Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ar y bwriad i weithredu Tagiau Adnabod Electronig ar gyfer Gwartheg (EID Gwartheg) yng Nghymru. Mae'r cynigion yn yr ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar weithredu EID Gwartheg yng Nghymru gan ddefnyddio tagiau clust Amledd Isel (LF). Rydym yn croesawu ymatebion gan y rhai yr effeithir arnynt gan y cynnig hwn a byddwn yn ystyried yr holl ymatebion cyhoeddus a dderbynnir.

Proses ymgynghori Llywodraeth Cymru

Mae ymgynghori yn rhan hanfodol o'r broses llunio polisïau. Mae'n rhoi cyfle i ni gasglu tystiolaeth, ystyried eich barn a defnyddio arbenigedd ar faes gwaith arfaethedig, sy'n helpu i ddatblygu ffordd ymlaen. 

Bydd yr ymatebion a dderbynnir yn cael eu dadansoddi a'u defnyddio fel rhan o'r broses o wneud penderfyniadau, ynghyd ag amrywiaeth o wybodaeth a thystiolaeth arall sydd ar gael. Ar ôl cau'r ymgynghoriad ac ar ôl cymryd amser i ystyried ymatebion, byddwn yn cyhoeddi adroddiad sy'n crynhoi canlyniadau'r ymgynghoriad ac yn nodi'n cynigion ar gyfer ffordd ymlaen.

Y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu barn ar unrhyw effeithiau y gallai'r opsiynau eu cael ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg hefyd. Croesewir ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn y Gymraeg hefyd.

Cefndir yr ymgynghoriad hwn

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio adborth gan y gymuned ffermio ar weithredu Tagiau Adnabod Electronic ar gyfer Gwartheg yng Nghymru (EID Gwartheg), gan ganolbwyntio ar ddefnyddio tagiau clust Amledd Isel (LF). Mae ymatebion gan bawb sy'n rhan o'r broses yn cael eu croesawu a byddant yn helpu i lunio'r dull terfynol.

Mae'r prif bwyntiau i'r ymgynghoriad hwn yn:

  • ar gyfer pob llo sy’n cael ei eni ar ôl cyflwyno EID Gwartheg, rhaid i o leiaf un tag clust a osodir fod yn dag EID swyddogol
  • nid oes bwriad ei weithredu yng Nghymru tan 2027 ar y cynharaf
  • mae angen cytuno ar amledd tagiau ar gyfer EID Gwartheg gorfodol
  • mae modd darllen tagiau EID gwartheg yn weledol a byddant ar gael fel tag baner, botwm neu fetel
  • bydd fformat rhifau adnabod gwartheg yn newid wrth gyflwyno EID Gwartheg
  • bydd tagiau EID gwartheg yn WYSIWYG (Yr hyn a welwch yw’r hyn a gewch - bydd y rhif a raglennir ar y sglodyn yr un rhif wedi'i argraffu ar y tag)
  • dim cynlluniau ar hyn o bryd i aildagio'r fuches bresennol
  • gweithio gyda chyflenwyr tagiau i gytuno ar amserlenni i sicrhau bod tagiau EID swyddogol ar gael

Mae eich mewnbwn yn werthfawr wrth lunio dyfodol adnabod gwartheg yng Nghymru.

Y sefyllfa ar hyn o bryd

Mae trafodaethau ynghylch datblygu polisi a gweithredu EID Gwartheg yng Nghymru wedi bod ar y gweill ers mis Awst 2011, pan fabwysiadodd y Comisiwn Ewropeaidd gynigion ar 'Dyfeisiau adnabod electronig ar gyfer adnabod gwartheg i gryfhau diogelwch bwyd ac iechyd anifeiliaid yn yr UE ymhellach’. 

Rhaid rhoi tag clust swyddogol â rhif unigryw arno ar holl dda byw Cymru (ac eithrio moch) a rhaid cofnodi'u symudiadau a'u holrhain yn gywir drwy gydol eu bywydau. O fewn yr UE, rhaid i dagiau clust da byw gydymffurfio â safonau technegol rhyngwladol, gan gynnwys safonau'r Sefydliad Safoni Rhyngwladol (ISO) ar gyfer codau adnabod. 

Mae'r gofynion presennol ar gyfer adnabod da byw yng Nghymru wedi'u nodi yn Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007. Mae'n ofyn cyfreithiol cydymffurfio â'r rheolau adnabod da byw ac mae'n rhan bwysig o'r ymdrech i atal, rheoli a dileu clefydau a diogelu iechyd y cyhoedd.

