Gweithredu Trefn o Adnabod Gwartheg yn Electronig (EID) yng Nghymru: asesiad effaith integredig
Asesiad o weithredu trefn o Adnabod Gwartheg yn Electronig (EID) yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried eu cymryd a pham?
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae olrhain neu dracio da byw wedi tyfu’n bwnc pwysig yn y diwydiant amaethyddol. Diolch i bwerau newydd o dan Ddeddf Amaethyddiaeth y DU 2020, mae Cymru bellach yn cael newid y rheoliadau a wnaed gan yr UE sy'n rheoli sut mae symudiadau da byw yn cael eu cofnodi, er mwyn creu trefn symlach a gwell ar gyfer olrhain pob math o dda byw. I gydnabod sut mae systemau adnabod electronig yn Ewrop a'r DU wedi datblygu, mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati i wneud ein systemau adnabod da byw a chofnodi symudiadau yn fwy effeithiol, yn enwedig ar gyfer gwartheg.
Ers gwneud tagio electronig ar ddefaid a geifr yn orfodol yn 2009, mae gwartheg wedi aros o dan y system adnabod gonfensiynol a mater gwirfoddol i ffermwyr yw defnyddio Tagiau Adnabod Electronig ar Wartheg (BEID). Ond mae Erthygl 269 o Gyfraith Iechyd Anifeiliaid yr UE yn caniatáu i wledydd yr UE ddefnyddio mesurau cryfach i dracio eu gwartheg. Mae hynny'n golygu bod cyfle nawr i Gymru roi system BEID orfodol ar waith gyda thag electronig a sglodyn adnabod ynddo, yn lle'r drefn un tag clust confensiynol presennol. Yn ogystal â gwneud pethau'n fwy cyfleus, mae manteision BEID yn cynnwys: mwy o gywirdeb, gwella lles anifeiliaid, ac olrhain mwy effeithiol ym mhob rhan o'r gadwyn gyflenwi.
Nid yw'r penderfyniad i newid polisi BEID wedi'i wneud ar ei ben ei hun. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod wrthi'n trafod â rhanddeiliaid y diwydiant trwy ymgynghoriadau rhwng Medi 2021 ac Ionawr 2022 i gasglu barn a phenderfynu ar sut i wneud pethau. Mae ymatebion cynrychiolwyr y diwydiant wedi'n helpu'n fawr i benderfynu ar gyfeiriad y polisi, gan sicrhau bod y newidiadau'n cyd-fynd ag anghenion ffermwyr, marchnadoedd a lladd-dai.
Mae BEID, fodd bynnag, yn gofyn am newidiadau mawr i'r ddeddf a'r system. Nid yw'r System Olrhain Gwartheg (CTS) bresennol yn gallu dygymod â’r protocolau rhifo newydd. Hefyd, rhaid diwygio'r ddeddfwriaeth berthnasol er mwyn gallu integreiddio BEID yn llawn yng Nghymru. Yn ôl yr amserlen ddiweddaraf, mae Llywodraeth Cymru yn credu mai’r cynharaf y bodd modd rhoi BEID orfodol ar waith ar gyfer lloi newydd-anedig yw 2027.
Mae Llywodraeth Cymru, trwy bob rhan o'r cylch polisi a chyflawni, wedi cadw at bum ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i sicrhau bod pethau'n gynaliadwy:
- Meddwl yn y tymor hir: Mae BEID yn cefnogi diwydiant amaethyddol gwydn yn y tymor hir trwy foderneiddio prosesau adnabod ac olrhain. Trwy roi BEID ar loi newydd-anedig a chyflwyno cofrestrau daliad electronig, gall y diwydiant ddechrau newid i fod yn ddigidol gyda systemau fydd yn addas i'r dyfodol.
- Atal: Bydd BEID yn golygu y gallwn olrhain gwartheg yn well a lleihau'r risg o ledaenu clefydau ac o gamreoli symudiadau da byw. Mae'r gallu i ddarllen tagiau adnabod yn electronig yn sicrhau cofnodion cywir a llai o wallau, sy'n golygu manteision i ffermwyr ac i iechyd y cyhoedd.
- Integreiddio: Mae BEID yn cyd-fynd â blaenoriaethau ehangach y llywodraeth, gan gynnwys moderneiddio digidol ac amaethyddiaeth gynaliadwy. Drwy gyfuno'r gwelliannau i'r system olrhain â fframweithiau presennol a systemau newydd fel y Cynllun Aml-Rywogaeth, mae'r polisi yn ategu amcanion amaethyddol ac economaidd ehangach.
- Cydweithio: Rydym wedi trafod yn helaeth â'r diwydiant gan sicrhau bod ffermwyr, ceidwaid da byw a rhanddeiliaid y sector yn cyfrannu at gyfeiriad y polisi. Mae'r cydweithrediad hwn yn sicrhau bod BEID yn diwallu anghenion y rheini y bydd y newidiadau'n effeithio arnyn nhw.
