystredigaeth gyda biwrocratiaeth a gor-reoleiddio
- Galwadau cryf i "adael i ffermwyr ffermio" heb ymyrraeth ormodol.
- Beirniadaeth o gyfyngiadau symud gwartheg APHA a'r drefn profi TB.
- Canfyddiad bod systemau'n rhy gymhleth a chostus, ac yn wleidyddol.
Angen integreiddio'r system
- O blaid cronfa ddata symud da byw cwbl integredig sy'n cwmpasu gwartheg, defaid a moch.
- Awydd am un porth unedig sy'n cysylltu BCMS, ScotEID, APHA, LIS ac EIDCymru.
- Credu y byddai integreiddio o'r fath yn lleihau costau, yn symleiddio prosesau ac yn gwella dealltwriaeth ymhlith ffermwyr.
Pryderon am iechyd a lles
- Roedd rhai ymatebwyr yn gweld cysylltiad rhwng polisïau cyfredol ac effeithiau negyddol ar iechyd meddwl a lles.
- Rhwystredigaeth dros ddiffyg cynnydd ar faterion a godwyd mewn grwpiau cynghori blaenorol.
Beirniadaeth o gymhellion gwleidyddol
- Cyhuddiadau bod cymhellion y cynllun yn rhai gwleidyddol ac nad oes budd ymarferol iddo.
- Beirniadaeth benodol o ymagwedd Llywodraeth Cymru at TB mewn gwartheg, gyda galwadau am ddifa moch daear ledled y DU.
Safbwyntiau ar y Gymraeg
- Barn gymysg: mae rhai yn cefnogi ei defnyddio mewn bywyd bob dydd, ond yn rhybuddio rhag rhoi gormod o bwyslais arni mewn materion technegol neu bolisi.
- Galwadau am fod yn aeddfed a phenderfynu ar gydbwyso'r diwylliannol a blaenoriaethau ymarferol
Y camau nesaf
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithredu EID Gwartheg ar gyfer lloi newydd-anedig yng Nghymru ac i sicrhau bod cynlluniau gweithredu yn cyd-fynd â'r rhai yn Lloegr, lle bo hynny'n bosibl. Bydd diweddariad ar y dyddiad gweithredu a manylebau ar gyfer tagiau clust EID Gwartheg swyddogol yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Atodiad A: rhestr o’r ymatebwyr
- Cymdeithas Proseswyr Cig Prydain
- Cymdeithas Milfeddygon Prydain
- Caisley Eartag Cyf
- Cyngor Sir Fynwy
- NFU Cymru
- Cyngor Sir Powys
- Shearwell Data Ltd
- Stapeley Vets
- Undeb Amaethwyr Cymru / Farmers' Union of Wales
- Cymdeithas Arwerthwyr Da Byw Cymru
- Daeth 13 o ymatebion gan geidwaid gwartheg i law
- Gofynnodd 15 o'r ymatebwyr am gael aros yn ddienw
Mwy o wybodaeth
Y camau i’w cymryd
Dogfen er gwybodaeth yn unig yw hon.
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Gellir gofyn am fersiynau o'r ddogfen hon mewn print bras, Braille neu mewn ieithoedd eraill.
Copïau ychwanegol
Mae'r crynodeb hwn o'r ymatebion a'r holl ddogfennau ymgynghori wedi'u cyhoeddi ar ffurf electronig yn unig. Maent ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Dolen at y ddogfen ymgynghori: Gweithredu EID Gwartheg (EID) yn Electronig yng Nghymru
ISBN: 978-1-80633-554-1
Manylion cyswllt
Polisi Adnabod Da Byw a Symudiadau
Llywodraeth Cymru
Tŷ Ladywell
Y Drenewydd
Powys
SY16 1JB
E-bost: adnaboddabyw@llyw.cymru