Fel mae'r rheolau ar hyn o bryd, rhaid rhoi tag gwartheg un ar bob clust. Enw'r naill yw'r prif dag, yr ail dag yw enw'r llall. Bydd y drefn hon yn para o dan EID Gwartheg. Bydd pob anifail yn cael rhif adnabod unigryw a fydd yn cael ei roi iddo pan gaiff ei eni ('rhif adnabod unigol’). Caiff y rhif hwn ei brintio ar y ddau dag.

O dan yr EID Gwartheg, bydd angen i un tag clust fod â sglodyn electronig gyda rhif adnabod unigol yr anifail arno. Bydd rhif adnabod unigol yr anifail yn cael ei brintio hefyd yn allanol ar y tag clust. O ran y tag EID, gallwch ddefnyddio tag baner, botwm neu fetel neu dag profi meinwe.

Gallwch roi'r prif dag yn y naill glust neu'r llall ond bydd angen i chi allu ei ddarllen o bell a bydd yn fawr neu'n ganolig ei faint. Bydd yr un wybodaeth ar yr ail dag ond gall hefyd gynnwys gwybodaeth reoli. Rhaid i'r ail dag gael ei roi yn y glust arall i'r prif dag a gall fod yn dag baner, botwm neu fetel. Ar gyfer lloi fydd yn cael eu geni ar ôl cyflwyno EID Gwartheg, rhaid i o leiaf un tag clust fod yn EID. Gall y ceidwad ddewis ai'r prif dag neu'r ail dag fydd hwnnw. Yn ôl ymateb rhanddeiliaid y diwydiant, bydd ceidwaid yn falch o gael cadw'r hyblygrwydd hwnnw.

Ymgynghoriad Blaenorol 2021

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn 2021 ar Newid Trefn Adnabod, Cofrestru a Rhoi Gwybod am Symudiadau Da Byw ynghyd â'r bwriad i weithredu Tagiau Adnabod Electronig ar gyfer Gwartheg (EID Gwartheg), cyhoeddodd y Gweinidog blaenorol ei bwriad y byddai'r cynigion a dderbyniodd gefnogaeth yn cael eu bwrw ymlaen ar ffurf diwygiadau deddfwriaethol a'u galluogi drwy'r trosglwyddo i EIDCymru ar gyfer gwartheg a moch.

Cafodd EID Gwartheg ei gynnwys yn yr ymgynghoriad blaenorol hwn at ddibenion gwybodaeth ond ni ymgynghorwyd yn weithredol ar y bwriad i weithredu EID Gwartheg yng Nghymru.

Y newid arfaethedig

EID Gwartheg yw adnabod gwartheg gyda dyfais adnabod electronig, felly rhaid i un o'r ddau dag clust swyddogol fod yn EID a chynnwys felly microsglodyn electronig. Bydd system electronig ynghyd ag adroddiadau electronig yn golygu y gellir cofnodi ac adrodd ar wartheg er mwyn cyd-fynd â defaid a geifr. Mae'r System Electronig ar gyfer Adnabod Defaid wedi bod yn ei lle ers 2010. Mae dulliau adnabod swyddogol cyfredol ar gyfer adnabod gwartheg yn seiliedig ar dagiau adnabod confensiynol. Ar hyn o bryd mae tagiau EID Gwartheg ar gael i'w defnyddio fel ail dagiau neu dagiau rheoli at ddibenion parlyrau llaeth a rheoli ffermydd. 

Rydym wedi bod yn ymchwilio i'r defnydd o dagiau Adnabod Electronig (EID) ar gyfer adnabod gwartheg ers blynyddoedd lawer. Mae dwy dechnoleg, Amledd Isel (LF) ac Amledd Uchel Iawn (UHF) ar gael ar gyfer EID Gwartheg. Dim ond tagiau EID amledd isel (LF) sy'n cael eu caniatáu i'w defnyddio'n swyddogol yn yr UE ar hyn o bryd, ac er mwyn sicrhau masnach barhaus byddem yn dilyn y gofyniad hwn yng Nghymru.