- Cynnwys: Bydd proses ymgynghori Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ffermwyr a chynrychiolwyr y diwydiant yn cael dweud eu dweud. Bydd eu cyfraniad yn sicrhau bod help ar gael ar gyfer y pontio i BEID a'i fod yn digwydd mewn ffordd ddaw â lles i bawb sy'n gysylltiedig.
Wrth i Gymru symud tuag at ei weithredu'n llawn, rydym wrthi'n ystyried y posibilrwydd o ail-dagio'r fuches bresennol. Er y bydd polisïau ar y mater hwn yn dibynnu ar roi BEID a'r Cynllun Aml-Rywogaeth ar waith yn llwyddiannus, mae Llywodraeth Cymru yn dal i roi blaenoriaeth i anghenion y diwydiant, a sicrhau bod unrhyw newidiadau yn digwydd mor esmwyth â phosibl.
Yn y pen draw, mae cyflwyno BEID yn ffordd flaengar o olrhain da byw, sy'n diogelu lles anifeiliaid ac effeithlonrwydd y diwydiant yr un pryd. Drwy ddefnyddio egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae Cymru yn gosod seiliau ar gyfer sector amaethyddol cynaliadwy a thechnolegol ddatblygedig.
Casgliad
Mae polisi Llywodraeth Cymru ar Dagio Gwartheg yn Electronig (BEID) wedi'i ddatblygu drwy drafod helaeth â rhanddeiliaid y diwydiant. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae trafodaethau niferus wedi'u cynnal, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i ffermwyr, undebau a gweithwyr proffesiynol amaethyddol allu mynegi eu barn. O ganlyniad, mae NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi cefnogi BEID, gan ffafrio technoleg Amledd Isel (LF) ond heb ddiystyru’r posibilrwydd o allu ystyried Amledd Uchel Iawn (UHF) yn y dyfodol unwaith y bydd safonau rhyngwladol wedi'u datblygu. Mae'r broses ymgynghori wedi bod yn hanfodol wrth lunio'r ddeddfwriaeth a datrys pryderon am ymarferoldeb y system a'i heffeithiau.
Bydd BEID yn cynnig manteision sylweddol, gan gynnwys olrhain da byw yn well, rheoli achosion o glefyd yn well, llai o waith papur a dull effeithlon o drosglwyddo data. Yn ogystal, bydd BEID yn gwella arferion rheoli fferm, gan wneud prosesau cyffredin fel profion TB yn gyflymach ac yn fwy cywir. Er bod y system yn cynnig llawer o fanteision, mae yna heriau o hyd, gan gynnwys yr angen am dagiau cyfnewid am nad ydyn nhw'n para mor hir, problemau posibl i farchnadoedd a lladd-dai sy'n trin gwartheg â thagiau electronig a gwartheg heb dagiau electronig yr un pryd a'r ansicrwydd ynghylch pasbortau gwartheg. Efallai y bydd cymhlethdodau wrth brynu a gwerthu gwartheg dros y ffin oherwydd gofynion adnabod gwahanol yng ngwledydd eraill Prydain.
Er mwyn lleihau'r problemau hyn, wrth ddatblygu polisi, rydym wedi rhoi blaenoriaeth i glywed barn y diwydiant. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fireinio'r newidiadau i'r ddeddfwriaeth ar sail y farn a glywyd mewn ymgynghoriadau, gan sicrhau bod pryderon yn cael eu hystyried ym mhob cam. Bydd trafod yn barhaus â rhanddeiliaid wrth newid i BEID, yn golygu y gallwn barhau i fireinio'r polisi a'r system.
Un o'r pryderon mwyaf yw'r diffyg cysondeb ag amledd tagiau EID Gwartheg gwledydd eraill Prydain, a allai effeithio ar y fasnach rhwng gwledydd. Mae'n hanfodol felly bod timau polisi Prydain Fawr yn cydweithio ar hyn i sicrhau safonau rheoleiddio cyson, er mwyn i Gymru allu cynnal cysylltiadau masnachol cryf heb aberthu safonau olrhain uchel.
Wrth edrych tua'r dyfodol, bydd effaith BEID yn cael ei hadolygu'n rheolaidd er mwyn gallu ei haddasu wrth i'r anghenion o ran technoleg ac yn y diwydiant newid. Nod Llywodraeth Cymru yw gwneud y newidiadau i'r ddeddfwriaeth erbyn 2026, a sicrhau proses adolygu i asesu effeithiolrwydd y polisi a'r system dros amser. Drwy ymrwymo i drafod â rhanddeiliaid ac i werthuso'n barhaus, mae Cymru yn sicrhau y bydd ganddi drefn tagio da byw a fydd yn addas i'r dyfodol sy'n cadw'r ddysgl yn wastad rhwng arloesedd ac anghenion ymarferol y diwydiant.
