Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad ar ddeilliannau dysgu dysgwyr a oedd ar raglenni galwedigaethol, rhaglenni addysg cyffredinol (gan gynnwys Safon Uwch), prentisiaethau neu gyrsiau dysgu i oedolion rhwng Awst 2019 a Orffennaf 2020.

Cyhoeddir yr ystadegau fel ystadegau arbrofol gan eu bod yn defnyddio dulliau newydd i ddeall deilliannau academaidd dysgwyr ôl-16 yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19). Nid oes modd eu cymharu ag ystadegau ‘mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16’, namesurau canlyniadau dysgwyr ar gyfer dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yn y gymuned’.

Prif bwyntiau

  • Roedd y deilliannau ar gyfer dysgwyr ôl-16 yn wahanol iawn gan ddibynnu ar y math o ddysgu.
  • Gwelwyd gwelliannau mawr i’r deilliannau ar gyfer dysgwyr mewn addysg gyffredinol (Safon Uwch) ac addysg alwedigaethol lefel 3, ond mae’r deilliannau wedi bod yn waeth yn ystod y pandemig ar gyfer dysgwyr ar raglenni galwedigaethol eraill a phrentisiaethau, ac fe ddaeth y rhan fwyaf o’r ddarpariaeth dysgu oedolion i ben yn llwyr.
  • Roedd y rhai a wnaeth gwblhau addysg ôl-16 llawn amser yn 2019/20 yr un mor debygol o aros mewn addysg ôl-16 â’r blynyddoedd blaenorol, ond roedd y rhai a wnaeth gwblhau safon UG yn fwy tebygol o barhau i wneud A2 na’r blynyddoedd blaenorol.
  • Roedd dysgwyr galwedigaethol rhan amser yn llai tebygol o aros mewn addysg ôl-16 ar ôl cwblhau eu rhaglenni. Arhosodd 27% o ddysgwr rhan amser ymlaen ar gyfer y flwyddyn nesaf yn 2018/19, gwaneth 17% hynny yn 2019/20.
  • Nid oedd newid i gyfradd y dysgwyr aeth ymlaen i addysg ôl-16 ar ôl cwblhau Blwyddyn 11 yn 2020, ond roeddent yn fwy tebygol o wneud safon UG, neu raglenni galwedigaethol lefel 3 na blynyddoedd blaenorol.
  • Y newidiadau mwyaf i ddeilliannau A2 oedd y cynnydd yn nifer y dysgwyr a gafodd o leiaf tair B neu C.
  • Mae’r newidiadau i ddeilliannau dysgwyr o wahanol oedrannau, amddifadedd, ethnigrwydd a rhyw hefyd yn dibynnu ar y math o ddysgu. Edrychir ar hyn yn adrannau 7 i 10 o’r adroddiad.
  • Fe gafodd mwy o ddysgwyr A2 o leiaf dair A ar draws pob oedran, ethnigrwydd, rhyw a lefel amddifadedd, ond roedd y cynnydd yn fwy ymysg y grwpiau a oedd yn dueddol o gael graddau uwch cyn hynny. Gwelodd y grwpiau a oedd yn dueddol o gael graddau is fwy o gynnydd yn nifer y dysgwyr a gafodd o leiaf dair C.

Adroddiadau

Deilliannau dysgwyr mewn addysg ôl-16 a effeithiwyd gan bandemig y coronafeirws (COVID-19), Awst 2019 i Orffennaf 2020 (ystadegau arbrofol) , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Deilliannau dysgwyr mewn addysg ôl-16 a effeithiwyd gan bandemig y coronafeirws (COVID-19), Awst 2019 i Gorffennaf 2020 (ystadegau arbrofol): tablau , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 73 KB

ODS
Saesneg yn unig
73 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.