Buches Bresennol

Ar hyn o bryd nid ydym yn bwriadu ail-dagio'r fuches bresennol gyda thagiau EID Gwartheg, gan nad yw microsglodion EID Gwartheg yn cyd-fynd â'r fformat presennol ar gyfer rhifo gwartheg. Ein bwriad yw caniatáu i EID Gwartheg gael ei weithredu ar gyfer lloi newydd-anedig o ddyddiad penodol ac yna ailedrych ar yr opsiynau sydd ar gael i ail-dagio'r fuches bresennol ac efallai y bydd ymgynghoriadau pellach yn cael eu cynnal yn nes ymlaen.   

Rhifo

Ar ôl ymadael â'r UE, aeth y DU o aelod-wladwriaeth i drydedd wlad, ac roedd hyn yn gofyn diwygio'r cod gwlad ar gyfer adnabod da byw o'r Deyrnas Unedig (UK) i Brydain Fawr (GB). Mae'r newid hwn yn cyd-fynd â safonau rhyngwladol, yn benodol ISO 3166 sy'n diffinio'r codau gwlad ar gyfer gwahanol genhedloedd fel y nodir yn Erthygl 21(1 (b)) o Reoliad Dirprwyedig (EU) 2020/692. 

Ar hyn o bryd, mae'r ddeddfwriaeth ar dagiau adnabod da byw yn dweud bod yn rhaid i bob tag ddechrau â'r llythrennau UK. Bydd y newidiadau deddfwriaethol sy'n ofynnol yn dilyn yr ymgynghoriad hwn yn cynnwys newid y cod gwlad a ddefnyddir ar gyfer gwartheg o UK i GB.

Yn ogystal â newid y rhagddodiad cyn rhifau i GB, mae angen system rifo newydd ar gyfer gwartheg er mwyn gallu cyflwyno EID Gwartheg yn y DU. Bydd y system newydd, sy'n cydymffurfio â'r safon ISO ddiweddaraf, yn creu rhif unigol unigryw ar gyfer lloi newydd-anedig ac yn caniatáu'r nifer digonol o flynyddoedd cyn i'r daliad ddefnyddio'r 30,000 o rifau sydd ar gael.

Bydd y rhif adnabod yn cael ei rannu'n bedair rhan. Y rhan gyntaf yw'r cod gwlad, GB neu (826 ar sglodyn EID) ar gyfer pob llo newydd ei eni. Gan ddilyn y cod gwlad, ail ran y rhif yw'r rhif cyfresol, sef sero (0), fel ag ar gyfer defaid. Trydedd ran y dilyniant rhifo yw rhif y fuches.

Y rhan olaf yw'r ystod rhif anifeiliaid. Ar hyn o bryd, yr ystod ar gyfer defaid yw 00001 i 69999. O dan ofynion EID Gwartheg, bydd y rhifau gwartheg yn mynd o 70000 i 99999. Pan fydd ceidwad yn cyrraedd y tag â'r rhif uchaf ar gyfer gwartheg eu daliad, er enghraifft 99999, caiff rif buches newydd, a bydd y rhif yn ailgychwyn ar 70000. Ni fydd unrhyw ddigid gwirio fel sy'n ymddangos ar dagiau gwartheg ar hyn o bryd.

Dyma fydd trefn y rhifau ar gyfer lloi newydd eu geni ar y tag:   

CCHHHHHHAAAAA
GB076542170000

Dyma fydd trefn y rhifau ar y sglodyn yn yr EID:

CCCHHHHHHAAAAA
826076542170000

 (C = Cod y Wlad, S = Rhif Cyfresol, H = Rhif y Fuches, A = Rhif yr Anifail)

Dyma fydd manteision cyflwyno system rifo gwartheg sy'n defnyddio'r rhagddodiad 0 (sero):

  • mae'n cadw'r system bresennol o gael defnyddio'r un rhif buches/diadell mewn daliadau cymysg
  • gall bara am o leiaf 58 o flynyddoedd mewn 99% o daliadau, felly ni fydd angen rhif buches newydd ar y rhan fwyaf o geidwaid yn eu hoes
  • gall bridwyr gwartheg gadw rhif eu buches fydd yn lleihau'r baich gweinyddol ar fusnes i'r ceidwad

Cyflenwad tag

Mae tagiau da byw yn cael eu harchebu gan gyflenwr tag swyddogol. Mae gan bob cyflenwr tag gysylltiadau i un system TG a reolir gan y llywodraeth, sy'n dyrannu cod unigol unigryw ar gyfer tagiau clust da byw swyddogol. Mae'r gronfa ddata ganolog hon yn sicrhau bod gweithgynhyrchwyr tagiau yn cael y rhif nesaf sydd ar gael mewn cyfres ceidwad wrth archebu tagiau newydd.  Gelwir y system hon yn Gwasanaeth Adnabod Unigryw Da Byw (LUIS). Nid oes unrhyw newidiadau wedi'u cynllunio i'r broses archebu tagiau clust gwartheg bresennol a bydd yr holl dagiau clust yn dal i gael eu harchebu trwy gyflenwr tag clust dewisol y ceidwad.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chyflenwyr tagiau i gytuno ar amserlenni ar gyfer argaeledd tagiau EID swyddogol. Bydd diweddariadau'r diwydiant yn cael eu darparu yng nghylchlythyrau e-bost Gwladdiweddariadau tymhorol a chyfathrebiadau gan gyflenwyr tagiau.

Cwestiynau

Gweithredu EID Gwartheg yn orfodol

Rydym yn cynnig bod lloi newydd eu geni, o ddyddiad penodol, yn cael eu tagio â thag EID Gwartheg. Ni fydd hyn yn debygol o ddigwydd cyn 2027 ar y cynharaf, pan fydd holl weinyddiaeth GB wedi trosglwyddo o'r System Olrhain Gwartheg (CTS) i'w system a'u gwasanaethau newydd ar gyfer olrhain gwartheg. 

Bydd pob llo a enir ar ôl dyddiad cychwyn defnyddio'r EID Gwartheg yn cael tag EID. Ar gyfer yr anifeiliaid hyn, bydd y rhif a raglennir ar sglodyn tag EID yr un rhif wedi'i argraffu ar y tag neu bâr o dagiau a byddai'n ffurf swyddogol o adnabod. Yr enw ar hyn yw ‘Yr hyn a welwch yw’r hyn a gewch’ (WYSIWYG). Gellir darllen tagiau EID Gwartheg naill ai â llaw neu'n electronig fel y bo'n briodol.

Penderfynir ar yr amserlen ar gyfer gweithredu hyn yn dilyn yr ymgynghoriad hwn a chyhoeddir y canllawiau ymhell ymlaen llaw i sicrhau bod gan geidwaid ddigon o amser i gynllunio.

Cwestiwn 1

A ydych o blaid gwneud gweithredu EID Gwartheg yn orfodol ar gyfer lloi newydd-anedig yng Nghymru? 

Technoleg Amledd Isel (LF) ar gyfer EID Gwartheg

O fewn yr UE, rhaid i dagiau clust da byw gydymffurfio â safonau technegol rhyngwladol, gan gynnwys safonau'r Sefydliad Safoni Rhyngwladol (ISO) ar gyfer codau adnabod. Rhaid i aelod-wladwriaethau yr UE sy'n dymuno defnyddio EID mewn gwartheg ddefnyddio LF, ac felly mae hyn yn gymwys i Ogledd Iwerddon o dan Gytundeb Fframwaith Windsor. 

Mae safonau ISO yn bwysig gan eu bod yn helpu i sicrhau bod tagiau a darllenwyr gan wahanol wneuthurwyr yn rhyngweithredu a helpu i sicrhau bod offer adnabod electronig yn bodloni manylebau a'r ymarferoldebau gofynnol. Mae'r safonau ISO hyn hefyd yn bwysig ar gyfer masnach ryngwladol, ac mae dangos gallu cadarn i olrhain yn haws os yw'r technolegau sylfaenol yn bodloni safonau rhyngwladol y cytunwyd arnynt.

Mae LF yn dechnoleg adnabod anifeiliaid sydd wedi hen ennill ei phlwyf ac mae eisoes yn orfodol i'w defnyddio gyda defaid yn y DU a llawer o rannau eraill o'r byd, gan gynnwys yr UE. Mae'r defnydd o LF wrth adnabod da byw yn dod o dan amrywiaeth o safonau ISO.

Mae'r defnydd o UHF ar gyfer adnabod anifeiliaid yn gymharol newydd ac mae pryderon ynghylch cyflenwad masnachol o dagiau a darllenwyr UHF. Ar hyn o bryd dim ond ISO 6881 ar gyfer UHF sy'n gosod y strwythur ar gyfer y tag mewn ffordd gyfatebol i ISO 11784, ond nid oes safon ISO ar gyfer darllenwyr UHF na thrawsatebyddion uwch, ac mae diffyg profion cydymffurfio er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau ansawdd priodol ar gyfer olrhain da byw.

Yn 2023/2024 comisiynodd Llywodraeth Cymru a Defra raglen beilot EID Gwartheg ar y cyd yng Nghymru a Lloegr er mwyn asesu perfformiad technoleg EID Gwartheg LF ac UHF ac a ellir ei defnyddio. Daeth yr adroddiad annibynnol ar ganfyddiadau'r rhaglen beilot, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2024, i'r casgliad bod llai o heriau (yn enwedig yn y tymor byr) wrth orfodi defnyddio tagiau LF o gymharu â thagiau UHF. 

Cwestiwn 2

A oes gennych unrhyw sylwadau neu bryderon ynglŷn â defnyddio technoleg Amledd Isel (LF) ar gyfer gweithredu EID Gwartheg yng Nghymru?

Safbwyntiau ehangach ar EID Gwartheg

Mae olrhain da byw yn elfen hanfodol wrth gyfrannu tuag at fwyd mwy diogel, gwell iechyd y cyhoedd, llai o alw am wasanaethau iechyd a'r angen am driniaeth gwrthfiotigau. Mae da byw iach sy'n cael eu cadw i safonau lles uchel yn cyfrannu at gymunedau gwledig trwy gynnal busnesau fferm proffidiol, cefnogi cyfleoedd marchnata a masnach a helpu ffermwyr i gynyddu elw, yn ogystal â diogelu a chreu swyddi. 

O ran adnabod ac olrhain gwartheg, mae gan EID Gwartheg ran hanfodol mewn diogelwch bwyd a hyder defnyddwyr gan fod modd adnabod yn gyflym anifeiliaid sy'n gysylltiedig ag achosion o glefydau neu adalw bwyd. Mae'n cefnogi cydymffurfiaeth â rheoliadau cenedlaethol a rhyngwladol ar symud anifeiliaid a safonau iechyd hefyd.

Dylai gweithredu EID Gwartheg leihau risgiau i iechyd a diogelwch pobl, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. O ystyried y pellteroedd darllen mwy diogel, gallai EID Gwartheg leihau'r angen am drin gwartheg yn gorfforol, gan fod modd cyrchu data yn electronig. Ochr yn ochr â hyn, bydd yn galluogi'r gallu i wella rheoli buchesi a rheoli clefydau trwy ei ddefnyddio gyda rhaglenni rheoli fferm.

Yn ogystal, er y gall systemau EID fod yn effeithiol iawn, mae angen buddsoddiad mewn offer a seilwaith, ac mae trafodaethau parhaus am ddata, systemau, safoni a lles anifeiliaid.

Yn gyffredinol, mae EID Gwartheg yn cael ei ystyried yn offeryn gwerthfawr ar gyfer moderneiddio dulliau adnabod ac olrhain gwartheg a fydd yn gwella diogelwch a chynaliadwyedd y diwydiannau cig eidion a llaeth.

Cwestiwn 3 

A oes gennych rywbeth arall i'w ddweud am adnabod ac olrhain gwartheg yng Nghymru? 

Y manteision i'r diwydiant  

Mae'r adran hon yn edrych sut y gall y newidiadau sy'n cael eu cynnig ddod â manteision mawr i'r diwydiant da byw.     

1.   Olrhain a rheoli clefydau'n well

Mae dyfeisiau adnabod electronig ac adroddiadau electronig yn cynnig manteision mawr o ran rheoli clefydau. Bydd sganio tagiau EID ar gyfer cofnodi symudiadau'n electronig yn osgoi'r camgymeriadau all ddigwydd wrth ddarllen a chofnodi tagiau â llaw. Bydd y newid hwn yn helpu i atal, rheoli a dileu clefydau a diogelu iechyd y cyhoedd yn well. 

2. Tarddiad

Gallai dyfeisiau adnabod electronig ac adroddiadau electronig arwain at fanteision sylweddol i'r diwydiant ffermio, gan gynnwys olrhain tarddiad anifeiliaid yn well, sicrhau ansawdd, cefnogi a meithrin gwerth brand, ac ennyn hyder defnyddwyr.

3. Trafod anifeiliaid

Yn ogystal â lleihau’r baich gweinyddol a chamgymeriadau gweinyddol, bydd defnyddio tagiau EID, darlleniadau electronig a throsglwyddo data yn gwneud trafod anifeiliaid yn y dyfodol yn fwy diogel. 

Mae lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch pobl wrth drin gwartheg yn hynod o bwysig. Rydym am i'r bobl sy'n trafod da byw fod yn ddiogel a bod yr holl waith tagio'n cael ei wneud â'r seilwaith, yr offer a'r mesurau diogelwch cywir.

 4. Rheoli'r fferm

Bydd gallu cael at ddata rheoli'n gyflym drwy ddefnyddio Dyfeisiau Adnabod Electronig a darllenwyr dyfeisiau, a phecynnau meddalwedd fferm, yn helpu ffermwyr â'u penderfyniadau rheoli. Gyda'i gilydd, gallent leihau'r amser a dreulir ar dasgau hwsmona fel monitro pwysau a all ddylanwadu ar benderfyniadau i werthu, yr angen am borthiant a nodi a thrin problemau iechyd anifeiliaid.

Ystyriaethau wrth ei roi ar waith

1. Symudiadau dros ffiniau

Mae gweinidogion ym mhob un o weinyddiaethau’r DU yn cydnabod pwysigrwydd masnach drawsffiniol ac wedi ymrwymo i gydweithio er mwyn sicrhau nad yw polisïau gwahanol ar gyfer adnabod da byw yn effeithio ar fasnach. Rydym yn gweithio i sicrhau ein bod yn gallu olrhain yn llawn, rheoli clefydau'n well a throi'n rhwydd i system adnabod electronig ar gyfer gwartheg ledled y DU. 

2. Cysylltu â rhanddeiliaid

Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â'r diwydiant drwy LIDAG (Grŵp Cynghori ar Adnabod Da Byw) a grwpiau ffocws y diwydiant a ffermwyr i weithredu EID Gwartheg yng Nghymru yn effeithlon. Mae LIDAG wedi cyfrannu at y cynigion ymgynghori hyn, a byddwn yn dal ati i weithio'n agos gyda'r grŵp i drafod y canlyniadau a gweithredu unrhyw newidiadau deddfwriaethol.

Bydd yr wybodaeth ddiweddaraf yn ymddangos yn rheolaidd yn Gwlad a byddwn yn ymgynghori â chynrychiolwyr LIDAG a chynrychiolwyr eraill o'r diwydiant cyn cyhoeddi canllawiau i gefnogi'r gwaith o weithredu EID Gwartheg.

3. Cost

Rydym yn cydnabod ei bod yn debygol y bydd tagiau EID Gwartheg yn costio mwy na thagiau confensiynol nad ydynt yn electronig. Nes y gall yr holl systemau Prydain Fawr ymgorffori system rifo EID Gwartheg, ni fydd gweithgynhyrchwyr tagiau yn gallu cynhyrchu'r tagiau EID swyddogol na chadarnhau unrhyw gostau'n fanwl. Mae tagiau rheoli EID ar hyn o bryd tua £1 yn ddrutach na thagiau confensiynol. Bydd gweithredu EID Gwartheg yn golygu rhoi tag EID ar bob llo newydd ei eni, o ddyddiad y cytunir arno. 

Efallai y bydd angen uwchraddio meddalwedd a chaledwedd rheoli hefyd, gan gynnwys hyfforddiant TG a seilwaith, fel offer trin, ar gyfer ffermydd, marchnadoedd, lladd-dai, canolfannau cynnull a chasglu. 

Sut i ymateb

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 14 Awst 2025, a gallwch ymateb mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

Polisi ID a Symudiadau Da Byw 
Llywodraeth Cymru 
Tŷ Ladywell 
Y Drenewydd
Powys 
SY16 1JB

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i’r canlynol:

  • hawl i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a’u gweld
  • hawl i'w gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hynny
  • hawl i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
  • hawl i wneud cais i’ch data gael eu ‘dileu’ (o dan rai amgylchiadau)
  • hawl i gludadwyedd data (o dan rai amgylchiadau)
  • hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays 
Caerdydd
CF10 3NQ

e-bost: dataprotectionofficer@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Wycliffe House 
Water Lane 
Wilmslow 
Cheshire SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113 
Gwefan: https://ico.org.uk/

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth i chi ymateb i’r ymgynghoriad. 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e) 

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o’r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Mae fersiynau print bras, Braille ac iaith amgen o’r ddogfen hon ar gael ar gais.

Mae'r ddogfen hon ar gael yn Saesneg hefyd: Implementation of Bovine Electronic Identification (Bovine EID) in Wales.